Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ynglŷn â chymhwyso Treth Trafodiadau Tir mewn perthynas ag partneriaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhowch adborth i ni ar y canllawiau hyn

Er mwyn ein helpu i wella'r canllawiau hyn, rhowch adborth i ni (mae’n cymryd 30 eiliad).

DTTT/5070 Darpariaethau cyffredinol

Partneriaethau

(paragraff 3)

At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, mae partneriaeth yn golygu:

  • partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890
  • partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907
  • partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig a ffurfiwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000, neu
  • ffyrm neu endid sy’n debyg i unrhyw un o’r uchod ond sydd wedi cael ei ffurfio o dan gyfreithiau gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r DU

DTTT/5080 Trin buddiannau trethadwy fel pe baent yn cael eu dal gan y partneriaid

At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, caiff buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal gan bartneriaeth ei drin fel petai’n cael ei ddal gan neu ar ran y partneriaid a chaiff unrhyw drafodiad tir a wneir at ddibenion partneriaeth ei drin fel petai’n cael ei wneud gan neu ar ran y partneriaid ac nid y bartneriaeth; felly'r partneriaid fydd gwerthwr neu brynwr y buddiant trethadwy.

Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol wrth gyfrifo'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer y bartneriaeth hyd yn oed os ystyrir bod y bartneriaeth yn berson cyfreithiol, neu’n gorff corfforaethol, o dan gyfraith y wlad neu’r diriogaeth y’i ffurfir oddi tani. Un eithriad ydy rhyddhad grŵp pan ellir trin partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig fel corff corfforaethol at ddibenion sefydlu strwythur grŵp.

DTTT/5090 Nid yw caffael buddiant mewn partneriaeth yn drethadwy ac eithrio pan ddarperir yn arbennig ar gyfer hynny

(paragraff 5) 

Nid ydy caffael buddiant mewn partneriaeth sy’n dal buddiannau trethadwy mewn tir yn drafodiad tir ac eithrio pan fydd trosglwyddo’r buddiant hwnnw yn y bartneriaeth yn digwydd o ganlyniad i:

  • drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth yn unol â threfniadau cynharach, neu
  • drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo

Mae caffael o'r fath yn daladwy o dan ddarpariaethau’r Atodlen hon yn unig.

DTTT/5100 Parhad partneriaeth

(paragraff 6)

Caiff partneriaeth ei thrin fel yr un bartneriaeth hyd yn oed os bydd yr aelodau yn newid ar yr amod bod person a oedd yn aelod cyn y newid yn dal yn aelod ar ôl y newid.

Er enghraifft, os bydd partneriaeth yn cynnwys y partneriaid A, B ac C ac mae’r partneriaid B ac C yn gadael, yna daw’r bartneriaeth i ben. Os bydd partner D yn ymuno yn nes ymlaen ag A mewn partneriaeth, yna mae partneriaeth newydd wedi cael ei chreu.

Fodd bynnag, byddai’r bartneriaeth yn parhau petai D yn ymuno â phartneriaeth ABC o dan yr un cytundeb ac ar yr un pryd ag roedd B ac C yn gadael gan fod mwy nag un partner bob tro ac roedd partner yn aelod cyn y newid ac mae’n dal yn aelod ar ôl y newid.

DTTT/5110 Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau

(paragraff 7)

Nid yw partneriaeth i’w hystyried yn gynllun ymddiriedolaeth unedau nac yn gwmni buddsoddi penagored.

DTTT/5120 Trafodiadau cyffredin gan bartneriaeth

Caiff ‘trafodiad cyffredin gan bartneriaeth’, yn amodol ar y rheolau sy’n ymwneud â chyfrifoldeb partneriaid, partneriaid cynrychiadol, ac atebolrwydd cyd ac unigol y partneriaid cyfrifol ei drethu yn yr un ffordd ag unrhyw drafodiad arall.

Pan fydd partneriaeth yn prynu neu’n gwerthu buddiant trethadwy mewn eiddo ac nad yw’n rhwym wrth y rheolau arbennig a restrir isod mae’n ‘drafodiad cyffredin gan bartneriaeth’:

  • Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i bartneriaeth gan bartner neu bersonau penodol eraill
  • Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau o bartneriaeth i bartner neu bersonau penodol eraill
  • Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau rhwng dwy bartneriaeth
  • Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau sy’n ymwneud â phartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol
  • Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i neu o bartneriaeth lle mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys rhent
  • Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau buddiant mewn partneriaethau buddsoddi mewn eiddo, a thrafodiadau sy’n ymwneud â hynny
  • Rhai trafodiadau sy’n ymwneud â phartneriaethau lle mae esemptiadau a rhyddhad yn berthnasol

Mae’r termau sy'n cael eu defnyddio yn y rheolau arbennig hyn yn cael eu hegluro isod.

Enghraifft

Mae partneriaeth y mae Mr a Mrs A a Ms B yn aelodau ohoni (Partneriaeth AAB) yn prynu rhydd-ddaliad eiddo amhreswyl gan Y Cyf, person heb gysylltiad. Nid ydy Partneriaeth AAB yn bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo. Mae’r trafodiad hwn yn drafodiad cyffredin gan bartneriaeth a chaiff cyfrifiad y Dreth Trafodiadau Tir ei wneud yn yr un ffordd ag ar gyfer trafodiadau eraill o’r fath heb reolau arbennig yn berthnasol iddynt.

Cyfrifoldeb partneriaid

(paragraff 9)

O ran unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu’r awdurdodir ei wneud gan y prynwr o dan y trafodiad, neu mewn cysylltiad ag ef, rhaid i’r holl bartneriaid cyfrifol ei wneud neu raid ei wneud mewn cysylltiad â hwy i gyd.

Y partneriaid cyfrifol mewn perthynas â thrafodiad yw’r rheini sy’n aelodau o’r bartneriaeth ar yr adeg y daeth y trafodiad tir i rym, ac unrhyw bartner sy’n ymuno â’r bartneriaeth ar ôl dyddiad dod i rym y trafodiad.

Am resymau ymarferol mae modd i bartner cynrychiadol gynrychioli partneriaeth.

Partneriaid cynrychiadol

(paragraff 10)

Caiff partneriaeth enwebu partner neu bartneriaid cynrychiadol i weithredu ar ran y partneriaid cyfrifol, gan gynnwys llofnodi neu gadarnhau bod ffurflen wedi’i llenwi ac yn gywir.

Rhaid i fwyafrif o’r partneriaid fod wedi enwebu partner cynrychiadol ac, er mwyn i hynny ddod i rym, rhaid rhoi’r enwebiad (ac unrhyw ddirymiad o’r enwebiad) i Awdurdod Cyllid Cymru.

Rhwymedigaeth partneriaid cyfrifol ar y cyd ac yn unigol

(paragraff 11)

Mae gan yr holl bartneriaid cyfrifol atebolrwydd cyd ac unigol am dalu’r Dreth Trafodiadau Tir (gan gynnwys adennill unrhyw Dreth Trafodiadau Tir a gafodd ei had-dalu ac roedd yr ad-daliad yn ormodol), unrhyw gosbau sy’n deillio o ffeilio’n hwyr neu wybodaeth anghywir neu unrhyw log a godir.

Fodd bynnag, nid yw partner cyfrifol yn atebol ar y cyd ac yn unigol am unrhyw dreth neu log sy’n codi o’r dreth honno am drafodiad oni bai fod y partner yn bartner ar ddyddiad dod i rym y trafodiad. Mewn perthynas ag unrhyw gosbau nid ydy partner cyfrifol yn atebol am unrhyw gosb, neu unrhyw log sy’n codi ar y gosb honno, oni bai eu bod yn bartner ar y diwrnod y rhoddwyd y gosb, neu’n bartner pan ddigwyddodd y weithred neu'r anweithred a arweiniodd at y gosb.

Enghraifft

Mae partneriaeth y mae Ms C a Mrs D yn aelodau ohoni (partneriaeth CD) yn prynu eiddo amhreswyl a ddaw i rym ar 1 Mehefin 2020. Maent yn prynu’r eiddo gan rywun sydd heb gysylltiad â nhw. Ar 10 Gorffennaf 2020 daw Mr E yn aelod o’r bartneriaeth, partneriaeth CDE. Mae’r bartneriaeth yn bartneriaeth sy’n parhau gan fod o leiaf un partner a oedd yn aelod cyn ac ar ôl y newid yn yr aelodaeth. Mae'r bartneriaeth yn methu ffeilio ar y dyddiad ffeilio sef 1 Gorffennaf 2020, gan ffeilio ar 5 Gorffennaf 2020. Mae hefyd yn methu talu’r Dreth Trafodiadau Tir a hunanaseswyd mewn da bryd ac mae’n cael cosb o 5% o’r dreth a oedd heb ei thalu ar 31 Gorffennaf 2020. Yn olaf, ar ôl ymchwiliad gwelir bod y dreth a hunanaseswyd wedi’i tanddatgan a rhoddir cosb oherwydd y gwall hwnnw hefyd.

Mae Ms C a Mrs D yn atebol ar y cyd ac yn unigol am yr holl dreth, cosbau a llog a godir. Mae Mr E yn atebol ar y cyd ac yn unigol am y cosbau sy’n codi o ganlyniad i fethiant y bartneriaeth i dalu'r dreth yn brydlon ac unrhyw log sy’n codi ar y cosbau hynny gan ei fod yn bartner ar 31 Gorffennaf 2020. Nid yw’n atebol am unrhyw dreth ar y trafodiad, y gosb am ffeilio’r ffurflen yn hwyr (nid oedd yn bartner ar yr adeg y rhoddwyd y gosb honno), na’r gosb am wybodaeth anghywir (gan nad oedd yn bartner ar yr adeg pan ddigwyddodd y weithred neu’r anweithred a arweiniodd at y cosbau) nac am unrhyw log taliadau hwyr ar y symiau hynny.

DTTT/5130 Diffiniadau

Eiddo partneriaeth

(paragraff 45(1))

Mae eiddo partneriaeth yn fuddiant neu’n hawl

  • sy’n cael ei ddal gan neu ar ran partneriaeth, neu gan aelodau partneriaeth, 
  • at ddibenion busnes y bartneriaeth

Rhaid bodloni’r ddau brawf yma er mwyn i fuddiant trethadwy fod yn eiddo partneriaeth. Mae pob un yn gwestiwn o ffaith. Yn aml bydd trefniant rhwng y partneriaid a fydd yn golygu bod y sefyllfa yn hollol glir.

Yn ymarferol, mae modd penderfynu a ydy buddiant trethadwy yn eiddo partneriaeth ai peidio drwy gyfeirio at a ydyw’n eiddo partneriaeth yn rhinwedd adran 20 o Ddeddf Partneriaeth 1890. Bydd buddiant trethadwy sydd wedi'i gaffael, boed hynny drwy brynu neu fel arall, sydd ar gyfrif y ffyrm neu at ddibenion ac yn ystod busnes y bartneriaeth, yn eiddo partneriaeth at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir.

Nid yw’r ffaith bod busnes yn parhau mewn eiddo sy’n berchen i un neu fwy o’r partneriaid yn golygu bod buddiant trethadwy'r partner hwnnw yn eiddo partneriaeth. Pan fydd buddiant trethadwy yn berchen i’r holl bartneriaid mae a ydyw’n eiddo partneriaeth yn dibynnu ar y sail y mae’n cael ei ddal gan y cyd-berchnogion.

Mae’n annhebygol bod buddiant trethadwy lle mae’r buddiant ecwitïol yn amodol ar ddatganiad pendant o gyd-denantiaeth wrth gaffael yn cyfrif fel eiddo partneriaeth oni bai fod tystiolaeth glir o newid yn y bwriad gan y cyd-berchnogion i ddod â’r buddiant trethadwy i mewn fel ased i fusnes y bartneriaeth.

Cyfranddaliad partneriaeth

(paragraff 45(2))

Mae unrhyw gyfeiriad at gyfranddaliad person yn y bartneriaeth ar unrhyw adeg yn gyfeiriad at y gyfran y mae gan y person hawl iddi ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.

Trosglwyddo buddiant trethadwy

(paragraff 46)

Mae trosglwyddo buddiant trethadwy yn cynnwys:

  • creu buddiant trethadwy
  • amrywio buddiant trethadwy, ac
  • ildio neu ollwng buddiant trethadwy

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth

(paragraff 47)

Mae trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn golygu unrhyw drosglwyddiad pan ddaw’r buddiant trethadwy yn eiddo i'r bartneriaeth.

Fel y nodir uchod (‘trosglwyddo buddiant trethadwy’), gall eiddo ddod yn eiddo partneriaeth heb orfod cael ei drosglwyddo i bartneriaeth.

