Neidio i'r prif gynnwy

Mae pedwar o gystadleuwyr o Gymru wedi’u dewis i gynrychioli’r DU yng nghystadleuaeth sgiliau fwya’r byd, WorldSkills, a gynhelir yn Abu Dhabi fis Hydref eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Joseph Massey, 23, o Coleg Cambria; Alfie Hopkin, 18, o Llanelli a Elizabeth Forkuoh, 20,  o Llanelli ac  Ethan Davies, 21, o Mynydd Isa wedi’u cydnabod fel pobl ifanc fwyaf medrus y DU yn eu diwydiant, a byddant yn teithio bron i 5,000 o filltiroedd i Ganolfan Arddangos Genedlaethol Abu Dhabi (ADNEC) i gystadlu yn erbyn myfyrwyr, prentisiaid a gweithwyr gorau’r byd.

Cynhelir WorldSkills International bob dwy flynedd. Yn y gystadleuaeth mae dros fil o bobl ifanc 18 i 25 oed yn dod ynghyd o saith deg saith o wledydd i gystadlu am fedalau mewn pum deg un o gystadlaethau sgiliau, yn cynnwys melino dan reolaeth cyfrifiadur, gwasanaeth bwyty, dylunio gwefannau a pheirianneg awyrenegol.

Fel rhan o Dîm y DU, bydd y pedwarunigolyn ifanc o Gymru yn arddangos eu sgiliau drwy ddangos eu galluoedd technegol mewn tasgau penodol, y maent yn eu hastudio neu’n eu cyflawni yn eu gweithle, dros gyfnod o chwe diwrnod.

Elizabeth dywedodd 

“Diolch i WorldSkills, dwi wedi gallu teithio i bob cwr o'r DU a chael fy hyfforddi yn rhai o fwytai gorau'r wlad. Er enghraifft, dwi wedi hyfforddi yn y Ritz ac ym mwyty dwy seren Michelin Michel Roux Jnr, lle ces i gynnig swydd!

Dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar at gystadlu ar lefel ryngwladol - dwi wedi bod yn breuddwydio am hyn ers blynyddoedd ac mae'n anodd coelio mod i'n mynd nawr. Mae bod yn rhan o'r gystadleuaeth yn brofiad gwych, o'r bobl dwi wedi eu cyfarfod i'r holl sgiliau newydd dwi wedi'u dysgu a'r llefydd dwi wedi ymweld â nhw. Fyddai'r pethau hyn ddim wedi digwydd oni bai am WordSkills.

Gwahoddwyd Joseph, Alfie, Elizabeth ac Ethan i gystadlu yn y broses ddewis ar ôl dod i’r brig yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru a Chystadlaethau Cenedlaethol WorldSkills y DU, gyda’r rowndiau terfynol yn cael eu cynnal yn The Skills Show bob mis Tachwedd.

Gan dderbyn cefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop mae’r cystadlaethau hyn yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu gweithlu medrus iawn ac unigolion o’r radd flaenaf.

Meddai’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James: 

“Llongyfarchiadau i’r pedwar o gystadleuwyr sydd ar eu ffordd i gynrychioli’r DU. Mae nifer yr aelodau o Gymru yn y Tîm yn glod i’w gwaith caled a’u penderfyniad, ond hefyd i gefnogaeth eu teuluoedd, a’r hyfforddiant a gawsant gan golegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr yng Nghymru.

“Mae Cymru wedi bod yn cystadlu yn WorldSkills ers blynyddoedd lawer ac wedi meithrin rhai o’r bobl ifanc mwyaf medrus mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae cymryd rhan mewn cystadlaethau WorldSkills o fudd i Gymru gyfan. Nid yn unig mae cystadleuwyr yn dychwelyd yma i ysbrydoli eraill i ddilyn ôl eu troed ond maent yn dod â gwybodaeth a phrofiad i’r gweithle hefyd, gan helpu i ddatblygu sgiliau a gosod safonau uchel i ddiwydiant.

“Fodd bynnag, nid yw’r daith yn cychwyn nac yn gorffen gyda WorldSkills International – mae cyfranogiad Cymru mewn cystadlaethau yn seiliedig ar gylch datblygu rhaglenni sy’n galluogi colegau a darparwyr hyfforddiant i feincnodi a sicrhau ansawdd yn erbyn y gorau yn y byd, gan annog datblygiad proffesiynol parhaus a chodi ein safonau addysgu. Dymunwn yn dda i Joseph, Alfie, Elizabeth ac Ethan yn Abu Dhabi ac edrychwn ymlaen at ddilyn eu taith.”