Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, fod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yn dod â manteision uniongyrchol i fusnesau drwy eu helpu i fod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Gweinidog yn siarad mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd i ddathlu llwyddiannau Cymru gyda'r rhaglen, sy'n galluogi cwmnïau i fanteisio ar sgiliau ac arbenigedd academaidd er mwyn mynd i'r afael â heriau strategol sy'n wynebu eu busnesau.  

Yn ystod y tair blynedd diwethaf, cwblhawyd 90 o brosiectau gan Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yng Nghymru.  Mae cyllid gwerth £4.2 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi ysgogi gwerth £12.6 miliwn o arian cyfatebol oddi wrth y sector preifat ac wedi arwain at greu dros 150 o swyddi.  

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae'r rhaglen KTP yn fenter flaenllaw sy'n paru graddedigion o'r radd flaenaf, a'u mentoriaid academaidd, â materion a phroblemau go iawn ym myd busnes.  Mae wedi bod yn llwyddiannus ers deugain mlynedd a mwy, ac mae Llywodraeth Cymru yn hapus i ddarparu arian cyfatebol ar gyfer prosiectau sy’n helpu busnesau yng Nghymru.

“Drwy hyrwyddo cydweithio, rydyn ni'n helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol a chynhyrchiol drwy wneud defnydd gwell o wybodaeth a thechnoleg.  

“Gall graddedigion wynebu cryn her wrth symud ymlaen o'r brifysgol i'r gweithle.  Mae rhaglenni KTP yn caniatáu iddyn nhw ddefnyddio'u gradd mewn sefyllfaoedd busnes go iawn, dan arweiniad mentoriaid arbenigol.

"Mae'r rhaglen yn fanteisiol i fusnesau ac i raddedigion, ac mae pawb ar eu hennill hefyd drwy gydweithio fel hyn. Mae'n cyfrannu’n uniongyrchol at ffyniant y wlad."

Dyma rai o'r prosiectau y tynnwyd sylw atynt yn ystod y digwyddiad:

  • Mae Innoture Ltd yn gweithgynhyrchu, datblygu a masnacheiddio technolegau micronodwyddau. Drwy KTP, maent yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe ar brosiect sy'n datblygu ffyrdd newydd o ddefnyddio cynhyrchion fferyllol gan ddefnyddio micronodwyddau. Mae'r cymorth a gafwyd yn cynnwys creu data yn y labordy i gefnogi amcanion strategol y cwmni, a chymorth i ysgrifennu ei gyflwyniad rheoleiddiol cyntaf.
  • Mae Qioptic yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion ac atebion ffotonig ar gyfer amrywiaeth eang o farchnadoedd. Mae'n gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd ar brosiect i ddatblygu ac i ddefnyddio system sy'n hwyluso penderfyniadau ar reoli stocrestrau. Mae'r rhaglen wedi caniatáu i Qioptic elwa ar arbenigedd a doniau o'r radd flaenaf drwy Brifysgol Caerdydd, ac mae wedi ysbrydoli prosiect ymchwil llwyddiannus yn y maes gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol.