Neidio i'r prif gynnwy

Teitl yr adroddiad

'Adolygiad Thematig Estyn - Argymhellion: Partneriaethau ôl-16 – Cynllunio a darpariaeth ar y cyd rhwng ysgolion, a rhwng ysgolion a cholegau'

Manylion yr adroddiad

Ysgrifenwyd Adolygiad Thematig Estyn o Bartneriaethau Ôl-16 i ymateb i gais am gyngor yn llythyr cylch gwaith y Gweinidog Addysg at Estyn ar gyfer 2019 i 2020. Mae’n adrodd ar gynllunio a gwaith partneriaeth strategol ar gyfer addysg dysgwyr rhwng 16 ac 19 mlwydd oed mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach. Mae’n rhoi trosolwg o’r ffordd y mae chweched dosbarth ysgolion prif ffrwd yn gweithio gyda’i gilydd a gyda cholegau addysg bellach i gefnogi dysgwyr i astudio’r cyrsiau ôl-16 sy’n diwallu eu hanghenion a’u galluoedd orau. Hwn yw’r adroddiad diweddaraf mewn cyfres o adolygiadau thematig gan Estyn ar ddarpariaeth 16-19 mewn chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Cynllunio ac arweinyddiaeth strategol

Mae’r mwyafrif o golegau ac awdurdodau lleol yn cyfathrebu’n dda â’i gilydd. Maent yn rhannu eu cynlluniau ac yn gweithio gyda’i gilydd yn briodol i werthuso effeithiau’r cynlluniau hyn ar ysgolion a cholegau yn yr ardal. Mewn lleiafrif o achosion, nid yw awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ar un llaw, a cholegau ar y llaw arall, yn ymgysylltu â’i gilydd yn ddigon da. Mewn gormod o achosion, nid yw cynllunio arweinwyr ysgolion a cholegau yn ystyried cymuned ehangach ysgolion a cholegau lleol, a’r garfan ehangach o ddysgwyr, yn ddigon da.

Dywed mwyafrif yr uwch arweinwyr mewn ysgolion sydd â chweched dosbarth nad yw’r berthynas â’u colegau lleol mor gryf ag ydyw gydag ysgolion eraill, ar y cyfan. Hefyd, mae uwch arweinwyr mewn colegau yn cydnabod bod hyn yn broblem rhwng colegau a lleiafrif o ysgolion ledled Cymru. Maent yn adrodd am ymdeimlad o gystadleuaeth a diffyg tryloywder ac ymddiriedaeth rhwng y ddau sector. Mewn ychydig o achosion, mae tensiynau tebyg yn bodoli rhwng ysgolion.

Mewn ychydig o achosion, mae gwahanol gyfundrefnau cynllunio, cyllido a goruchwylio yn rhwystro partneriaethau cynhyrchiol rhwng darparwyr. Mae ffiniau gweinyddol o’r fath yn codi rhwng ysgolion mewn gwahanol awdurdodau lleol, a rhwng y sectorau ysgolion a cholegau yn ogystal. O ganlyniad, nid yw ychydig o ddarparwyr sydd mewn sefyllfa dda i weithio gyda’i gilydd yn cydweithio o ganlyniad i’r gwahanol gyfundrefnau y maent yn gweithredu oddi tanynt.

Nid yw darparwyr ac awdurdodau lleol yn defnyddio Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 i arwain eu cynllunio strategol yn y sector ôl-16 yn ddigon da. Nid yw lleiafrif o arweinwyr ysgolion yn hyderus fod y cynnig sydd ar gael i’w dysgwyr yn bodloni gofynion y mesur. Mae prosesau llywodraeth leol a chenedlaethol ar gyfer sicrhau bod darparwyr yn bodloni’r gofynion wedi dod yn llai effeithiol dros y blynyddoedd diwethaf. O ganlyniad, caiff cydymffurfio â’r mesur ei fonitro’n anghyson ledled Cymru, ac ar hyn o bryd, nid yw’n glir faint o ddysgwyr a all fanteisio ar gynnig cwricwlwm digon eang yn y sector ôl-16.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae sawl awdurdod lleol wedi cynnal adolygiadau gwerth chweil o ddarpariaeth chweched dosbarth leol sy’n arwain at argymhellion strategol defnyddiol ar gyfer gwelliannau. Mewn ychydig o achosion, nid yw ysgolion, colegau ac awdurdodau lleol yn gweithio gyda’i gilydd i ymateb i’r argymhellion hyn yn ddigon da. Mae hyn yn caniatáu i agweddau gwan neu aneffeithlon ar ddarpariaeth ôl-16 barhau.

