Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Nodau a throsolwg o’r pecyn cymorth

Nod y Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol yw eich helpu chi, lle bynnag rydych chi ar eich taith cynhwysiant digidol, i greu newid cadarnhaol i bobl sy’n profi allgáu digidol.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn archwilio’r camau y gallai unrhyw grŵp neu sefydliad cymunedol eu cymryd er mwyn gwerthuso effaith prosiect cynhwysiant digidol, neu ddarnau o weithgaredd cynhwysiant digidol. Mae’n edrych ar beth yw gwerthuso a pham mae o gymorth i gynhwysiant digidol, beth yw egwyddorion gwerthuso da, ac yn archwilio’r blociau adeiladu sylfaenol sydd eu hangen i werthuso gwaith cynhwysiant digidol. Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhannu rhai enghreifftiau o adnoddau ac astudiaethau achos, ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer dadansoddi eich data.

Cymorth i bwy

Mae’r pecyn cymorth hwn ar gyfer grwpiau a sefydliadau cymunedol sy’n cyflwyno, neu’n meddwl am gyflawni, prosiect cynhwysiant digidol neu ddarn o weithgaredd.

Beth yw gwerthuso a pham mae’n ddefnyddiol ar gyfer cynhwysiant digidol?

Gwerthuso yw’r broses o fesur llwyddiant rhywbeth, o gymharu â gwerthoedd neu feini prawf diffiniedig. Mae sawl rheswm gwahanol dros fod eisiau gwerthuso’r gwaith a wnawn:

  • Deall beth sy’n gweithio’n dda a ddim gystal, er mwyn helpu i nodi sut y gellir gwella prosiect neu wasanaeth.
  • Bodloni gofynion cyllidwyr i ddangos sut cafodd cyllid ei wario a’r gwahaniaeth mae wedi’i wneud.
  • Asesu’r gwahaniaeth rydyn ni’n ei wneud yn y tymor hwy, er mwyn deall pa effaith rydyn ni’n ei chael ar broblem gymdeithasol ehangach, fel allgáu digidol.

Er bod dylunio proses werthuso yn gallu ymddangos yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser, mae ffyrdd hawdd o ddechrau casglu gwybodaeth i’ch helpu i wneud asesiadau o sut rydych chi’n darparu gwasanaeth neu brosiect ac a yw’n cael yr effaith rydych chi’n dymuno ei chael. Os ydych chi’n gwneud hyn eisoes, gobeithio y bydd y pecyn cymorth hwn yn eich helpu i feddwl sut i ddefnyddio hyn i werthuso effaith eich gwaith ar gynhwysiant digidol.

O safbwynt cynhwysiant digidol, mae’n bwysig werthuso gwasanaethau a phrosiectau i helpu deall:

  • pwy sy’n cael mynediad at gymorth cynhwysiant digidol a phwy sydd ddim, er mwyn helpu i nodi unrhyw grwpiau o bobl sy’n parhau i gael eu heithrio rhag cael cymorth i ddefnyddio’r rhyngrwyd
  • a yw’r cymorth a ddarperir yn diwallu anghenion pobl o ran cynhwysiant digidol.
  • Mae llawer o sylw wedi'i roi i ddatblygu sgiliau a hyder digidol sylfaenol pobl, ond rydym yn gwybod hefyd ei bod hi’n anodd i fwy a mwy o bobl allu fforddio cysylltu â’r we neu gael dyfeisiau digidol addas.
  • effaith ehangach cael eu cynnwys yn ddigidol. Bydd gwerthuso yn helpu i greu dealltwriaeth ddyfnach o’r newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl yn sgil cael cymorth i fynd ar-lein, ac yn ei dro, yr hyn mae pobl yn methu ei gael, os cânt eu hallgáu’n ddigidol. Gall y ddealltwriaeth hon ein helpu i wneud dadleuon mwy cymhellol i gyllidwyr, llunwyr polisi a rhanddeiliaid eraill am yr angen am gyllid a seilwaith ar gyfer cynhwysiant digidol

Egwyddorion gwerthuso da

Nid yw gwerthuso cymorth cynhwysiant digidol yn wahanol i werthuso unrhyw fath arall o brosiect neu wasanaeth, ac mae canllawiau ac adnoddau ar gael ar sut i werthuso prosiectau a gwasanaethau. Isod ceir ambell i egwyddor o ran arferion da i lywio eich gwaith gwerthuso.

