Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad interim gan y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) i ystyried mewnoli yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 27 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Tachwedd 2022

1. Rhagarweiniad

Rhagair

O fewn y Rhaglen Lywodraethu ar ei newydd wedd, o dan yr addewid i ‘Wneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt’, mae ymrwymiad i:

“… ystyried ble y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus cryfach.”

Mae’r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol (CLES) wedi’i phenodi gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r dirwedd gaffael yng Nghymru ac i ddarparu arfarniad o’r opsiynau sy’n archwilio mewnoli. Y sbardun polisi allweddol y tu ôl i'r ymrwymiad i archwilio mewnoli yw mynd ar drywydd agenda gwaith teg i Gymru, sy'n gymdeithasol gyfiawn, gan gydnabod y gall mewnoli arwain at amodau cyflogaeth lleol gwell.

Mae’r adroddiad interim hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd sefydlu dull systematig a rhagweithiol o ystyried mewnoli a’r effaith y gall mewnoli ei chael ar fodelau gwasanaeth. Byddai dull o'r fath yn cymryd golwg gyfannol ar werth am arian, gan ddefnyddio lens Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wrth ystyried opsiynau cynllunio gwasanaethau.

Mae'r adroddiad yn edrych ar wersi a ddysgwyd trwy astudiaethau achos o allanoli a mewnoli o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a’r DU. Yn dilyn yr adroddiad interim hwn, byddwn yn llunio adroddiad ychwanegol a fydd yn darparu astudiaeth ddichonoldeb a phecyn cymorth a argymhellir ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus Cymru. Bydd y rhain yn helpu i arwain sefydliadau i roi'r ymrwymiad ar waith, i ystyried mewnoli ar lefel strategol.

Bydd y pecyn cymorth yn cael ei gyhoeddi'n fuan, gan dynnu ar y themâu allweddol, y gwersi a ddysgwyd, a'r meini prawf arfaethedig a nodir yn yr adroddiad interim hwn.

Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod mewnoli’n cael ei ystyried fel mater o drefn gydag edefyn clir o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhedeg drwy’r broses o wneud penderfyniadau ar yr opsiynau cynllunio gwasanaethau. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi nad cyfrifoldeb caffael yn unig yw ystyried mewnoli fel mater o drefn; mae angen ystyried mewnoli’n gyfannol o fewn sefydliadau, gyda chefnogaeth gan Uwch Arweinwyr. Wrth symud ymlaen, dylid defnyddio’r pecyn cymorth fel arfarniad rhagweithiol ac arferol ar gyfer mewnoli yn erbyn y Nodau Llesiant a’r Dulliau o Weithio, gyda’r bwriad o gyflawni nodau cymdeithasol ac economaidd tymor hwy a gwell llesiant ymhlith y boblogaeth, yn ogystal ag effeithlonrwydd ac ansawdd gwasanaeth, a all hefyd effeithio ar gostau yn y tymor hir.

Image

John F Coyne
Cyfarwyddwr, Caffael a Masnachol
Llywodraeth Cymru

1. Rhagarweiniad

Mae’r Ganolfan ar gyfer Strategaethau Economaidd Lleol (The Centre for Local Economic Strategies – CLES) wedi’i phenodi gan Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru i adolygu’r sefyllfa gaffael yng Nghymru ac i gyflwyno arfarniad opsiynau gydag argymhellion a chyfarwyddyd ar gyfleoedd lle gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus Cymru cryfach.

Mae’r gwaith hyd yma yn cynnwys:

  • Adolygiad desg o'r gwaith ymchwil a'r dystiolaeth mewn perthynas â’r:
    • Cyd-destun cyfreithiol a’r cyd-destun polisi
    • Dulliau a ddefnyddiwyd gan wledydd datganoledig eraill y DU
    • Gwaith ymchwil, sylwadaeth a gwybodaeth gyhoeddedig, sy’n bodoli eisoes o ran y DU (a Chymru yn benodol)
    • Enghreifftiau ac astudiaethau achos o allanoli ac o fewnoli o bob rhan o’r sector cyhoeddus yn y DU ac yng Nghymru
  • Dadansoddiad llai manwl i gyd-destunoli maint y cyfleoedd mewnoli
  • Cyfweliadau â’r rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru a chyda meysydd astudiaeth achos yng Nghymru ac yn y DU ehangach

Allbwn terfynol y gwaith hwn fydd adroddiad yn cyflwyno astudiaeth dichonoldeb a ‘glasbrint’ a argymhellir neu becyn cymorth ar gyfer sector cyhoeddus Cymru i arwain prosesau gwneud penderfyniadau, gan nodi lle gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl (mewnoli) yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy ac yn amlinellu sut y gall hynny arwain at sector cyhoeddus cryfach yng Nghymru.

Mae’r adroddiad interim hwn yn crynhoi’r hyn a ganfuwyd wrth adolygu’r dystiolaeth, dadansoddi’r data a chyfweld â’r rhanddeiliaid. Bydd hyn yn cynnig sylfaen dystiolaeth gysyniadol a fydd yn llywio datblygu’r pecyn cymorth.

2. Sbardunau polisi ac amcanion sylfaenol

Cyd-destun polisi

Bydd datblygu’r pecyn cymorth yn cefnogi cyflawni’r ymrwymiad polisi yn y Rhaglen Lywodraethu i:

… ystyried ble y gellir dod â gwasanaethau a chontractau yn ôl yn gynaliadwy ac yn fforddiadwy i mewn i sector cyhoeddus cryfach.

Un bwriad allweddol yr ymrwymiad polisi hwn yw ei fod yn cefnogi dilyn agenda gwaith teg, cymdeithasol gyfiawn dros Gymru, gan gydnabod y gall mewnoli arwain at amodau cyflogaeth lleol gwell. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd fod gan fewnoli y potensial i gyfrannu’n gadarnhaol mewn ystod o barthau eraill. Yn gynyddol, mae mewnoli yn cael ei ystyried yn fodd pragmatig a chynaliadwy i fynd i'r afael â gwella gwasanaethau ac effeithlonrwydd gwasanaethau er mwyn ailgalibradu gwasanaethau lleol i anghenion lleol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol cryfach. Yng nghyd-destun Cymru, mae effaith bosibl mewnoli ar gyfleoedd gwaith, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc, yn berthnasol i uchelgais Llywodraeth Cymru o fynd i’r afael â’r ‘draen dawn’ bondigrybwyll o dalent ifanc o Gymru trwy gynyddu cyfleoedd gwaith cynaliadwy, sefydlog.

Gall mewnoli hefyd gynnig darpariaeth fwy sefydlog, gan ddiddymu’r risgiau ynghylch ansefydlogrwydd y farchnad a methiannau’r farchnad a all ddigwydd. Mae yna enghreifftiau diweddar amlwg o fethiannau arwyddocaol yn y farchnad mewn perthynas â gwasanaethau sydd wedi’u hallanoli – gyda methiant Carillion a’r penderfyniad diweddar i ddod â gwasanaethau prawf yn ôl yn fewnol yn gyfan gwbl yng Nghymru a Lloegr yn enghreifftiau nodedig.

Yng nghyd-destun datblygu’r economi leol, gall mewnoli fod yn offeryn allweddol i gefnogi economïau lleol drwy atal echdynnu cyfoeth. Yma, mae yna botensial penodol i flaenoriaethu’r ystyriaeth i fewnoli lle mae sector cyhoeddus Cymru yn ddibynnol ar ddarparwyr sy’n echdynnu cyfoeth y gellid ei ddefnyddio fel arall i gynnig buddion ychwanegol i ddinasyddion ac i’r wladwriaeth. Byddai cael gwared ar rôl darparwyr ecwiti-preifat, a darparwyr sydd â chymorth cyfalaf menter, yn y sector gofal yn un enghraifft o’r fath. Mae adroddiadau diweddar wedi tynnu sylw at rôl amlwg cwmnïau ecwiti preifat yn sector cartrefi gofal y DU. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau sydd â pherchnogaeth fuddiol drwy hafanau treth alltraeth sy’n defnyddio dyled a threfniadau ailstrwythuro ariannol i echdynnu elw wedi’i guddio fel costau ad-dalu rhent a benthyciadau (Vivek Kotecha - 2019. Plugging the leaks in the UK care home industry – strategies for resolving the financial crisis in the residential and nursing home sector).

Y Rhaglen Lywodraethu

Mae yna orgyffwrdd ag ymrwymiadau polisi eraill y Rhaglen Lywodraethu, ac mae gan fewnoli’r potensial i effeithio’n gadarnhaol ac yn negyddol ar agendâu polisïau cysylltiedig. Felly, o’r cychwyn rydym wedi mynd i’r afael â’r gwaith hwn gyda’r bwriad bod angen i’r model mewnoli a ddatblygir dros Gymru fod yn un sy’n gwireddu synergedd strategol ac sy’n ennyn cefnogaeth drawslywodraethol.

Archwilir isod ymrwymiadau eraill y Rhaglen Lywodraethu sy’n berthnasol yn y cyd-destun hwn, a goblygiadau posibl.

Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel

Gall mewnoli weithio i gefnogi’r amcan polisi hwn, drwy leihau’r ffrithiant wrth ddatblygu ffocws sector cyhoeddus cydweithredol ar atal a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Er nad yw hyn yn amhosib i’w gyflawni drwy wasanaethau sydd wedi’u hallanoli – er enghraifft, bu adroddiad diweddar Conffederasiwn y GIG yn amlygu enghreifftiau o gydweithio rhwng y GIG ac ymddiriedolaethau hamdden a diwylliant (Leisure and Culture Trusts Health and Wellbeing Support to the NHS in Wales, NHS Confederation - 2022) – gellid dadlau y byddai cydweithio uniongyrchol rhwng partneriaid Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn haws pe bai’r gwasanaethau hynny i gyd yn fewnol.

Mae’r broses allanoli yn ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr lunio manyleb gwasanaeth penodol drwy’r broses gaffael. Wrth wneud hynny, mae yna risg y byddai manylebau yn cael eu disgrifio mewn modd cyfyng, gan eithrio yn anfwriadol cyfleoedd i fod yn hyblyg o ran y ddarpariaeth neu i arloesi er budd y cyhoedd ehangach.

Gwarchod, ail adeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl fregus

Mae mewnoli yn benodol berthnasol i’r ymrwymiadau i dalu cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal ac i gael gwared ar elw preifat o wasanaethau gofal plant. Fodd bynnag, fel yr ydym yn archwilio yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, gellir lleoli mewnoli fel rhan o sbectrwm ehangach o fodelau gwasanaeth mwy cynhyrchiol, gan gynnwys modelau darparu nid-er-elw a modelau darparu cydweithredol. Yn amlwg mae’r ymrwymiad polisi hwn hefyd yn ddibynnol ar gyllid gofal cymdeithasol i gomisiynwyr sy’n gymesur a chostau staff cyflog byw, waeth beth fo’r model darparu.

Adeiladu economi sydd wedi’i seilio ar egwyddorion gwaith teg a chynaliadwyedd ac ar ddiwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol

Gall mewnoli gefnogi cryfhau cadwyni cyflenwi lleol gan ei bod yn haws dylanwadu ar gysylltiadau cadwyni cyflenwi yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy’r broses gaffael. Yn aml bydd gan ddarparwyr allanoli, yn enwedig darparwyr cenedlaethol neu amlwladol mwy o faint, drefniadau cadwyni cyflenwi genedlaethol ac efallai na allant fod yn hyblyg o ran darpariaeth fwy lleol. Mae hyn yn broblem yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig neu anghysbell.

Yn ogystal, gellir dadlau fod modd dylanwadu mwy ar y sector cyhoeddus nac ar ddarparwyr allanoli preifat  yn nhermau’r targed o 30% ar gyfer gweithio o bell.

Nid yw hynny’n golygu nad oes gan gyflogwyr mawr rôl wrth ddilyn agenda gwaith teg sy’n gymdeithasol gyfiawn, sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau i’r sector cyhoeddus datganoledig. Yn yr un modd, mae ganddyn nhw rôl na allai busnesau llai na’r sector cyhoeddus ei darparu, lle gallant hefyd ddangos eu bod yn gyflogwyr da sy'n cynnig swyddi gwaith teg.

Adeiladu economi gryfach, wyrddach wrth i ni wneud y cynnydd mwyaf tuag at ddatgarboneiddio. Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn

Mae’r prosesau cynllunio neu adolygu gwasanaethau a datblygu arfarniadau opsiynau yn gyfleoedd i ystyried yn rhagweithiol sut y gellid addasu cynllun neu fodel gwasanaethau i gefnogi amcanion lleihau carbon. Gall mewnoli fod yn gyfrwng i wireddu safonau amgylcheddol uwch yn hytrach na cheisio dylanwadu ar y farchnad drwy’r broses gaffael. Po agosaf y mae agosrwydd y gwasanaethau a ddarperir at bolisi lleol, yr hawsaf ydyw i sicrhau ymlyniad wrth y polisïau hynny. Fel yr adroddodd APSE: “mae timau mewnol yn llawer mwy tebygol o gadw at Gytundebau Gwyrdd a strategaethau amgylcheddol lleol” (Insourcing: a guide to bringing local authority services back in-house, APSE, 2009). Mae hyn yn benodol berthnasol yn y cyd-destun cyfredol lle bydd cyrff cyhoeddus yn cryfhau polisi yn unol ag ymrwymiadau yr argyfwng hinsawdd. Eto, fodd bynnag, nid mewnoli yw’r unig fodel. Er enghraifft, gallai fod cyfleoedd i bartneru â menter gymdeithasol leol, busnes cymunedol neu gwmni cydweithredol sydd ag amcanion amgylcheddol a chymdeithasol penodol – er enghraifft, un sydd wedi’i gynllunio ag egwyddorion economi gylchol.

