Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi bwrsari a grant newydd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu siarad Cymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd bwrsari newydd gwerth £5,000 ar gael i athrawon a enillodd Statws Athro Cymwysedig o fis Awst 2020 ymlaen, ac sydd wedi cwblhau tair blynedd o ddysgu'r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y bwrsari ar gael yn y lle cyntaf tan Hydref 2028 i asesu a yw’n llwyddo i annog athrawon i ymuno â'r proffesiwn ac i aros ynddo.

Ynghyd â hyn, mae ail rownd o'r grant adeiladu capasiti'r gweithlu cyfrwng Cymraeg wedi agor, gyda chyfanswm o £800,000 ar gael. Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau bach i ysgolion fel y gallant ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys yr heriau recriwtio sy'n eu hwynebu.

Mae'r grant hwn yn rhoi rhyddid i ysgolion deilwra cynlluniau i anghenion eu bro, eu gweithlu a'u demograffeg eu hunain. Yn ystod blwyddyn gyntaf y grant, roedd y prosiectau llwyddiannus yn cynnwys y canlynol:

  • Prentisiaid wedi'u penodi i hyfforddi tuag at fod yn gynorthwywyr dysgu
  • Deuddeg o ysgolion uwchradd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu darpariaeth ar y cyd ar gyfer dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 a oedd yn ail-sefyll arholiadau TGAU.
  • Dysgu proffesiynol i uwchsgilio staff addysgu i ddysgu pynciau ychwanegol fel y gwyddorau
  • Ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg yn gweithio gyda'i gilydd i recriwtio israddedigion mewn pynciau lle mae prinder i weithio'n rhan amser er mwyn rhannu eu harbenigedd mewn pwnc a magu profiad addysgu

Mae cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu’r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol er mwyn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac i gyflawni uchelgais y Papur Gwyn ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Un o'n blaenoriaethau mwyaf ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yw sicrhau bod gennym ddigon o athrawon i ateb y galw am ddysgu yn y Gymraeg. Bydd y pecyn hwn o gefnogaeth yn cryfhau ein gweithlu addysg Gymraeg ac yn sicrhau bod mwy o bobl yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyffrous sydd ar gael ar gyfer gyrfa.