Gweithio’n ôl

Meddyliwch am y newid rydych chi am ei weld a gweithio tuag yn ôl i nodi’r hyn y gallwch ei fesur a fydd yn eich helpu i ddeall a ydych chi’n mynd i’r cyfeiriad cywir. Efallai yr hoffech ystyried creu Theori Newid - map gweledol o effaith, canlyniadau, allbwn a mewnbwn eich gwaith cynhwysiant digidol.

Gorau po leiaf

Canolbwyntiwch ar ofyn dau neu dri chwestiwn yn dda iawn, yn hytrach na chasglu gormod o ddata. Gallwch adeiladu eich dull gwerthuso dros amser, gan ychwanegu mwy o gwestiynau neu fathau o ddata wrth i chi adeiladu gallu ar gyfer y gwaith hwn.

Mae’r straeon gorau yn cynnwys rhifau a geiriau

Mae cymysgedd o fathau o ddata yn well ar gyfer adrodd am yr hyn rydych chi wedi’i wneud, a’r gwahaniaeth rydych chi wedi’i wneud o ran cynhwysiant digidol. Mae pobl yn hoffi gweld y prif ystadegau o ran nifer y bobl sy’n cael cymorth a faint o effaith gadarnhaol mae’r gwaith wedi’i chael, ond gall straeon go iawn am sut mae pobl wedi profi newid a’r gwahaniaeth mae wedi’i wneud i’w bywydau, fod yn wirioneddol rymus hefyd.

Cyfraniad nid priodoli

Peidiwch â phoeni a allwch chi hawlio yn llwyr mai chi yw’r rheswm dros newid ai peidio; mae’n ddigon i fod yn hyderus eich bod wedi cyfrannu mewn rhyw ffordd at y newid hwnnw, a bod yn onest am hynny.

Sut i ddefnyddio’r pecyn cymorth

Mae’r pecyn cymorth hwn wedi’i gynllunio i fod yn fan cychwyn i unrhyw un sydd am archwilio sut y gall gwerthuso helpu gyda’u gwaith cynhwysiant digidol. Nid yw’r pecyn cymorth yn rhestr gynhwysfawr, ond dylai allu darparu’r blociau adeiladu sylfaenol i’r rhai sy’n dymuno archwilio’r maes hwn neu ddysgu ychydig mwy am adnoddau a thechnegau gwahanol.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i rannu’n dair lefel, a gynlluniwyd i ddarparu ar gyfer y mathau penodol o waith gwerthuso yr hoffech ei wneud. Mae elfennau sylfaenol pob lefel i’w gweld isod: Hefyd, cofiwch fod y lefelau yn adeiladu ar ei gilydd ac nad ydynt yn unigryw, efallai y byddwch yn penderfynu cynnwys a thynnu elfennau o bob un o’r lefelau.

Lefel 1: cofnodi pwy a beth

Gall y rhai sydd ar ddechrau eu taith werthuso neu’r rhai sy’n dymuno casglu data sylfaenol ddechrau yma.
Mae Haen 1 yn edrych ar ddata sylfaenol iawn ac yn canolbwyntio’n bennaf ar y bobl yr ydych yn eu cefnogi ac unrhyw ddata ychwanegol y gallai fod angen i chi ei gofnodi.

Lefel 2: gwerthuso profiad o gymorth

Mae’r adran hon wedi’i hanelu at y rhai ymhellach ar hyd eu taith werthuso, neu’r rhai sydd angen data manylach, e.e. gwybodaeth am fodlonrwydd. Gan adeiladu ar ddata o Haen 1, yn yr haen hon gallwch edrych yn ddyfnach ar eich data a dechrau edrych ar ganlyniadau o’ch cefnogaeth.

Lefel 3: gwerthuso canlyniadau cymorth

Mae’r adran hon yn edrych yn fwy ar fathau uwch o fesur effaith a gwerthuso. Mae’r adran hon yn archwilio’r defnydd o arolygon gwaelodlin a dilynol, a defnyddio data ansoddol a meintiol i ddadansoddi ac asesu ystod ehangach o werthuso ar gyfer eich gwaith.

Lefel 1: cofnodi pwy a beth

Y prif nod ar y lefel gyntaf hon o werthuso yw deall pwy rydych chi’n ei gyrraedd trwy eich prosiect/gwasanaeth cynhwysiant digidol a pha gymorth maen nhw’n ei dderbyn. Mae hyn yn adlewyrchu ‘allbynnau’ eich gwaith. Yna gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i asesu a yw hyn yn bodloni nodau eich prosiect/gwasanaeth, a oes unrhyw fylchau o ran pa fath o bobl rydych chi’n eu cyrraedd, ac a yw’r cymorth rydych chi’n ei ddarparu yn diwallu anghenion y bobl hynny i fynd ar-lein. Efallai eich bod eisoes yn casglu llawer o’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch; y peth allweddol yw rhoi trefn ar yr wybodaeth honno a deall sut i’w defnyddio i werthuso’r pwy a’r beth o ran eich darpariaeth..