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth

(paragraff 49)

Mae trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth yn golygu unrhyw drosglwyddiad pan:

  • fydd buddiant trethadwy a oedd yn eiddo’r bartneriaeth yn peidio â bod yn eiddo’r bartneriaeth, neu
  • pan fydd buddiant trethadwy yn cael ei roi neu ei greu o eiddo’r bartneriaeth ac nad eiddo’r bartneriaeth yw’r buddiant

Fel y nodir uchod (‘trosglwyddo buddiant trethadwy’), gall eiddo roi'r gorau i fod yn eiddo partneriaeth heb orfod cael ei drosglwyddo allan o bartneriaeth.

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth

(paragraff 48)

Pan fydd person yn caffael cyfranddaliad partneriaeth neu pan fydd cyfranddaliad partneriaeth person yn cynyddu trosglwyddir buddiant yn y bartneriaeth (i’r partner hwnnw ac oddi wrth y partneriaid eraill).

Lesoedd gwerth marchnadol

(paragraff 50)

Penderfynir ar werth marchnadol les a roddwyd ar gyfer y sefyllfaoedd canlynol:

  • trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, neu 
  • trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth

Wrth bennu gwerth marchnadol y les, mae rhwymedigaeth ar ran y tenant o dan y les i’w hystyried os yw (ond dim ond os yw) yn rhwymedigaeth na fyddai fel rheol yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy, neu mae’n rhwymedigaeth i wneud taliad i berson. 

Personau cysylltiedig

(paragraff 51)

Mewn perthynas â thrafodion partneriaeth, mae i bersonau cysylltiedig yr un ystyr ag ar gyfer adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010, ac eithrio bod is-adran 7 (partneriaid sy’n gysylltiedig â gilydd) wedi’i hepgor.

Ar ben hynny, mewn perthynas ag adnabod y perchennog perthnasol a'r partner cyfatebol ar gyfer trosglwyddiadau i bartneriaeth a throsglwyddiadau o bartneriaeth mae adran 1122 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 yn berthnasol gan hepgor is-adran (6)(c) i (e) (rheolau sy’n ymwneud ag ymddiriedolwr sy’n gysylltiedig ag ymddiriedolaeth ar gyfer setliad).

DTTT/5140 Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau i bartneriaeth

Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth: cyffredinol

(paragraff 13)

Mae’r rheolau a nodir yn yr adran hon yn berthnasol pan fydd buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo i bartneriaeth gan:

  • bartner
  • person a ddaw yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu yn gyfnewid am hynny, neu
  • berson sy’n gysylltiedig â naill ai’r partner neu’r person a ddaw yn bartner

Mae’r rheolau'n berthnasol pa un a yw’r trosglwyddiad mewn cysylltiad â ffurfio partneriaeth neu’n drosglwyddiad i bartneriaeth bresennol.

Gan fod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad i’r bartneriaeth yn bartner (neu’n mynd i fod yn bartner), neu’n berson sy’n gysylltiedig â’r partner, mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir yn seiliedig ar werth marchnadol testun y trosglwyddiad.

Gan fod y partner sy’n trosglwyddo’r buddiant trethadwy yn yr eiddo i’r bartneriaeth eisoes yn berchen ar destun y trosglwyddiad i bob pwrpas, yn ôl y rheolau dim ond y gyfran honno o’r buddiant trethadwy yn yr eiddo a fydd yn gweld newid o ran perchnogaethau economaidd effeithiol sy’n cael ei thrin fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol i unrhyw ddewis a wneir gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso’r rheolau hyn.

Mae fformiwla’n cael ei defnyddio i bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy mewn trosglwyddiad tir sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth.

Dyma’r fformiwla ar gyfer cyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy:

GM x (100–SCI)%

Ystyr GM yw gwerth marchnadol.

Ystyr SCI yw swm y cyfrannau is.

Mae swm y cyfrannau is yn adlewyrchu’r buddiant yn y testun a oedd yn eiddo i’r trosglwyddwr cyn ac ar ôl y trosglwyddiad, ac mae’n cael ei fynegi fel canran o’r berchnogaeth sy’n cael ei chadw – neu’n cael ei thrin fel petai’n cael ei chadw – gan y trosglwyddwr. Yn unol â'r diffiniadau ar gyfer yr Atodlen, mae'r cyfranddaliad partneriaeth yn seiliedig ar y gyfran y mae gan y person hawl iddi ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.

Dyma enghraifft syml: os bydd un partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy y mae’n berchen ar 100% ohono i bartneriaeth sy’n cynnwys pedwar partner – a phob un ohonynt â chyfranddaliad cyfartal yn elw incwm y bartneriaeth – dim ond ar y 75% y bydd y bartneriaeth yn talu’r Dreth Trafodiadau Tir er mwyn adlewyrchu buddiant y partner sy’n trosglwyddo, sef 25%. Y rheswm am hynny yw oherwydd bod y partner sy’n trosglwyddo yn berchen ar y gyfran honno o’r buddiant trethadwy yn yr eiddo cyn ac ar ôl y trafodiad, ond mae gan y tri phartner arall fuddiant o 25% yr un yn y buddiant trethadwy yn yr eiddo erbyn hyn, ac nid oedd ganddynt unrhyw fuddiant o gwbl ynddo cyn y trafodiad.

Swm y cyfrannau is (‘SCI’)

(paragraff 14)

Mae proses pum cam ar gyfer pennu swm y cyfrannau is (‘SCI’):

Cam 1 – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol. 

Cam 2 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner cyfatebol neu’r partneriaid cyfatebol. Os nad oes unrhyw bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

Cam 3 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan bob perchennog perthnasol hawl iddi yn union cyn y trafodiad, yn seiliedig ar y gyfran o elw incwm y bartneriaeth Yna dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

Cam 4 – ar gyfer pob partner cyfatebol, canfod cyfran is naill ai:

•y gyfran o’r buddiant sydd i’w phriodoli i’r partner; neu
•cyfranddaliad y partner yn y bartneriaeth yn union ar ôl y trafodiad.

Cam 5 – adio’r cyfrannau is sydd wedi’u nodi yng ngham 4 ar gyfer pob partner cyfatebol. 

Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.

Perchennog perthnasol

(paragraff 15)

Mae person yn berchennog perthnasol (cam 1 y broses o gyfrifo SCI):

  • os oedd ganddo, yn union cyn y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac
  • os yw, yn union ar ôl y trafodiad, yn bartner yn y bartneriaeth neu’n gysylltiedig â phartner

At ddibenion pennu swm cyfrannau is, bydd unrhyw berson sy’n gyd-denant yn cael ei drin fel tenant ar y cyd, gyda phob tenant yn dal cyfranddaliadau anrhanedig cyfartal yn yr eiddo. 

Partner cyfatebol

(paragraff 16)

Mae person yn bartner cyfatebol (cam 2 y broses o gyfrifo SCI) mewn perthynas â pherchennog perthnasol os yw’r person, yn union ar ôl y trafodiad tir:

  • yw’r person yn bartner, ac
  • mai’r person yw’r perchennog perthnasol, neu os yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol

(paragraff 17)

Dyma’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol (cam 4 y broses o gyfrifo SCI):

  • os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, y gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy yw’r hyn sy’n cael ei ddosrannu i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â’r perchennog hwnnw
  • os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, y gyfran yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â phob un o'r perchnogion hyn

Enghraifft

Mae’r enghraifft hon i fod i gynnwys nifer o elfennau’r broses o ganfod beth yw’r gydnabyddiaeth drethadwy pan fydd buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo i bartneriaeth a phan mae’r trosglwyddwr, neu y bydd y trosglwyddwr, yn bartner (neu mae’n berson sy’n gysylltiedig â pherson o’r fath). Mae’n dilyn 5 cam y broses o gyfrifo swm y cyfrannau is (SCI).

Trafodion

Mae Mr a Mrs A yn berchen ar rydd-ddaliad siop fel cyd-denantiaid. Bydd y siop yn cael ei throsglwyddo i bartneriaeth sy’n cynnwys tri phartner (Partneriaeth ABC), a’i gwerth marchnadol ar ddyddiad y trafodiad yw £750,000. Mae Mr A yn bartner. Ei gyfran o elw incwm y bartneriaeth, yn union ar ôl trosglwyddo’r siop, yw 40%. Dydy Mrs A ddim yn bartner yn y bartneriaeth. Mae gan y ddau bartner arall (Ms B a Mr C) gyfranddaliadau o 30% yn union ar ôl i’r siop gael ei throsglwyddo.

Cam 1 – nodi’r perchnogion perthnasol

Mae Mr A yn berchennog perthnasol gan fod ganddo, ac mae’n cael ei drin fel bod ganddo, 50% o fuddiant yn y siop (pwrpas cyd-denantiaid yw sefydlu’r perchennog perthnasol sy’n cael ei drin fel ei fod yn dal ei fuddiant fel tenantiaid ar y cyd gyda chyfrannau cyfartal. Mae hefyd yn bartner yn dilyn y trafodiad.

Nid yw Mrs A yn aelod o’r bartneriaeth, fodd bynnag mae’n dal yn cael ei thrin fel perchennog perthnasol gan ei bod yn cael ei thrin fel bod â 50% o fuddiant yn y siop cyn y trafodiad, ac mae’n berson cysylltiedig (yn rhinwedd adran 1122(5)(a) Deddf Treth Gorfforaeth 2010 â’i gŵr, sydd yn bartner.

Felly, mae Mr a Mrs A yn berchnogion perthnasol.

Cam 2 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner cyfatebol

Nid yw Mrs A yn bartner ac felly nid yw’n bartner cyfatebol. Ond, mae ei gŵr yn bartner ac yn berson cysylltiedig. Mae Mr A yn bartner cyfatebol gan ei fod yn bartner ar ôl y trafodiad ac yn berchennog perthnasol. Nid yw’r ddau bartner arall ddim yn bartneriaid cyfatebol, gan nad ydynt yn berchnogion perthnasol (nid oedd ganddynt fuddiant yn yr eiddo a oedd i’w drosglwyddo cyn y trosglwyddiad hwnnw) ac nid ydynt chwaith yn unigolion sy’n gysylltiedig â pherchennog perthnasol.

Mr A yw’r unig bartner cyfatebol.

Cam 3 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy y mae ganddynt hawl iddi yn union cyn y trafodiad

Fel y nodwyd yng ngham 1, mae Mr a Mrs A yn berchnogion perthnasol. Yn union cyn y trafodiad, roedd gan y ddau hawl i 50% o’r buddiant trethadwy. Mae 50% Mr A yn cael ei ddosrannu iddo ef yn unig gan mai ef yw ei unig bartner cyfatebol. Mae 50% Mrs A yn cael ei ddosrannu’n uniongyrchol i'w gŵr, ei hunig bartner cyfatebol. Felly mae 100% o’r buddiant trethadwy yn cael ei ddosrannu i Mr A.

Cam 4 – canfod y cyfrannau is ar gyfer pob partner cyfatebol

Fel y nodwyd yng ngham 3, mae Mr A yn cael ei drin fel bod â hawl i 100% o’r buddiant trethadwy cyn i’r trafodiad ddigwydd.

Cyfranddaliad partneriaeth Mr A yn union ar ôl y trafodiad yw 40%.

Felly, cyfran is Mr A yw 40%, gan fod hynny’n llai na’r hyn yr ystyrir ei ddelir yn y buddiant trethadwy cyn i’r trafodiad ddigwydd.

Cam 5 – ychwanegu'r cyfrannau is ar gyfer pob partner cyfatebol at ei gilydd

Dim ond un partner cyfatebol sydd, felly nid oes symiau i’w hychwanegu at ei gilydd. Cyfran is Mr A yw 40%. Dyma swm y cyfrannau is.

Cyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy a’r Dreth Trafodiadau Tir

Y fformiwla i’w defnyddio i ganfod y gydnabyddiaeth drethadwy yw GM x (100-SCI)%.

Mae’r gwerth marchnadol yn £750,000 ac mae’r SCI yn 40%. Felly, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trosglwyddiad yw:

£750,000 x (100-40)% = £450,000

Gan ddefnyddio cyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir sydd mewn grym ar 22 Rhagfyr 2020, bydd hyn yn arwain at rwymedigaeth dreth o £10,250. Mae'r tri phartner ym Mhartneriaeth ABC yn bartneriaid cyfrifol a byddant yn atebol ar y cyd ac yn unigol am dalu'r dreth.