Gwneud  ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt

Mae mewnoli yn glir o fewn cwmpas yr amcan hwn yn y Rhaglen Lywodraethu. Gallai hefyd effeithio ar ymrwymiadau eraill o dan yr amcan hwn. Mae’r ymrwymiad i “sefydlu Unnos, cwmni adeiladu cenedlaethol, i gefnogi cynghorau a landlordiaid cymdeithasol i wella’r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy” (Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru – Diweddariad) yn ysgogi cwestiwn diddorol ar gyfer y gwaith mewnoli, gan y gellid defnyddio’r un rhesymeg ynghylch dod â’r gwasanaethau yn ôl i’r sector cyhoeddus ag y gellid ei ddefnyddio wrth ddatblygu darpariaeth sector cyhoeddus newydd fel dewisiadau amgen lle mae bylchau yn y farchnad neu arferion echdynnu hysbys yn bodoli.

Adeiladu ar ein hymdriniaeth o’r Economi Sylfaenol a datblygu Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol i gefnogi busnesau lleol

Mae’r rhyngwyneb â’r gwaith economi sylfaenol, gan gynnwys rôl caffael blaengar fel ysgogiad, o bwys penodol, a bydd angen gweithredu’n gynnil i sicrhau bod archwilio’r potensial i fewnoli yn cefnogi amcanion yr economi sylfaenol ac nid yn eu tanseilio.

Fel y nodwyd gennym yn ein cyhoeddiad diweddar ar berchnogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru: (Owning the workplace, securing the future: A plan to support worker buy-outs and expand employee ownership in Wales, CLES, Sean Benstead and John Heneghan, 2022): 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau’r economi sylfaenol yng Nghymru fel conglfaen ei strategaeth economaidd. Mae’r economi sylfaenol yn gysyniad a ddatblygwyd i ddisgrifio pwysigrwydd economaidd y nwyddau, y gwasanaethau a’r mathau eraill o ddarpariaeth sy’n angenrheidiol er mwyn i 

“fywyd da gael ei fwynhau gan gynifer o bobl ag sydd bosib”. Gall hyn gynnwys ystod amrywiol o feysydd polisi gan gynnwys tai, gofal plant, cyfleustodau, iechyd, addysg, parciau cyhoeddus/hamdden a diwylliant. Yn draddodiadol, darparwyd llawer o’r nwyddau a’r gwasanaethau hyn gan y wladwriaeth fel rhan o ymdrech ar y cyd oherwydd eu pwysigrwydd mewn cynnig sylfaen i fywyd gwell ar gyfer gweithwyr, ac mewn cydnabyddiaeth o’u pwysigrwydd ar gyfer system economaidd fwy cynhwysol.

Fodd bynnag, yn ystod y degawdau diweddar, mae rhaglenni preifateiddio wedi amharu ar syniadau traddodiadol am sut y darperir gwasanaethau bob dydd ac wedi rhoi mynediad i fusnesau corfforaethol pwerus at wasanaethau, data ac arian cyhoeddus. Mae yna dystiolaeth ddigonol bod trosglwyddo perchnogaeth a darpariaeth felly yn golygu yn aml y caiff y gwasanaethau hyn eu cyflenwi yn fwy er budd preifat nac er budd y cyhoedd.

Mae mesurau sy’n cynnig sail i amharu ar fonopolïau darpariaeth economi sylfaenol, neu sydd o leiaf yn cwestiynu eu pŵer, yn hanfodol i helpu i sicrhau bod gweithwyr, yn enwedig y rhai sydd ar yr incwm isaf, yn gallu parhau i gael mynediad at nwyddau, gwasanaethau a darpariaeth arall bob dydd sy’n hanfodol i’w helpu i fyw bywyd y mae ganddynt reswm i’w werthfawrogi”.

Gall mewnoli gyflwyno manteision a risgiau i’r agenda economi sylfaenol. Fel y nodir uchod, gall mewnoli wyrdroi’r duedd tuag at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus er budd preifat, gan adfer gwerthoedd cyhoeddus mewn darpariaeth sector cyhoeddus. Mae’r economi sylfaenol yn gyfrif am 1 ym mhob 4 swydd yng Nghymru, sy’n cyflwyno cyfle mawr i fewnoli effeithio ar gyflogaeth deg fel ysgogiad o ddatblygiad economaidd blaengar. Fodd bynnag, mae gan fecanweithiau cyflenwi eraill rôl bosibl i chwarae yn hyn o beth, gan gynnwys cyflenwi drwy gwmnïau cydweithredol a berchnogir gan y gweithwyr, y sector nid-er-elw, a menter gymdeithasol.

Gellir defnyddio’r holl ddulliau hyn i yrru ymlaen yr agenda gwaith teg (cyflog gwell, telerau ac amodau gwell, a chyfleoedd gwell o ran datblygu a symud ymlaen â gyrfa). Gallant hefyd gyfrannu at fynediad gwell ac ehangach at wasanaethau cyhoeddus. Fodd bynnag, daw’r buddion hyn â rhybuddion – ni ellir tybio bod pob gweithredydd preifat yn gyflogwr gwael (nac yn wir tybio ychwaith bod pob darpariaeth gyhoeddus yn dda). Bu ymdrechion mawr – wedi’u cefnogi gan ddatganiad polisi caffael Llywodraeth Cymru - i sbarduno gwerth cymdeithasol drwy gaffael, a cheir nifer o enghreifftiau o ddarpariaeth dda gan y sector preifat.

Fodd bynnag, gall mewnoli ddarparu ar gyfer dull mwy sefydlog a pharhaus o wireddu gwerth cymdeithasol. Pan ddefnyddir caffael cyhoeddus i sicrhau adenillion gwerth cymdeithasol cadarnhaol gallai fod risg na ellir cynnal newidiadau cadarnhaol gan gontractio pellach oherwydd yr angen am gystadleuaeth agored. Er enghraifft, bu’r peilot Swyddi Gwell, Agosach i’r Cartref ym Mlaenau Gwent yn gweld defnydd o gaffael cyhoeddus i gefnogi ‘gweithdy gwarchodol’ ar gyfer cynhyrchu dillad diogelu megis sgrybs y GIG, a bu’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth i ddinasyddion bregus, ond collwyd y contract hwn wedyn i gyflenwr rhyngwladol. Wedi dweud hynny, bu’r peilot yn annog busnesau lleol i ymgysylltu â chadwyni cyflenwi sector cyhoeddus drwy’r polisi Swyddi Gwell, Agosach i’r Cartref ac yn annog uchelgais i dyfu cadwyni cyflenwi gwydn sy’n gysylltiedig â buddsoddiad sector cyhoeddus. O ganlyniad, o dan y peilot galluogwyd sefydliadau yng Nghymru i esblygu’n llwyddiannus a sicrhau lle ar System Brynu Ddeinamig Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyfarpar Diogelu Personol.

Gall caffael sector cyhoeddus hefyd gynnig lefel sefydlog o alw sylfaenol ar gyfer BBaCh yng Nghymru a chwaraewyr economaidd cynhyrchiol eraill, sy’n cyfrannu at yr amcan i dyfu’r “canol coll” – sefydlu sylfaen sefydlog o gwmnïau Cymreig canolig eu maint sy’n gallu gwerthu y tu allan i Gymru ond sydd â’u penderfyniadau wedi’u gwreiddio’n gadarn mewn cymunedau.

Mae meithrin y trydydd sector, gan gynnwys busnesau cymdeithasol, mentrau nid-er-elw a busnesau democrataidd megis cwmnïau cydweithredol a berchnogir gan y gweithwyr, yn allweddol i gael y manteision gorau posib o’r dull economi sylfaenol. Ar yr amod eu bod yn eistedd o fewn strwythur busnes cynhyrchiol, mae’r sefydliadau hyn yn wifredig i ailddosbarthu gwarged a buddion yn lleol, gan felly cynyddu eu hamlygrwydd yn yr economi a chadw mwy o gyfoeth a buddion o fewn cymunedau lleol. Bydd yn bwysig, felly, sicrhau nad yw’r dull mewnoli yn arwain at leihau’r union alw sy’n meithrin y gweithgarwch economaidd lleol cynhyrchiol hwn, ar yr amod bod agenda gwaith teg sy'n gymdeithasol gyfiawn yn cael ei chyflawni hefyd.

Bydd cyrff sector cyhoeddus hefyd am gael gweld y manteision a’r anfanteision cymharol ar draws sbectrwm y modelau darparu gwasanaethau. Er enghraifft, gall modelau menter gymdeithasol/cydweithredol arwain at:

  • Y gallu i gael mynediad at wahanol fathau o gyllid, gan gynnwys grantiau ac incwm a grëir o weithgareddau masnachol a all mewn rhai achosion draws-sybsideiddio agweddau eraill ar gyflenwi gwasanaethau
  • Gwell ymgysylltu â dinasyddion o ran penderfyniadau a chyflenwi – e.e., busnesau sy’n cael eu harwain gan aelodau. Mae menter gymdeithasol yn dueddol o gael ei lleoli yn y gymuned leol ac i gael ei ffurfio ohoni
  • Y gallu gweithio ar draws ffiniau gweinyddol daearyddol
  • Y gallu i integreiddio â chymunedau, er enghraifft, drwy weithio gyda gweithgarwch gwirfoddol a chymunedol sy’n bodoli eisoes

Fodd bynnag, dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig y gellir clustnodi caffael yn benodol ar gyfer mentrau cymdeithasol, ac nid oes gan bob menter gymdeithasol strwythur perchnogaeth cynhyrchiol (er enghraifft, mae rhai mentrau cymdeithasol yn ganghennau o gorfforaethau sy’n gwneud elw).

Fel y nododd CLES yn ei adroddiad diweddar ar berchnogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru (Owning the workplace, securing the future: A plan to support worker buy-outs and expand employee ownership in Wales, CLES, 2022), hyd yn oed pan fydd busnesau democrataidd yn ymddangos mewn cadwyni cyflenwi sector cyhoeddus, mae’r rhain wedi tueddu i fod yn bryniant gan y rheolwyr yn hytrach na’u bod yn gwmnïau cydweithredol ac maent mewn perygl o gaffael corfforaethol. Er y dylai fod rheidrwydd bob amser i ddatblygu dulliau caffael blaengar sy’n ceisio cynyddu i’r fwyaf rôl busnes cynhyrchiol mewn cadwyni cyflenwi, realiti caffael cystadleuol yw y gallai’r rhain gael eu disodli gan gystadleuydd mwy echdynnol pan ddaw’r amser i adnewyddu tendrau. Gall mewnoli, i’r gwrthwyneb gloi mewn y manteision economaidd lleol hyn dros y tymor hwy.

Mae yna rai gwasanaethau lle mae achos arbennig o gryf dros eu cyflenwi drwy fodel menter gymdeithasol neu fodel cydweithredol – gan gynnwys rhai agweddau ar ofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae yna ddadl rymus hefyd y bydd Llywodraeth Cymru ond yn gallu defnyddio i’r eithaf yr ysgogiadau sydd ar gael iddo ar gyfer gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol os caiff elfennau sylweddol o’r ddarpariaeth eu dwyn o fewn y sector cyhoeddus. Dylai’r ystyriaethau hyn fod yn ganolog mewn dadlau a thrafodaethau cyfredol ar ddatblygu Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol dros Gymru.

Mae tai yn enghraifft arall o le mae modelau menter gymdeithasol wedi gwireddu manteision ychwanegol – ers y symudiad tuag at drosglwyddo stoc i gymdeithasau tai, mae’r cyflenwi yn aml wedi aros o fewn y ‘maes cyhoeddus’ ond gyda rhyddid ychwanegol i arloesi. Yn enwedig yng Nghymru, mae cymdeithasau tai wedi tueddu i aros yn llai o ran eu maint, ac ymrwymo’n gadarn i ethos gwasanaeth cyhoeddus. Mae’r rhain yn cynnwys modelau cydfuddiannol sy’n cynnig llais cyfartal i denantiaid, perchnogion a’r gymuned.

Fodd bynnag, mae’n debygol na fydd rhai sefydliadau menter gymdeithasol yn gallu cynnig yr un tâl ac amodau â’r sector cyhoeddus oni bai bod cyllid ychwanegol ar gael drwy gomisiynu.

Bydd rhoi sylw i’r cyd-destun economaidd lleol penodol yn bwysig felly. Gall ystyriaethau o raddfa hefyd fod yn berthnasol, gyda’r angen i’r dull mewnoli ganolbwyntio’n benodol ar ddarpariaeth ar raddfa fwy lle mae’r mecanwaith cyflenwi yn fwy echdynnol, yn hytrach nag ar gontractau llai lle gallai mewnoli o bosib gyfuno gydag agenda economi sylfaenol Cymru sydd, yn rhannol, yn ceisio symud y pwyslais tuag at ddatblygu’r garfan o gwmnïau canolig eu maint yng Nghymru.