Beth i’w fesur a sut:

Cwestiwn gwerthuso

  • Pa gymorth cynhwysiant digidol rydych chi’n ei ddarparu?

Pa wybodaeth i’w chasglu

  • Mathau o gymorth sy'n cael eu darparu (e.e. dosbarthiadau sgiliau digidol sylfaenol, mynediad at ddata symudol, mynediad at ddyfeisiau, cymorth hyrwyddwyr digidol ac ati).
  • Faint o gymorth sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pob math, mewn cyfnod penodol o amser, e.e.:
    • Nifer yr oriau o gymorth sgiliau a ddarperir.
    • Nifer y Sims symudol / talebau data wedi’u dosbarthu.
    • Nifer y dyfeisiau ar fenthyg/wedi’u dosbarthu.
  • Faint o gymorth mae pob person yn ei gael mewn cyfnod penodol (ee deufis).

Ffynonellau gwybodaeth

  • Data dosbarthu e.e. o galendr y sefydliad; cofnodion data/dyfeisiau wedi’u dosbarthu.
  • Data o ddalennau cofrestru/mewngofnodi; cofnodion apwyntiadau.

Cwestiwn gwerthuso

  • Pwy rydych chi’n eu cyrraedd gyda’ch cymorth?

Pa wybodaeth i’w chasglu

  • Gwybodaeth ddemograffig berthnasol ar gyfer cynhwysiant digidol, e.e. rhywedd, oedran, hunaniaeth ethnig, statws anabledd.
  • Gwybodaeth am y rhwystrau sy’n eu hwynebu o ran cynhwysiant digidol ar hyn o bryd e.e.:
    • Diffyg mynediad i ddata symudol/cyswllt WIFI.
    • Diffyg mynediad at ddyfais ddigidol briodol.
    • Diffyg sgiliau digidol sylfaenol i fynd ar-lein a defnyddio'r rhyngrwyd.
    • Diffyg hyder i wneud pethau ar-lein.
    • Anawsterau iaith Saesneg.
    • Anawsterau oherwydd anabledd neu gyflwr hirdymor arall.

Ffynonellau gwybodaeth

  • Holiadur byr a ddefnyddir wrth gofrestru.

Awgrymiadau ar gyfer casglu gwybodaeth

Am y cymorth rydych chi’n ei ddarparu

Sefydlu proses i gasglu’r data hwn yn rheolaidd (e.e. yn fisol) er mwyn cael popeth mewn un lle i adrodd ar eich allbynnau.

Pwy sy’n derbyn cymorth

  • Mae casglu gwybodaeth am y bobl rydych chi’n eu cynorthwyo pan fyddan nhw’n ymwneud â’ch gwasanaeth neu’ch rhaglen gyntaf yn helpu i ddeall eich darpariaeth ehangach, yn ogystal â chymorth cynhwysiant digidol. Gallai holiadur byr sy’n cael ei gynnal fel rhan o’r broses gofrestru gael ei gynnwys mewn unrhyw system rheoli cwsmeriaid rydych chi’n ei defnyddio ar hyn o bryd, neu drwy ffurflen bapur syml gyda’r data’n cael ei drosglwyddo’n rheolaidd o’r ffurflenni i daenlen neu system ddigidol arall.
  • Wrth ofyn am ddemograffeg, defnyddiwch gategorïau sy’n cyd-fynd â setiau data allanol i sicrhau bod categorïau’n gyfoes, ac yn caniatáu ar gyfer cymharu eich data â ffynonellau data eraill. Os nad yw’n ofynnol i chi adrodd ar nodweddion demograffig penodol gan eich cyllidwyr, rydym yn argymell defnyddio categorïau Cyfrifiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu Arolwg Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod eich data’n cyd-fynd â ffynonellau eraill.
  • Cofiwch beidio â chasglu mwy o wybodaeth nag sydd ei hangen arnoch, a rhoi’r dewis i bobl beidio ag ymateb i’r cwestiynau hyn os nad ydyn nhw eisiau. Cofiwch fod rhaid cadw gwybodaeth bersonol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data neu GDPR.
  • Wrth ofyn am rwystrau presennol i gynhwysiant digidol, defnyddiwch ymadroddion fel rhwystrau i ‘fynd ar-lein’ a ‘gwneud mwy ar-lein’ yn lle ‘cynhwysiant digidol’. Gofynnwch i bobl ddewis unrhyw rwystrau sy’n berthnasol iddyn nhw.

