Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mwy na £600,000 o gyllid Llywodraeth Cymru ac Arloesi i Arbed yn helpu i letya pobl ifanc sydd mewn gofal er mwyn sicrhau dyfodol gwell, cyhoeddodd y Gweinidogion heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James ddwy ffrwd ariannu - sef £243,000 o gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru a £400,000 o gyllid Arloesi i Arbed - yn ystod ymweliad â'r llety i bobl ifanc.

Caiff y ddau brosiect eu darparu gan sefydliad o Abertawe, sef FABRIC, sydd eisoes yn darparu llety i bobl ifanc 16-17 oed yn yr ardal. Bydd y pecyn cymorth o  £243,000 yn helpu FABRIC i ehangu ei wasanaethau i ardal Castell-nedd Port Talbot, gan ddarparu cartref i chwech o bobl ychwanegol yn y system gofal.

Bydd yr ail becyn, gwerth £400,000, yn darparu llety â chymorth rhannol i oedolion ifanc dros 18 oed sy'n gadael y system gofal ac sy'n cymryd eu camau cyntaf tuag at fywyd oedolion - gan roi lle iddynt ddod yn fwy annibynnol a chan gynnig rhwydwaith cymorth wrth gefn iddynt hefyd.

Mae'r ddau brosiect yn anelu at gynhyrchu arbedion cost i'r awdurdodau lleol trwy ddarparu cartref i bobl ifanc mewn gofal, gan atal yr awdurdod lleol rhag gorfod defnyddio llety brys drud.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd:

“Rwy'n falch bod Cronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru, ynghyd â chyllid Buddsoddi i Arbed, yn helpu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal wrth iddynt wrth iddynt dyfu'n oedolion a byw'n annibynnol.

“Yn ôl y dystiolaeth mae pobl ifanc sy'n gadael y system gofal yn fwy tebygol o gamddefnyddio cyffuriau neu alcohol, neu fynd i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Yn ogystal â bod yn ofnadwy i'r bobl ifanc o dan sylw, mae'n arwain yn anochel at ymyriadau costus i'r Llywodraeth. Mae'r syniad arloesol hwn yn mynd rhywfaint o'r ffordd at dorri'r cylch hwn trwy gynnig cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc pan fo arnynt eu hangen fwyaf."

Ychwanegodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall cyllid Arloesi i Arbed cefnogi rhai o bobl ifanc fwyaf agored i niwed ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau. Rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o bobl ifanc yn cyflawni eu potensial a hynny oherwydd help gan y prosiectau hyn.”

Gyda'i gilydd bydd yn ddau brosiect hyn yn cynnig llwybr cyson o ofal i fyw'n annibynnol yn achos rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, gan eu cefnogi i ddatblygu'r sgiliau byw gofynnol, cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant, cyflogaeth a datblygiad personol.

Dywedodd Cyfarwyddwr FABRIC, Harri Coleman:

“Cyfuno nodau sicrhau cyfle cyfartal a gwella canlyniadau i bobl ifanc ochr yn ochr â'r arbedion ariannol sy'n deillio o'n dull gweithredu, oedd sylfaen ein hymwneud ag Arloesi i Arbed.Nod FABRIC yw bod yn rhan o ysgogi newid cadarnhaol ymhlith pobl ifanc FABRIC a chreu canlyniadau cadarnhaol amgen pan fyddant yn oedolion. Er nad oes modd sicrhau canlyniadau cyfartal i bawb o bosibl, mae FABRIC yn anelu at weld cyfle cyfartal i'r rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru a ledled y DU."