DTTT/5150 Trosglwyddo buddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi talu trethi

(paragraff 18)

Lle ceir:

  • trosglwyddiad o fuddiant trethadwy i bartneriaeth, gan gynnwys partneriaethau buddsoddi mewn eiddo (‘y trosglwyddiad tir’)
  • y mae’r rheolau SCI yn berthnasol iddo, ac 
  • mae trosglwyddiad o fuddiant yn y bartneriaeth wedi hynny (‘y trosglwyddiad partneriaeth’), ac
  • mae'r trosglwyddiad o’r buddiant partneriaeth yn cael ei wneud gan berson sy’n gwneud y trosglwyddiad tir mewn cysylltiad â’r partner yn trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth, neu berson a fydd yn dod yn bartner yn gyfnewid am drosglwyddo buddiant trethadwy yn gyfnewid am fuddiant partneriaeth, neu berson sydd â chysylltiad o’r fath i bartner neu berson a fydd yn dod yn bartner, ac 
  • mae’r trosglwyddiad yn cael ei wneud yn unol â’r trefniadau sy’n drefniadau osgoi talu trethi neu’n rhan o drefniadau o’r fath, a oedd yn bodoli ar adeg y trosglwyddiad, a 
  • heblaw o ganlyniad i’r rheolau arbennig hyn, nid yw’r trosglwyddiad o’r buddiant partneriaeth yn y bartneriaeth yn drafodiad trethadwy

Pan fo’r amodau hyn yn berthnasol, ystyrir bod trosglwyddo'r buddiant yn y bartneriaeth (‘y trosglwyddiad partneriaeth’) yn drafodiad tir a’r trafodiad tir hwnnw yn drafodiad trethadwy, gyda’r partneriaid yn cael eu trin fel y prynwyr.

Cymerir bod y gydnabyddiaeth drethadwy yn hafal i’r gyfran o werth marchnadol, ar ddyddiad y trafodiad, y buddiant a drosglwyddir gan y trosglwyddiad tir. Y gyfran honno:

  • lle nad yw’r person sy’n gwneud y trosglwyddiad yn bartner yn union ar ôl y trosglwyddiad partneriaeth, yw cyfranddaliad partneriaeth y person hwnnw yn union cyn y trosglwyddiad
  • lle roedd y person yn bartner yn union cyn y trosglwyddiad partneriaeth, yw'r gwahaniaeth rhwng cyfranddaliad y person cyn ac ar ôl y trosglwyddiad

Pan fo’r amodau’n berthnasol, ystyrir y trosglwyddiad partneriaeth a’r trosglwyddiad tir yn drafodiadau cysylltiedig, a chânt eu trethu’n unol â’r rheolau trafodiadau cysylltiedig.

At ddibenion y rheolau hyn y partneriaid cyfrifol yw’r rheini a oedd yn bartneriaid yn union cyn y trafodiad ac yn dal yn bartneriaid ar ôl y trafodiad, ac unrhyw berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad neu mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

Diffinnir “trefniadau osgoi talu trethi” yn unol â’r ystyr a roddir yn adran 31 DTTT.

DTTT/5160 Tynnu arian ac ati o bartneriaeth ar ôl trosglwyddo buddiant trethadwy

(paragraff 19)

Mae’r rheolau hyn yn berthnasol:

  • pan drosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth (‘y trosglwyddiad tir’)
  • i'r graddau mae rheolau SCI y Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol
  • yn ystod y cyfnod 3 blynedd rhwng dyddiad dod i rym y trosglwyddiad tir a phan fydd digwyddiad cymwys yn digwydd
  • pan fo’r digwyddiad cymwys yn drefniant osgoi talu trethi, neu’n rhan ohono, ac 
  • ar adeg y digwyddiad cymwys, nid yw partneriaeth buddsoddi mewn eiddo wedi gwneud dewis i ddatgymhwyso’r rheolau SCI.

Mae’r canlynol yn ddigwyddiadau cymwys:

  1. Person perthnasol yn tynnu arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n elw incwm o'r bartneriaeth:
    • cyfalaf o gyfrif cyfalaf y person perthnasol hwnnw,
    • lleihau buddiant y person perthnasol yn y bartneriaeth,
    • y person perthnasol yn rhoi’r gorau i fod yn bartner,
  2. Lle mae person perthnasol wedi gwneud benthyciad i bartneriaeth, ad-dalu’r benthyciad cyfan neu ran ohono, a
  3. Lle mae person perthnasol wedi gwneud benthyciad i bartneriaeth, y person perthnasol yn tynnu arian neu gyfwerth ariannol nad yw’n elw incwm o’r bartneriaeth.

Ystyrir ‘digwyddiad cymwys’ yn drafodiad tir ac felly mae’n drafodiad trethadwy hefyd. Ystyrir mai’r prynwyr o dan y trafodiad hwnnw yw’r partneriaid.

Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y 3 digwyddiad cymwys a restrir uchod yw gwerth yr arian neu gyfwerth ariannol a dynnwyd o’r bartneriaeth.

Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y pedwerydd digwyddiad cymwys yw swm sy’n hafal i’r arian a ad-dalwyd.

Y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y pumed digwyddiad cymwys yw gwerth yr arian neu gyfwerth ariannol heb fod yn fwy na swm y benthyciad a wnaed.

Ar ben hynny, ni all y gydnabyddiaeth drethadwy a bennir o dan y rheolau hyn fod yn fwy na gwerth marchnadol (ar ddyddiad dod i rym y trosglwyddiad tir) y buddiant trethadwy a drosglwyddir (llai unrhyw swm a oedd yn drethadwy yn flaenorol).

Mae’r ‘person perthnasol’:

  • yn bartner sy’n trosglwyddo buddiant trethadwy i’r bartneriaeth
  • yn berson sy’n trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn gyfnewid am gyfranddaliad yn y bartneriaeth
  • yn berson sy’n gysylltiedig â’r partner cyfredol neu bartner newydd

Pan fo’r darpariaethau hyn yn berthnasol ac mae’r un digwyddiad yn golygu bod tâl o dan y rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo hefyd yn berthnasol, bydd swm y dreth sy'n daladwy (os o gwbl) mewn cysylltiad â’r digwyddiad cymwys yn llai (ond nid i fod yn llai na dim), fel y bo’n berthnasol, swm y dreth sy'n daladwy o ganlyniad i drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo.

Diffinnir “trefniadau osgoi talu trethi” yn unol â’r ystyr a roddir yn adran 31 DTTT.

DTTT/5170 Trafodiadau sy’n ymwneud â throsglwyddiadau o bartneriaeth

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth: cyffredinol

(paragraff 21)

Os trosglwyddir buddiant trethadwy o bartneriaeth:

  • i berson sy’n un o’r partneriaid neu a fu’n un o’r partneriaid, neu 
  • i berson sy’n gysylltiedig â pherson o’r fath

bydd y rheolau yn y rhan hon yn berthnasol. 

Gan fod y person sy’n gwneud y trosglwyddiad o’r bartneriaeth yn bartner (neu’n rhoi’r gorau i fod yn bartner), neu’n berson sy’n gysylltiedig â’r person, mae’r gydnabyddiaeth ar gyfer y trafodiad tir yn seiliedig ar werth marchnadol testun y trosglwyddiad. Mae’r rheol ar gyfer cyfrifo cydnabyddiaeth drethadwy o dan y rheolau ar gyfer partneriaeth yn disodli’r rheol gwerth marchnadol tybiedig, lle mae’r prynwr yn gwmni sy’n gysylltiedig â’r gwerthwr, ayb.

Gan fod y person y trosglwyddir yr eiddo iddo eisoes yn berchen ar fuddiant yn nhestun y trosglwyddiad i bob pwrpas, a hynny drwy ei fuddiant partneriaeth, yn ôl y rheolau dim ond y gyfran honno o’r eiddo a fydd yn gweld newid o ran perchnogaeth economaidd effeithiol sy’n cael ei thrin fel cydnabyddiaeth drethadwy.

Mae’r darpariaethau hyn hefyd yn ddarostyngedig i’r rheolau ym Mharagraff 29, sy’n berthnasol i drosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth, a Pharagraff 30, sy’n berthnasol i bartneriaeth lle mae’r holl bartneriaid yn gyrff corfforaethol.

Mae’r rheolau hefyd yn berthnasol i unrhyw ddewis a wneir gan bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo i ddatgymhwyso’r rheolau hyn.

Mae fformiwla’n cael ei defnyddio i bennu’r gydnabyddiaeth drethadwy mewn trosglwyddiad tir sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth.

Dyma’r fformiwla ar gyfer cyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy:

GM x (100–SCI)%

Ystyr GM yw gwerth marchnadol.
Ystyr SCI yw swm y cyfrannau is.

Mae swm y cyfrannau is yn adlewyrchu’r buddiant yn y testun a oedd yn eiddo i’r trosglwyddai cyn ac ar ôl y trosglwyddiad, ac mae’n cael ei fynegi fel canran o’r testun a oedd yn eiddo i'r trosglwyddai cyn ac ar ôl y trosglwyddiad. Yn unol â'r diffiniadau ar gyfer yr Atodlen, mae'r cyfranddaliad partneriaeth yn seiliedig ar y gyfran y mae gan y person hawl iddi ar yr adeg honno wrth rannu elw incwm y bartneriaeth.

Dyma enghraifft syml: os bydd partneriaeth yn trosglwyddo buddiant trethadwy sy’n eiddo’n gyfan gwbl i’r bartneriaeth sy’n cynnwys pedwar partner, sydd oll â chyfranddaliad cyfartal yn y bartneriaeth, i un o’r partneriaid, dim ond ar 75% y bydd y partner hwnnw yn talu’r Dreth Trafodiadau Tir, i adlewyrchu’r ffaith fod y trosglwyddai yn dal 25% o fuddiant drwy ei fuddiant yn y bartneriaeth. Roedd y trosglwyddai, i bob pwrpas, yn berchen ar y cyfranddaliad hwnnw cyn ac ar ôl y trafodiad, ond nawr mae gan y tri phartner arall 25% o fuddiant yr un gan nad yw’r eiddo yn berchen i’r bartneriaeth erbyn hyn.

Yn yr achos bod y bartneriaeth yn cael ei diddymu neu’n dod i ben fel arall, caiff y bartneriaeth ei thrin, at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, fel bod yn parhau nes i’r eiddo gael ei ddosbarthu.

Swm y cyfrannau is (‘SCI’)

(paragraff 22)

Mae proses pum cam ar gyfer pennu swm y cyfrannau is (‘SCI’):

Cam 1 – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol.

Cam 2 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol. Os nad oes unrhyw bartner cyfatebol, swm y cyfrannau is yw sero.

Cam 3 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy yr oedd gan bob perchennog hawl iddi yn union ar ôl y trafodiad. Yna dosrannu’r gyfran honno rhwng unrhyw un neu ragor o bartneriaid cyfatebol y perchennog perthnasol.

Cam 4 – ar gyfer pob partner cyfatebol, canfod cyfran is naill ai:

  • y gyfran o’r buddiant sydd i’w phriodoli i’r partner, neu
  • y cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

Cam 5 – adio’r cyfrannau is sydd wedi’u nodi yng ngham 4 ar gyfer pob partner cyfatebol.

Y canlyniad yw swm y cyfrannau is.

Perchennog perthnasol

(paragraff 23)

Mae person yn berchennog perthnasol (cam 1 y broses o gyfrifo SCI):

  • os oedd ganddo, yn union ar ôl y trafodiad, hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac
  • os yw, yn union cyn y trafodiad, yn bartner yn y bartneriaeth neu’n gysylltiedig â phartner.

At ddibenion pennu swm cyfrannau is, bydd unrhyw berson sy’n gyd-denant yn cael ei drin fel tenant ar y cyd, gyda phob tenant yn dal cyfranddaliadau anrhanedig cyfartal yn yr eiddo. 

Partner cyfatebol

(paragraff 24)

Mae person yn bartner cyfatebol (cam 2 y broses o gyfrifo SCI) mewn cysylltiad â pherchennog perthnasol os oedd y person, yn union cyn y trafodiad tir:

  • yn bartner, ac
  • mai’r person oedd y perchennog perthnasol, neu os yw’n unigolyn a oedd yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol.

Felly, os nad y person yw’r perchennog perthnasol a’i fod yn gorff corfforaethol, neu os nad yw’n unigolyn fel arall, nid yw’n bartner cyfatebol.

Fodd bynnag, os yw’r person hwnnw’n gwmni a’i fod yn dal yr eiddo fel ymddiriedolwr a’i fod yn gysylltiedig â’r perchennog perthnasol dim ond oherwydd adran 1122(6) Deddf Treth Gorfforaeth 2010, gellir trin y cwmni hwnnw fel unigolyn at y dibenion hyn ac felly mae’n gallu bod yn bartner cyfatebol.

Cyfran o fuddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol

(paragraff 25)

Dyma’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w phriodoli i bartner cyfatebol (cam 4 y broses o gyfrifo SCI):

  • os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas ag un perchennog perthnasol yn unig, y gyfran (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy yw’r hyn sy’n cael ei ddosrannu i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â’r perchennog hwnnw 
  • os yw’r partner yn bartner cyfatebol mewn perthynas â mwy nag un perchennog perthnasol, y gyfran yw swm y cyfrannau (os o gwbl) o’r buddiant trethadwy a ddosrannwyd i’r partner hwnnw (o dan gam 3 uchod) mewn perthynas â phob un o'r perchnogion hyn.