Awgrymiadau ar gyfer dadansoddi’r data

  • Dechreuwch gyda chyfrifiadau syml a chyfrannau (canrannau) o’r math a swm y cymorth rydych chi’n ei ddarparu mewn cyfnod penodol, a nifer a mathau o bobl rydych chi’n eu cyrraedd. Os oes gennych chi dargedau ar gyfer gwasanaeth neu brosiect, cymharwch y data hwn yn erbyn targedau penodol er mwyn gwerthuso faint o gymorth sy’n cael ei roi, ac a oes angen gwneud unrhyw newidiadau.
  • Defnyddiwch adnoddau fel tablau pivot MS Excel i ddadansoddi demograffeg y rhai sy’n derbyn cymorth ac archwilio unrhyw wahaniaethau sy’n peri syndod neu sy’n ddiddorol, e.e. a yw'r bobl sy'n derbyn cymorth sgiliau digidol sylfaenol yn hŷn ar gyfartaledd na'r rhai sy'n ceisio mynediad at gysylltedd data?
  • Ydy hyn yn dweud rhywbeth wrthych chi am sut i deilwra’r cymorth rydych chi’n ei darparu i grwpiau gwahanol?
  • Defnyddiwch ffynonellau data i gymharu eich grwpiau cymorth â’r boblogaeth ehangach er mwyn nodi unrhyw wahaniaethau neu fylchau, e.e. Lloyds Essential Digital Skills Index.
  • Wrth i chi gronni eich data, gallwch edrych ar unrhyw newidiadau dros amser o ran faint o gymorth sy’n cael ei ddarparu a’r mathau o bobl rydych chi’n eu cyrraedd.

Lefel 2: gwerthuso profiad o gymorth

Ar yr ail lefel werthuso, y nod yw deall profiadau pobl o’r cymorth a gafwyd ac a yw hyn wedi bodloni eu disgwyliadau neu anghenion o safbwynt cynhwysiant digidol. Trwy ymestyn casglu data o Lefel 1 (‘pwy’ a ‘beth’), gallwch fesur effeithiolrwydd cymorth ar draws demograffeg wahanol a’r mathau o gymorth, gan nodi meysydd i’w gwella.

Beth i’w fesur a sut

Cwestiwn gwerthuso

  • Profiad a gwerth y cymorth cynhwysiant digidol a gafwyd?

Pa wybodaeth i’w chasglu

  • Pa gymorth a dderbyniwyd (e.e. math, nifer yr oriau).
  • Sgorio’r cymorth a dderbyniwyd, e.e. yn nhermau:
    • perthnasedd
    • defnyddioldeb
    • boddhad cyffredinol
  • Ystyriwch ddefnyddio graddfa i nodi pob sgôr, e.e. Graddfa 3 phwynt (gwael, digonol, da) neu raddfa 5 pwynt (1 i 5, gwael iawn i ardderchog). E.e. “Pa mor ddefnyddiol oedd y cymorth gawsoch chi?”
    1. ddim yn ddefnyddiol o gwbl
    2. eithaf defnyddiol
    3. defnyddiol iawn
  • Sylwadau cryno ar y cymorth a gafwyd, e.e. drwy ofyn ‘Oes gennych chi unrhyw farn neu adborth ar y cymorth gawsoch chi?”
  • Profiadau ehangach o dderbyn cymorth ac argymhellion ar gyfer gwella, wedi’u crynhoi yng ngeiriau pobl eu hunain.

Ffynonellau gwybodaeth

  • Data a gasglwyd wrth gyflwyno neu holi trwy holiadur byr.
  • Holiadur byr neu ymarfer sgorio arall fel gosod sticer ar raddfa ar y wal.
  • Cwestiwn testun agored mewn holiadur byr, neu ddull arall e.e. ysgrifennu adborth ar bapurau post-it, i’w rhoi ar boster ar y wal.
  • Sgyrsiau lled-strwythuredig (naill ai’n unigol neu mewn grwpiau bach). Gellir recordio sain neu fideo, gyda chaniatâd pobl.