Yn ganolog i’r broses dylai fod ystyriaeth o ba raddau y mae gwasanaethau’n cael eu hystyried yn graidd i’r gwasanaeth cyhoeddus sy’n cael ei gyflenwi. Ni allai unrhyw sefydliad sector cyhoeddus fyth fod, nac eisiau bod, yn gwbl hunan-gynhaliol – bydd wastad yr angen i gaffael rhywfaint o nwyddau a gwasanaethau. Nid yw’r GIG yng Nghymru, er enghraifft, am fod yn y busnes o weithgynhyrchu gwelyau ysbyty nac offer llawfeddygol. Fodd bynnag, yr hyn yr ydym wedi’i weld dros flynyddoedd lawer ar draws y DU yw allanoli ar raddfa fawr rai gwasanaethau rheng flaen a swyddfa gefn hanfodol fel pe baent yn ymylol. Mae’r gwasanaethu hyn – arlwyo a glanhau, er enghraifft – yn aml yn cael eu cyflenwi gan weithwyr sydd ar ben isaf y raddfa gyflog ac yn aml mae ganddynt weithluoedd sy’n cael eu dominyddu gan fenywod. Costau llafur yw eu costau yn bennaf, felly mae unrhyw ‘effeithlonrwydd’ sy’n deillio o allanoli yn anochel ar draul telerau ac amodau, ac yn fwyaf nodedig ar draul cyfraniadau pensiynau. Mae’r gwasanaethau y mae’r gweithwyr hyn yn eu darparu’r un mor hanfodol i ddeilliannau’r gwasanaethau cyhoeddus â rhannau eraill o weithlu’r sector cyhoeddus, felly mae achos moesol, yn ogystal ag achos cymdeithasol ac economaidd, iddynt gael eu dwyn yn ôl i sector cyhoeddus cryfach yng Nghymru. Felly, dylai ystyriaeth o’r hyn sy’n graidd yn erbyn yr hyn sy’n ymylol fod yn rhan allweddol o benderfyniadau corff cyhoeddus. Yn ogystal, bydd mewnoli gwasanaethau craidd wedyn yn esgor ar fwy o allu i ddylanwadu ar yr ymylol.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cynnig y fframwaith cyd-destunol ar gyfer:

  • y deilliannau a ddymunir y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio eu cyflawni drwy ysgogi ystyried mewnoli
  • y meini prawf arfaethedig ar gyfer gwneud penderfyniadau sydd i’w defnyddio gan sefydliadau’r sector cyhoeddus
  • broses o ddatblygu’r dull hwn

Mae’r tabl isod yn dangos sut y gall mewnoli gyfrannu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, at y nodau llesiant.

Cyfraniad posibl at nodau llesiant
Nod llesiant Cyfraniad posibl
Cymru lewyrchus

Trwy yrru ymlaen yr agenda gwaith teg (cyflog gwell, telerau ac amodau gwell, a chyfleoedd gwell o ran datblygu a symud ymlaen â gyrfa).

Trwy gryfhau cadwyni cyflenwi lleol.

Cymru gydnerth

Trwy wyrdroi’r duedd tuag at gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus er budd preifat, gan adfer gwerthoedd cyhoeddus mewn cyflenwi sector cyhoeddus.

Diogelu yn erbyn ansefydlogrwydd y farchnad a methiant y farchnad.

Cymru iachach Trwy ddilyn agenda gwaith teg, cymdeithasol gyfiawn, gan gydnabod cyfraniad gwaith da fel penderfynydd cymdeithasol o iechyd.
Cymru sy’n fwy cyfartal Trwy gyfrannu at fynediad gwell ac ehangach at wasanaethau cyhoeddus.
Cymru o gymunedau cydlynus

Trwy gefnogi mwy o fynediad at wasanaethau allweddol a gyflenwir fel rhan o economi sylfaenol fywiog.

Trwy ystyried mewnoli fel rhan o gyfres o ddulliau, gydag amcan pendant y dylai’r dull fwyhau ac nid tanseilio rôl a chyfraniad sefydliadau cymunedol, busnesau democrataidd sydd wedi’u gwreiddio’n lleol a’r trydydd sector.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu Oherwydd bydd gwasanaethau a mewnolir yn cael eu cyflenwi yn unol ag ymrwymiadau cyrff cyhoeddus sy’n bodoli eisoes mewn perthynas â’r Gymraeg a diwylliant Cymreig.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang Trwy reolaeth fwy uniongyrchol ar gysylltiadau cadwyni cyflenwi.

Mae’r pum ffordd o weithio a ddisgrifir yn y Ddeddf yn berthnasol i’r meini prawf gwneud penderfyniadau a fabwysiadwyd ac i’r broses o fewnoli.

Tabl1: Aliniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – ffyrdd o weithio
Ffordd o weithio Aliniad
Hirdymor

Trwy fframio mewnoli yn nhermau ei gyfraniad posibl tuag at yr heriau cymdeithasol ac economaidd sy’n wynebu Cymru gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd a natur, a’r goblygiadau sy’n gysylltiedig ag etifeddiaeth dad-ddiwydiannu.

Trwy ffocysu ar sefydlogrwydd a gwydnwch y farchnad i sicrhau cyflenwi gwasanaethau mewn modd cynaliadwy dros y tymor hwy.

Integreiddio

Trwy sicrhau bod y dull o fewnoli a ddatblygir dros Gymru yn gweithio i gyd-fynd ag ymrwymiadau polisi eraill yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o ddull integredig lle asesir ystod o fodelau posibl o ran eu cyfraniad posibl tuag at waith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant.

Trwy gefnogi dull integredig o gyflenwi – gan archwilio sut y gall mewnoli wneud y mwyaf o’r potensial i integreiddio gwasanaethau a gweithio mewn partneriaeth i gyflenwi er budd y cyhoedd, yn hytrach nag yn erbyn manyleb gwasanaethau sydd wedi’i diffinio’n fwy cyfyng.

Atal Trwy leoli’n benodol amcanion gwaith teg dull mewnoli fel ffactor ataliol mwy hirdymor, mewn dull economi lesiant.
Cynnwys

Trwy werthuso mewnoli trwy lens cysylltiadau diwydiannol.

Trwy sicrhau bod y broses o fewnoli wedi’i gwreiddio mewn cynnwys, ac ymgysylltu â, dinasyddion, defnyddwyr gwasanaethau a’r gweithlu.
 

Cydweithio

Trwy sicrhau bod y dull a ddatblygir yn cael ei danategu gan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol.

Trwy archwilio sut y gall mewnoli hyrwyddo cydweithio, yn enwedig fel dewis amgen i  ymddygiadau echdynnol sy’n ceisio elw yn y farchnad allanoli.

Mae edrych ar y mater hwn drwy lens llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn symud y persbectif o ffocws cul ar gost i werthfawrogiad ehangach o werth cyhoeddus.

Ystyriaethau ehangach o ran polisi gwaith teg

Gan mai dilyn agenda gwaith teg, cymdeithasol gyfiawn dros Gymru yw’r sbardun polisi allweddol sydd y tu ôl i’r ymrwymiad i archwilio mewnoli, mae’n bwysig bod yr agenda hwn yn cael ei ddatblygu mewn modd cyfannol gyda llygad ar yr ystod eang o ffactorau eraill sy’n dylanwadu’r agenda gwaith teg, cymdeithasol gyfiawn ac agendâu polisi cysylltiedig, yng Nghymru.

Mae sbardunau amddifadedd, er enghraifft, yn mynd y tu hwnt i argaeledd swyddi sy’n cynnig cyflog rhesymol. Mae’r rhain yn cynnwys ystod o faterion (sydd yn aml yn ymwneud â rhywedd, gyda menywod yn wynebu mwy o rwystrau), gan gynnwys: diffyg gofal plant fforddiadwy a diffyg mynediad at drafnidiaeth.

3. Astudiaethau achos

Gwasanaethau hamdden

Hamdden Wigan

Wigan oedd un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gymryd mantais o’r model ymddiriedolaeth, gan drawsnewid ei ddarpariaeth gwasanaethau hamdden o fod yn fewnol i fod yn fusnes elusennol annibynnol a all gael mynediad at fanteision rhyddhad ardrethi busnes, gyda’r mandad ychwanegol i leihau ei gymhorthdal o £2filiwn gan y cyngor.

Fodd bynnag, daeth sgism i’r amlwg wrth i’r cyngor ddechrau cael pryderon cynyddol ynghylch diffyg cenhadaeth a diwylliant gwasanaeth cyhoeddus yn yr ymddiriedolaeth. Yma, roedd y cyngor yn benodol bryderus nad oedd y gwarged a gynhyrchwyd yn cael ei ail-fuddsoddi, pan nad oedd 190 allan o 300 o staff yr ymddiriedolaeth yn cael eu talu’r cyflog byw gwirioneddol, a nifer ar gytundebau dim oriau. Surwyd y berthynas ymhellach pan wnaeth yr ymddiriedolaeth roi staff ar ffyrlo a oedd yn golygu bod eu staff ar gyflogau isel wedi colli 20% o’u hincwm. Bu’r cyngor yn ymateb drwy gynnig i bob aelod o staff yr ymddiriedolaeth y cyfle i ymuno â’u hymdrech adleoli mewn cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth i’r digartref. Adleoliwyd 100 o staff yr ymddiriedolaeth a buont yn cefnogi ymdrechion brys y cyngor gyda llwyddiant mawr – gan drosglwyddo eu sgiliau i waith gofal, mae’r staff wedi trawsnewid y system gofal leol. Bu un enghraifft yn nodi bod rhai o hyfforddwyr y gampfa wedi cael eu hadleoli i gynllun bach byw â chymorth ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Nododd y staff yno eu bod wedi ceisio am ddegawdau i gomisiynu gwasanaethau i ddylanwadu ar ofal sy’n canolbwyntio ar fyw’n weithgar, heb iddynt gael llawer o effaith. Ar ôl i hyfforddwyr y gampfa gael eu hadleoli o’r ganolfan hamdden, trawsnewidiwyd bywydau’r staff a’r preswylwyr. Dangosodd hyn bŵer gwasanaethau integredig i gyflawni nodau llesiant preswylwyr lleol, o’i gymharu â natur echdynnol y trefniad blaenorol a chyfnerthwyd y penderfyniad i fewnoli gwasanaethau hamdden.

Cymerodd y gwaith mewnoli 4 mis ond bu’n gofyn am ymdrechion mawr i gyflawni hyn o fewn yr amserlen honno. Drwy gydol y cyfnod hwn, y prif ffocws oedd sicrhau bodlonrwydd y staff ac ymgynghorwyd ag undebau llafur yn gynnar a alluogodd y cyngor i symud ar gyflymder – derbyniodd 259 o aelodau’r staff godiad cyflog a chymerodd 255 y cynnig o drosglwyddo i delerau ac amodau cyngor Wigan. Daeth un her i’r amlwg o ran uwch staff yn gadael, a oedd yn broses boenus, ond dim byd a oedd yn wahanol i unrhyw broses arall o newid sefydliadol sylweddol.

Castell-nedd Port Talbot

Yn 2003, newidiwyd gwasanaeth hamdden Castell-nedd Port Talbot (NTB) i Celtic Leisure (CL), Cymdeithas Ddiwydiannol a Ddarbodus sy’n seiliedig ar genhadaeth a gwerthoedd. Yn 2018/19, nododd adroddiadau ariannol CL ei fod mewn trafferthion ariannol ac, hyd yn oed gyda’r defnydd o gronfeydd wrth gefn y byddai’n fethdalwr o fewn 18 mis. Yn dilyn hyn, doedd dim awydd gan yr awdurdod lleol i roi mwy o arian mewn i’r model presennol a bu rhagdybiaethau cynnar yn nodi y byddai darpariaeth gan y farchnad yn fwy cost effeithiol. Fodd bynnag, daeth  COVID a newidiwyd blaenoriaethau gwleidyddol gyda newid o ran yr aelodau etholedig, ac ymgyrch parhaus gan yr undebau llafur a fu’n effeithio ar safbwynt polisi’r cyngor – bu hyn yn arwain at newid y pwyslais o faterion ariannol i gyfiawnder cymdeithasol, gwaith teg, cyflogau a thelerau ac amodau. Er mwyn cyflawni amcanion cyfiawnder cymdeithasol ehangach, nodwyd hefyd y byddai darpariaeth gwasanaethau hyd braich yn rhwystro’r gallu i fanteisio ar weithio mewn partneriaeth ac integreiddio gwasanaethau, fel y gwelir hefyd yn  astudiaeth achos gwasanaethau hamdden Wigan, gyda gobeithion i integreiddio cynlluniau ffordd o fyw gweithgar y GIG â darpariaeth hamdden. Yn ogystal, bu staff yn pryderu am eu dyfodol gyda chontractwr sector preifat mewn marchnad sy’n fwyfwy ansefydlog.

Mae yna fanteision y gall CNPT wneud y gorau ohonynt yn eu proses fewnoli. Er enghraifft, cadwodd CL y gallu i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, lle nad oedd ymddiriedolaethau eraill yn gallu, ac efallai bod hyn wedi cael effaith ar y broses fewnoli hyd yn hyn.