Enghraifft

Mae’r enghraifft hon i fod i gynnwys nifer o elfennau’r broses o ganfod beth yw’r gydnabyddiaeth drethadwy sy’n codi pan fydd buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o bartneriaeth i bartner neu i berson a fydd yn rhoi’r gorau i fod yn bartner (neu i berson sy’n gysylltiedig â pherson o’r fath). Mae’n dilyn 5 cam y broses o gyfrifo’r cyfrannau is.

Trafodion

Mae Partneriaeth DEF yn berchen ar nifer o eiddo manwerthu a ddefnyddir yn ei fusnes manwerthu. Yn wreiddiol, cafodd yr eiddo hyn eu trosglwyddo i’r bartneriaeth ar ôl 20 Hydref 2003 a thalwyd treth dir y dreth stamp ar y trosglwyddiad gwreiddiol. Partneriaid DEF yw Mr D, Ms E a Ms F. 33.33% o’r bartneriaeth yw cyfranddaliad pob partner yn yr elw incwm yn union cyn y trafodiad. Mae’r partneriaid yn cytuno i drosglwyddo un siop o’r bartneriaeth i bartner sifil Ms F, Ms G (nid yw Ms G yn bartner yn y bartneriaeth). Gan fod Ms G mewn partneriaeth sifil (sylwer nad yw partneriaeth sifil na phriodas yn ‘bartneriaeth’ at ddibenion yr Atodlen hon) â Ms F, mae hi’n berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw ym Mhartneriaeth DEF. Ar ddyddiad y trafodiad, £900,000 yw gwerth marchnadol yr eiddo.

Cam 1 – nodi’r perchnogion perthnasol

Mae Ms G yn berchennog perthnasol oherwydd bydd ganddi 100% o fuddiant yn y siop ar ôl y trosglwyddiad o’r bartneriaeth. Er nad yw Ms G yn bartner yn y bartneriaeth cyn y trosglwyddiad, mae hi mewn perthynas sifil â Ms F felly mae’n berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw ym Mhartneriaeth DEF. Er partneriaeth sifil Ms F a Ms G, nid yw Ms F yn berchennog perthnasol gan nad oes ganddi hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy ar ôl y trosglwyddiad o Bartneriaeth DEF.

Ms G yw’r unig berchennog perthnasol.

Cam 2 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner cyfatebol

Nid yw Ms G yn bartner ac felly nid yw’n bartner cyfatebol. Fodd bynnag, mae ei phartner sifil yn bartner ym Mhartneriaeth DEF ac felly mae Ms G yn berson sy’n gysylltiedig â phartner. Mae Ms F yn bartner cyfatebol gan ei bod yn bartner cyn y trafodiad ac yn unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol (Ms G). Nid yw’r ddau bartner arall ddim yn bartneriaid cyfatebol, gan nad ydynt yn berchnogion perthnasol (nid oes ganddynt fuddiant yn yr eiddo ar ôl ei drosglwyddo) ac nid ydynt chwaith yn unigolion sy’n gysylltiedig â pherchennog perthnasol.

Ms F yw’r unig bartner cyfatebol.

Cam 3 – ar gyfer pob perchennog perthnasol, canfod y gyfran o’r buddiant trethadwy y mae ganddynt hawl iddi yn union ar ôl y trafodiad

Fel y nodwyd yng ngham 1, Ms G yw’r unig berchennog perthnasol. Yn union ar ôl y trafodiad, mae ganddi hawl i 100% o’r buddiant trethadwy. Mae 100% Ms G yn cael ei ddosrannu’n uniongyrchol i'w phartner sifil, ei hunig bartner cyfatebol. Felly mae 100% o’r buddiant trethadwy yn cael ei ddosrannu i Ms F.

Cam 4 – canfod y cyfrannau is ar gyfer pob partner cyfatebol

Fel y nodwyd yng ngham 3, mae Ms F yn cael ei thrin fel bod â hawl i 100% o’r buddiant trethadwy ar ôl i’r trafodiad ddigwydd.

Cyfranddaliad partneriaeth Ms F yn union cyn y trafodiad yw 33.33%. 

Felly, cyfran is Ms F yw 33.33%.

Cam 5 – ychwanegu'r cyfrannau is ar gyfer pob partner cyfatebol at ei gilydd 

Dim ond un partner cyfatebol sydd, felly nid oes symiau i’w hychwanegu at ei gilydd. Cyfran is Ms F yw 33.33%. Dyma swm y cyfrannau is.

Cyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy a’r Dreth Trafodiadau Tir

Y fformiwla i’w defnyddio i ganfod y gydnabyddiaeth drethadwy yw GM x (100-SCI)%.

Mae’r gwerth marchnadol yn £900,000 ac mae’r SCI yn 33.33%. Felly, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trosglwyddiad yw:

£900,000 x (100-33.33)% = £600,000

Gan ddefnyddio cyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir sydd mewn grym ar 22 Rhagfyr 2020, bydd hyn yn arwain at rwymedigaeth dreth o £17,750. Bydd angen i Ms G ddychwelyd ffurflen ar gyfer y trafodiad fel prynwr, a bydd hefyd yn atebol am dalu’r dreth.

DTTT/5180 Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad dod i rym y trosglwyddiad cyn 20 Hydref 2003

(paragraff 26)

Er mwyn canfod y gyfran is o dan gam 4 cyfrifo’r buddiant trethadwy perthnasol a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn trafodiad a ddigwyddodd cyn 20 Hydref 2003 – swm y cyfrannau is (‘SCI’) – rhaid defnyddio’r rheolau arbennig hyn. Bydd buddiant trethadwy perthnasol a ddaeth yn eiddo partneriaeth cyn 20 Hydref 2003 yn fuddiant trethadwy a oedd yn ddarostyngedig i’r rheolau treth stamp (sylwer nad yw’r Dreth Stamp yr un fath â threth dir y dreth stamp).

O ran buddiant trethadwy o’r fath, mae’r cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i bartner cyfatebol yn cael ei ganfod gan ddefnyddio’r 3 cham canlynol.

Cam 1 – canfod cyfranddaliad y partner ar y dyddiad perthnasol

Y dyddiad perthnasol yw:

  • os oedd y partner yn bartner ar 19 Hydref 2003, ei gyfranddaliad partneriaeth ar y dyddiad hwnnw
  • os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, ei gyfranddaliad partneriaeth ar y dyddiad hwnnw

Y cyfranddaliad partneriaeth yw cyfranddaliad y partner yn elw incwm y bartneriaeth.

Cam 2 – ychwanegu unrhyw gynnydd dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner

Ychwanegu unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd:

  • yn y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae'r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo, a 
  • daeth y cynnydd yn y cyfranddaliad partneriaeth i rym drwy offeryn a gafodd ei stampio â threth stamp ad valorem
Cam 3 – tynnu unrhyw ostyngiad dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner

Tynnu unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd yn y cyfnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac yn dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo.

Canlyniad y 3 cham hyn yw'r cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

Os rhoddodd y partner y gorau i fod yn bartner cyn 19 Hydref 2003, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner hwnnw yw sero.

Buddiant trethadwy perthnasol yw:

  • y buddiant trethadwy sy’n rhoi’r gorau i fod yn eiddo partneriaeth ac y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, neu
  • os mai creu buddiant trethadwy y mae’r trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, y buddiant trethadwy y mae’r buddiant yn cael ei greu ohono

DTTT/5190 Cyfranddaliad yn y bartneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol: dyddiad dod i rym y trosglwyddiad ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny

(paragraff 26)

Er mwyn canfod y gyfran is o dan gam 4 cyfrifo’r buddiant trethadwy perthnasol a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth mewn trafodiad a ddigwyddodd ar 20 Hydref 2003 neu wedi hynny – swm y cyfrannau is (‘SCI’) – rhaid defnyddio’r rheolau arbennig hyn.

Buddiant trethadwy perthnasol yw:

  • y buddiant trethadwy sy’n rhoi’r gorau i fod yn eiddo partneriaeth ac y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, neu
  • os mai creu buddiant trethadwy y mae’r trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn cael ei wneud arno, y buddiant trethadwy y mae’r buddiant yn cael ei greu ohono

Os yw’r paragraff hwn yn berthnasol, ac nid yw’r un o’r ddau amod canlynol yn perthnasol, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli yw sero. Dyma'r amodau perthnasol:

  • bod yr offeryn a oedd yn dod â’r trosglwyddiad i rym wedi ei stampio â threth stamp ad valorem, neu
  • bod unrhyw Dreth Trafodiadau Tir neu, lle bo’n berthnasol, treth dir y dreth stamp, sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad, wedi cael ei thalu

O ran buddiant trethadwy o’r fath, ac os yw un o’r amodau yng nghyswllt talu treth stamp ayb yn berthnasol, caiff y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i bartner cyfatebol ei ganfod drwy ddefnyddio’r 3 cham canlynol.

Cam 1 – canfod cyfranddaliad y partner ar y dyddiad perthnasol 

Y dyddiad perthnasol yw:

  • os oedd y partner yn bartner ar ddyddiad dod i rym y trosglwyddiad o’r buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth, y dyddiad hwnnw
  • os daeth y partner yn bartner ar ôl y dyddiad hwnnw, ei gyfranddaliad partneriaeth ar y dyddiad hwnnw

Y cyfranddaliad partneriaeth yw cyfranddaliad y partner yn elw incwm y bartneriaeth.

Cam 2 – ychwanegu unrhyw gynnydd dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner

Ychwanegu unrhyw gynnydd yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd:

  • yn y cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac sy’n dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae'r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo, a 
  • os digwyddodd y cynnydd ar neu cyn 22 Gorffennaf 2004, daeth y cynnydd yn y cyfranddaliad partneriaeth i rym drwy offeryn a gafodd ei stampio â threth stamp ad valorem, neu
  • os digwyddodd y cynnydd ar ôl 22 Gorffennaf 2004, bod unrhyw Dreth Trafodiadau Tir neu, lle bo’n berthnasol, treth dir y dreth stamp, mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad, wedi cael ei thalu

Cafodd Rhan 3 o Atodlen 15 Deddf Cyllid 2003 ei disodli gan Atodlen 41 Deddf Cyllid 2004 ar 23 Gorffennaf 2004.

Cam 3 – tynnu unrhyw ostyngiad dilynol yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner

Tynnu unrhyw ostyngiadau yng nghyfranddaliad partneriaeth y partner a ddigwyddodd yn y cyfnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol ac yn dod i ben yn union cyn y trafodiad y mae’r cyfrifiad SCI yn berthnasol iddo.

Canlyniad y 3 cham hyn yw'r cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner.

Os rhoddodd y partner y gorau i fod yn bartner cyn dyddiad dod i rym y trosglwyddiad o'r buddiant trethadwy perthnasol i’r bartneriaeth, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner hwnnw yw sero.

DTTT/5200 Trafodiadau Partneriaeth Eraill

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth

(paragraff 29)

Lle ceir trosglwyddiad o fuddiant trethadwy o bartneriaeth i bartneriaeth arall, ac mae’r trosglwyddiad yn un lle byddai'r rheolau sy’n ymwneud â swm y cyfrannau is (‘SCI’) ar gyfer trosglwyddiad i bartneriaeth a throsglwyddiad o bartneriaeth, heblaw am yr adran hon, yn berthnasol, yna mae’r rheolau canlynol yn sicrhau nad yw'r ddwy set o reolau yn berthnasol gyda’i gilydd.

Rhaid i’r trethdalwr gyfrifo’r gydnabyddiaeth drethadwy o dan y rheolau ar gyfer trosglwyddiad i bartneriaeth a throsglwyddiad o bartneriaeth, yna cyfrifo’r dreth ar yr uchaf o’r ddau swm cydnabyddiaeth drethadwy. Os nad oes partneriaid cyffredin rhwng y ddwy bartneriaeth, bydd yr SCI yn sero a bydd y trafodiad yn ‘drafodiad cyffredin gan bartneriaeth’.

Os yw’r gydnabyddiaeth a roddir yn rhent yn gyfan gwbl neu’n rhannol, yna ar gyfer trosglwyddiad o bartneriaeth i bartneriaeth lle mae partneriaid cyffredin, nid yw'r rheolau sy’n ymwneud â lesoedd a thrafodiadau partneriaeth yn berthnasol yn unig fel y nodir yn y rheolau hynny.