Mae llawer o ddarparwyr yn gweithio gyda’i gilydd yn effeithiol i rannu darpariaeth ôl-16 lle mae dysgwyr o wahanol ddarparwyr yn dod at ei gilydd i ffurfio grwpiau addysgu cyfunol. Mae hyn yn helpu sicrhau dewis gwell o gyrsiau ar gyfer dysgwyr chweched dosbarth a lleihau costau gweithredol. Mewn ychydig o achosion, mae uwch arweinwyr yn defnyddio arbenigwyr pwnc o ddarparwyr partner i helpu gwella ansawdd yr addysgu. Er enghraifft, mae darparwyr yn cyfnewid cyfrifoldeb am gyflwyno cyrsiau penodol er mwyn gwella’r profiad dysgu. Mae ychydig o ddarparwyr yn gwahodd arbenigwyr pwnc o ysgolion neu golegau eraill i helpu cefnogi a gwella eu hadrannau pwnc.

Mae mwyafrif o arweinwyr yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o berfformiad cyrsiau a gyflwynir i’w dysgwyr gan ddarparwyr eraill. Maent yn manteisio ar werthusiadau ei gilydd o wersi a chofnodion cynnydd dysgwyr dros gyfnod, ac yn casglu barn dysgwyr am eu gwersi hefyd. Mae effeithiolrwydd cyffredinol prosesau gwella ar gyfer darpariaeth ar y cyd yn anghyson ledled Cymru, ac mewn lleiafrif o achosion, nid oes gan arweinwyr drefniadau sicrhau ansawdd cadarn ar waith.

Mae mwyafrif yr ysgolion cyfrwng Cymraeg dynodedig yn rhannu darpariaeth ôl-16 trwy bartneriaethau bach a arweinir gan y darparwyr eu hunain. Mewn llawer o achosion, mae ysgolion cyfagos yn cynnal perthnasoedd gwaith cryf. I oresgyn y pellterau hir rhyngddynt, mae ychydig o ddarparwyr yn rhannu darpariaeth trwy ddefnyddio cysylltiadau fideo rhwng gwersi ei gilydd. Mae llawer o athrawon pwnc sy’n cyflwyno gwersi chweched dosbarth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cydweithio’n dda i ddatblygu a rhannu adnoddau addysgu a dysgu wedi eu hysgrifennu yn Gymraeg. Fodd bynnag, yn gyffredinol, mae colegau ac ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ei chael yn anodd cydweithio i helpu dysgwyr i ddilyn elfennau o gyrsiau galwedigaethol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gweithio mewn partneriaeth

Ledled Cymru, mae traean o ysgolion uwchradd yn rhan o drefniadau cyfunol, heb unrhyw chweched dosbarth yn yr ysgolion eu hunain. Mae gan 8% eu chweched dosbarth eu hunain ac nid ydynt yn rhannu unrhyw ddarpariaeth ag ysgolion neu golegau eraill. Mae chweched dosbarth gan y 59% o ysgolion sy’n weddill, a dywedant eu bod yn rhan o bartneriaethau ôl-16 o ryw fath.8 Mae gan ddau o’r 12 coleg addysg bellach yng Nghymru, Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Pen-y-bont ar Ogwr, rolau arwyddocaol mewn rhwydweithiau partneriaeth ôl-16 ar y cyd ag ysgolion lleol. Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gydag Ysgol Gyfun Pen-coed gerllaw hefyd i weithredu canolfan chweched dosbarth ar y cyd.

Fel rhan o’u cyflwyniadau data ôl-16 blynyddol, dylai ysgolion sy’n defnyddio darpariaeth ar y cyd gyflwyno gwybodaeth am ddarparwr pob cwrs y mae eu dysgwyr yn ei ddilyn. At ei gilydd, nid yw ysgolion ledled Cymru yn adrodd yn ddigonol am raddau’r ddarpariaeth hon ar y cyd. Mae hyn yn cyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i fonitro graddau darpariaeth o’r fath a’r deilliannau a gyflawnir gan y grwpiau o ddysgwyr sy’n cymryd rhan.