Wrth i’r broses fewnoli ddirwyn i ben erbyn mis Ebrill 2023, mae heriau’n dod i’r amlwg. Mae’r aelodau etholedig wedi cydnabod bwlch cyllido ar gyfer darpariaeth fewnol ochr yn ochr ag ymrwymiadau a wnaed ar gyfer buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau. Nid yw hyn yn anorchfygol, gyda chynlluniau i ddatblygu cynnig gwasanaethau gwell i ateb y galw cynyddol am incwm. Yn ogystal, roedd staff o’r farn bod gan CL rai telerau ac amodau a oedd yn well na’r hyn y gallai CNPT eu cynnig, yn enwedig, o ran ymrwymiadau taliadau dileu swydd. Er bod y telerau ac amodau yn debyg ar y cyfan, bu ymgysylltu cynnar a rheolaidd â’r undebau llafur yn caniatáu i staff a drosglwyddwyd dan ddeddfwriaeth Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE) gadw eu telerau ac amodau gwreiddiol.

Tai a chynnal a chadw

Cyngor Bwrdeistref Islington Llundain

Ar ôl degawd o gontractio atgyweiriadau a chynnal a chadw tai gyda chytundeb menter ar y cyd (JVA) cymharol ffafriol â chontractwr preifat, cychwynnodd Islington ar bolisi ‘mewnoli yn gyntaf’. Gyda 32,000 o dai o fewn ardal ddaearyddol fach, canfuwyd i ddechrau fod maint y dasg i sefydlu gwasanaeth mewnol o fewn yr amser oedd ar gael yn heriol. Yn lle, cychwynnodd Cyngor Islington beilot bach, gan ddod â’r gwasanaeth ystadau 10-person yn ôl yn fewnol, tra’n cadw’r JVA am gontract arall 3 blynedd. Ar ddiwedd y peilot a diwedd y contract, cynghorwyd er y byddai’n costio £4 miliwn y flwyddyn yn fwy i redeg y gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw tai yn fewnol, gyda £2-3 miliwn arall o gostau untro, roedd y manteision a gronnwyd mewn perthynas â gwasanaeth i gwsmeriaid a bodlonrwydd cwsmeriaid yn golygu y byddai darparu’n fewnol yn fargen dda i’r cyngor ac i’r preswylwyr. Yn ogystal, o ystyried ansefydlogrwydd y farchnad bresennol, mae’r newid i fewnoli wedi cael ei ystyried yn “broffwydol” – yn diogelu yn erbyn costau ac ansefydlogrwydd contractau preifat a chontractau JVA yn awr ac yn y dyfodol.

Cymerodd y prosiect mewnoli flwyddyn ac mae wedi profi i fod yn ymgyrch fawr iawn, gyda’r gwasanaeth mewnol yn ymgymryd â 75,000 o atgyweiriadau y flwyddyn ac yn gweld trosiant o £35 miliwn. Roedd un her allweddol yn gysylltiedig â rhesymu’r cyngor dros fabwysiadu polisi o fewnoli a oedd yn seiliedig ar ansawdd ac effeithlonrwydd y gwasanaeth a bodlonrwydd cwsmeriaid. Hynny oedd yr angen am ymgyrch eang i ailhyfforddi’r gweithredwyr a fewnolwyd o ran setiau newydd o werthoedd a chymhellion yn ogystal ag ehangu eu setiau sgiliau. Mae hyn wedi profi i fod yn werth chweil, gyda bodlonrwydd cwsmeriaid yn cynyddu o tua 50%, o dan yr hen JVA, i’r hyn sy’n agosáu at 90% o dan y ddarpariaeth fewnol bresennol.

Nododd ein hymgynghorai bod eu gallu i fewnoli, wrth symud ymlaen, yn uniongyrchol gysylltiedig â pha bethau eraill, faint o’r pethau hyn, a pha bethau y maent eisoes wedi’u mewnoli. Er enghraifft, mae’r gwasanaethau mewnol atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau wedi galluogi’r cyngor i gymryd ymlaen 4000 o eiddo stryd.

Unitas Ltd Stoke-Upon-Trent, Cyngor Dinas Stoke-on-Trent

Yn 2016, gyda’r cytundeb menter ar y cyd presennol ar fin dod i ben ar ôl 8 mlynedd, gofynnodd arweinyddiaeth wleidyddol Cyngor Dinas Stoke-Upon-Trent am adolygiad contractau er mwyn cymharu costau, ansawdd a chynhyrchiant. Canfu’r adolygiad fod y contract presennol yn ddrytach wrth edrych ar ddangosyddion perfformiad sylfaenol, megis costau atgyweirio fesul eiddo y flwyddyn. Oherwydd mesurau cyni a gostyngiadau yn y gyllideb o un flwyddyn i’r llall, bu angen hefyd creu ffrydiau incwm ychwanegol i’w bwydo’n ôl mewn i gyllidebau, a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol a gafodd eu heffeithio gan yr amgylchedd dirwasgiadol.

Sefydlwyd Stoke Unitas fel cwmni ym mherchnogaeth lwyr yn 2018 fel rhan o weledigaeth y cyngor “i ddarparu gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw o ansawdd uchel ar gost resymol, sy’n diwallu anghenion tenantiaid a defnyddwyr adeiladau cyhoeddus” (Presentation: The Road to Insourcing. Brazier, C. Wilson, S., City of Stoke-on-Trent City Council). Mae Unitas yn darparu gwasanaethau atgyweirio a chynnal a chadw i dros 17,500 o gartrefi a 600 o adeiladau cyhoeddus (Unitas Stoke-On-Trent Ltd: About). Y tu hwnt i’r rhesymeg o wella ansawdd a chost y gwasanaeth, adroddwyd bod Unitas ar y trywydd iawn i ailgyfeirio pum miliwn o bunnoedd yn ôl i bwrs y cyngor oherwydd ei allu i weithredu’n fasnachol, gan ddarparu gwasanaethau i gyrff cyhoeddus eraill (Rebuilding Capacity: The Case for insourcing Public Contracts. Hulston, M, 2019. APSE). Yn ogystal, mae Unitas wedi mabwysiadu arferion gwario a gwerth cymdeithasol blaengar drwy lywio ei strategaeth gaffael tuag at amcanion cyfiawnder cymdeithasol ehangach, gan gefnogi cyflenwyr lleol cynhyrchiol lle bynnag y bo modd. Ar hyn o bryd, adroddir bod Unitas yn caffael 78% o’i gynhyrchion o fewn ardal cod post Stoke (ibid.).

Ar hyn o bryd, mae yna heriau’n dod i’r amlwg yn y model hwn. Wrth siarad â rhanddeiliaid o gynrychiolaeth undebau llafur Unitas, canfuom fod cysylltiadau diwydiannol wedi dirywio dros amser o’r hyn a oedd yn sefyllfa gytûn i gychwyn. Clywsom fod dau brif reswm dros hyn. Yn gyntaf, mae prif nod y sefydliad i gynhyrchu gwarged wedi bod yn niweidiol i ddiwylliant y gweithlu ac arferion cyflogi. Yn ail, mae natur hyd braich y sefydliad yn golygu y gall blaenoriaethau mewnol gael eu dylanwadu gan uwch aelodau allweddol o staff, ac os yw’r aelodau staff hyn yn newid, gall cynnal cysylltiadau diwydiannol iach gael ei ddad-flaenoriaethu.

Arlwyo

Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Grŵp PCYDDS) yn fawr, ac yn cynnwys 2 goleg Addysg Bellach a phrifysgol â 5 campws ledled Cymru a Lloegr. Nid yw’r hanes diweddar o ran allanoli a mewnoli ar draws y grŵp, nac ychwaith ar draws y sectorau, yn un gyson. Mae Coleg Sir Gâr, er enghraifft, wedi allanoli arlwyo a glanhau ers dros 25 mlynedd ac nid oes llawer o hyder y bydd hyn byth yn dychwelyd i fod yn fewnol. Yma, mae yna ymdrechion i gontractio eu gwasanaethau glanhau gyda BBaCh Cymru, ond mae’r ymdrech hon wedi bod ar y gweill am 15 mlynedd. I’r gwrthwyneb, mae arlwyo a glanhau yng Ngholeg Ceredigion yn fewnol ac mae’n annhebygol y byddant yn cael eu hallanoli yn y dyfodol agos oherwydd ansefydlogrwydd y farchnad. Mae’n hanes tebyg yn y brifysgol, lle mae’r rhan fwyaf o wasanaethau yn cael eu rhedeg yn fewnol ac eithrio diogelwch, glanhau ac arlwyo.

Nododd ein rhanddeiliad yng Ngrŵp PCYDDS mai cost yw’r prif sbardun sydd y tu ôl i benderfyniadau mewnoli ac allanoli ar draws y grŵp. Fodd bynnag, maent yn teimlo nad yw’r costau bob amser yn cael eu deall yn llawn a bod ymdeimlad nad yw rhai pobl yn deall y “costau go iawn o wneud pethau yn fewnol ac felly maent yn dueddol o ffafrio opsiynau mewnol”. Yma, maent yn cyfeirio’n benodol at bwysau gorbenion mewn gweinyddiaeth gyffredinol, rheoli cyflenwi ochr yn ochr â llywio cyfundrefnau rheoleiddio cymhleth a gofynion archwilio. Mae arlwyo yn benodol yn sefyll allan fel gwasanaeth lle mae’r pwysau yn benodol amlwg. Ar gyfer sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, gall hyn fod yn dasg anodd iawn i sefydliad nad yw’n arbenigol ac mae allanoli wedi’i brofi i fod yn fodd o sicrhau bod arbenigedd ar gael. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod angen dyfarnu contractau i gwmnïau mawr, echdynnol – gellir dod o hyd i gyflenwyr llai, cynhyrchiol i ddarparu’r gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, fel y mae, mae’r arfer hwn yn y pen draw yn gyfrifoldeb y swyddogion caffael unigol sydd â diddordeb personol yn yr agenda hwn.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Nododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) y gallai canolbwyntio ar fewnoli arwain at golli’r cyfle i feddwl yn fwy creadigol am sut i edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau. O ystyried bod llif arian sefydlog o’r sector cyhoeddus, mae BIPHDd yn awyddus i archwilio sut i ddefnyddio’r gwariant hwn am y gorau i dyfu economi fwy cynhyrchiol. Fel enghreifftiau, bu BIPHDd yn tynnu sylw at arferion lle defnyddir gwariant i fagu ‘mentrau’ y gellir wedyn eu troi’n gwmnïau cydweithredol neu fentrau cymdeithasol, yn debyg i’r arfer a welwyd gynt yng ngwasanaethau hamdden Castell-nedd Port Talbot a welodd datblygu Celtic Leisure yn gwmni hyd braich, nid-er-elw a gafodd ei ddwyn yn ôl yn fewnol yn y pen draw, yn debyg i wasanaethau hamdden Wigan.

Ar hyn o bryd, mae BIPHDd yn archwilio’r rôl caffael bwyd, gyda chyfle i sefydlu cyfleuster coginio/rhewi. Bydd hyn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â BBaCh teuluol sydd wedi’i wreiddio’n lleol. Mae’r dull hwn, maent yn dadlau, yn cefnogi’r economi leol mewn ffordd efallai na fydd mewnoli ar raddfa eang yn gallu ei wneud. Fodd bynnag, nodwyd ganddynt y bydd angen sicrhau mesurau diogelu er mwyn yswirio yn erbyn cipio corfforaethol drwy gyfalaf echdynnol.

Arlwyo Ysgolion Cymru

Mae’r sefyllfa darpariaeth bwyd mewn ysgolion yn debyg i’r hyn sydd yn yr Alban – allan o 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae 20 yn darparu arlwyo dros ysgolion eu hardal drwy wasanaeth mewnol ac mae 2 yn ei ddarparu drwy arlwywr contract. Yn wahanol i’r hyn yr ydym wedi’i glywed gan Grŵp PCYDDS, mae hyn wedi profi’n rhan sefydlog o sector cyhoeddus Cymru ac mae’n cydymffurfio’n llawn â’r gofynion rheoleiddio.

Fodd bynnag, gellir profi bod hyn yn fwy llwyddiannus mewn ardaloedd mwy o faint lle gall ardaloedd awdurdodau lleol cyfan gynnig gwasanaeth gweddol fawr gyda chymorth swyddfa gefn canolog i fodloni gofynion cyfundrefnau rheoleiddio. Lle mae ysgolion wedi ceisio rhedeg arlwyo mewnol eu hunain, maent wedi ei chael yn anodd ac yn aml maent wedi dychwelyd i allanoli neu wedi troi at yr awdurdod lleol am gymorth. Ar hyn o bryd, mae yna 1,366 o wasanaethau arlwyo a drefnir gan gynghorau ar gyfer ysgolion yng Nghymru a 58 o wasanaethau arlwyo a drefnir gan ysgolion. Mae’r ffigyrau hyn wedi aros yn sefydlog ers 2015, sy’n dangos gwydnwch y model darparu arlwyo mewn ardaloedd mwy o faint.

Strydoedd a’r amgylchedd

COSLA, Cyngor Dinas Glasgow

Nid oes ymgyrchoedd allanoli ar raddfa fawr wedi digwydd yn yr Alban, ac o ganlyniad mae wedi cadw nifer o gontractau yn fewnol gan gynnwys rhai sy’n ymwneud â’r amgylchedd a rheoli gwastraff.

