Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd wedi penodi pedwar aelod newydd o Fwrdd Hybu Cig Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Ebrill 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Aelodau newydd y bwrdd yw:

  • Vicki Spencer-Francis
  • Caroline Sanger-Davies
  • Hugh Hesketh Evans
  • Michael Humphreys

Mae'r Gweinidog hefyd wedi ailbenodi John Davies a Gareth Davies am drydydd tymor i'r Bwrdd a Prys Morgan a Rhys Davies am ail dymor i'r Bwrdd.

Bydd pob penodiad yn para rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2026.

Rôl y bwrdd

Hybu Cig Cymru (HCC) yw'r sefydliad sy'n cael ei arwain gan y diwydiant sy'n gyfrifol am ddatblygu, hyrwyddo a marchnata cig coch Cymru. 

Rôl y Bwrdd yw darparu arweinyddiaeth effeithiol, diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol, hybu safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae'r Bwrdd yn gyfrifol am fonitro perfformiad HCC, gan sicrhau ei fod yn cyrraedd y nodau, yr amcanion a'r targedau perfformiad a nodir yn y cynlluniau corfforaethol a busnes.

Mae Aelodau o Fwrdd Hybu Cig Cymru yn cael tâl o £300 y dydd ar gyfer uchafswm o 12 diwrnod y flwyddyn.

Gwnaed yr holl benodiadau yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus (ar Gov.UK) a hysbyswyd y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. 

Gwnaed pob penodiad ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol. Nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. 

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, nid oes unrhyw un o’r rhai a benodwyd wedi cael eu cyflogi gan blaid wleidyddol, wedi dal swydd arwyddocaol mewn plaid, wedi sefyll fel ymgeisydd dros blaid mewn etholiad, wedi siarad yn gyhoeddus ar ran plaid wleidyddol, nac wedi darparu rhoddion neu fenthyciadau arwyddocaol i blaid.