Mae’r rhan fwyaf o chweched dosbarthiadau ysgolion sy’n rhannu darpariaeth yn cludo dysgwyr rhyngddynt i fynychu gwersi; mae ychydig iawn o ysgolion yn defnyddio trefniadau dysgu o bell yn lle.9 Yn y naill achos a’r llall, mae trefniadau darpariaeth ar y cyd yn aml yn anffurfiol, ac nid oes ganddynt drefniadau ysgrifenedig sy’n amlinellu rolau a chyfrifoldebau’n glir.

Mae llawer o ysgolion yn cynnig dewis eang o opsiynau astudio yn y chweched dosbarth i ddysgwyr. Fodd bynnag, yn 2018 i 2019, roedd dysgwyr mewn 25% o ysgolion yn astudio ar draws ystod fwy cyfyngedig o 25 o gyrsiau chweched dosbarth neu lai. Dywed y rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n mynychu chweched dosbarthiadau ysgolion eu bod wedi gallu dewis y pynciau roeddent eisiau eu hastudio, ond nid oedd ychydig ohonynt yn cael cyfle i astudio pynciau llai poblogaidd a oedd o ddiddordeb iddynt, er enghraifft gwleidyddiaeth neu economeg.

Mae uwch arweinwyr mewn ysgolion, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol yn sicrhau bod y mwyafrif o athrawon chweched dosbarth ac arweinwyr canol ysgolion yn ymgymryd â gweithgareddau dysgu proffesiynol ochr yn ochr â’u cyfoedion o ysgolion eraill. Rhwng colegau, mae’r rhan fwyaf o weithgarwch rhwydweithio yn cynnwys uwch arweinwyr, sy’n cyfarfod â’u cyfoedion o bob cwr o Gymru yn rheolaidd. Fodd bynnag, ychydig o ddarparwyr yn unig sy’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi dysgu proffesiynol rhwng ysgolion a cholegau, hyd yn oed lle mae ganddynt staff yn ymgymryd â rolau tebyg. Mewn mwyafrif o achosion, nid yw consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn cyfathrebu neu’n gweithio gyda’i gilydd yn ddigon da i ddatblygu’r cyfleoedd hyn.

Cefnogi cyfnod pontio dysgwyr i addysg ôl-16

Mae llawer o ysgolion yn rhoi gwybodaeth addas i ddysgwyr am yr opsiynau sydd ar gael wedi iddynt gwblhau Blwyddyn 11. Mewn ychydig o ysgolion, mae dysgwyr yn elwa ar ystod gynhwysfawr o weithgareddau i’w helpu i ddysgu am eu hopsiynau ôl-16 ym mhob darparwr lleol, a phenderfynu rhyngddynt. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd i gyfarfod â chynrychiolwyr o ddarparwyr ôl-16 lleol eraill, gan gynnwys darparwyr dysgu yn y gwaith, yn ogystal ag ysgolion a cholegau.

Mae llawer o ddysgwyr yn gwerthfawrogi’r cyngor a’r arweiniad a gânt tra byddant yn yr ysgol. Mae lleiafrif ohonynt yn teimlo nad yw cyngor gan ysgolion yn mynd i’r afael â llwybrau eraill yn lle astudiaethau Safon Uwch yn ddigonol, a bod aelodau staff yn aml yn canolbwyntio ar annog dysgwyr i symud ymlaen i chweched dosbarth yr ysgol ei hun. Mae dysgwyr o’r farn nad yw darparwyr ôl-16, gan gynnwys ysgolion a cholegau, yn rhannu digon o wybodaeth am ansawdd eu darpariaeth a’r deilliannau a gyflawnir gan eu dysgwyr.

Mae llawer o chweched dosbarthiadau ysgolion a cholegau yn rhoi blaenoriaeth uchel i nifer y cofrestriadau dysgwyr. Yn aml, mae arweinwyr chweched dosbarthiadau bach yn teimlo eu bod dan bwysau ariannol i sicrhau bod dysgwyr Blwyddyn 11 yn symud ymlaen i’w chweched dosbarth. Mewn lleiafrif o achosion, mae uwch arweinwyr ac arweinwyr canol yn cyfyngu ar hyrwyddo dewisiadau eraill o ganlyniad. Mewn ychydig o achosion, nid yw arweinwyr ysgol yn gwahodd darparwyr eraill i drafod eu darpariaeth ôl-16 gyda dysgwyr Blwyddyn 11 mewn ffordd gynhwysfawr.

Nid yw mwyafrif y darparwyr yn rhannu gwybodaeth am ddysgwyr unigol i gefnogi eu cyfnod pontio pan fyddant yn trosglwyddo i ysgol arall neu goleg. Prin yw’r darparwyr sy’n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch ‘Pontio ôl-16 a rhannu data yn effeithiol’ (Llywodraeth Cymru, 2019) yn llwyddiannus.