Yn hytrach, y dreth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r gydnabyddiaeth sy’n cynnwys rhent yw’r uchaf o’r canlynol:

  • beth fyddai'r dreth daladwy pe bai’r rheolau sy’n ymwneud â lesoedd a thrafodiadau partneriaeth yn berthnasol mewn cysylltiad â thrafodiad y mae’r rheolau ar gyfer trosglwyddiad i bartneriaeth yn berthnasol iddo, a
  • beth fyddai'r dreth daladwy pe bai’r rheolau sy’n ymwneud â lesoedd a thrafodiadau partneriaeth yn berthnasol mewn cysylltiad â thrafodiad y mae’r rheolau ar gyfer trosglwyddiad o bartneriaeth yn berthnasol iddo

Mae’r rheolau les a rhent perthnasol sy’n darparu ar gyfer y band cyfradd sero ar gyfer ‘cydnabyddiaeth ar wahân i rent’ sydd i’w datgymhwyso pan fydd y gydnabyddiaeth sy’n cynnwys rhent yn uwch na’r swm perthnasol hefyd yn berthnasol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o bartneriaeth i bartneriaeth.

Trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth a ffurfir yn llwyr gan gyrff corfforaethol

(paragraff 30)

Lle ceir trosglwyddiad o fuddiant trethadwy o bartneriaeth lle mae pob partner yn gorff corfforaethol i un o’r partneriaid hynny neu i berson sy’n gysylltiedig â’r partner hwnnw, ac mae swm y cyfrannau is yn 75% neu fwy, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trosglwyddiad tir yw gwerth marchnadol y buddiant sy’n cael ei drosglwyddo. 

Os yw unrhyw ran o’r gydnabyddiaeth drethadwy yn cynnwys rhent, yna’r gydnabyddiaeth drethadwy yw Gwerth Presennol Net y rhent dros gyfnod y les yn ogystal â gwerth marchnadol y les. 

Efallai y gellir hawlio rhyddhad grŵp. Fodd bynnag, os nad yw pob partner yn rhan o’r un grŵp ac nad yw’r person y caiff y buddiant ei drosglwyddo iddo yn yr un grŵp hwnnw, ni ellir hawlio rhyddhad grŵp. 

Lesoedd: Trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth neu ohono: cydnabyddiaeth drethadwy sy’n cynnwys rhent

(paragraff 31)

Lle mae partneriaeth:

  • yn cael les gan bartner neu berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i roi’r les hwnnw neu mewn cysylltiad â hynny, neu 
  • yn rhoi les i bartner, neu berson sydd wedi bod yn bartner,

caiff y rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo i bartneriaeth a throsglwyddo o bartneriaeth eu haddasu (gweler paragraff 31 Atodlen 7 DTTT).

Mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn cael ei chodi ar:

  • cyfran o Werth Presennol Net y rhent sy’n daladwy dros gyfnod y les, a
  • cyfran o unrhyw gydnabyddiaeth ar wahân i rent a gwerth marchnadol y les.

Caiff Gwerth Presennol Net y rhent dros gyfnod y les ei bennu yn unol â'r rheolau arferol sy’n berthnasol i lesoedd. O'r swm hwn, caiff y gyfran drethadwy berthnasol ei phennu yn unol â’r canlynol:

(100 – SCI)%

lle mai ‘SCI’ yw swm y cyfrannau is.

Pan fo cydnabyddiaeth ar wahân i rent (er enghraifft premiwm), caiff y gydnabyddiaeth drethadwy ei phennu yn yr un ffordd â chaffael unrhyw fuddiant trethadwy arall mewn tir, sy’n hafal i:

GM x (100-SCI)%

lle mai GM yw'r gwerth marchnadol ac SCI yw swm y cyfrannau is.

Pan fo les yn cael ei throsglwyddo neu ei rhoi gan bartneriaeth, ac mae pob partner yn gorff corff corfforaethol i gorff corff corfforaethol arall sydd yn bartner neu wedi bod yn bartner, a bod yr SCI yn 75% neu fwy, yna ystyrir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy yw gwerth marchnadol y buddiant sy’n cael ei drosglwyddo ac, os bodlonir pob amod perthnasol, gellir hawlio rhyddhad grŵp hefyd).

DTTT/5210 Trosglwyddiadau sy’n cynnwys partneriaethau buddsoddi mewn eiddo

Ystyr partneriaeth buddsoddi mewn eiddo

(paragraff 33)

Mae partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn bartneriaeth lle mai buddsoddi mewn buddiannau trethadwy neu ddelio ynddynt yw ei phrif neu ei hunig weithgarwch. Caiff partneriaeth ei thrin fel partneriaeth buddsoddi mewn eiddo hyd yn oed pan fydd hefyd yn adnewyddu, adeiladu ayb yr adeiladau mae wedi buddsoddi ynddynt (‘gweithrediadau adeiladu’ yn ôl y diffiniad yn adran 74 Deddf Cyllid 2004). Wrth bennu a yw partneriaeth yn bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo, rhaid ystyried hefyd y defnydd a wneir o eiddo y tu allan i Gymru, lle byddai’r eiddo hwnnw yn fuddiant trethadwy pe bai yng Nghymru. Ni fydd partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn cynnwys, er enghraifft, partneriaeth ffermio, nac adeiladwr tai lle mai ei brif neu ei unig weithgarwch yw adeiladu a gwerthu eiddo i drydydd partïon (hyd yn oed lle cedwir eiddo a’u rhentu allan weithiau oherwydd nad oes modd dod o hyd i brynwr) gan fod y rhan fwyaf o’i elw yn deillio o adeiladu tai, nid delio mewn tir. Bydd pennu ai prif neu unig weithgarwch partneriaeth yw buddsoddi mewn buddiannau trethadwy neu ddelio ynddynt yn gwestiwn o ffaith.

Trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo

(paragraff 34)

Os trosglwyddir buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo a bod yr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ yn cynnwys buddiant trethadwy, caiff y trosglwyddiad o’r buddiant hwnnw ei drin fel trafodiad tir ac felly fel buddiant trethadwy at ddibenion y rhan hon o’r atodlen hon. Y prynwr yn y trafodiad tir hwnnw yw’r person sy’n dod yn bartner, neu’n cynyddu ei gyfranddaliad partneriaeth, o ganlyniad i'r trafodiad.
 
Ni phennir y gydnabyddiaeth drethadwy yn unol ag unrhyw ddarpariaethau eraill. Mae’n swm sy’n hafal i gyfran o werth marchnadol yr eiddo partneriaeth perthnasol. Caiff y gyfran ei chanfod drwy un o'r ddwy ffordd ganlynol:

  • os nad yw’r person sy’n caffael buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, eu cyfranddaliad partneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad, neu
  • os yw’r person sy’n caffael buddiant yn y bartneriaeth yn bartner cyn y trosglwyddiad, y gwahaniaeth rhwng y cyfranddaliad partneriaeth cyn ac ar ôl y trosglwyddiad

Caiff trosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo ei drin fel buddiant trethadwy at ddibenion tynnu rhyddhad grŵp.

Mae dau fath o drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo, trosglwyddiad Math A neu drosglwyddiad Math B.

Trosglwyddiad Math A

Ystyr trosglwyddiad Math A yw:

  • trosglwyddiad lle mae buddiant cyfan partner neu ran ohono yn cael ei gaffael gan bartner arall, neu berson arall, ac mae arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei roi gan y partner neu’r person sy’n caffael y buddiant, neu
  • trosglwyddiad lle mae person yn dod yn bartner, ac mae buddiant partner presennol yn cael ei leihau (neu mae’r partner yn gadael y bartneriaeth) ac mae arian neu gyfwerth ariannol yn cael ei dynnu gan y partner presennol (ar wahân i arian neu gyfwerth ariannol oedd ar gael i’r bartneriaeth cyn y trosglwyddiad).

Ystyr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ ar gyfer trosglwyddiad Math A yw’r holl fuddiannau trethadwy y mae partneriaeth yn eu dal yn union ar ôl y trosglwyddiad, ar wahân i:

  • unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddir i’r bartneriaeth fel rhan o’r trafodiad
  • lesoedd rhent marchnadol, ac
  • unrhyw fuddiant trethadwy na ellir ei briodoli’n economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir
Trosglwyddiad Math B

Ystyr trosglwyddiad Math B yw unrhyw drosglwyddiad o fuddiant partneriaeth mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo nad yw’n drosglwyddiad Math A.

Ystyr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ ar gyfer trosglwyddiad Math B yw’r holl fuddiannau trethadwy y mae partneriaeth yn eu dal yn union ar ôl y trosglwyddiad, ar wahân i: 

  • unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddir i’r bartneriaeth fel rhan o’r trafodiad
  • lesoedd rhent marchnadol
  • unrhyw fuddiant trethadwy na ellir ei briodoli’n economaidd i’r buddiant yn y bartneriaeth a drosglwyddir
  • unrhyw fuddiant trethadwy a drosglwyddwyd i’r bartneriaeth ar 22 Gorffennaf 2004 neu cyn hynny
  • unrhyw fuddiant trethadwy lle mae dewis wedi’i wneud i ddatgymhwyso’r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth, ac
  • unrhyw fuddiant trethadwy arall lle na wnaethpwyd y trosglwyddiad i'r bartneriaeth gan bartner, gan rywun a ddaeth yn bartner o ganlyniad i'r trosglwyddiad na gan berson sy’n gysylltiedig â phartner, ac yr oedd y rheolau ar gyfer swm y cyfrannau is yn berthnasol iddo

Eithrio lesoedd rhent marchnadol

(paragraff 35)

Nid yw les sy’n cael ei ddal fel eiddo partneriaeth yn union ar ôl trosglwyddo buddiant yn y bartneriaeth yn eiddo partneriaeth perthnasol ar gyfer Trosglwyddiad Math A na Math B os bodlonir y 4 amod canlynol:

  • amod 1 yw:
    • nad oes unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy ar wahân i rent wedi ei rhoi mewn cysylltiad â rhoi’r les, ac
    • nad oes unrhyw drefniadau yn eu lle ar adeg y trosglwyddiad ar gyfer rhoi unrhyw gydnabyddiaeth drethadwy, ar wahân i rent, mewn cysylltiad â rhoi’r les.
  • amod 2 yw bod y rhent sy’n daladwy o dan y les fel y’i rhoddwyd yn ‘rhent marchnadol' ar adeg rhoi’r les.
  • amod 3 yw:
    • bod cyfnod y les yn 5 mlynedd neu lai, neu
    • os yw cyfnod y les yn hwy na 5 mlynedd:
      • bod y les yn darparu y bydd y rhent sy’n daladwy oddi tani yn cael ei adolygu o leiaf unwaith ym mhob 5 mlynedd o’r cyfnod; ac
      • ei bod yn ofynnol i’r rhent sy’n daladwy o dan y les o ganlyniad i adolygiad fod yn rhent marchnadol ar y dyddiad adolygu
  • amod 4 yw na chafwyd unrhyw newid i’r les ers iddi gael ei rhoi a fyddai’n golygu bod y rhent sy’n daladwy o dan y les yn llai na rhent marchnadol

'Rhent marchnadol’ les yw’r rhent y gellid disgwyl yn rhesymol i’r les ei ddenu ar y farchnad agored ar yr adeg honno.

'Dyddiad adolygu’ yw'r dyddiad y mae’r rhent a bennir o ganlyniad i adolygiad rhent yn daladwy ohono.

DTTT/5220 Partneriaeth buddsoddi mewn eiddo yn dewis datgymhwyso’r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth

Os ceir trosglwyddiad o fuddiant trethadwy i bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo, gall y prynwr ddewis datgymhwyso’r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth.

Pan wneir dewis o’r fath:

  • caiff y rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth eu datgymhwyso hefyd (ac felly nid yw paragraffau 18 ac 19 yn berthnasol chwaith);
  • ystyrir mai’r gydnabyddiaeth drethadwy yw gwerth marchnadol y buddiant trethadwy, a 
  • caiff y trafodiad ei drin fel trafodiad cyffredin gan bartneriaeth

Rhaid i ddewis o dan y paragraff hwn gael ei gynnwys ar y ffurflen Treth Trafodiadau Tir a ddychwelir mewn cysylltiad â’r trafodiad, neu mewn diwygiad i’r ffurflen honno. Os caiff y ffurflen ei dychwelyd ar-lein, rhaid anfon y dewis ar yr un pryd, a hynny i:

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL (os anfonir drwy’r post)

neu gellir ei gyflwyno drwy ffurflen Cysylltu â Ni yr Awdurdod Cyllid.

Rhaid i'r dewis nodi enw’r trethdalwr, cyfeiriad yr eiddo dan sylw a chyfeirnod y ffurflen sy’n berthnasol i’r broses o gaffael yr eiddo gan y bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo. 