Mae gwella cysylltiadau diwydiannol yn aml yn cael ei ystyried fel mantais allweddol o fewnoli, oherwydd daw gwasanaethau’n ddemocrataidd atebol ac maent yn cael eu “rhedeg er budd y cyhoedd, ac nid er budd buddsoddwyr a chyfranddalwyr cyfoethog” (Better Public Services: A Unite Toolkit for Insourcing in Local Government. Unite). Fodd bynnag, mae gwersi i’w dysgu o gontractau mewnol lle mae diffygion yng nghysylltiadau diwydiannol yn ymddangos. Bu chwalu mawr yng nghysylltiadau diwydiannol pan gyhoeddwyd bod tair mil ar ddeg o weithwyr Cyngor Dinas Glasgow yn mynd i fynd ar streic ddiwedd 2021 ar ôl i staff, a gynrychiolwyd gan undeb llafur gweithwyr cyffredinol GMB, wrthod cynnig cyflog (Council chiefs plead with striking binmen in Glasgow to axe COP26 industrial action. Sutter, R., 2021. The Glasgow Times).

Mae GMB yn nodi nad ydynt yn ideolegol ynghylch manylion modelau cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, ac yn y bôn cyflogau ac amodau yw’r hyn sydd o bwys iddyn nhw a’u haelodau. Nodwyd, yn gyffredinol, bod cysylltiadau diwydiannol mewn contractau cyhoeddus yn iach, ond bod materion yn debygol o godi pan nad oes llinellau cyfrifoldeb clir o fewn cynghorau mewn perthynas â chysylltiadau diwydiannol a chydfargeinio. Yn ogystal, yn aml mae’n rhaid i welliannau yng nghysylltiadau diwydiannol, o fewn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, frwydro â chytundebau sy’n bodoli eisoes sy’n gallu rhwystro’r cysylltiadau hynny. Er enghraifft, mae Cyngor Dinas Glasgow wedi ymrwymo i gytundebau cyflogau cyfartal ar draws pob maes gwasanaeth sy’n ei gwneud hi’n anodd ymrwymo i godiadau mewn cyflog mewn gwasanaethau penodol heb fod goblygiadau ar draws portffolio gwasanaethau’r cyngor.

Cyngor Dinas Derby

Rhwng 1997 a 2019, cafodd gweithrediadau cynnal a chadw priffyrdd yn Derby eu hallanoli. Cyn 2013, Carillion oedd y contractwr allanol, a oedd yn ddiweddarach yn ddarostyngedig i ddatodiad gorfodol. Yn hanesyddol, mae’r cyngor wedi cael trafferth rheoli contractau allanol yn effeithiol gyda chyfres o faterion yn dod i’r amlwg gyda phob ail-dendr. Cafodd hyn ei sbarduno gan y sgiliau oedd ar gael yn y cyngor ac roedd yn golygu bod contractwyr yn gallu “chwarae’r gêm” yn y broses dendro er mwyn cael y refeniw mwyaf posib. Bu arferion diegwyddor, megis llwytho cyfraddau ar gyfer gwaith mwy proffidiol a chynyddu cyfraddau i wneud enillion sylweddol o is-gontractio, yn golygu bod anghydfodau yn digwydd yn aml. Mewn un achos, dyfarnwyd taliad untro o £500,000 i Gyngor Dinas Derby gan lywodraeth y DU ar gyfer atgyweirio ffyrdd y gaeaf; bu Carillion yn is-gontractio’r gwaith ac yn echdynnu cyfran 20% o’r swm.

Yn y pen draw, bu gwerth am arian yn ystyriaeth allweddol wrth benderfynu mewnoli. Profwyd bod hyn yn werth chweil, gyda Chyngor Dinas Derby yn nodi mwy o hyblygrwydd gweithredol a gwydnwch i ansefydlogrwydd y farchnad oherwydd bod ganddynt y gallu i adleoli adnoddau llafur yn fewnol i ateb y galw. Wedi dangos eu bod yn cael mwy o werth am eu harian ac yn mwynhau cefnogaeth wleidyddol enfawr ar draws y sbectrwm gwleidyddol, mae aelodau etholedig wedi cytuno i gynyddu’r gyllideb o swm £9miliwn dros y 2 flynedd ddiwethaf. Wrth edrych i’r dyfodol, mae’r cyngor yn gobeithio sefydlu cwmni masnachu, yn debyg i’r system a fabwysiadwyd gan Unitas Ltd. Stoke-Upon-Trent.

Ni fu hyn heb ei heriau. Nodwyd un her allweddol benodol yn y broses TUPE, a greodd ansicrwydd o ran telerau ac amodau ar gyfer gweithwyr Carillion a oedd yn trosglwyddo. Her ehangach a nodwyd gan CDD oedd maint yr amser a’r ymdrech y bu angen eu buddsoddi i reoli’r broses o fewnoli, yn enwedig o ran lefelau ymgysylltu â’r staff yr oedd eu hangen i gadw morâl a chynhyrchiant yn uchel.

Astudiaethau achos eraill o Gymru

Rheoli Cyfleusterau yng Nghymru

Cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiad o wasanaethau meddal Rheoli Cyfleusterau (yn bennaf glanhau swyddfeydd, swyddogion diogelwch, gwasanaethau derbynfa, rheoli plâu, rheoli gwastraff, cynnal tiroedd a rhai gwasanaethau arbenigol eraill megis cadw gwenyn, ynghyd â gwasanaethau mewnol arlwyo a lletygarwch mewn swyddfeydd ar draws ystad weinyddol Llywodraeth Cymru) yn 2019-20. Roedd hyn yng nghyd-destun methiant diweddar Carillion ac Interserve a phryderon y gallai cwmnïau mawr Rheoli Cyfleusterau eraill fod yn wynebu pwysau ariannol ac y gallai fod yn fygythiad i barhad busnes hirdymor. Bu pryderon hefyd ynghylch anghydraddoldebau ar draws telerau ac amodau staff.

Ystyriodd yr adolygiad dri opsiwn – ‘gwneud dim byd’ (parhau â’r ddarpariaeth allanol bresennol), mewnoli’r holl wasanaethau a’u darparu’n fewnol, a hybrid lle byddai dim ond yr elfennau arlwyo yn cael eu mewnoli.

Diystyrodd yr adolygiad yr opsiwn mewnoli a’r opsiwn hybrid ar sail cost a risg.

Gwerthuswyd yr achos busnes yn erbyn fforddiadwyedd, gwerth gorau economaidd am yr arian, parhad busnes a chynwysoldeb staff.

O ddiddordeb arbennig yn yr astudiaeth achos hon yw’r ffaith bod y dull gwerthuso (ac eithrio’r ffocws ar gynwysoldeb staff) wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar oblygiadau ar gyfer y sefydliad comisiynu a materion yn ymwneud â chyflenwi gwasanaethau yn hytrach nag edrych yn ehangach trwy lens Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. O’r herwydd, ni ddylanwadodd goblygiadau economaidd-gymdeithasol ehangach ar y penderfyniadau, a chyfeiriwyd at y dyheadau gwleidyddol yn unig o ran pryderon ynghylch anghydraddoldeb yn y gweithlu, ac nid o ran addasrwydd strategol ehangach yng nghyd-destun y Rhaglen Lywodraethu.

Cartrefi Cymoedd Merthyr

Merthyr Valleys Homes (MHV) yw’r unig ddarparwr tai cydfuddiannol tenantiaid-gweithwyr yng Nghymru a throsglwyddwyd 4000 o eiddo iddo o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) yn 2009. Ers hynny, mae MVH wedi cael eu harwain gan ymgyrch am werth ychwanegol, gwelliannau yn ansawdd y gwasanaeth a chefnogaeth i economi sylfaenol Cymru, i fewnoli elfennau o’u busnes a’u darpariaeth gwasanaethau. Mae hyn wedi cynnwys gwasanaeth archwilio a rennir, sy’n cael ei rannu â dau ddarparwr tai arall, cynnal tiroedd a gwasanaethau ieuenctid.

Er mwyn datblygu’r gwasanaeth archwilio a rennir, canfu MVH fod angen i’r gwasanaeth hwn gael ei gyflenwi gan gwmni Cymreig yn benodol a oedd yn fwy cyfarwydd â chyfundrefnau rheoleiddio ac archwilio Cymru, gydag ethos gwasanaeth cyhoeddus. Mae sefydlu’r gwasanaeth hwn wedi bod yn llwyddiannus, gyda’r gwasanaeth yn tyfu’n sefydliad annibynnol, mwy o faint, ar wahân ac yn dal yn gadarn ar eu hethos a’u harferion ac yn cyfrannu at gefnogi economi sylfaenol Cymru.

Roedd MVH wedi etifeddu eu gwasanaethau cynnal tiroedd o’r cyngor ac roedd hyn ar y cyfan o ansawdd da ac yn cael ei ddarparu’n fewnol gan y cyngor. Fodd bynnag, roedd y gweithwyr a gyflogwyd yn staff asiantaeth a doedd ganddynt ddim cynnig cyflogaeth llawn amser, telerau ac amodau gwael a dim cynnig pensiwn. Bu MVH o’r farn nad oedd hyn yn cynnig gwerth am arian, felly gwnaethant fewnoli’r gwasanaeth hwn a chynnig holl staff TUPE gyflogaeth llawn amser, ar delerau ac amodau safonol, graddfeydd cyflog graddol a chynigion sylweddol i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Cyn mewnoli, bu MVH yn gweithio gyda Cwmpas i werthuso’r ddarpariaeth gwasanaethau presennol a dewisiadau amgen, wrth ystyried yr effaith ar fentrau cymdeithasol lleol os dilynwyd opsiynau mewnoli. Yma, daeth i’r amlwg nad oedd gan ddarparwyr cynhyrchiol lleol yr holl sgiliau a’r gallu angenrheidiol i gyflenwi’r gwasanaethau yr oedd MVH eu hangen. Dechreuodd MVH weithio gyda chyflenwyr lleol i adeiladu setiau sgiliau ar gyfer cynigion gwasanaethau mwy cyfannol nag sydd ar gael ar hyn o bryd.

TGCh Cymru

Yn flaenorol, cafodd gwasanaethau TGCh Llywodraeth Cymru eu contractio gyda Merlin ICT, a daeth hyn i ben ar 11 Ionawr 2019. Ar ôl gwerthusiad manwl o’r arfarniad risg, economaidd a manteision, dewiswyd TGCh mewnol gydag allanoli detholus fel y model dewisedig. Mae’r model hybrid hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru gadw rheolaeth dros swyddogaethau allweddol a chyflenwi, tra’n ystyried y potensial am allanoli strategol fuddiol. Blaenoriaethwyd y model hybrid hwn dros ganoli, er mai’r olaf oedd yr opsiwn rhataf o bosib, oherwydd y risg a’r llwyddiannau critigol a oedd yn gysylltiedig â maint a chymhlethdod y dasg o ddod â’r gwasanaethau TG cyfan i mewn i’r Ganolfan o fewn cyfnod byr iawn o amser.

O fewn y gwasanaeth TGCh yn ei gyfanrwydd, dim ond gwasanaethau proffesiynol a gwasanaethau technegol a glustnodwyd am allanoli posibl. Nodwyd y gallai’r model hwn gynnwys trosglwyddiad TUPE o hyd at 80 o staff ond ni fyddai angen unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer Adnoddau Dynol na llety. 

Er bod y cymhellion i fewnoli a’r gwerthuso effaith yn cael eu sbarduno’n bennaf gan yr angen i leihau costau yn yr hirdymor trwy fwy o hyblygrwydd wrth ddarparu gwasanaethau, nodir Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel pwynt cyfeirio o fewn y meini prawf gwerthuso. Yn ogystal, mae angen i TGCh “gyflawni model cyflenwi gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion … a bydd angen i unrhyw fodel gweithredu TGCh LlC y dyfodol allu gweithio gyda’r sector cyhoeddus ehangach” trwy: cymryd rheolaeth dros TGCh LlC; moderneiddio platfformau; ei ryddhau o gylchredau buddsoddi adnewyddu isadeiledd; galluogi mwy o hyblygrwydd i staff a; mewnoli TGCh fel modd i greu swydd a phrentisiaethau i bobl yng Nghymru.

Trafnidiaeth Cymru

Mae Trafnidiaeth Cymru (TC) yn gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru ac, ar wahân i’r rheilffyrdd, mae ganddynt gylch gwaith ehangach mewn ymgynghori dros awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol. Sefydlwyd TC yn 2016 yn fuan ar ôl cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), o dan gyfrifoldeb y Weinyddiaeth Newid Hinsawdd, sy’n galluogi TC i gynnig gwasanaethau sy’n cael eu sbarduno gan amcanion a pholisi.

Hyd yn hyn, masnachfreinio rheilffyrdd bu’r enghraifft fwyaf arwyddocaol o fewnoli yn TC ond maent hefyd wedi ymgysylltu â mewnoli meysydd busnes penodol megis arlwyo a glanhau trenau, ac maent wedi prynu cwmni sector preifat cynnal a chadw rheilffyrdd. Mae mewnoli gwasanaethau arlwyo wedi galluogi TC i gymryd rheolaeth dros gadwyni cyflenwi er mwyn cefnogi menter gynhyrchiol Gymreig, tra bod mewnoli gwasanaethau glanhau wedi galluogi arferion gwaith teg yn unol ag agenda gwaith teg Cymru. Yn ogystal, mae mewnoli wedi galluogi gwaith partneriaeth pellach â gwasanaethau sector cyhoeddus eraill, megis y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru (GCRE).