Mae’r rhan fwyaf o ysgolion nad oes ganddynt eu chweched dosbarth eu hunain yn rhoi gwybodaeth ddiduedd i ddysgwyr am ystod lawn yr opsiynau dilyniant sydd ar gael iddynt. Mae dysgwyr yn elwa ar ryngweithio rheolaidd gyda darparwyr ôl-16 lleol, ysgolion a cholegau fel ei gilydd, i ddysgu am y cyrsiau a gynigir a thrafod eu dyheadau. Mewn lleiafrif o achosion, mae’r ysgolion hyn yn sicrhau bod dysgwyr yn rhyngweithio â darparwyr dysgu yn y gwaith hefyd. Mae gan lawer ohonynt drefniadau pontio effeithiol sy’n cael eu cefnogi gan ddeialog fuddiol rhwng aelodau staff ysgol sy’n adnabod dysgwyr unigol yn dda, a chynrychiolwyr o’r darparwyr ôl-16.

Argymhelliad 1

Dylai ysgolion a cholegau:

  • sicrhau gwaith partneriaeth cryf i ddatblygu darpariaeth gydweithredol gyda darparwyr eraill lle mae hyn yn helpu i wella ansawdd neu ehangu dewis

Argymhelliad 2

Dylai ysgolion a cholegau:

  • sicrhau bod darpariaeth ôl-16 a gyflwynir mewn partneriaeth â darparwyr eraill yn cael ei hategu gan gytundebau ysgrifenedig o gyfrifoldebau, ac y caiff ei chynnwys yn llawn o fewn prosesau cynllunio gwelliant

Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion 1 a 2

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi argymhellion 1 a 2:

  • gweithio gydag Estyn a’r sector i ddatblygu fframwaith a chanllawiau fel sail i gynlluniau ar y cyd gan gynnwys gofyniad i ysgolion a cholegau arddangos cyfrifoldeb ar y cyd a gwaith partneriaeth wrth ddatblygu a hyrwyddo cynnig cwricwlwm wedi’i gynllunio ar y cyd lle nad yw hyn yn bodoli eto

Argymhelliad 3

Dylai ysgolion a cholegau:

  • sicrhau bod cyngor ac arweiniad i ddysgwyr yn ddiduedd, yn canolbwyntio ar anghenion dysgwyr, ac yn cael ei lywio gan y ddarpariaeth, y safonau a’r gefnogaeth sydd ar gael i’r holl ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 lleol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhelliad:

  • mae Gyrfa Cymru, is-gwmni sy'n eiddo'n gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaeth gyrfaoedd a hyfforddiant dwyieithog, cynhwysol a diduedd i bobl Cymru.

    Ar 14 Ionawr 2021, cytunodd y Gweinidog Addysg i Gyrfa Cymru fwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu Gwobr Ansawdd newydd am arweiniad gyrfaoedd da mewn ysgolion a phrosesau i'w cyflwyno ledled Cymru.

    Yn unol â'r Canllawiau Gwella Ysgolion newydd: Fframwaith ar gyfer Gwerthuso, Gwella ac Atebolrwydd (sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd), bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Gyrfa Cymru i ddatblygu fframwaith newydd a fydd yn helpu ysgolion i wella ansawdd eu darpariaeth Profiadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith (CWRE) ar draws eu hysgol. 

    Bydd y fframwaith yn cael ei ddatblygu yn unol â’r Canllawiau CWRE newydd a Fframwaith Cenedlaethol newydd Estyn. Bydd y Fframwaith yn cynnwys codi ymwybyddiaeth dysgwyr o'r ystod lawn o gyfleoedd sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt.

    I ddechrau, bydd y fframwaith yn darparu pecyn cymorth hunanasesu a fydd yn galluogi ysgolion i asesu eu darpariaeth bresennol a datblygu cynllun gwella ar gyfer CWRE. Bydd Gyrfa Cymru wedyn yn datblygu Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru y gall darparwyr addysg weithio tuag ati.

    Profiadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith (CWRE) yw un o'r themâu trawsbynciol yn y Cwricwlwm newydd i Gymru ar gyfer plant 3 i 16 oed, a fydd yn cael ei weithredu mewn ysgolion a lleoliadau o fis Medi 2022. Cyhoeddwyd canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Ionawr 2020 i helpu ysgolion ac ymarferwyr i gynllunio eu cwricwlwm, gan gynnwys cyfleoedd dysgu CWRE ar draws y cwricwlwm.

