Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynrychiolwyr blaenllaw’r sector cyhoeddus a’r diwydiant bysiau wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn gwella gwasanaethau bysiau ac yn helpu i wireddu’r nod o integreiddio’r system drafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn gynwysedig gyda'r cytundeb hwn mae £37.2 miliwn ychwanegol o gyllid i barhau i gefnogi'r diwydiant bysiau yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Bydd hyn yn rhoi sicrwydd pellach i weithredwyr, gan eu galluogi i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Arwyddwyd y cytundeb gan gwmnïau bysiau, awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd:

“Mae’r cytundeb hwn yn sicrhau mai lles y cyhoedd yw hanfod ein rhwydwaith bysiau.  Trwy weithio’n fwy clos, gallwn ddiwygio sylfeini’n gwasanaethau bws lleol, i ateb anghenion teithwyr yn well.

“Mae heriau’r coronafeirws, hinsawdd sy’n newid a phatrymau gwaith cyfnewidiol yn golygu bod rhaid gwneud pethau’n wahanol. Rydym wedi ymrwymo arian cyhoeddus sylweddol i gefnogi gwasanaethau bws ac mae ond yn deg i hynny arwain at welliannau i deithwyr.

“Mae hi wedi bod yn dda gweld ymateb positif y diwydiant hyd yma ac rwy’n disgwyl ymlaen at gydweithio â nhw i greu rhagor o lwybrau a gwasanaethau hygyrch. Mae dyfodol cynaliadwy i’n rhwydwaith trafnidiaeth yn golygu gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis cyfleus i ragor o bobl wrth i ni ddatblygu dewisiadau amgen i ddefnyddio ceir.

O dan delerau’r cytundeb, bydd gofyn i gwmnïau ddarparu gwasanaethau bws sy’n diwallu anghenion lleol. Bydd yn sicrhau bod pawb yn gweithio gyda’u gilydd i gefnogi adferiad y rhwydwaith cyfan.  Bydd ei flaenoriaethau’n cynnwys cefnogi teithiau dysgwyr i ysgolion, cynyddu gwasanaethau pan fydd y galw’n fwy na’r capasiti a helpu’r economi i ymadfer.

Bydd y cytundeb yn cefnogi hefyd integreiddio’r holl ddulliau trafnidiaeth trwy bethau fel tocynnau clyfar ac amserlenni integredig. Bydd yn fframwaith ar gyfer cydweithio gwell rhwng y sector cyhoeddus a chwmnïau bysiau.

Dywedodd Scott Pearson, Cadeirydd CaBAC – Gweithredwyr Coetsys a Bysiau Cymru, sy’n cynrychioli cwmnïau bysiau bach a chanolig:

“Roeddem yn falch o fod wedi cymryd rhan lawn yn y drafodaeth am ddyfodol y diwydiant bysiau yng Nghymru a arweiniodd at lunio’r cytundeb hwn. Gan gydnabod yr help rydym wedi’i gael gan y Llywodraeth dros y deuddeng mis diwethaf, bydd ein haelodau am gydweithio nawr â’n partneriaid yn y Llywodraeth, Trafnidiaeth Cymru a’r Awdurdodau Lleol i ddiogelu a gwella gwasanaethau i deithwyr ledled Cymru.

Dywedodd Joshua Miles, Cyfarwyddwr CPT Cymru:

“Mae partneriaeth y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn newyddion da i deithwyr bysiau ledled Cymru. Mae'n sefydlu mecanwaith clir lle bydd partneriaid y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau yn cefnogi teithwyr yn ôl i drafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus wrth i'r cyfyngiadau gael eu codi.

"Trwy’r Cynllun Bysiau Brys gall pob partner nawr weithio'n agos gyda'i gilydd i adeiladu'n ôl yn well ar gyfer y dyfodol. Bydd yr ymrwymiad tuag at ddatblygu mesurau blaenoriaeth bysiau, datrysiadau tocynnau gwell a mentrau cerbydau yn hanfodol wrth leihau tagfeydd a'r trawsnewidiad tuag at gerbydau allyriadau sero.

"Mae teithio ar fws yn rhan bwysig o gael ein bywydau yn ôl i normalrwydd. Bydd partneriaeth Cynllun Bysiau Brys yn helpu'r genedl i adfywio ar ôl Covid-19 a gyrru gwelliannau pellach i deithwyr bysiau yng Nghymru.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau wedi bod yn cydweithio’n adeiladol i gynnal lefel o wasanaeth trwy gydol y pandemig. Mae'r cytundeb hwn yn deillio o'r gwaith partneriaeth agos hwn. Mae nawr yn darparu sylfaen i ni i gyd wrth geisio ail-adeiladu nawdd, gan annog niferoedd cynyddol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus dros amser ar gyfer ystod eang o deithiau, fel y mae'r amodau'n caniatáu.