Nododd TC er bod manteision hirdymor mewnoli yn glir, mae tensiynau’n bodoli ynghylch rheoli cyllidebau, gwerthuso costau a’r angen i gyflawni nodau mwy hirdymor fel y rhai sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Bu TC hefyd yn mynegi eu bod o’r farn y byddai cefnogaeth yn werthfawr o ran cefnogaeth ar gyfer cadwyni cyflenwi newydd. Er enghraifft, pan gaiff arlwyo ei fewnoli ac mae yna fwriad i gadw cadwyni cyflenwi yn lleol gyda menter fwyd gynhyrchiol, gallai fod angen am swyddogaethau busnes newydd er mwyn gwerthuso effeithiau ehangach mewnoli ar economi Cymru. Yn ogystal, nododd TC heriau ym mhroses TUPE pan fo staff newydd yn cael eu trosglwyddo ac mae gwahaniaethau’n bodoli o ran eu rôl, eu cyflog a’u hamodau blaenorol. Mae’r mater hwn yn gwaethygu pan fydd staff yn trosglwyddo o ddiwydiannau lle mae dwysedd undebau llafur yn isel i ddiwydiant lle mae’r dwysedd yn uchel, megis trafnidiaeth gyhoeddus.

Cydwasanaethau GIG

Fel rhan o’n hymgysylltiad rhanddeiliaid gydag undebau llafur, rydym wedi clywed enghreifftiau o benderfyniadau allanoli – er enghraifft, mewn perthynas â gwasanaethau glanhau ar gyfer pencadlys corfforaethol – sydd wedi arwain at gyflog ac amodau i staff sy’n llai ffafriol na phetai’r staff hyn wedi cael eu cyflogi’n fewnol. Mynegwyd y farn y gellir gwneud penderfyniadau allanoli o’r fath hyn drwy drefniadau llywodraethu mewnol sydd y tu hwnt i graffu cyhoeddus.

4. Distyllu gwersi o’r astudiaethau achos

Cefndir a maint y cyfle am fewnoli yng Nghymru. Cryfderau a gwendidau penderfyniadau mewnoli yng Nghymru

O’i gymharu â’r sefyllfa yn Lloegr, nid yw cyrff cyhoeddus Cymru yn hanesyddol wedi croesawu allanoli i’r un radd â’u cyfoedion yn Lloegr. Felly mae Cymru’n dechrau gyda gwaelodlin â llai o wasanaethau wedi’u hallanoli y gellir eu dychwelyd o bosib i sector cyhoeddus Cymru cryfach. Mae hyn yn rhannol yn adlewyrchiad o’r ffaith bod Cymru, er gwaethaf y newidiadau ledled y DU ers y 1980au a welodd rôl gynyddol i’r farchnad a mwy o hollti gwasanaethau cyhoeddus, wedi cadw ffocws cryfach ar werth cyhoeddus a phwysigrwydd yr ethos gwasanaeth cyhoeddus.

Oherwydd natur dameidiog adrodd a dosbarthiad mae’n anodd cyflwyno meintoliad cywir o raddfa allanoli fesul maes gwasanaeth. Mae’r adroddiadau a gyhoeddwyd (Government outsourcing – when and how to bring public services back into government hands. Institute for Government, 2020) ar ddata ledled y DU yn awgrymu bod ychydig dros chwarter o’r arian sy’n cael ei wario ar ofal cymdeithasol oedolion yn mynd i ddarparwyr mewnol, gyda ffigwr sy’n sylweddol uwch ar gyfer gofal cymdeithasol plant.

Gwariwyd 42% o gyllidebau casglu gwastraff ledled y DU gyda darparwyr allanol yn 2018/19.

Nododd adroddiad 2013 y Swyddfa Archwilio Genedlaethol (The role of major contractors in the delivery of public services. fod pedwar contractwr mawr (Atos, Capita, G4S a Serco) yn cyfrif am gyfran sylweddol o allanoli yn y DU ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus. Mae archwilio data gwariant Atamis ar gyfer sector cyhoeddus Cymru yn datgelu y bu gwariant o £43m gyda’r cwmnïau hyn yng Nghymru yn 2018/19 a £30m yn 2019/21 (noder fod y dadansoddiad hwn yn seiliedig ar baru enwau’r cyflenwyr, ac nid yw’n ddadansoddiad cyflawn o berchnogaeth fuddiol ar draws yr holl gyflenwyr).

Yn seiliedig ar ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid, ar hyn o bryd y gwasanaethau sydd wedi’u hallanoli sydd â’r potensial mwyaf i gael eu mewnoli yw:

  • Rheoli cyfleusterau
  • Arlwyo
  • TGCh
  • Hamdden
  • Gofal Cymdeithasol

O fewn y rhain, mae yna faterion a gwahaniaethau main penodol y dylid eu hystyried. Mewn perthynas ag arlwyo, un o’r prif rwystrau i fewnoli yw’r pryder ynghylch gallu mewnol sefydliadau unigol sector cyhoeddus i lywio’r cyfundrefnau rheoleiddio cymhleth a’r gofynion archwilio sy’n berthnasol i baratoi bwyd ac i’r gwasanaeth bwyd. Fodd bynnag, mae’r gallu hwn yn debygol o fodoli, yn enwedig o fewn awdurdodau lleol, sy’n awgrymu y gallai dull partneriaeth fwy creadigol ar draws partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddatgloi cyfleoedd i fewnoli. Mae arlwyo hefyd yn enghraifft dda o le mae rhai penderfyniadau i allanoli yn cael eu gwneud oherwydd bod y ddarpariaeth sydd wedi’i allanoli yn cynnig cyfle gwerthfawr a pharhaus i greu incwm. Er enghraifft, gall cyfleusterau caffi masnachfraint ar ystadau cyhoeddus gynnig ffrydiau refeniw parhaus heb y risgiau sy’n gysylltiedig â darpariaeth sydd wedi’i mewnoli. Mae hyn yn awgrymu’r angen i ystyried sut y gall y cyfundrefnau cyllido ar gyfer gwahanol rannau o sector cyhoeddus Cymru daro cydbwysedd a chymell gweithgarwch sy’n cyflwyno budd cymdeithasol ehangach ond sydd ar draul mantolenni cyrff unigol lle mae achos cymhelliol dros wneud hynny.

Mae darpariaeth gofal cymdeithasol yn gofyn am ystyriaeth fwy cynnil. Mae yna achos cymhelliol dros gael gwared ar elw o ddarpariaeth gofal cymdeithasol ac mae ymrwymiad eisoes yn bodoli yn y Rhaglen Lywodraethu i wneud hyn mewn perthynas â gwasanaethau i blant sy’n derbyn gofal. Mae yna achos cymhelliol i leihau presenoldeb darparwyr echdynnol ym marchnadoedd gofal lleol. Fodd bynnag, gall mewnoli ar raddfa fawr danseilio cyfraniad gwerthfawr y trydydd sector a darpariaeth sydd dan berchnogaeth ddemocrataidd, sy’n cynnig  cyrhaeddiad a chilyddiaeth ehangach mewn cymunedau ac sy’n tanategu dull yr economi sylfaenol. Yn adroddiad CLES 2020 (A progressive approach to adult social care. CLES, 2020) rydym yn awgrymu y byddai dull blaengar o ymdrin â gofal cymdeithasol oedolion yn cynrychioli cyfuniad o ddarpariaeth sy’n cwmpasu:

  • Cyflenwi’n fewnol: lle mae’r gwasanaeth yn cael ei gyflenwi gan y wladwriaeth leol.
  • Menter drefol: sefydliadau rheoli hyd braich a chwmnïau dan berchnogaeth gydfuddiannol.
  • Perchnogaeth gan y gweithwyr: cwmnïau cydweithredol.
  • Perchnogaeth gan y gymuned: busnes cymunedol, menter gymdeithasol a Chwmnïau Buddiannau Cymunedol.
  • Perchnogaeth breifat leol sy’n cefnogi sylfaen driphlyg: sef ystyried y gymuned ehangach, yr amgylchedd a’r gweithwyr ochr yn ochr â cheisio gwneud elw.

Fodd bynnag, rhaid nodi heb ddeddfwriaeth flaengar a mecanweithiau ariannol, gall potensial cynhyrchiol modelau darpariaeth amgen (popeth heblaw cyflenwi’n fewnol) gael ei lesteirio gan ddylanwad cyfalafu ecwiti preifat (trafodwyd cyfalafu a modelau perchnogaeth amgen yn Nghymru yn adroddiad CLES ‘Owning the Workplace, Securing the Future’).

Er bod nifer yr ystyriaethau o ran mewnoli yn sector cyhoeddus Cymru yn gymharol gyfyngedig ar hyn o bryd, bu sawl ffactor yn dod i’r amlwg o’n trafodaethau gyda rhanddeiliad sector cyhoeddus Cymru. Yn gyntaf, mae’r ystyriaeth i fewnoli wedi tueddu i fod yn un adweithiol, yn hytrach nag un rhagweithiol. Mae hyn yn tueddu i fod yn ymateb pragmatig i bryderon am y ddarpariaeth bresennol – er enghraifft, mewn perthynas â chost a gwerth am arian, ystyriaethau’r gweithlu, ansawdd y gwasanaeth neu sefydlogrwydd y farchnad. Felly mae’r penderfyniadau a wneir mewn perthynas â mewnoli yn cael eu pwysoli’n fawr i’r ffactorau hyn, o fewn cyd-destun lleol y gwasanaeth dan sylw.

Yr hyn sydd ar goll yw unrhyw synnwyr o ystyriaeth fwy systematig o oblygiad dewisiadau lleol mewn perthynas â modelau gwasanaeth ar gyfer yr economi leol neu drwy fframio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, neu drwy gynnwys ac ystyried y ffactorau hyn o fewn unrhyw broses wneud penderfyniadau.

Mae hyn yn awgrymu bod angen i’r pecyn cymorth:

  • Gyflwyno’r achos dros fewnoli, gan gysylltu’r ystyriaethau o ran dewis y model gwasanaeth â chenadaethau gwasanaeth cyhoeddus y gwahanol fathau o sefydliad y mae’r pecyn cymorth wedi’i ei baratoi ar eu cyfer. Er enghraifft, gan ddefnyddio fframio datblygiad economaidd lleol, llesiant a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd.
  • Bod yn gyfrwng i annog ystyriaeth fwy rhagweithiol a systematig i fewnoli.
  • Cynnig cyfres ehangach o feini prawf gwerthuso sy’n deillio o’r Nodau llesiant sy’n cynyddu'r tebygolrwydd y gall gweithwyr ym mhob rhan o Gymru gael mynediad at waith teg.

Potensial ar gyfer modelau amgen o ddarparu gwasanaethau

Bu rhai rhanddeiliad yn mynegi bod angen meddwl yn greadigol am y ffordd orau i wariant sector cyhoeddus gefnogi creu swyddi a buont yn rhybuddio rhag y rhagdybiaeth y bydd mewnoli, ym mhob achos, yn sicrhau’r canlyniadau gorau o ran cyflogaeth. Er enghraifft bu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dadlau y dylai awdurdodau sy’n contractio ddefnyddio’r llif arian parod dibynadwy, sefydlog o’r sector cyhoeddus i sicrhau’r budd mwyaf i swyddi yn yr economïau lleol, gan gynnwys ystyried opsiynau amgen i’r dull mewnoli traddodiadol. Yma, buont yn cyfeirio at gadwyni cyflenwi arbenigol na fyddant fyth yn debygol o gael eu mewnoli, megis yn achos offer llawdriniaeth orthopedig, i ddadlau’r achos dros arferion caffael blaengar.

Hyd yn oed mewn achosion o wasanaethau llai arbenigol gallai fod cyfleoedd sy’n bodoli i gyfuno’r galw ar draws sawl corff sector cyhoeddus (fel sy’n digwydd eisoes, er enghraifft yng Nghydwasanaethau y GIG) a defnyddio hyn i ysgogi modelau cyflenwi cydweithredol neu fodelau menter gymdeithasol newydd lle gallai’r galw cyfunol o sector cyhoeddus Cymru eu galluogi i gystadlu am waith y tu allan i Gymru, ac wrth wneud hynny greu cyfleoedd cyflogaeth sylweddol lle mae eu hangen fwyaf yng Nghymru.

Ceir nifer o ddulliau amgen, pob un â’u manteision a’u cyfyngiadau eu hunain, y gallai awdurdod contractio ymgysylltu â nhw i gyflawni’r nodau polisi ehangach o ran gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant. Mae gan y dulliau hyn y nod o eithrio gweithgarwch proffidio o fewn cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus, tra’n cefnogi cynnwys menter gymdeithasol gyfiawn:

Cwmni dan Berchnogaeth Lwyr

Mabwysiadwyd y dull hwn gan Stoke-Upon-Trent, gyda’u cwmni Unitas dan berchnogaeth lwyr. Gyda’r gallu i weithredu’n fasnachol â chleientiaid sector cyhoeddus a darparu ffrwd incwm i’r awdurdod lleol. Wrth dderbyn ei fandad gan arweinyddiaeth wleidyddol y cyngor, gwnaeth Unitas welliannau sylweddol i leoli cadwyni cyflenwi yn lleol. Fodd bynnag, mae’r natur hyd braich yn tynnu rhywfaint o reolaeth dros arferion cyflogi mewnol oddi wrth awdurdodau’r cyngor.