    Er mwyn helpu ysgolion i ddeall CWRE wrth gynllunio a gweithredu eu cwricwla, cytunodd y Gweinidog Addysg i gynhyrchu canllawiau statudol ychwanegol ar gyfer CWRE.

    Mae'r canllawiau'n cael eu drafftio ar hyn o bryd gan ymarferwyr o ysgolion uwchradd, ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, gyda chefnogaeth arbenigwyr. Bydd yn rhoi trosolwg o bwysigrwydd CWRE, gan helpu ysgolion i gynllunio eu cwricwlwm gyda chyngor a chymorth ar feysydd fel ymgysylltu â gweithwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar y canllawiau drafft ym mis Mai gyda'r bwriad o gyhoeddi canllawiau wedi'u mireinio fel rhan o fframwaith y Cwricwlwm i Gymru ar ddiwedd 2021

Argymhelliad 4

Dylai ysgolion a cholegau:

  • rannu gwybodaeth i gefnogi cyfnod pontio dysgwyr i addysg ol-16, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhelliad:

  • mae'r canllawiau ar rannu gwybodaeth pan fydd dysgwyr yn symud ymlaen o'r ysgol i addysg ôl-16 yn cael eu diweddaru i gynnwys y cod ymarfer newydd ar rannu data gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Bydd y canllawiau yn cael eu hailddosbarthu i ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol a byddwn yn annog darparwyr i roi trefniadau ffurfiol ar waith lle y bo'n bosibl, ac adrodd ar unrhyw geisiadau am ddata a wrthodir

Argymhelliad 5

Dylai ysgolion a cholegau:

  • gyflwyno gwybodaeth gywir am y rhaglenni y mae dysgwyr yn eu dilyn, yn cynnwys darparwr pob gweithgaredd dysgu, fel rhan o’u cyflwyniadau data blynyddol i Lywodraeth Cymru

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhelliad:

  • mae casgliadau data ar gyfer ysgolion a cholegau yn cynnwys meysydd i nodi lle mae dysgu'n cael ei gyflwyno ac felly graddau'r trefniadau partneriaeth. Nid yw'r maes hwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd mewn unrhyw waith monitro i ddadansoddi graddau'r gweithio mewn partneriaeth. Mae cyfyngiadau gyda'r data hwn, gan fod y broses o gasglu data ysgolion yn ôl-weithredol ac felly ni fydd ar gael tan y mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i adolygu data yn y maes hwn er mwyn casglu materion ar gyfer camau gweithredu gan ysgolion a cholegau

Argymhelliad 6

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • sicrhau bod cynllunio strategol yn cynnwys y gymuned ehangach o ysgolion a cholegau lleol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhelliad:

  • mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) yn sicrhau bod yn rhaid i ysgolion a cholegau gynnig Cwricwlwm Lleol sy'n sicrhau o leiaf 30 o ddewisiadau i ddysgwyr gan gynnwys o leiaf 5 cwrs galwedigaethol. Anogir ysgolion a cholegau i gydweithredu wrth ddatblygu'r cwricwlwm lleol. Ar hyn o bryd, drwy delerau eu cyllid grant gan Lywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i gonsortia rhanbarthol ac Awdurdodau Lleol sicrhau bod ysgolion yn bodloni'r gofynion hyn. Bydd Llywodraeth Cymru yn diweddaru telerau'r grant o 2021 i 2022 ymlaen i nodi bod cynllunio strategol yn cynnwys cymuned ehangach ysgolion a cholegau lleol

Argymhelliad 7

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • weithio gyda cholegau ar weithgareddau dysgu proffesiynol ar y cyd, lle bo’n briodol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhelliad:

  • nod y prosiect Datblygu’r Gweithlu Ôl-16 yw datblygu dull gweithredu cydweithredol ar draws yr holl ddarparwyr o fewn y sector er mwyn helpu i ddatblygu dysgu proffrsiynol i staff ar bob lefel. Penllanw’r gwaith fydd Fframwaith Datblygu’r Gweithlu Ôl-16 ym mis Mawrth 2023

Argymhelliad 8

Dylai awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol:

  • weithio gyda cholegau i sicrhau bod ystod addas o ddarpariaeth ôl-16 ar gael yn lleol trwy gyfrwng y Gymraeg

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r argymhelliad:

  • Rhaid i Awdurdodau Lleol baratoi Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyd-weithio, lle bo angen, gydag ysgolion eraill a sefydliadau addysg bellach, i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, gwella caffael iaith a chefnogi dilyniant dysgwyr ar bob cam o'u haddysg statudol gan greu mwy o alw am ddysgu ôl-16 yn unol â Cymraeg 2050.