Awgrymiadau ar gyfer casglu’r data

  • Cynnig dulliau adborth amrywiol: holiaduron papur, gweithgareddau rhyngweithiol fel gofyn i bobl roi sticer ar raddfa ar boster ar y wal, neu roi peli mewn bwcedi wedi’u labelu gyda’r gwahanol sgoriau.
  • Darparu opsiynau ar gyfer cyflwyno adborth, gan gynnwys arolygon papur neu ar-lein, i ddarparu ar gyfer graddau amrywiol o allgáu digidol.
  • Canfod ffyrdd o’i gwneud hi’n haws i bobl roi adborth gonest heb boeni am unrhyw oblygiadau rhoi adborth negyddol. Gallwch wneud hyn drwy:
    • gwneud holiaduron yn ddienw a darparu blwch i bobl bostio eu holiaduron papur cyflawn wedyn
    • creu cyfleoedd i bobl lenwi holiaduron yn breifat e.e. yng nghornel ystafell, neu ar ôl i aelod o staff adael yr ystafell
    • cyfleu pwrpas yr adborth yn glir: er mwyn gwella gwasanaethau a chymorth
  • Cynnal cyfweliadau mewn mannau cyfforddus, preifat, gan ganiatáu amser i feithrin cydberthynas a defnyddio cymhorthion gweledol i gyfathrebu os oes angen. Pan fo sgiliau Saesneg yn fwy cyfyngedig neu os nad oes gan bobl hyder i siarad, gall defnyddio cardiau gyda lluniau (e.e. ffôn symudol, safle siop ar y rhyngrwyd etc.) helpu i sbarduno sgwrs.
  • Cofiwch gael caniatâd cyn recordio sgyrsiau ac yna gwirio a yw’r unigolyn yn hapus gyda sut y byddwch chi’n rhannu ei stori ac unrhyw ddyfyniadau.

Awgrymiadau ar gyfer dadansoddi’r data

  • Dechreuwch gyda chyfrifiadau a chyfrannau syml (canrannau) o’r math a swm y cymorth a dderbyniwyd.
  • Ar gyfer sgorio/graddio’r cymorth a dderbynnir, cyfrifwch y sgôr gyfartalog ar gyfer pob math o gymorth a gafwyd er mwyn gallu cymharu gwerth y mathau gwahanol o gymorth cynhwysiant digidol rydych chi’n ei ddarparu. Bydd hyn yn eich helpu i nodi unrhyw feysydd blaenoriaeth i’w gwella.
  • Rhowch sylw i’r ystod o sgoriau, os yw’r ystod yn eang (gwahaniaeth mawr rhwng y sgoriau isaf a’r uchaf) gallech archwilio hyn mewn perthynas â data arall rydych wedi’i gasglu am y bobl rydych chi’n eu helpu, e.e. archwilio amrywiadau mewn graddfeydd yn ôl ffactorau fel oedran neu rwystrau i gynhwysiant digidol, i wella strategaethau cymorth wedi’u teilwra.
  • Crynhowch y cymorth yn ôl thema, gan wahaniaethu rhwng adborth cadarnhaol, negyddol, ac argymhellion ar gyfer gwella.
  • Cofiwch sicrhau bod nodiadau neu drawsgrifiadau o gyfweliadau/trafodaethau grŵp yn anhysbys oni roddir caniatâd i rannu manylion personol mewn astudiaeth achos.
  • Crëwch grynodebau o bob cyfweliad / trafodaeth i gasglu manylion a dyfyniadau am y canlynol:
    • rhesymau dros geisio cymorth cynhwysiant digidol
    • rhwystrau o ran cyrchu / defnyddio’r rhyngrwyd
    • disgwyliadau o ran derbyn cymorth a phrofiadau o hynny wedyn
    • beth mae’r cymorth wedi’u helpu i wneud o ran cyrchu/defnyddio’r rhyngrwyd
    • pa newidiadau mae hyn wedi’i wneud i’w bywydau
    • unrhyw rwystrau maen nhw’n dal i’w hwynebu neu argymhellion ar gyfer gwella cymorth

Lefel 3: gwerthuso canlyniadau cymorth

Ar y drydedd lefel hon o werthuso, dylai’r ffocws fod ar fesur effaith cymorth cynhwysiant digidol a newidiadau ym mywydau unigolion. Dewiswch ychydig o ganlyniadau perthnasol sy’n cyd-fynd â’r math o gymorth cynhwysiant digidol rydych chi’n ei ddarparu a beth sydd bwysicaf i’ch sefydliad chi. Yn ddelfrydol, casglwch fesuriadau sylfaenol a dilynol i olrhain newidiadau dros amser – er gall fod yn anodd gwneud hyn, felly cofiwch ei bod hi’n iawn dechrau dim ond trwy gasglu data dilynol da, a’i ychwanegu at y data arall a gasglwch a ddisgrifir yn lefelau un a dau.