Partneriaethau Cynhyrchiol

Mabwysiadwyd y dull hwn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n datblygu cynlluniau ar eu gwasanaethau arlwyo er mwyn iddynt fod mewn cydweithrediad â busnes teuluol sydd wedi’i wreiddio’n lleol. Mae hyn yn dangos y potensial i gontractau fod yn offeryn defnyddiol i sianelu galw dibynadwy (arian cyhoeddus) tuag at gryfhau BBaCh Cymreig, yn unol ag ymrwymiadau polisi’r llywodraeth, er bod angen sicrhau bod modelau o’r fath yn cyflawni amcanion gwaith teg.

Hyrwyddo Cwmnïau Cydweithredol a Menter Gymdeithasol

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cynnwys darpariaethau sy’n cynnwys cyfrifoldeb i awdurdodau lleol hyrwyddo mentrau cymdeithasol a sefydliadau cydweithredol neu drefniadau i ddarparu gwasanaethau gofal, cymorth ac ataliol (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Adran 16). Ar yr un pryd, mae Partneriaethau Cyhoeddus-Cyffredin yn cynnig fframweithiau newydd o ddyluniad sefydliadol sy’n sicrhau llywodraethu a rheoli asedau cyhoeddus ar y cyd (Public-Common Partnerships: Democratising ownership and urban development. Heron, K; Milburn, K; Russel, B., 2021. Common Wealth.). 

Trwyddedu Cymdeithasol

Mae’r dull hwn yn golygu sefydlu maen prawf cyfiawnder cymdeithasol a llesiant y dylai contractwyr ei fodloni i ennill contractau cyhoeddus ac a gallai sicrhau bod arian cyhoeddus yn cefnogi gweithgarwch economaidd cynhyrchiol. Gallai hyn, er enghraifft, gael ei ysbrydoli gan Strategaeth Gaffael Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy’n sicrhau bod gan arfer caffael yr amcan i “ymdrechu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ddull cyfannol o ymdrin â’i broses gaffael” (Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Adeiladu Cyfoeth Cymunedol gan swyddog adrodd Huw Thomas, 26/01/2021. Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda).

Y gallu i gyflawni mewnoli

Os ystyriwyd potensial modelau amgen eraill o ddarparu gwasanaethau ac mae’r awdurdod contractio wedi gwneud y penderfyniad i ddilyn y llwybr mewnoli, mae yna sawl peth allweddol i’w hystyried:

Yn y farchnad cyflenwyr

Clywsom ei bod yn bwysig i reoli strategaeth fewnoli ar risg, sy’n benodol berthnasol i gyflenwyr ym maes gofal cymdeithasol plant. Rhaid i’r awdurdod mewnoli ystyried yr achos lle mae cyflenwyr yn dechrau gadael y farchnad cyn y gall y sector cyhoeddus ddatblygu’r gallu i weithredu ei hunan, os ydynt yn cydnabod na fydd marchnad iddynt yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig hefyd cydnabod y gallai fod gan awdurdodau contractio allu cyfyngedig i reoli’n effeithiol contractau sydd ar y ffordd i gael eu mewnoli, fel y dangoswyd yn astudiaeth achos Cyngor Dinas Derby.

Yn y farchnad lafur

Bu rhanddeiliad yn tynnu sylw at broblemau recriwtio lle mae gwasanaethau’n cael eu mewnoli. Mae hyn yn gysylltiedig â’r anhawster o ddenu’r arbenigedd angenrheidiol ar gyfer meysydd arbenigol megis datblygu meddalwedd, ond yn gysylltiedig hefyd â thelerau ac amodau “anhyblyg” sy’n golygu eu bod yn llai abl i ddenu gweithwyr achlysurol mewn rhai sectorau megis gwasanaethau hamdden lle mae gwaith achlysurol weithiau yn angenrheidiol.

Gallu mewnol o fewn cyrff cyhoeddus

Bu sawl rhanddeiliad yn tynnu’r sylw at y ffaith fod angen cymorth swyddfa gefn sylweddol ar wasanaethau mewnol “sydd yn anaml yn cael ei ffactorio mewn i arfarniadau opsiynau”. Er enghraifft, mae arlwyo yn gofyn am reolaeth gyflenwyr arbenigol o ystyried y cyfundrefnau rheoleiddio cymhleth sy’n bodoli mewn perthynas â bwyd – mae’r gallu hwn wedi’i golli o’r sector cyhoeddus mewn llawer o achosion. (Fodd bynnag, o bosib gall arlwyo mewn ysgolion Cymru gynnig atebion i’r her hon wrth edrych ar eu gwaith partneriaeth, lle maent yn gweithio gyda’u Hawdurdod Lleol i ganoli cymorth swyddfa gefn).

Bu rhanddeiliaid o brosiectau mewnoli llwyddiannus yn tynnu sylw at y ffaith unwaith y bydd gennych y sgiliau a’r gallu i redeg gwasanaeth mewnol, mae’n agor y drws i fewnoli pellach. Mae hon yn broses lle gellir ymgymryd â pheilot ym meysydd gwasanaeth llai o faint er mwyn dechrau datblygu’r gallu cyn ymgysylltu â meysydd gwasanaeth mwy o faint. Fel y gwelwyd yn Islington, gall y meysydd gwasanaeth mwy o faint gymryd hyd at ddwy flynedd, a defnyddio ymdrech ac adnoddau sylweddol o bob rhan o’r meysydd busnes, o’r cam cynllunio hyd at gwblhau’r broses ac mae’r manteision a gronnir o ran ansawdd y gwasanaeth, integreiddio ac effeithlonrwydd lawer yn bwysicach na’r amser, adnoddau ac ymdrech a ddefnyddiwyd. Mae hyn yn awgrymu’r angen am broses ddeinamig, gyda’r pecyn cymorth ar gyfer sector cyhoeddus Cymru yn annog adolygiad ac ailasesiad parhaus.

Ar ôl ei gwblhau, gall mewnoli gynnig cyfleoedd i ryddhau pwysau oddi ar adnoddau cyrff cyhoeddus a gwella effeithlonrwydd yn y tymor canolig a’r tymor hir. Gall hyn gynnwys lleihau’r angen am reoli a monitro contractau, yn ogystal â chreu mwy o gyfleoedd am integreiddio gwasanaethau ac arloesi. Fel y gwelwyd yn Wigan, mae sbardunau mewnoli wedi galluogi’r awdurdod lleol i gael gwared ar y ffiniau o ran gofynion gwasanaeth yr oeddent yn angenrheidiol mewn contractau allanoli. Yn benodol, maent wedi sbarduno integreiddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau hamdden i wella’r cynnig gwasanaeth gofal cymdeithasol. Mae gan Gastell-nedd Port Talbot ddyheadau tebyg ynghylch integreiddio eu gwasanaethau iechyd a hamdden, gan sicrhau datblygiadau a fydd yn gweld pobl leol yn fwy iach a gweithgar – gan leddfu pwysau ar adnoddau gwasanaethau iechyd yn y tymor hwy. O ystyried cylch gwaith penodol Byrddau Iechyd Cyhoeddus i gyfuno o ran nodau llesiant, mae yna ddigon o gyfle i’r ffordd hon o weithio yng Nghymru.

Ystyriaethau trosglwyddo’r gweithlu

Drwy gydol ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid, bu pob prosiect mewnoli llwyddiannus yn nodi bod ymgysylltu ag undebau llafur wedi galluogi’r awdurdod lleol i fewnoli ar gyflymder a sicrhau llwyddiant. Bu un rhanddeiliad yn nodi “rhaid grymuso’r rhai sy’n cael eu mewnoli ac nid eu darostwng i broses”. Yn gyffredinol, ymgysylltwyd â’r gweithlu o’r cychwyn ar gyflogau, telerau ac amodau ochr yn ochr â’r newidiadau yn eu rolau a’u cyfrifoldebau. Mae hyn yn hanfodol o ystyried yr angen i integreiddio rhwng yr hyn a all fod yn anghyfartaledd eang rhwng y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gyda’r sector preifat ar brydiau yn cynnig taliadau bonws a disgrifiadau swyddi mwy cul.

Yn ogystal, bu’r prosiectau mwy llwyddiannus, fel yr un yn astudiaeth achos Islington, yn gweld cyd-ddatblygu cyfundrefnau hyfforddi newydd i sicrhau bod cynifer ag sy’n bosib o’r gweithlu a drosglwyddwyd yn prynu mewn i’r broses.

O ran integreiddio’r gweithlu, rhaid i awdurdodau sy’n mewnoli hefyd ystyried unrhyw gytundebau cyflog cyfartal sy’n bodoli eisoes a allai gymhlethu cysylltiadau diwydiannol. Er enghraifft, efallai y bydd gweithwyr sy’n cael eu mewnoli yn disgwyl mwy o gynnydd yn eu cyflog oherwydd disgwyliadau newydd o ran ansawdd y gwasanaeth, a bydd gan hyn oblygiadau ar gyfer cyflogau ar draws meysydd gwasanaeth eraill.

5. Meini prawf arfaethedig ac ystyriaethau ymarferol

Gyda gwersi ein rhanddeiliaid a’r astudiaethau achos wedi’u distyllu i ystyriaethau allweddol, gellir awgrymu meini prawf i lywio penderfyniadau awdurdodau contractio. Daw hyn gyda’r ddealltwriaeth graidd nad du a gwyn mo’r darlun a beintir yn yr adroddiad interim hwn. Ni ellir ystyried penderfyniadau contractio i fod yn ddewis rhwng mewnoli ac allanoli, nac ychwaith y mae pob darpariaeth gwasanaeth amgen nid-er-elw o reidrwydd yn “gynhyrchiol” nac yn ffafriol i nodau polisi gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant oherwydd natur eu model busnes yn unig. Nid oes un ateb sy’n gweddu pob sefyllfa ac mae mewnoli yn un o nifer o ddulliau posibl o ymdrin â nodau llesiant o fewn amrywiaeth fawr o gyd-destunau. O ganlyniad, dylid ystyried mewnoli fel un dull ochr yn ochr â modelau cynhyrchiol eraill ar gyfer darpariaeth gwasanaethau.

Mae llywodraethu’r meini prawf hyn yn un cwestiwn allweddol sydd wedi’i gynllunio i annog dealltwriaeth gan yr awdurdod contractio o’r cefndir economaidd lleol:

  • Wrth werthuso ‘gwerth gorau’, a yw’r trefniad darparu gwasanaethau presennol yn tanategu nodau polisi Llywodraeth Cymru ynghylch gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant (ac yn benodol y 7 nod llesiant a’r 5 ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol)?

Gall y cwestiwn llywodraethu hwn gael ei rannu’n sawl is-gwestiwn sy’n ymwneud â’r nodau gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant ehangach o fewn agenda polisi Llywodraeth Cymru. 

  • Ymhle y mae’r darparwyr presennol wedi’u lleoli?
  • Pwy y mae’r darparwyr presennol yn eu cyflogi?
  • A ydynt yn dilyn egwyddorion gwaith teg ac yn annog yr egwyddorion hyn yn eu cadwyni cyflenwi?
  • A ydynt yn cyfrannu tuag at fynediad gwell ac ehangach at wasanaethau cyhoeddus? 
  • A yw gwasanaethau yn cael eu cyflenwi yn unol â’r ymrwymiadau sy’n bodoli eisoes mewn perthynas â’r Gymraeg a diwylliant Cymreig?
  • A oes marchnad cyflenwyr amgen leol a fyddai’n fwy addas i fodloni nodau presennol gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant?

Gan hynny, mae mewnoli yn fwy priodol yn y senarios hyn sy’n gysylltiedig â’r meini prawf uchod:  

  • Mae’r cyflenwyr presennol yn echdynnol ac nid ydynt yn ffafriol i nodau polisi Llywodraeth Cymru ynghylch gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol, a llesiant.
  • Mae arfarniadau opsiynau yn datgelu na fyddai mewnoli yn cael effaith andwyol ar chwaraewyr economaidd mwy cynhyrchiol o fewn yr economi fasnachol, megis yn achos caffi sy’n cael ei redeg gan fenter gymdeithasol sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth i grwpiau sydd ar y cyrion ar ystadau’r GIG.
  • Mae yna bryderon mewn perthynas ag ansefydlogrwydd y farchnad yn awr neu yn y dyfodol.
  • Mae’r gallu mewnol angenrheidiol yn bodoli neu gellir ei ddatblygu (e.e., cyfundrefnau archwilio a rheoleiddio ar gyfer arlwyo sy’n gofyn am drwyddedau gweithredu neu dystysgrifau cymhwysedd technegol).
  • Mae yna fwy o le i hyblygrwydd ac integreiddio drawsnewid cynigion gwasanaethau yn unol â nodau polisi Llywodraeth Cymru.
  • Y gellir gwella ar amodau cysylltiadau diwydiannol a gwaith teg o’u cymharu â’r trefniadau presennol.