    Er mwyn gwella’r seilwaith a’r ddarpariaeth sydd ar gael, mae Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn nodi camau tymor byr, canolig a hir i wella parhad ieithyddol i addysg a hyfforddiant galwedigaethol ôl-16. Mae'r camau hyn yn amrywio o weithio'n strategol gyda phartneriaid sydd â chyfrifoldebau dros seilwaith darpariaeth cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i gefnogi colegau a darparwyr hyfforddiant i wella'r ystod o ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgwyr. 

    Bydd addysg a hyfforddiant cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn llifo drwy'r rhan fwyaf o'r argymhellion, a bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i brif ffrydio'r Gymraeg fel cyfrwng dysgu ac fel sgil yn y gweithle o fewn strwythurau sylfaenol yr adroddiad hwn

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • adolygu ac atgyfnerthu deddfwriaeth, polisi ac arweiniad ar gyfer darpariaeth ôl-16 i sicrhau cysondeb ac eglurder disgwyliadau mewn ffordd sy’n adeiladu ar ddatblygiadau’r Cwricwlwm i Gymru

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Bydd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) unwaith y bydd yn ddeddf yn diddymu'r trefniadau cwricwla lleol sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer dysgwyr 14-16 oed ac yn cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru ar gyfer pob dysgwr 3-16 oed. Mae diwygio'r cwricwlwm oedran ysgol gorfodol yn rhoi cyfle i adolygu gofynion presennol y cwricwlwm a llwybrau dysgu ar gyfer dysgwyr 16-19 oed. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r sector ôl-orfodol, ein partneriaid allanol a'n dysgwyr i gynnal adolygiad polisi a diwygio gofynion a hawliau statudol y cwricwlwm ar gyfer dysgwyr 16-19 oed fel y bo'n briodol i gefnogi continwwm dysgu ôl-16.

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • gymhwyso dull cyson i oruchwylio a monitro ansawdd darpariaeth ôl-16, yn cynnwys ystyriaethau cynllunio a chyllido

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

  • Gwnaed llawer o gynnydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu dull cyson o gynllunio a chyllido addysg ôl-16 ar draws y chweched dosbarth, Sefydliadau Addysg Bellach a'r rhwydwaith dysgu oedolion. Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu ein dull gweithredu ac yn gweithio gyda'r sector i nodi meysydd i'w gwella.

Argymhelliad 11

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • roi gwybodaeth glir i ddarpar ddysgwyr a’u rhieni am gynnydd a deilliannau dysgwyr ar gyfer chweched dosbarth ysgolion a cholegau addysg bellach yng Nghymru

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

  • Mae Dewisiadau ôl-16 yn borth ar-lein tebyg i Fy Ysgol Leol sy'n cael ei datblygu fel y gall dysgwyr, rhieni a gofalwyr, cyflogwyr a phartïon eraill â buddiant gael mynediad at wybodaeth fanwl am ddarparwyr, rhaglenni a chyrsiau ar lefel ysgolion a cholegau. Cafodd y gwaith ei ohirio oherwydd COVID-19, ond rydym ar fin ailgychwyn y gwerthusiad o'r mesurau perfformiad sy'n cynnwys ffocws ar gyflwyno mesurau cyd-destunol sy'n glir ac yn ddealladwy i ddefnyddwyr y data, gan gynnwys dysgwyr a rhieni.

Argymhelliad 12

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • sicrhau bod unrhyw Gomisiwn ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn y dyfodol yn mynd i’r afael â chanfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad thematig hwn

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Bydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) drafft, yn amodol ar ei gyflwyno a'i ddeddfu, yn sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn y dyfodol. Bydd y Comisiwn yn darparu fframwaith llywodraethu cryf ac yn gyfrifol am ariannu, goruchwylio a rheoleiddio darpariaeth addysg drydyddol yn strategol yng Nghymru (gan gynnwys sicrhau'r cyfleusterau priodol ar gyfer addysg a hyfforddiant i ddysgwyr hyd at 19 oed).

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddodd Estyn yr adolygiad hwn ar 28 Ionawr 2021.