Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi annog pobl i gymryd gofal ychwanegol a dim ond ffonio 999 mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd neu argyfwng difrifol yn ystod streiciau ambiwlans.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyntaf o ddau ddiwrnod ar wahân o weithredu diwydiannol sydd wedi’i gynllunio gan rai staff ambiwlans yn dechrau yfory, a disgwylir y bydd effaith ddifrifol ar wasanaethau ambiwlans. Mae undeb GMB wedi cyhoeddi y bydd ei aelodau yn y gwasanaethau ambiwlans yn mynd ar streic ar 21 a 28 Rhagfyr.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn disgwyl y bydd amharu sylweddol ar nifer yr ambiwlansys brys sy’n gallu mynd at gleifion ar ddiwrnodau’r streic.

Bydd gwasanaethau cludo cleifion mewn achosion nad ydynt yn rhai brys, sy’n helpu cleifion i fynd i apwyntiadau ysbyty, hefyd wedi’u heffeithio, yn ogystal â staff ateb galwadau anghlinigol yng nghanolfannau cyswllt Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a rhai gwasanaethau cymorth.

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi rhybuddio mai dim ond achosion o salwch neu anafiadau sy’n peryglu bywyd sy’n debygol o gael ymateb brys ar ddiwrnodau’r streic. Cynghorir cleifion i beidio â ffonio 999 oni bai bod rhywun yn ddifrifol wael neu wedi’u hanafu’n ddifrifol, neu fod bywyd yn y fantol.

Bydd y cleifion salaf yn parhau i gael eu blaenoriaethu, ac ni fydd cleifion sy’n llai sâl, neu ag anafiadau llai difrifol yn cael ymateb ambiwlans. Gall hyn hefyd olygu y bydd angen i gleifion ddod o hyd i ffordd arall o gyrraedd yr ysbyty os nad yw bywyd yn y fantol, cyn belled eu bod yn teimlo ei bod yn ddiogel iddynt wneud hynny.

Cynghorir pobl i ddefnyddio gwefan GIG 111 Cymru i gael cyngor iechyd os nad yw bywyd yn y fantol. Gallwch hefyd siarad gyda’ch fferyllydd, eich meddyg teulu neu fynd i uned mân anafiadau.

Dywedodd Eluned Morgan:

Does dim amheuaeth y bydd y ddau ddiwrnod o weithredu diwydiannol, yn fuan iawn ar ôl gweithredu gan nyrsys a achosodd oedi yn nhriniaeth miloedd o gleifion yng Nghymru, yn rhoi pwysau aruthrol ar y gwasanaethau ambiwlans. Dim ond y galwadau mwyaf brys y bydd ambiwlansys yn gallu ymateb iddynt ar ddiwrnodau’r streic.

Peidiwch â rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau ar y diwrnodau hyn a meddyliwch yn ofalus am y gweithgareddau y byddwch yn eu gwneud yfory ac ar yr 28ain.

Mae’n bwysig eich bod yn ffonio 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ond mae’n rhaid i bob un ohonom ystyried yn ofalus iawn sut rydym yn defnyddio’r gwasanaethau ambiwlans ar y diwrnodau hyn.

Fel defnyddwyr ein GIG, mae’n hanfodol bod pob un ohonom yn gwneud popeth gallwn i leihau’r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn ystod y gweithredu diwydiannol.

Gall pawb helpu i leddfu’r pwysau drwy:

  • sicrhau bod gennych gyflenwadau digonol o feddyginiaethau presgripsiwn a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer anhwylderau cyffredin i leihau’ch risg o fynd yn sâl ar ddiwrnodau’r streic
  • sicrhau bod gennych gyflenwadau cymorth cyntaf digonol rhag ofn y bydd angen ichi drin mân anafiadau gartref
  • cymryd gofal ychwanegol yn ystod y tywydd oer i osgoi llithro, baglu a chwympo, a damweiniau ar y ffordd
  • cadw llygad ar unrhyw aelodau o’ch teulu, ffrindiau a chymdogion sydd mewn sefyllfaoedd bregus