Gan dynnu ar y gwersi o’n hastudiaethau achos, mae’r ystyriaethau ymarferol ar gyfer y broses fewnoli yn cynnwys:

  • Yn ogystal â’r gofynion gwerth gorau, a gynhaliwyd arfarniad opsiynau i archwilio cyfleoedd i gefnogi cyflenwyr cynhyrchiol lleol a’r potensial i fewnoli effeithio ar yr economi leol?
  • Os yw’r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol wedi’i hallanoli, sut fydd yr awdurdod contractio yn lliniaru yn erbyn effeithiau gadael y farchnad yn gynnar cyn i’r awdurdod contractio gael y gallu i gyflenwi yn fewnol? A yw awdurdodau contractio yn gallu monitro contractau mewn modd sy’n sicrhau bod safonau gofynnol gwaith teg yn cael eu bodloni a bod gwybodaeth am arferion cyflogaeth yn cael ei chasglu a’i dadansoddi, fel y gall yr awdurdod contractio sicrhau bod arian cyhoeddus:
    1. Ddim yn arwain at gam-fanteisio ar weithwyr
    2. Yn cynyddu'r tebygolrwydd y gall gweithwyr gael mynediad at waith teg
  • Pa le sydd i ehangu gallu mewnol, neu allu awdurdod lleol, sy’n ofynnol ar gyfer mewnoli mathau penodol o wasanaeth (e.e., cyfundrefnau archwilio a rheoleiddio ar gyfer arlwyo)?
  • A yw amserlenni a chostau cychwynnol wedi’u cyfrifo’n gywir?
  • Sut y mae awdurdodau contractio yn ymgysylltu ag undebau llafur mor gynnar â phosib yn y broses?
  • Beth yw’r metrigau llwyddiant? Sut y byddant yn cyd-fynd â nodau polisi Llywodraeth Cymru a sut byddant yn cael eu gwerthuso?
  • Er mwyn gweithio tuag at gyflawni’r amcanion Llesiant a chynyddu’r tebygolrwydd y gall gweithwyr ym mhob rhan o Gymru gael mynediad at waith teg, mae angen i’r pecyn cymorth ystyried pa opsiynau sydd gan awdurdod contractio i leihau’r risg bod gweithiwr mewn gwaith annheg a’u risg o dlodi – yn awr ac yn ddiweddarach mewn bywyd. 

6. Ysgogiadau i fodloni amcanion

Meithrin “prynu mewn” i’r penderfyniad

Drwy gydol ein proses ymgynghori bu rhai rhanddeiliaid (yn enwedig y rhai sydd wedi prynu mewn yn llai i’r agenda mewnoli) yn mynegi barn gref na ddylai mewnoli gael ei fandadu gan Lywodraeth Cymru. Fel yr ydym yn ei ddeall, nid dyma yw bwriad y polisi ac, fel y trafodwyd uchod, gallai mandad i fewnoli redeg yn groes i’r angen am synergedd strategol ar draws amcanion y Rhaglen Lywodraethu. Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na ellid mandadu ystyried mewnoli. Yn wir, gellid dadlau bod yr ystyriaeth hon eisoes yn fandadol o dan werth gorau. Mae lleoli’r agenda hwn yn fwy cadarn o fewn fframio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ffordd ymarferol o gyflawni hyn, ac yn fwy tebygol o ennyn pobl i brynu mewn iddo ac o drwytho dealltwriaeth ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Felly dylai’r pecyn cymorth geisio normaleiddio arfarniad rhagweithiol, trefn arferol o effaith bosibl y gwahanol fodelau o gyflenwi, (gan gynnwys mewnoli) yn erbyn y Nodau Llesiant a’r Ffyrdd o Weithio.

Dylai’r pecyn cymorth a’r strategaeth fewnoli ddechrau drwy ddadlau achos cryf dros fewnoli tra’n siarad ag awdurdodau contractio a’u cyd-destunau, cyfleoedd a heriau penodol. Efallai y bydd angen i’r pwyslais yma fod yn wahanol ar gyfer gwahanol rannau o sector cyhoeddus Cymru.

Er enghraifft:

  • Ar y lefel genedlaethol, siarad am yr angen i Lywodraeth Cymru gael ei weld yn arwain drwy esiampl a sicrhau synergedd traws-lywodraethol gwirioneddol.
  • Ar gyfer iechyd, lleoli’r agenda hwn yn fwy pendant yn unol â’r model cymdeithasol ar gyfer iechyd, gan wneud y cysylltiadau rhwng gwaith teg a phenderfynyddion cymdeithasol iechyd.
  • Ar gyfer Addysg Uwch, siarad am eu sefyllfa fwy cynnil fel sector lled-gyhoeddus a’u heriau ynghylch swyddogaethau gwneud elw ynghyd â’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt integreiddio eu hunain fel asiantau allweddol mewn cyflawni agenda polisi Llywodraeth Cymru.

Mae angen trwytho’r ddealltwriaeth nad oes sicrwydd adennill arian yn y tymor byr wrth fewnoli. Yn hytrach, mae manteision posibl mewnoli yn ymwneud â nodau cymdeithasol ac economaidd tymor hwy a gwelliant yn llesiant y boblogaeth, yn ogystal ag effeithlonrwydd ac ansawdd gwasanaethau, a all hefyd effeithio ar gostau yn y tymor hir.

Yn ogystal dylai cyfarwyddyd a chefnogaeth adlewyrchu bod angen i ddatblygu dull mewnoli fod yn ymdrech hirdymor a fydd yn gofyn i rai sefydliadau sector cyhoeddus newid eu diwylliant, eu sgiliau a’u gallu i alluogi eu trawsnewid o ffocws comisiynu i ffocws cyflenwi.

Synergedd strategol

Ni ellir ystyried y pecyn cymorth mewnoli fel rhywbeth sy’n sefyll ar ei ben ei hun ac nid yw’n cynnig atebion diamodol. Mae angen iddo gael ei fframio fel un elfen mewn cyfres ehangach o gyfarwyddyd, megis adroddiad gwerth cymdeithasol Cwmpas (Dros Newid Economaidd a Chymdeithasol: Adolygiad gwerth cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Cwmpas, 2022), i arwain pŵer cyrff cyhoeddus tuag at wireddu amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

Mae hyn yn golygu, fel rhan o gyfres o gyfarwyddyd wedi’u halinio ag agenda polisi Llywodraeth Cymru, y dylai pecyn cymorth o’r fath gael ei weithredu ar draws pob portffolio perthnasol y llywodraeth er synergedd strategol a chysondeb. Bydd hyn nid yn unig yn cael yr effaith fwyaf posibl ond bydd hefyd yn osgoi tanseilio a mynd yn groes i agendâu eraill, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, gall agenda Llywodraeth Cymru ynghylch cryfhau’r sector BBaCh, a elwir ‘y canol coll’, drwy gontractio strategol ac arfer caffael fod yn symbiotig â pholisi mewnoli. Gall y cydlifiad hwn ond bodoli os caiff y polisïau eu fframio, eu peiriannu a’u paratoi tuag at gefnogi nodau gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant Llywodraeth Cymru yn hytrach na’u bod yn sefyll ar wahân. Felly, dylai mewnoli fodoli fel offeryn penodol sydd ar gael i gorff cyhoeddus gyflawni amcanion polisi yn hytrach na’i fod yn bolisi rhagosodedig.

Dylai hyn gael ei gefnogi gan argaeledd cyngor arbenigol ar y cyd-destun polisi cenedlaethol i lywio a rhoi hyder i swyddogion mewn awdurdodau contractio ar sut y gellir gwneud penderfyniadau o fewn y gofod deddfwriaethol presennol yn enwedig yng nghyd-destun cytundebau masnach ôl-Brexit a newidiadau i ddeddfwriaeth gaffael.

Gallai bod angen cymorth hefyd ar awdurdodau contractio pan fyddant yn cymryd cyfrifoldeb am feysydd busnes newydd wrth fewnoli – er enghraifft, ar sut i werthuso a chynyddu effaith cadwyni cyflenwi newydd, o gontractau a fewnolwyd, ar yr economi leol a sut i gasglu data i fesur effaith.

Os yw mewnoli yn offeryn polisi i gyflawni yn erbyn gwerth gorau tymor hwy trwy ystyriaethau o’r nodau gwaith teg, cyfiawnder cymdeithasol a llesiant, yna rhaid mesur llwyddiant yn erbyn y metrigau hynny yn hytrach na bod gwasanaethau yn cael eu harchwilio ar werth am arian tymor byr ac effeithlonrwydd cost yn unig. Bydd angen parhaus i Lywodraeth Cymru gael sgyrsiau gonest â sector cyhoeddus Cymru ac ystyried lle mae’n bosibl esblygu ac ystwytho ei gysylltiadau i atgyfnerthu’r ymrwymiad tymor hwy hwnnw (sy’n cwmpasu, er enghraifft, setliadau cyllido a dulliau archwilio ac arolygu).

Gofodau Cydweithredol ar gyfer cymunedau ymarfer

Byddem hefyd yn argymell i Lywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau o fonitro, hyrwyddo ac ysgogi rhannu gwybodaeth, data ac arferion da ledled sector cyhoeddus Cymru, er mwyn annog ymgysylltiad dyfnach â mewnoli a modelau amgen o ddarpariaeth gwasanaethau.

Gallai hyn fod trwy Gymuned Ymarfer, gyda’r bwriad o sicrhau momentwm parhaus ar ôl lansio’r pecyn cymorth, ar hyd llinellau Cymuned Ymarfer a sefydlwyd fel rhan o Gronfa Her Economi Sylfaenol Llywodraeth Cymru (Cymuned Ymarfer Yr Economi Sylfaenol. Cynnal Cymru, 2022). Gallai hyn ddarparu model ar gyfer cymuned ymarfer wedi’i hwyluso o awdurdodau contractio i gydgyfrannu arbenigedd, rhannu’r heriau maent yn eu hwynebu ac archwilio posibiliadau o ran arferion mewnoli a darpariaeth gwasanaeth amgen yn unol ag amcanion polisi Llywodraeth Cymru.

7. Casgliad

Camau nesaf

Byddwn yn datblygu’r pecyn cymorth drafft, gan dynnu ar y themâu allweddol, yr hyn a ddysgwyd a’r meini prawf arfaethedig a nodir yn yr adroddiad interim hwn.

Er mwyn sicrhau y bydd y pecyn cymorth yn cael ei groesawu gan bob rhan o sector cyhoeddus Cymru, byddwn yn cynnal gwaith ymgysylltu ychwanegol i geisio adborth ar y pecyn cymorth gan ystod o randdeiliaid, gan gynnwys:

  • Y rhanddeiliaid sefydliadol sydd wedi’u hymgysylltu â cham cyntaf y gwaith (adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru, CLlLC, Cwmpas, undebau llafur, a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol). Yma, yn benodol rydym am wirio rhesymeg a fframwaith y pecyn cymorth a cheisio safbwyntiau lefel uchel ar y meini prawf a’r ysgogiadau arfaethedig. Cyfarfod bord gron anffurfiol rhithwir yw’r fethodoleg arfaethedig ar gyfer y gweithgaredd ymgysylltu hwn – cyflwyniad gan dîm CLES wedi’i ddilyn gan drafodaeth lled-strwythuredig.
  • Cynrychiolwyr o: Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, byrddau iechyd, addysg bellach/uwch, trafnidiaeth a thai. Yma, rydym am brofi mewn mwy o fanylder ddefnyddioldeb a chymhwysedd y pecyn cymorth arfaethedig a’r defnydd ymarferol o feini prawf gwneud penderfyniadau. Y fethodoleg arfaethedig ar gyfer y gweithgarwch ymgysylltu hwn yw cyfres o gyfweliadau sefydliadol unigol dilynol gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru a fu’n rhan o gam cyntaf y gwaith cyn hynny – h.y., BIP Hywel Dda, Coleg Sir Gâr/Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, a Llywodraeth Cymru (Rheoli Cyfleusterau a TGCh).

Cerrig milltir allweddol ar gyfer y cam nesaf hwn o’r gwaith:

  • 31/08/22 – Cyflwyno Pecyn Cymorth Drafft er mwyn ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol.
  • Yn ystod mis Awst / mis Tachwedd – Ymgysylltu â Sector Cyhoeddus Cymru i geisio adborth ar y pecyn cymorth gan randdeiliaid allweddol.
  • Erbyn diwedd mis Rhagfyr – Cynhyrchu’r adroddiad terfynol a chyhoeddi’r pecyn cymorth ar gyfer sector cyhoeddus Cymru.

Rhestr o’r ymgyngoreion

  • APSE
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Coleg Gŵyr Abertawe
  • Coleg Penybont
  • Cwmpas
  • Cyngor Partneriaeth y Gweithlu Cymru
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cynullydd Unite, Unitas Stoke-Upon-Trent Ltd
  • Geinyddiaeth Gyllid a Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru
  • GMB Yr Alban
  • Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Gwasanaethau Digidol, Hamdden a Llesiant, Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Wigan
  • Gwasanaethau Eiddo, Cyngor Bwrdeistref Islington Llundain
  • Hamdden a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Castell-nedd Port Talbot
  • Merthyr Valleys Homes
  • Rheoli Asedau Priffyrdd, Cynnal Tiroedd a Choedyddiaeth, Cyngor Dinas Derby 
  • Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Llywodraeth Cymru
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru
  • Tîm yr Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • TUC Cymru
  • Unison