Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhoi rhybudd clir heddiw fod y cyfleoedd economaidd fydd ar gael ar ôl Brexit yn cael eu tanseilio gan ansicrwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi rhoi rhybudd clir heddiw fod y cyfleoedd economaidd fydd ar gael ar ôl Brexit yn cael eu tanseilio gan ansicrwydd a chan ddiffyg trefn Llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth fynd ati i negodi. 

Mae ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw  yn dangos bod allforion Cymru yn parhau i gynyddu a bod busnesau’r wlad wedi allforio gwerth £16.4 biliwn o nwyddau yn ystod y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2018 – sef cynnydd o £1.1 biliwn o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol. 

Bu cynnydd o £649 miliwn (7 y cant) yng ngwerth allforion o Gymru i wledydd yr Undeb Ewropeaidd, a chynnydd o £439 miliwn (7.3 y cant) yng ngwerth allforion i wledydd y tu allan i’r UE yn ystod y flwyddyn. 

Mae’r ystadegau’n dangos hefyd fod 60.6% o allforion Cymru yn mynd i wledydd yr UE o’i gymharu â chanran allforio’r DU, sef 49.6%. O gofio bod aelodaeth y DU o Undeb Tollau’r UE yn rhoi mynediad iddi at fwy na 70 o wledydd â Chytundebau Allforio Rhydd, mae bron i dair o bob pedair o’r punnoedd y mae busnesau Cymreig yn eu hennill drwy allforion tramor yn dibynnu ar ein perthynas â’n partneriaid yn yr UE. 

Mae Prif Weinidog Cymru, felly, yn galw ar Lywodraeth y DU i roi eglurder i fusnesau Cymru ynglŷn â pherthynas y DU ag Ewrop yn yn dyfodol, er mwyn iddynt allu paratoi’n iawn a pharhau i dyfu. 

Wrth ymweld â Concrete Canvas ym Mhontypridd, cwmni gweithgynhyrchu sy’n allforio 85% o’i nwyddau, dywedodd y Prif Weinidog: 

“Mae marchnad allforio Cymru yn parhau i dyfu – ac mae’r cynnydd hwn o £1.1 biliwn yn newyddion gwych i’n heconomi.

“Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn ffrwyth llawer iawn o waith caled a dycnwch gan gwmnïau  allforio fel Concrete Canvas, y cefais i’r pleser o ymweld â nhw heddiw. 

“Rwy’n falch iawn o weld bod busnesau yng Nghymru yn dal i lwyddo i gynyddu eu cyfran o’r farchnad dramor, a hynny er gwaethaf bygythiad Brexit ar y gorwel.  

“Mae’n hanfodol bod y llwyddiant hwn yn parhau. Ond, er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i’n busnesau gael eglurder ar fyrder ynglŷn â’n perthynas ag Ewrop yn y dyfodol. Mae’r Undeb Ewropeaidd eisoes yn rhybuddio busnesau yn Ewrop i gadw mewn cof y gallai diffyg cytundeb ar Brexit fod yn risg, ac i leihau eu dibyniaeth ar nwyddau sy’n cael eu gwneud yn y Deyrnas Unedig.

“Bydd ansicrwydd fel hyn yn effeithio’n uniongyrchol ar fusnesau yng Nghymru a’u gallu i allforio. Er bod Llywodraeth Cymru’n gweithio’n galed i gefnogi cwmnïau sy’n allforio, mae angen iddyn nhw hefyd gael cyfeiriad clir gan Lywodraeth y DU - a hynny ar fyrder. 

“Rhaid i Lywodraeth y DU sylweddoli nad yw eu dull o weithredu hyd yma ddim yn gweithio. Mae angen i’r Prif Weinidog fynd ati o’r newydd, gan chwalu’r llinellau cochion a gweithio gyda 27 gwlad yr UE i sicrhau cysondeb â’r Farchnad Sengl ac Undeb Tollau newydd a chadarn gyda’r UE.

“Dyna’r unig ffordd y byddwn yn llwyddo i gael Brexit sy’n caniatáu i fusnesau Cymru gadw’u partneriaid masnachu presennol ac sy’n gwarchod yr economi ac yn diogelu swyddi ac incwm pobl Cymru.

“Os bydd Brexit caled, bydd y wlad yn goroesi ond fydd hi ddim yn parhau i ffynnu. Bydd ffigurau allforio fel y rhai rydyn ni’n eu dathlu heddiw yn gostwng;  bydd llai o dwf, llai o fuddsoddi, llai o swyddi a lleihad mewn incwm. Nid cwyno yw hyn, na chodi bwganod – yn hytrach, dyna mae ffigurau’r Llywodraeth ei hun yn ei ddangos yn ddigamsyniol.”