Er ei bod hi’n well mesur effaith dros amser, mae hyn yn anodd ei wneud oherwydd mae’n gallu bod yn anodd cadw mewn cysylltiad â’r bobl rydych chi’n eu cefnogi dros sawl mis a’u hannog i roi adborth yn ddiweddarach. Mae’n well dechrau trwy gasglu canlyniadau tymor byr a chynnwys mesuriadau tymor hir yn raddol.

Dewis canlyniadau i’w mesur

Isod awgrymir canlyniadau sy’n gysylltiedig â chynhwysiant digidol y gallech chi fod am eu defnyddio i fesur y gwahaniaeth y mae eich cymorth yn ei wneud. Dewiswch ddau neu dri chanlyniad tymor byr i ddechrau, sy’n adlewyrchu’r math o gymorth rydych chi’n ei ddarparu a’ch blaenoriaethau chi fel sefydliad. Yna gallwch adeiladu ar hyn yn nes ymlaen i gasglu data ar ganlyniadau tymor hwy. Yn ddelfrydol, dylai’r canlyniadau rydych chi’n dewis eu mesur adlewyrchu theori newid sy’n sail i’ch cymorth neu brosiect cynhwysiant digidol.

Canlyniadau tymor byr

  • Mwy o hyder digidol.
  • Cynyddu sgiliau digidol sylfaenol.
  • Mwy o ymdeimlad o allu cadw’n ddiogel ar-lein.
  • Mwy o fynediad at ddata symudol/WIFI.
  • Mwy o fynediad at ddyfais ddigidol.
  • Mwy o gymhelliant i ddefnyddio’r rhyngrwyd.

Canlyniadau tymor hwy

  • Mwy o ymdeimlad o gysylltiad cymdeithasol/llai o unigrwydd neu deimlo'n ynysig.
  • Mwy o allu i ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal ar-lein.
  • Mwy o allu i reoli cyllid neu filiau ar-lein.
  • Mwy o gyfleoedd dysgu.
  • Mwy o gyfleoedd cyflogaeth.
  • Mwy o ymdeimlad o lesiant.
  • Mwy o ymdeimlad o annibyniaeth.

Casglu data i fesur canlyniadau

Dilynol yn unig

Os mai dim ond data dilynol y mae modd i chi ei gasglu i fesur effaith, meddyliwch am ofyn i unigolion a ydyn nhw wedi profi’r canlyniadau rydych chi wedi dewis eu mesur. Gallwch ddefnyddio holiadur byr, gan ehangu ar gwestiynau Lefel Dau, i fesur profiadau cymorth a boddhad.

Er mwyn mesur canlyniadau hirdymor, cadwch fanylion cyswllt unigolion â chymorth a sicrhau caniatâd ar gyfer cam dilynol. Os nad yw cyswllt uniongyrchol yn ymarferol, ystyriwch arolygon ar-lein i gasglu data ar ganlyniadau tymor hwy, er y gall cyfraddau ymateb amrywio. Mewn llawer o achosion, efallai y bydd yn rhaid i chi ddibynnu ar anfon holiadur ar-lein i gasglu data ar ganlyniadau tymor hwy, os nad yw’r bobl rydych wedi’u helpu yn dod i’ch sefydliad mwyach. Gall hyn gyfyngu ar bwy sy’n teimlo eu bod nhw’n gallu ymateb a rhoi adborth.

Neu, gallwch gynnal cyfweliadau neu drafodaethau grŵp gyda rhai dethol ar ôl sawl mis i ymchwilio i effaith hirdymor, gan gynnig cymhellion o bosibl (e.e. cinio am ddim neu daleb am ddim) a chreu astudiaethau achos o effaith hirdymor eich cymorth cynhwysiant digidol.

Llinell sylfaen a dilyniant

Os gallwch gasglu data sylfaenol cyn i unigolion dderbyn cymorth, byddwch yn gallu mesur yn fwy cywir y newid yn lefelau cynhwysiant digidol pobl. Mae hyn yn golygu gofyn cwestiynau union yr un fath ar y llinell sylfaen a’r camau dilynol, gan gymharu ymatebion i ddadansoddi’r gwahaniaethau rhyngddynt a’r gwelliant dros amser. Yn ddelfrydol, gallwch integreiddio casglu data sylfaenol wrth gasglu data demograffig pan mae pobl yn cofrestru fel y disgrifir yn Lefel Un. Gellid disodli cwestiynau ar rwystrau i gynhwysiant digidol, gan eu bod yn cwmpasu maes tebyg.

