Neidio i'r prif gynnwy

Ganfyddiadau a goblygiadau

Mae’r Gronfa Iach ac Egnïol (GIE) yn Raglen newydd gyda’r nod o wella iechyd meddyliol a chorfforol pobl drwy gynnig modd i bobl fyw bywydau heini. Mae’r rhaglen dan arweiniad dwy Adran o Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Caiff y rhaglen 3 blynedd o hyd sydd werth £5miliwn + ei chynnal gan 17 o Brosiectau dan ofal cyrff trydydd sector a chyhoeddus. Mae’r rhaglen yn ymwneud â Phrosiectau sydd un ai’n cefnogi’r rheiny sy’n wynebu rhwystrau sylweddol rhag gallu byw bywydau heini a/neu sy’n cryfhau asedau cymunedol ac yn dylanwadu ar newid ymddygiadau. Ymysg nodau’r rhaglen mae cynyddu gweithgarwch y rheiny sydd lleiaf heini mewn ffordd cynaladwy ynghyd â hybu lles meddyliol drwy gynnig cyfleoedd i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. 

Mae’r gwerthusiad lefel Rhaglen o’r GIE yn werthusiad hirdymor ac amser real lle’r ydym yn disgwyl y byddai’r rheiny ynghlwm yn dysgu gwybodaeth a fyddai’n llywio gweddill Y GIE ei hun ynghyd â rhaglenni eraill yn y dyfodol. Un rhan o’r gwerthusiad ydy mynd ati i lunio theori newid ar gyfer Y GIE er mwyn dangos sut maen nhw’n gobeithio y byddai’r gweithgareddau’n cynyddu gweithgarwch corfforol yn ogystal â hybu lles meddyliol pobl. Bu inni gasglu tystiolaeth ar lefel Rhaglen a lefel Prosiect drwy fwrw golwg ar ddogfennau a chynnal cyfweliadau a gweithdai. Bu inni gyflawni’r gwaith maes cyn y cloi mawr yn sgil COVID-19 (Mawrth 2020), a bu’r i’r cyfyngiadau cysylltiedig â chanllawiau’r pandemig arafu’r broses gwblhau yn sylweddol gan effeithio’n helaeth ar Brosiectau’r GIE hefyd. Dylai gwaith gwerthuso yn y dyfodol ymdrin â natur effeithiau’r pandemig ar brosiectau’r GIE.

Theorïau newid Y GIE

Bu i’r GIE fanteisio ar gefnogaeth a diddordeb gan Weinidogion er mwyn rhoi ein dulliau newydd ar waith. Bu inni hefyd ddwyn ynghyd prif weithredwyr lefel uwch o’r pedwar corff i rannu adnoddau a chytuno ar gyfres o amcanion cyffredin i ddatblygu rhaglen i ariannu prosiectau a oedd yn cyflwyno ceisiadau. Bu i’r dystiolaeth wnaethon ni ei chasglu awgrymu bod theori newid cyffredinol ac ymhlyg ar gyfer Y GIE. Dyma ddiagram o’r theori newid.

Image
Model yn dangos sut mae galluogwyr wedi'u hadnabod yn arwain at ddeilliannau penodol a chanolraddol ac felly roedd angen deilliannau tymor hirach gydag adborth am ddysgu ac arloesedd drwy gydol y broses.

Mae yna hefyd dair theori newid ‘ategol’ – un yn canolbwyntio ar amcanion sylweddol Y GIE, un ar broses dylunio’r GIE a’r olaf ar y ‘ffyrdd o weithio’.

Mae’r theori newid adolygol yn ymdrin â’r rhagdybiaethau a dyheadau - ymhlyg a phenodol - a wnaeth lywio gwaith datblygu a gweithredu’r GIE. Roedd hefyd modd datblygu theori model Y GIE gan edrych tua’r dyfodol. Mae hwn yn ymdrin ag elfennau’r theori wreiddiol a chyffredinol sy’n ymwneud â cham cyflawni cyfredol y Rhaglen (gwelwch Adran 6 y prif adroddiad). Gallai’r model hwn arwain at ddulliau gymharol wahanol gan Fwrdd Prosiect Y GIE yn dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael a ffordd o weithio dewisol Bwrdd y Prosiect. Unwaith y bydd Bwrdd Y GIE yn penderfynu pa Sefyllfa yr hoffan nhw fynd rhagddi gyda hi, gallai ategu at theori newid blaengar i’r GIE sy’n debyg i’r canlynol:

'Diben Theori Newid Y GIE ar gyfer gweddill y Rhaglen ydy cynnig arweinyddiaeth, adnoddau ac amodau galluogi eraill fel y caiff Prosiectau eu cefnogi a’u monitro’n effeithiol a chaiff gwersi eu dysgu’n weithredol. Bydd hyn yn ei dro yn fodd i’r Rhaglen Y GIE lywio rhaglenni grantiau iechyd a gweithgarwch corfforol yn y dyfodol o ran eu ffurf, proses a chynnwys. Byddai’r theori newid hefyd yn dylanwadu ar bolisïau a rhaglenni prif ffrwd, gan gynnwys y rheiny sy’n ymwneud â hybu gweithgarwch corfforol, lles meddyliol a chymdeithasol a lleihau anghydraddoldebau iechyd.'

Gallai theori newid blaengar Y GIE hwn lywio rôl dysgu gweithredol a rhannu rhwng Prosiectau, yn ogystal â rhwng y Rhaglen a fframweithiau polisi ehangach fel yr agenda ar gyfer trechu gordewdra ac atal tymor hirach. Byddai hefyd yn fodd o lunio meysydd thematig i dynnu sylw atyn nhw yn y gwerthusiad lefel Rhaglen a llywio’r cwestiynau sydd angen eu gofyn yn ystod gweddill gwerthusiad Y GIE.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: UK Research and Consultancy Services Ltd

Adroddiad ymchwil llawn: RCS (Mawrth 2021). Partneriaid ar Waith: Y Gronfa Iach ac Egnïol a’i Theori Newid. Caerdydd: Llywodraeth Cymru, GSR adroddiad rhif 21/2021.

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Eleri Jones
Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru

Image
GSR logo

ISBN digidol  978-1-80195-117-3