Neidio i'r prif gynnwy

Mae CR Clarke & Co wedi derbyn cymeradwyaeth yn awr ar gyfer ei uned CPAP sydd wedi’i Weithgynhyrchu’n Gyflym (RMCPAP) a bydd yn gweithio gyda busnesau yng Nghymru, gan gynnwys Panasonic, i greu 80 o ddyfeisiau i ddechrau ar gyfer profion pellach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Nod y ddyfais, sydd wedi cael cymeradwyaeth gan yr Asiantaeth Reoleiddiol ar gyfer Meddyginiaethau a Gofal Iechyd (MHRA) yw osgoi’r angen am dderbyn cleifion i Uned Gofal Dwys. Mae wedi’i chynllunio gan Dr Rhys Thomas, uwch ymgynghorydd yn Ysbyty Glangwili, a Maurice Clarke o gwmni peirianneg yn Rhydaman, CR Clarke & Co. 

Mae’r cynhyrchu lluosog cyntaf ar yr uned CPAP yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Diwydiant Cymru. Mae’r ddau sefydliad wedi bod yn gweithio’n agos gyda chwmnïau’r gadwyn gyflenwi er mwyn canfod a phrynu’r cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y ddyfais yma a all achub bywydau. 

Mae’r uned CPAP yn darparu llif dan reolaeth o aer pwysedd positif, wedi’i ocsigeneiddio i lefel uchel, i gleifion coronafeirws, gan helpu i wella lefel yr ocsigen yn y gwaed. 

Bydd y gyfres newydd o unedau CPAP yn parhau i gael eu profi’n fanwl yn ystod y dyddiau sydd i ddod. 

Os bydd y profion yn llwyddiannus, bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i weithio gyda Dr Rhys Thomas a CR Clarke & Co er mwyn hwyluso cynhyrchu pellach ar y ddyfais yn Ne Cymru, ac wedyn gallai ddechrau gael ei defnyddio mewn ysbytai a lleoliadau gofal yng Nghymru, y DU a thu hwnt. 

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Mae pandemig y coronafeirws yn golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru, yn fwy nag erioed, weithredu’n rhagweithiol er mwyn cefnogi’r meddwl arloesol gwych sy’n bodoli mewn diwydiant yng Nghymru. 

“Mae Dr Thomas a CR Clarke & Co wedi gweithio’n gyflym ac yn wych i ddyfeisio cynnyrch a allai achub miloedd o fywydau wrth i ni wynebu her y coronafeirws, ac mae Llywodraeth Cymru a Diwydiant Cymru wedi bod yn falch o gefnogi’r broses hon. 

“Drwy ganfod a phrynu cydrannau rydym wedi gallu helpu i gyflymu’r cynhyrchu gwib ar y gyfres newydd o unedau CPAP wrth baratoi ar gyfer profion llym. Os bydd y profion pellach hyn yn llwyddiannus, byddwn wrth gwrs yn gweithio’n gyflym i gyflymu’r cynhyrchu ar y ddyfais hon. 

“Hoffwn ddiolch i Dr Thomas a CR Clarke & Co am eu hymdrechion, ac rwyf yn annog y gymuned fusnes i fod yn arloesol wrth feddwl am ffyrdd newydd o drechu covid-19, gan eu sicrhau bod Llywodraeth Cymru yma i gefnogi eu hymdrechion. 

“Mae gan Gymru gymaint o dalent a sgiliau gwych a thrwy gydweithio gallwn chwarae ein rhan mewn brwydro yn erbyn y feirws yma er lles pobl gartref a thramor.”