Awgrymiadau ar gyfer dadansoddi’r data

Dadansoddi data dilynol yn unig

  • Cyfrifwch niferoedd a chyfrannau (canrannau) ar gyfer ymatebion i’ch cwestiynau, e.e. nifer a chyfran y bobl sydd wedi ticio ‘cytuno’ â phob un o’r datganiadau canlyniad.
  • Os ydych chi wedi casglu data am rwystrau cynhwysiant digidol wrth gofrestru, cymharwch y data â data canlyniadau, e.e. Mae 60% o’r bobl sy’n cofrestru yn dweud bod diffyg mynediad at ddyfais ddigidol yn rhwystr rhag gwneud mwy ar-lein (mae 40% yn nodi bod ganddynt fynediad at ddyfais); yn y cam dilynol, mae 70% o bobl yn cytuno bod y cymorth a gawsant wedi cynyddu eu mynediad at ddyfais ddigidol. Mae hyn yn dangos effaith gadarnhaol ar fynediad gan fod cynnydd o 30% wedi bod o’r cam cofrestru, a dim ond 40% a ddywedodd fod ganddynt fynediad.
  • I archwilio’r cysylltiad rhwng darparu cymorth a chanlyniadau cynhwysiant digidol, cymharwch fathau o gefnogaeth a lefelau boddhad (o Lefel Dau) â data canlyniadau. Dadansoddi sut mae mathau neu lefelau cymorth amrywiol yn cydberthyn â chanlyniadau cadarnhaol, ac ymchwilio i weld a yw pobl sydd wedi graddio’r profiad o gymorth yn fwy uchel wedi dangos mwy o newid mewn canlyniadau.

Dadansoddi data llinell sylfaen a dilynol

  • Er mwyn mesur newid rhwng data llinell sylfaen a dilynol, un dull syml yw cyfrifo’r sgôr gyfartalog ar gyfer pob cwestiwn sgorio ar y ddau bwynt. Cymharwch y cyfartaledd: bydd cynnydd yn y sgôr cyfartalog rhwng llinell sylfaen a dilyniant yn dangos effaith gadarnhaol.
  • Cam arall i asesu a yw’r gwahaniaeth rhwng y cam sylfaenol a dilynol yn ystadegol arwyddocaol (yn hytrach nag unrhyw amrywiad ‘normal’ y gallem ddisgwyl ei weld), yw cynnal prawf-t ar y gwahaniaeth rhwng y ddau sgôr gyfartalog. Mae angen maint sampl da ar gyfer hyn (e.e. o leiaf 50 o ymatebion yr un ar y llinell sylfaen a’r data dilynol).

Rhwystrau cyffredin o ran gwerthuso a sut i’w goresgyn

Amser cyfyngedig i werthuso

  • Defnyddiwch/adeiladwch ar y data rydych eisoes yn ei gasglu: e.e. gwybodaeth am apwyntiad ar gyfer cymorth un i un; cofrestrau dosbarth ar gyfer dosbarthiadau sgiliau digidol sylfaenol.
  • Cynnwys casglu data yn eich gweithgareddau presennol, e.e. defnyddio arolwg ar-lein fel gweithgaredd mewn dosbarth sgiliau digidol.
  • Cadw casglu data mor syml â phosibl: Mae gofyn un cwestiwn yn dda yn well na gofyn llawer o gwestiynau a pheidio â chael amser i ddadansoddi’r data.
  • Cadwch eich dadansoddiad yn syml: Mae cyfrifiadau a canrannau o ymatebion yn aml yn ddigonol ar gyfer adrodd ac mae modd eu gwneud yn gymharol gyflym yn Excel neu debyg. Ar gyfer data ansoddol o gyfweliadau neu drafodaethau grŵp, crëwch grynodebau byr o brofiadau pobl a’u hategu gyda dyfyniadau byr, uniongyrchol lle bo hynny’n bosibl.
  • Parwch ystadegau syml gyda straeon cryf o brofiadau go iawn er mwyn cael yr effaith fwyaf.

Os yw pobl yn amharod i gymryd rhan neu roi eu hadborth

  • Gwnewch e’n hwyl: meddyliwch am ffordd greadigol, hawdd i bobl rannu eu hadborth e.e. rhoi sticer a gofyn iddyn nhw ei roi ar y wal i ddangos eu hymateb i gwestiwn.
  • Cadwch y data’n anhysbys (cyn belled ag y bo modd): meddyliwch yn ofalus a oes gwir angen i chi gasglu gwybodaeth bersonol neu ddemograffig. Mae goblygiadau GDPR ar gyfer storio data personol, a gallwch golli rhai pobl os ydych chi’n gofyn am gael gwneud hynny. Os nad oes angen adrodd ar fanylion personol, peidiwch â’u cynnwys mewn arolwg (neu gwnewch hynny’n ddewisol).