Mae’r dewis yn un di-alw’n-ôl, ac ni chaniateir diwygio’r ffurflen dreth er mwyn tynnu’r dewis yn ôl.

Ar y llaw arall, mae’n bosibl diwygio’r ffurflen y gwneir dewis ynddi. Lle gwneir dewis mewn cysylltiad â thrafodiad (a elwir yn ‘brif drafodiad’) mewn diwygiad i ffurflen:

  • mae’r dewis yn dod i rym fel pe bai wedi cael ei wneud ar ddyddiad dychwelwyd y ffurflen, ac
  • caniateir diwygio unrhyw ffurflen mewn cysylltiad â ‘thrafodiad yr effeithir arno’ (o fewn y cyfnod a ganiateir ar gyfer diwygio’r ffurflen dreth honno, er mwyn adlewyrchu’r dewis hwnnw.

Ystyr ‘trafodiad yr effeithir arno’ mewn cysylltiad â’r prif drafodiad yw trafodiad partneriaeth buddsoddi mewn eiddo sydd â dyddiad dod i rym ar y dyddiad mae’r prif drafodiad yn dod i rym, neu wedi hynny. 

Buddiannau partneriaethau: cymhwyso darpariaethau ynghylch cyfnewid

(paragraff 37)

Lle mae’r rheolau cyfnewid yn berthnasol i gaffael buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo gan mai’r gydnabyddiaeth ar gyfer ymrwymo i’r trafodiad hwnnw yw ymrwymo i drafodiad tir, caiff y buddiant yn y bartneriaeth buddsoddi mewn eiddo ei drin fel ei fod yn brif fuddiant mewn tir (os yw’r eiddo partneriaeth perthnasol yn cynnwys prif fuddiant mewn tir). Mae’r rheol hon yn golygu bod y rheolau cyfnewid yn gallu bod yn berthnasol i’r cyfnewidiad (gan fod yn rhaid i’r buddiannau sy’n cael eu cyfnewid fod yn brif fuddiannau). Fodd bynnag, nid yw’r rheolau sy’n ymwneud â darnddosbarthu neu rannu buddiant trethadwy yn berthnasol.

Mae gan yr ‘eiddo partneriaeth perthnasol’ yr un ystyr ag sydd ganddo ar gyfer trosglwyddiad Math A neu Fath B.

DTTT/5230 Cymhwyso Esemptiadau a Rhyddhadau

Nid yw’r esemptiad rhag treth lle nad oes cydnabyddiaeth drethadwy yn berthnasol i’r canlynol:

  • trosglwyddiadau sy’n cynnwys trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth
  • trosglwyddiadau sy’n cynnwys trosglwyddo buddiant trethadwy o bartneriaeth)
  • trosglwyddo buddiannau partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi talu trethu, neu
  • drosglwyddo buddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo.

Yn amodol ar y rheolau penodol sy’n ymwneud â chymhwyso rhyddhad grŵp a rhyddhad elusennau, mae unrhyw ddarpariaeth arall sy’n rhoi esemptiad neu ryddhad rhag y Dreth Trafodiadau Tir yn berthnasol i drafodiadau partneriaeth.

Cymhwyso rhyddhad grŵp

(paragraff 40)

Mae rhyddhad grŵp ar gael mewn trafodiadau sy’n cynnwys partneriaethau lle bodlonir yr amodau ar gyfer y rhyddhad hwnnw. 

Mae rheolau penodol yn berthnasol lle:

  • mae’r trafodiad yn un lle trosglwyddir buddiant trethadwy i bartneriaeth gan bartner, gan berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu gan berson cysylltiedig, ac 
  • mae’r trafodiad yn drafodiad trethadwy gan ei fod yn unol â threfniadau osgoi talu trethi

Pan fydd y sefyllfa hon yn codi, dylid darllen y rheolau ar gyfer tynnu rhyddhad grŵp gyda nifer o gyfnewidiadau (gweler y ddolen i baragraff 40 Atodlen 7 DTTT).

Prif ofyniad rhyddhad grŵp yw a yw’r cwmnïau dan sylw mewn strwythur grŵp, ac mae hyn yn dibynnu ar statws y cwmnïau dan sylw: rhaid iddynt fod yn gyrff corfforaethol ac, i sefydlu strwythur grŵp, rhaid iddynt fod wedi cyhoeddi cyfalaf cyfrannau. Fodd bynnag, dylid nodi bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn gorff corff corfforaethol ac felly gall fod yn rhiant i grŵp o gwmnïau. Ond ni all fod yn is-gwmni neu’n chwaer-gwmni gan nad yw wedi cyhoeddi cyfalaf cyfrannau. Ar ben hynny, ni ellir trosglwyddo eiddo i’r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ac elwa ar hawliad rhyddhad grŵp.

Mae rhyddhad grŵp yn cael ei dynnu'n ôl lle mae partner corff corfforaethol a oedd yn bartner ar y dyddiad dod i rym y caffael, sy'n cael ei rhyddhau rhag talu treth oherwydd hawliad rhyddhad grŵp gan y partner, yn peidio â bod yn aelod o'r un grŵp â'r gwerthwr cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar ddyddiad dod i rym y trafodiad, neu yn unol â threfniadau a wnaed cyn diwedd y cyfnod hwnnw, neu mewn cysylltiad â’r trefniadau hynny. Dylid ystyried cyfeiriadau at y ‘prynwr’ yn y rheolau ar gyfer rhyddhad grŵp yn gyfeiriadau at y partner perthnasol.

Lle caiff rhyddhad grŵp ei dynnu’n ôl yn rhannol, mae swm y dreth daladwy yn gyfran briodol ac ystyried pwnc y trafodiad perthnasol, ac yr hyn mae’r bartneriaeth yn ei ddal, neu’r hyn sy’n cael ei ddal ar ran y bartneriaeth, ar yr adeg berthnasol, a’r gyfran y mae gan y partner perthnasol hawl iddi yn elw incwm y bartneriaeth ar yr adeg berthnasol.

Swm y cyfrannau is: cwmnïau cysylltiedig

(paragraff 41)

Wrth gyfrifo swm y cyfrannau is ar gyfer trafodiad sy'n cynnwys trosglwyddo i bartneriaeth, a hynny gan bartner, gan berson sy’n dod yn bartner o ganlyniad i’r trosglwyddiad, neu gan berson cysylltiedig, a byddai cwmni (cwmni cysylltiedig) yn bartner cyfatebol i berchennog perthnasol (ond ar gyfer y rheol, mae'n berthnasol i unigolion yn unig) a bod y ddau gwmni yn yr un grŵp, dylid darllen y rheolau rhyddhad grŵp gyda nifer o gyfnewidiadau (gweler y ddolen i baragraff 4 Atodlen 7 DTTT). Mae'r rheol yn caniatáu i'r tâl treth, mewn cysylltiad â'r trafodiad, gael ei ostwng i'r swm a fyddai wedi bod yn daladwy pe bai'r cwmni cysylltiedig yn bartner cyfatebol i'r perchennog gwreiddiol at ddibenion cyfrifo swm y cyfrannau is ('SCI').

Enghraifft

Mae effaith y rheolau hyn i'w gweld yn yr enghraifft ganlynol: Mae A Cyf yn trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth sy’n cynnwys Unigolyn 1, Unigolyn 2 a B Cyf. Mae A Cyf a B Cyf ym mherchnogaeth lwyr C Cyf, sydd yn ei dro ym mherchnogaeth tad Unigolyn 1 ac Unigolyn 2. Mae’r trosglwyddiad felly yn un y mae’r rheolau sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth yn berthnasol iddo gan fod A Cyf yn gysylltiedig ag unigolion 1 a 2 a B Cyf.

Nid yw B Cyf yn bartner cyfatebol i’r perchennog perthnasol (A Cyf) oherwydd er ei fod yn bartner, nid yw’n berchennog perthnasol nac yn unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol. Fodd bynnag, gan fod y ddau gwmni wedi’u grwpio (maent ill dau yn is-gwmni 75% i drydydd cwmni, C Cyf), mae’r rheolau arbennig hyn yn berthnasol. O ganlyniad, mae’r tâl mewn cysylltiad â’r trafodiad yn cael ei leihau i’r swm a fyddai wedi bod yn drethadwy pe bai’r cwmni cysylltiedig wedi bod yn bartner cyfatebol at ddibenion cyfrifo’r SCI.

Yn yr amgylchiadau penodol a gyflwynwyd uchod, caiff y tâl ei leihau i ddim gan fod yr SCI yn 100%, oherwydd bod y cwmni cysylltiedig yn cael ei drin fel partner cyfatebol.

Nid yw'r rheol hon yn berthnasol mewn amgylchiadau i’r gwrthwyneb, hy trosglwyddiad o bartneriaeth.

Trin partneriaethau at ddibenion rhyddhad grŵp

Mae statws partneriaeth ar gyfer rhyddhad grŵp yn dibynnu ar natur y bartneriaeth honno.

Mae statws partneriaeth yn berthnasol i hawliadau rhyddhad grŵp, er bod rhwymedigaeth i’r Dreth Trafodiadau Tir yn disgyn fel arall ar y partneriaid, yn hytrach nag ar y bartneriaeth fel endid ar wahân. Mae trosglwyddo buddiant trethadwy i bartneriaeth neu ohono yn golygu bod y bartneriaeth ei hun yn cael ei ‘hanwybyddu’, a’r partneriaid yw’r rheini sydd â rhwymedigaeth i'r Dreth Trafodiadau Tir.

Wrth edrych ar drosglwyddiadau i gwmnïau grŵp neu ohonynt lle mae partneriaeth yn strwythur y grŵp, mae’r math o bartneriaeth yn pennu a yw darpariaethau rhyddhad grŵp yn gallu bod yn berthnasol.

Nid oes gan bartneriaethau a ffurfiwyd o dan gyfraith Cymru a Lloegr; Partneriaethau Cymru a Lloegr a Phartneriaethau Cyfyngedig Cymru a Lloegr bersonoliaeth gyfreithiol ac felly maent yn dryloyw at ddibenion trethiant y DU. 

Nid yw Partneriaethau Albanaidd a Phartneriaethau Cyfyngedig Albanaidd yn gyrff corfforaethol ac felly ni allant fod yn aelodau o grŵp Treth Trafodiadau Tir ond mae ganddynt bersonoliaeth gyfreithiol, a gallant fod yn berchen ar gyfrannau mewn is-gwmni. Mae hyn yn golygu bod Partneriaeth Albanaidd yn achosi toriad yn strwythur y grŵp.

Mae Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (lle bynnag maent wedi’u cofrestru yn y DU) yn gyrff corfforaethol – felly gallant fod yn rhiant i grŵp gan eu bod yn gyrff corfforaethol ac yn gallu bod yn berchen ar y cyfrannau yn yr is-gwmnïau. Fodd bynnag, maent hefyd yn achosi toriad mewn grŵp gan nad oes gan y Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig gyfalaf cyfrannau wedi’u cyhoeddi. 

At ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, dylid trin partneriaethau nad ydynt yn bartneriaethau’r DU yn yr un modd â’r bartneriaeth DU y maent debycaf iddi.

Dyma enghreifftiau o gymhwyso rhyddhad: Rhyddhad Grŵp – Partneriaethau Cymru a Lloegr a Phartneriaethau Cyfyngedig Cymru a Lloegr

Mae A Cyf yn berchen ar 100% o gyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd B Cyf ac C Cyf. Mae B Cyf ac C Cyf yn berchen ar 50% o fuddiant partneriaeth yr un yn ‘y Bartneriaeth’. Mae'r ‘Bartneriaeth’ yn berchen ar 100% o’r cyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd yn E Cyf a F Cyf. Mae’r ‘Bartneriaeth’ yn y strwythur yn Bartneriaeth Cymru a Lloegr (EWP) neu’n Bartneriaeth Gyfyngedig Cymru a Lloegr (EWLP).

Dyma enghreifftiau o gymhwyso rhyddhad: Rhyddhad Grŵp – Partneriaethau Cymru a Lloegr a Phartneriaethau Cyfyngedig Cymru a Lloegr

Mae A Cyf yn berchen ar 100% o gyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd B Cyf ac C Cyf. Mae B Cyf ac C Cyf yn berchen ar 50% o fuddiant partneriaeth yr un yn ‘y Bartneriaeth’. Mae'r ‘Bartneriaeth’ yn berchen ar 100% o’r cyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd yn E Cyf a F Cyf. Mae’r ‘Bartneriaeth’ yn y strwythur yn Bartneriaeth Cymru a Lloegr (EWP) neu’n Bartneriaeth Gyfyngedig Cymru a Lloegr (EWLP).

Trosglwyddo o bartneriaeth i bartner cwmni

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o’r ‘Bartneriaeth’ (EWP/EWLP) i B Cyf. Mae hwn yn drosglwyddiad o bartneriaeth felly mae’r darpariaethau perthnasol yn berthnasol a bydd y rhwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir yn cael ei chanfod gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer trosglwyddo o bartneriaeth.

Cam Un – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol

Mae B Cyf yn berchennog perthnasol oherwydd yn union ar ôl y trafodiad mae ganddo hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac yn union cyn y trafodiad roedd yn bartner.

Cam Dau – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol

Mae B Cyf yn bartner cyfatebol i'w hun oherwydd yn union cyn y trafodiad roedd yn bartner ac yn berchennog perthnasol.
(Ni all C Cyf fod yn bartner cyfatebol gan nad yw’n unigolyn nac yn berchennog perthnasol)

Cam Tri

Mae gan B Cyf hawl i 100% o’r buddiant trethadwy yn union ar ôl y trafodiad.
Gan mai dim ond un partner cyfatebol sydd, caiff y gyfran hon ei dosrannu’n llwyr i B Cyf.

Cam Pedwar

Y gyfran is ar gyfer pob person sy’n bartner cyfatebol (B Cyf yn yr enghraifft hon) yw’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i'w briodoli i’r partner neu, os yw’n is, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i’r partner.

Yn yr achos hwn mae’r ffigurau yn 100% (y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w briodoli i’r partner) a 50% (y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner) yn y drefn honno, felly 50 yw’r gyfran is.

Cam Pump

Dim ond un gyfran is sydd, felly nid oes unrhyw beth i’w ychwanegu at ei gilydd. O ganlyniad, swm y cyfrannau is yn yr enghraifft hon yw 50.

Y gydnabyddiaeth drethadwy yw GM x (100-50)%

Felly, y gydnabyddiaeth drethadwy ar gyfer y trafodiad yw 50% o werth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir.

Caiff ‘y Bartneriaeth’, fel EWP neu EWLP, ei hanwybyddu i’r partneriaid ac mae hwn, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o B Cyf ac C Cyf i B Cyf, hy mae C Cyf yn trosglwyddo ei 50% o fuddiant yn yr eiddo i B Cyf.

Gan fod B Cyf ac C Cyf ill dau yn is-gwmni 100% i A Cyf (ac felly mae’r holl bartneriaid wedi’u grwpio), bydd rhyddhad grŵp ar gael os bodlonir yr amodau a fydd yn rhoi rhyddhad yn erbyn y tâl i B Cyf a nodir o dan y rheolau partneriaeth.

Trosglwyddo o bartner cwmni i bartneriaeth

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o B Cyf i’r ‘Bartneriaeth’ (EWP/EWLP).

Mae hwn yn drosglwyddiad i bartneriaeth felly bydd y ddarpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo i bartneriaeth yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer trosglwyddo o bartneriaeth.

Cam Un – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol

Mae B Cyf yn berchennog perthnasol oherwydd yn union cyn y trafodiad mae ganddo hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac yn union ar ôl y trafodiad mae’n bartner.

Cam Dau – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol

Mae B Cyf yn bartner cyfatebol i'w hun oherwydd yn union ar ôl y trafodiad roedd yn bartner ac yn berchennog perthnasol.

Mae C Cyf yn bartner cyfatebol hefyd oherwydd yn union ar ôl y trafodiad roedd yn bartner ac yn gysylltiedig â'r perchennog perthnasol. Er bod paragraff 16(1)(b) yn atal C Cyf rhag bod yn bartner cyfatebol, gan nad yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol nac yn berchennog perthnasol ei hun, gan fod y cwmni’n aelod o’r un grŵp a’r perchennog gwreiddiol (B Cyf), mae’n bartner cyfatebol yn rhinwedd y rheolau arbennig sy’n ymwneud â chyfrifo swm y cyfrannau is ar gyfer cwmnïau cysylltiedig.

Cam Tri

Mae gan B Cyf hawl i 100% o’r buddiant trethadwy yn union cyn y trafodiad.

Mae dau bartner cyfatebol felly gellir dosrannu'r gyfran hon rhwng B Cyf ac C Cyf (50:50).

Cam Pedwar

Y gyfran is ar gyfer pob person sy’n bartner cyfatebol yw’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i'w briodoli i’r partner neu, os yw’n is, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i’r partner.

Gan mai 50 oedd y gyfran o’r buddiant trethadwy a briodolwyd i bob partner yng Ngham Tri ac mai 50 yw’r cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i bob partner hefyd, rhaid i’r gyfran is fod yn 50 yr un.

Cam Pump – swm y cyfrannau is

Mae'r ddau swm wedi’u hychwanegu at ei gilydd (50+50) yn 100.

O ganlyniad i’r rheolau arbennig (paragraff 41) sy’n caniatáu i Cyf C gael ei ystyried yn bartner cyfatebol er ei fod yn gwmni, yr SCI yn yr achos hwn yw 100, felly mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn ddim ac nid oes rhwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir.

Caiff ‘y Bartneriaeth’, fel EWP neu EWLP, ei hanwybyddu i’r partneriaid ac mae hwn, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o B Cyf ac C Cyf i B Cyf, hy mae B Cyf yn trosglwyddo ei 50% o fuddiant yn yr eiddo i C Cyf. Gan fod B Cyf ac C Cyf ill dau yn is-gwmni 100% i A Cyf , ac os bodlonir yr amodau, bydd rhyddhad grŵp yn rhoi rhyddhad yn erbyn y tâl a nodir o dan y rheolau partneriaeth.

Gan fod y cyfrifiad partneriaeth a chymhwyso rhyddhad grŵp ill dau yn arwain at ddim tâl, gall y person atebol benderfynu pa ddarpariaethau mae’n dymuno eu defnyddio.

Trosglwyddo o gwmni sy’n berchen i bartneriaeth i bartner corfforaethol

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o E Cyf i B Cyf (trosglwyddiad o un o’r cwmnïau sy’n berchen i’r ‘Bartneriaeth’ (EWP/EWLP) i un o’r partneriaid).

Ni fydd y rheolau partneriaeth yn berthnasol yn yr enghraifft hon gan nad yw’n drosglwyddiad i bartneriaeth nac ohono. Fodd bynnag, efallai y bydd y rheolau rhyddhad grŵp yn berthnasol.

Er mwyn i ryddhad grŵp fod yn berthnasol at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, rhaid i’r trosglwyddiad fod rhwng cwmnïau grŵp a rhaid i gwmni fod yn gorff corfforaethol. Rhaid bodloni’r prawf perchnogaeth lesiannol 75% hefyd.

Gan fod EWP/EWLP yn dryloyw o dan gyfraith trethiant y DU, mae B Cyf ac C Cyf ill dau yn berchen ar 50% o gyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd E Cyf. Gan fod B Cyf ac C Cyf ill dau yn is-gwmnïau 100% i A Cyf, mae hwn yn grŵp at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir ac os bodlonir y gofynion rhyddhad grŵp, gellir gwneud hawliad i gael rhyddhad yn erbyn y rhwymedigaeth a godir ar werth marchnadol yr eiddo sy’n cael ei drosglwyddo.

Dyma enghreifftiau o gymhwyso rhyddhad: Rhyddhad Grŵp – Partneriaethau Albanaidd a Phartneriaethau Cyfyngedig Albanaidd

Mae A Cyf yn berchen ar 100% o gyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd B Cyf ac C Cyf. Mae B Cyf ac C Cyf yn berchen ar 50% o fuddiant partneriaeth yr un yn ‘y Bartneriaeth’. Mae'r bartneriaeth yn berchen ar 100% o’r cyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd yn E Cyf a F Cyf. Mae’r ‘Bartneriaeth’ yn y strwythur yn Bartneriaeth Albanaidd (ScP) neu’n Bartneriaeth Gyfyngedig Albanaidd (ScLP).

Trosglwyddo o bartneriaeth i bartner cwmni

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o’r ‘Bartneriaeth’ (ScP/ScLP) i B Cyf. Mae hwn yn drosglwyddiad o bartneriaeth felly mae’r darpariaethau perthnasol yn berthnasol a bydd y rhwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir yn cael ei chanfod gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer trosglwyddo o bartneriaeth.

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o’r ‘Bartneriaeth’ (ScP/ScLP) i B Cyf.

Cam Un – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol

Mae B Cyf yn berchennog perthnasol oherwydd yn union ar ôl y trafodiad mae ganddo hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac yn union cyn y trafodiad roedd yn bartner.

Cam Dau – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol

Mae B Cyf yn bartner cyfatebol i'w hun oherwydd yn union cyn y trafodiad roedd yn bartner ac yn berchennog perthnasol (ni all C Cyf fod yn bartner cyfatebol gan nad yw’n unigolyn nac yn berchennog perthnasol). 

Cam Tri

Mae gan B Cyf hawl i 100% o’r buddiant trethadwy yn union ar ôl y trafodiad.
Gan mai dim ond un partner cyfatebol sydd, caiff y gyfran hon ei dosrannu’n llwyr i B Cyf.

Cam Pedwar

Y gyfran is ar gyfer pob person sy’n bartner cyfatebol (B Cyf yn yr enghraifft hon) yw’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i'w briodoli i’r partner neu, os yw’n is, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i’r partner.

Yn yr achos hwn mae’r ffigurau yn 100% (y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w briodoli i’r partner) a 50% (y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner) yn y drefn honno, felly 50 yw’r gyfran is.

Cam Pump

Dim ond un gyfran is sydd, felly nid oes unrhyw beth i’w ychwanegu at ei gilydd. O ganlyniad, swm y cyfrannau is yn yr enghraifft hon yw 50.

Y gydnabyddiaeth drethadwy yw GM x 50% = 50%.
Felly mae gennym 50% o dâl gwerth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir.

Gan fod y trosglwyddiad o ScP neu ScLP, caiff y bartneriaeth ei hanwybyddu i’r partneriaid ac mae hwn, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o B Cyf ac C Cyf i B Cyf, hy mae C Cyf yn trosglwyddo ei 50% o fuddiant yn yr eiddo i B Cyf.

Gan fod B Cyf ac C Cyf ill dau yn is-gwmni 100% i A Cyf, bydd rhyddhad grŵp ar gael os bodlonir yr amodau a fydd yn rhoi rhyddhad yn erbyn y tâl a nodir o dan y rheolau partneriaeth.

Trosglwyddo o bartner cwmni i bartneriaeth

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o B Cyf i ScP/ScLP.

Mae hwn yn drosglwyddiad i bartneriaeth felly bydd y ddarpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo i bartneriaeth yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer trosglwyddo i bartneriaeth.

Cam Un – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol.
Mae B Cyf yn berchennog perthnasol oherwydd yn union cyn y trafodiad mae ganddo hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac yn union ar ôl y trafodiad mae’n bartner.

Cam Dau – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol

Mae B Cyf yn bartner cyfatebol i'w hun oherwydd yn union ar ôl y trafodiad roedd yn bartner ac yn berchennog perthnasol.

Mae C Cyf yn bartner cyfatebol hefyd oherwydd yn union ar ôl y trafodiad roedd yn bartner ac yn gysylltiedig â'r perchennog perthnasol. Er bod paragraff 16(1)(b) yn atal C Cyf rhag bod yn bartner cyfatebol, gan nad yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol nac yn berchennog perthnasol ei hun, gan fod y cwmni’n aelod o’r un grŵp a’r perchennog gwreiddiol (B Cyf), mae’n bartner cyfatebol yn rhinwedd y rheolau arbennig sy’n ymwneud â chyfrifo swm y cyfrannau is ar gyfer cwmnïau cysylltiedig.

Cam Tri

Mae gan B Cyf hawl i 100% o’r buddiant trethadwy yn union ar ôl y trafodiad.

Mae dau bartner cyfatebol felly gellir dosrannu'r gyfran hon rhwng B Cyf ac C Cyf (50:50).

Cam Pedwar

Y gyfran is ar gyfer pob person sy’n bartner cyfatebol yw’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i'w briodoli i’r partner neu, os yw’n is, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i’r partner.

Gan mai 50 oedd y gyfran o’r buddiant trethadwy a briodolwyd i bob partner yng Ngham Tri ac mai 50 yw’r cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i bob partner hefyd, rhaid i’r gyfran is fod yn 50 yr un.

Cam Pump

Mae'r ddau swm wedi’u hychwanegu at ei gilydd (50+50) yn 100.

O ganlyniad i’r rheolau arbennig (paragraff 41) sy’n caniatáu i Cyf C gael ei ystyried yn bartner cyfatebol er ei fod yn gwmni, yr SCI yn yr achos hwn yw 100, felly mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn ddim ac nid oes rhwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir.

Caiff y bartneriaeth, fel ScP neu ScLP, o ran y buddiannau trethadwy mae’r bartneriaeth yn eu dal, ei hanwybyddu i’r partneriaid ac mae hwn, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o B Cyf ac C Cyf i B Cyf, hy mae B Cyf yn trosglwyddo ei 50% o fuddiant yn yr eiddo i C Cyf. Gan fod B Cyf ac C Cyf ill dau yn is-gwmni 100% i A Cyf , ac os bodlonir yr amodau, bydd rhyddhad grŵp yn rhoi rhyddhad yn erbyn y tâl a nodir o dan y rheolau partneriaeth.

Gan fod y cyfrifiad partneriaeth a chymhwyso rhyddhad grŵp ill dau yn arwain at ddim tâl, gall y person atebol benderfynu pa ddarpariaethau mae’n dymuno eu defnyddio.

Trosglwyddo o gwmni sy’n berchen i bartneriaeth i bartner corfforaethol 

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o E Cyf i B Cyf (trosglwyddiad o un o’r cwmnïau sy’n berchen i’r bartneriaeth i un o’r partneriaid).

Ni fydd y rheolau partneriaeth yn berthnasol yn yr enghraifft hon gan nad yw’n drosglwyddiad i bartneriaeth nac ohono. Fodd bynnag, efallai y bydd y rheolau rhyddhad grŵp yn berthnasol.

Er mwyn i ryddhad grŵp fod yn berthnasol at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, rhaid i’r trosglwyddiad fod rhwng cwmnïau grŵp a rhaid i gwmni fod yn gorff corfforaethol. Rhaid bodloni’r prawf perchnogaeth lesiannol 75% hefyd.

Mae gan ScP/ScLP ei phersonoliaeth gyfreithiol ei hun felly nid oes modd ei hanwybyddu i’r partneriaid i sefydlu perthnasoedd grŵp. Er mwyn i ryddhad grŵp fod yn berthnasol, rhaid nodi strwythur grŵp gan gynnwys yr ScP/ScLP.

Gan nad yw ScP/ScLP yn gorff corff corfforaethol, nid yw’n bodloni’r gofynion rhyddhad grŵp (fel corff corfforaethol gyda chyfalaf cyfrannau wedi’i gyhoeddi) felly mae’r Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy ar y trafodid hwn fel trosglwyddiad o un cwmni i un arall sydd heb elwa ar ryddhad grŵp.

Dyma enghreifftiau o gymhwyso rhyddhad: Rhyddhad Grŵp – Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig

Mae A Cyf yn berchen ar 100% o gyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd B Cyf ac C Cyf. Mae B Cyf ac C Cyf yn berchen ar 50% o fuddiant partneriaeth yr un yn ‘y Bartneriaeth’. Mae'r bartneriaeth yn berchen ar 100% o’r cyfalaf cyfrannau a gyhoeddwyd yn E Cyf a F Cyf. Mae’r ‘Bartneriaeth’ yn y strwythur yn Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (LLP).

Trosglwyddo o bartneriaeth i bartner cwmni

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o’r ‘Bartneriaeth’ (LLP) i B Cyf. Mae hwn yn drosglwyddiad o bartneriaeth felly mae’r darpariaethau perthnasol yn berthnasol a bydd y rhwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir yn cael ei chanfod gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer trosglwyddo o bartneriaeth.

Cam Un – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol

Mae B Cyf yn berchennog perthnasol oherwydd yn union ar ôl y trafodiad mae ganddo hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac yn union cyn y trafodiad roedd yn bartner.

Cam Dau – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol

Mae B Cyf yn bartner cyfatebol i'w hun oherwydd yn union cyn y trafodiad roedd yn bartner ac yn berchennog perthnasol.

(Ni all C Cyf fod yn bartner cyfatebol gan nad yw’n unigolyn nac yn berchennog perthnasol)

Cam Tri

Mae gan B Cyf hawl i 100% o’r buddiant trethadwy yn union ar ôl y trafodiad.
Gan mai dim ond un partner cyfatebol sydd, caiff y gyfran hon ei dosrannu’n llwyr i B Cyf.

Cam Pedwar

Y gyfran is ar gyfer pob person sy’n bartner cyfatebol (B Cyf yn yr enghraifft hon) yw’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i'w briodoli i’r partner neu, os yw’n is, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i’r partner.

Yn yr achos hwn mae’r ffigurau yn 100% (y gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i’w briodoli i’r partner) a 50% (y cyfranddaliad partneriaeth sydd i’w briodoli i’r partner) yn y drefn honno, felly 50 yw’r gyfran is.

Cam Pump

Dim ond un gyfran is sydd, felly nid oes unrhyw beth i’w ychwanegu at ei gilydd. O ganlyniad, swm y cyfrannau is yn yr enghraifft hon yw 50.

Y gydnabyddiaeth drethadwy yw GM x 50% = 50%.

Felly mae gennym 50% o dâl gwerth marchnadol y buddiant trethadwy a drosglwyddir.

Caiff y bartneriaeth fel LLP, o ran y buddiannau trethadwy mae’r LLP yn eu dal, ei hanwybyddu i’r partneriaid ac mae hwn, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o B Cyf ac C Cyf i B Cyf, hy mae C Cyf yn trosglwyddo ei 50% o fuddiant yn yr eiddo i B Cyf.

Gan fod B Cyf ac C Cyf ill dau yn is-gwmni 100% i A Cyf, bydd rhyddhad grŵp ar gael os bodlonir yr amodau a fydd yn rhoi rhyddhad yn erbyn y tâl a nodir o dan y rheolau partneriaeth.

Trosglwyddo o bartner cwmni i bartneriaeth

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o B Cyf i LLP
Mae hwn yn drosglwyddiad i bartneriaeth felly bydd y ddarpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo i bartneriaeth yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio’r rheolau ar gyfer trosglwyddo i bartneriaeth.

Cam Un – nodi’r perchennog neu’r perchnogion perthnasol

Mae B Cyf yn berchennog perthnasol oherwydd yn union cyn y trafodiad mae ganddo hawl i gyfran o’r buddiant trethadwy, ac yn union ar ôl y trafodiad mae’n bartner.

Cam Dau – ar gyfer pob perchennog perthnasol, nodi’r partner neu bartneriaid cyfatebol

Mae B Cyf yn bartner cyfatebol i'w hun oherwydd yn union ar ôl y trafodiad roedd yn bartner ac yn berchennog perthnasol.

Mae C Cyf yn bartner cyfatebol hefyd oherwydd yn union ar ôl y trafodiad roedd yn bartner ac yn gysylltiedig â'r perchennog perthnasol. Er bod paragraff 16(1)(b) yn atal C Cyf rhag bod yn bartner cyfatebol, gan nad yw’n unigolyn sy’n gysylltiedig â’r perchennog perthnasol nac yn berchennog perthnasol ei hun, gan fod y cwmni’n aelod o’r un grŵp a’r perchennog gwreiddiol (B Cyf), mae’n bartner cyfatebol yn rhinwedd y rheolau arbennig sy’n ymwneud â chyfrifo swm y cyfrannau is ar gyfer cwmnïau cysylltiedig.

Cam Tri

Mae gan B Cyf hawl i 100% o’r buddiant trethadwy yn union cyn y trafodiad. Mae dau bartner cyfatebol felly gellir dosrannu'r gyfran hon rhwng B Cyf ac C Cyf (50:50).

Cam Pedwar

Y gyfran is ar gyfer pob person sy’n bartner cyfatebol yw’r gyfran o’r buddiant trethadwy sydd i'w briodoli i’r partner neu, os yw’n is, y cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i’r partner.

Gan mai 50 oedd y gyfran o’r buddiant trethadwy a briodolwyd i bob partner yng Ngham Tri ac mai 50 yw’r cyfranddaliad partneriaeth sydd i'w briodoli i bob partner hefyd, rhaid i’r gyfran is fod yn 50 yr un.

Cam Pump

Mae'r ddau swm wedi’u hychwanegu at ei gilydd (50+50) yn 100.

O ganlyniad i’r rheolau arbennig (paragraff 41) sy’n caniatáu i Cyf C gael ei ystyried yn bartner cyfatebol er ei fod yn gwmni, yr SCI yn yr achos hwn yw 100, felly mae’r gydnabyddiaeth drethadwy yn ddim ac nid oes rhwymedigaeth Treth Trafodiadau Tir.

Caiff y bartneriaeth, fel LLP, ei hanwybyddu i’r partneriaid ac mae hwn, i bob pwrpas, yn drosglwyddiad o B Cyf ac C Cyf i B Cyf, hy mae B Cyf yn trosglwyddo ei 50% o fuddiant yn yr eiddo i C Cyf. Gan fod B Cyf ac C Cyf ill dau yn is-gwmni 100% i A Cyf , ac os bodlonir yr amodau, bydd rhyddhad grŵp yn rhoi rhyddhad yn erbyn y tâl a nodir o dan y rheolau partneriaeth.

Gan fod y cyfrifiad partneriaeth a chymhwyso rhyddhad grŵp ill dau yn arwain at ddim tâl, gall y person atebol benderfynu pa ddarpariaethau mae’n dymuno eu defnyddio.

Trosglwyddo o gwmni sy’n berchen i bartneriaeth i bartner corfforaethol 

Mae buddiant trethadwy yn cael ei drosglwyddo o E Cyf i B Cyf (trosglwyddiad o un o’r cwmnïau sy’n berchen i’r bartneriaeth i un o’r partneriaid).

Ni fydd y rheolau partneriaeth yn berthnasol yn yr enghraifft hon gan nad yw’n drosglwyddiad i bartneriaeth nac ohono.

Fodd bynnag, bydd rhaid ystyried y rheolau rhyddhad grŵp hefyd.

Er mwyn i ryddhad grŵp fod yn berthnasol at ddibenion y Dreth Trafodiadau Tir, rhaid i’r trosglwyddiad fod rhwng cwmnïau grŵp a rhaid i gwmni fod yn gorff corfforaethol. Rhaid bodloni’r prawf perchnogaeth lesiannol 75% hefyd.

Mae gan LLP ei bersonoliaeth gyfreithiol ei hun felly nid oes modd ei hanwybyddu i’r partneriaid, felly er mwyn i ryddhad grŵp fod yn berthnasol mae’n rhaid nodi strwythur grŵp gan gynnwys yr LLP.

Er ei fod yn gorff corfforaethol, nid oes ganddo gyfalaf cyfrannau wedi’u cyhoeddi, felly nid yw’n gallu bodloni’r gofynion ar gyfer grŵp (ni all fod yn is-gwmni i gwmni arall) felly mae'r Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy ar y trafodiad hwn fel trosglwyddiad o un cwmni i un arall sydd heb elwa ar ryddhad grŵp.

Cymhwyso rhyddhad elusennau

(paragraff 42) 

Os bodlonir yr amodau ar gyfer rhyddhad elusennau, mae’r rhyddhad yn berthnasol i bob trafodiad partneriaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo buddiant mewn partneriaeth neu fuddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo. Fodd bynnag, dylid darllen y rheolau ar gyfer rhyddhad elusennau fel petaent wedi’u diwygio er mwyn darparu ar gyfer gwneud y rhyddhad ar gael (gweler paragraff 42 Atodlen 7 DTTT).

Mae rhyddhad elusennau ar gael yn yr amgylchiadau hyn os yw’r trosglwyddai yn elusen, ac mae’n rhaid i bob buddiant trethadwy sy’n cael ei ddal fel eiddo partneriaeth yn union ar ôl y trosglwyddiad gael ei ddal at ddibenion elusennol cymwys.

Hysbysu am drosglwyddo buddiant partneriaeth

(paragraff 44)

Mae trafodiad sy’n drafodiad trethadwy gan ei fod:

  • un ai’n drosglwyddiad o fuddiant mewn partneriaeth buddsoddi mewn eiddo ac mae'r eiddo partneriaeth perthnasol yn cynnwys buddiant trethadwy, neu
  • yn drosglwyddiad o fuddiant partneriaeth yn unol â threfniadau osgoi talu trethi

yn drafodiad hysbysadwy os (ond dim ond os oes) treth daladwy ar gyfradd o fwy na 0% neu unrhyw swm y byddai treth yn daladwy mewn cysylltiad â’r swm hwnnw oni bai fod rhyddhad wedi’i hawlio.

DTTT/5240 Diwygio’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi mewn cysylltiad â phartneriaethau

(paragraff 43)

Mae nifer o ddiwygiadau (gweler paragraff 43 Atodlen 7 DTTT) yn berthnasol i’r rheolau yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (DCRhT) mewn cysylltiad â'r canlynol:

  • gwneud asesiadau
  • y terfyn amser ar gyfer asesiadau Awdurdod Cyllid Cymru
  • hawlio ad-daliadau
  • asesiad o hawlydd mewn cysylltiad â hawliad
  • hysbysiadau pwysig
  • hysbysiadau trethdalwr