Mae defnyddio arolygon ar-lein i gasglu data yn heriol gyda phobl sy’n wynebu allgáu digidol

  • Er na fydd dulliau arolygon ar-lein yn hygyrch i lawer sy’n wynebu allgáu digidol, gallwch eu defnyddio’n effeithiol o fewn sesiynau hyfforddi sgiliau digidol, fel ymarferiad ar gyfer meithrin hyder a datblygu gallu pobl i gwblhau arolygon ar-lein.
  • Mae hefyd yn bwysig cynnig ffyrdd eraill i bobl roi adborth. Mae holiaduron papur syml y gall pobl eu llenwi a’u dychwelyd yn y fan a’r lle yn gallu bod yn effeithiol iawn.
  • Gall defnyddio dulliau mwy creadigol i roi adborth yn gyflym tra mae pobl ar y safle fod o gymorth hefyd, fel sticeri ar boster, peli mewn bwced neu ofyn i bobl ysgrifennu sylw am effaith y cymorth ar gerdyn post gwag.

Efallai y bydd pobl yn dweud yr hyn maen nhw’n meddwl rydyn ni eisiau ei glywed

  • Meddyliwch am ffyrdd i gasglu data yn gyfrinachol / anhysbys: defnyddiwch focs caeedig i bobl roi eu hymatebion ynddo; peidiwch â gofyn iddyn nhw roi gwybodaeth bersonol; defnyddiwch un cwestiwn syml i ennyn adborth e.e. trwy beli mewn bwced.
  • Pwysleisiwch eich bod chi’n awyddus i wella’ch gwasanaeth a’ch darpariaeth ac eisiau clywed am y da a’r drwg. Helpwch bobl i ddeall sut fydd y sefydliad yn defnyddio eu hadborth.

Casgliad

Mae’r Pecyn Cymorth Gwerthuso Cynhwysiant Digidol hwn wedi’i gynllunio i fod yn fan cychwyn i unrhyw un sydd am archwilio sut y gall gwerthuso helpu gyda’u gwaith cynhwysiant digidol. Nid yw’n gyflawn nac yn argymhellol. Beth bynnag yw eich lefel o fewn y pecyn cymorth ar hyn o bryd, nid yw’n golygu eich bod yn fwy neu lai datblygedig yn eich gwaith cynhwysiant digidol, bod eich gwaith yn fwy neu’n llai pwysig. Taith yw cynhwysiant digidol, ac mae’n mynd i edrych yn wahanol o un grwp cymunedol i’r llall. Bydd pob sefydliad ar ei thaith ei hun, sy’n unigryw i’w anghenion ac anghenion y rhai maen nhw’n gweithio gyda nhw ac yn eu helpu ar y pryd. Mae dysgu oddi wrth ein gilydd yn hanfodol ar y daith hon.

Nid yw cynhwysiant digidol yn ymwneud â thechnoleg neu ddigidol yn unig; mae’n ymwneud â chynnwys pobl a sicrhau bod pawb yn rhan o’r sgwrs a’r daith. Gall rhwydweithiau cynhwysiant digidol presennol gefnogi’ch sefydliad, gan eich helpu i gysylltu, dysgu a datblygu i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.

Cymryd rhan

Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol

Mae'r Rhwydwaith Cynhwysiant Digidol Cenedlaethol, a elwid yn Rhwydwaith Canolfannau Ar-lein gynt ac a gydlynir gan y Good Things Foundation, yn cynnwys sefydliadau ar hyd a lled y DU sy’n gweithio i fynd i'r afael â'r rhaniad digidol. Gelwir y sefydliadau hyn yn ganolfannau cynhwysiant digidol ac maent yn gallu manteisio ar gymorth a gwasanaethau drwy'r Good Things Foundation er mwyn cael data digidol am ddim, dyfeisiau digidol am ddim, platfform dysgu sgiliau digidol sylfaenol Learn My Way, ac adnoddau eraill.

Mae hybiau yn y Rhwydwaith yn darparu ystod o wasanaethau rhad ac am ddim sy’n helpu pobl i fynd ar-lein neu ddysgu sut i ddefnyddio’r rhyngrwyd yn lleol yn eu cymunedau eu hunain. Trwy ymuno â’r National Digital Inclusion Network mae sefydliadau’n gallu cyrchu’r cymorth, yr offer a’r wybodaeth i gyrraedd a helpu mwy o bobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.