Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Adfywio’r Galon, mae chwaraewyr o Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ymuno â disgyblion ysgol leol i gefnogi ymgyrch Achub Bywydau Cymru i gynyddu nifer y bobl yng Nghymru sydd â sgiliau adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR).

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig mae mwy na 30,000 o bobl yn dioddef ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, ac mae’r cyfraddau goroesi mor isel ag 1 mewn 10. Gyda chymorth £586,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru dros ddwy flynedd, mae Achub Bywydau Cymru yn dod â phartneriaid o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru ynghyd - gan gynnwys GIG Cymru, y gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, ac elusennau cymorth cyntaf a'r galon. Ei nod yw gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd o risgiau ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty, gan annog mwy o bobl i ddysgu sgiliau CPR a diffibrilio fel eu bod wedi’u paratoi’n well i gamu i’r adwy a cheisio achub bywyd.  

Mae ymchwil newydd sy'n cael ei gyhoeddi heddiw gan Lywodraeth Cymru fel sail i waith Achub Bywydau Cymru, 'Archwilio gwybodaeth y cyhoedd, agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd ynghylch pobl gyffredin sydd yn y fan a’r lle yn rhoi CPR ac yn defnyddio diffibriliwr mewn amgylchiadau ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty' yn awgrymu na fyddai llawer o bobl sydd wedi cael hyfforddiant CPR yn teimlo'n hyderus yn ei ddefnyddio (48%). Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd (47%) na fyddent barod i geisio defnyddio techneg CPR ar rywun gan eu bod yn ofni y byddent yn gwneud y sefyllfa yn waeth. Mae hyn yn cyd-fynd â chanlyniadau arolwg One Poll ym mis Chwefror 2019, wnaeth ganfod na fyddai 30% o oedolion sydd wedi cael hyfforddiant CPR yn ei ddefnyddio pe byddent yn gweld rhywun yn dioddef ataliad y galon. 

Ymunodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething â chwaraewyr Dinas Caerdydd Will Vaulks, Sean Morrison a Callum Patterson, y rheolwr Neil Warnock a meddyg y tîm Len Nokes yn y digwyddiad heddiw yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Bu farw merch Mr Nokes, Claire wedi iddi ddioddef ataliad y galon yn 2016, yn 25 oed. Estynnwyd gwahoddiad i grŵp o ddisgyblion o Ysgol Uwchradd Fitzalan i ddysgu technegau CPR hefyd, ochr yn ochr â'r chwaraewyr. 

Roedd y digwyddiad yn cyd-daro â Diwrnod Adfywio’r Galon, cynllun blynyddol dan arweiniad y Cyngor Dadebru (y DU) mewn partneriaeth â Sefydliad Prydeinig y Galon, y Groes Goch Brydeinig, Ambiwlans Sant Ioan a Gwasanaethau Ambiwlans y GIG i dynnu sylw at yr angen am sgiliau CPR sy'n achub bywydau.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Yn anffodus mae llawer o deuluoedd yn gwybod bod y tebygrwydd o oroesi ataliad y galon yn y gymuned - hynny yw, nid yn yr ysbyty - yn isel iawn. Rydym angen i fwy o bobl wybod beth i'w wneud a bod â'r hyder i weithredu i achub bywyd. Ni all unrhyw un ohonom ragweld pa bryd y gallem fod yn y sefyllfa hon a allai olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd neu farwolaeth i rywun. Does dim amheuaeth bod unrhyw gynllun sy'n helpu i hybu gallu ein cymunedau ar draws Cymru i achub bywydau a gwella'r gyfradd oroesi yn rhywbeth da iawn.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Weithredwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Ken Choo:

Mae'n bleser gennym fedru parhau i gefnogi'r achosion y mae Len Nokes yn gweithio mor galed drostynt er cof am Claire, yn enwedig gwaith Achub Bywydau Cymru yr wythnos hon. Rwy'n gobeithio y bydd y profiadau a gaiff y rhai sy'n bresennol yn helpu i hybu neges Achub Bywydau Cymru ymhellach, ac o ganlyniad yn achub bywydau.

Dywedodd Dr Brendan Lloyd, Cyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn dioddef o ataliad y galon. Maent angen triniaeth CPR gan y rhai o'u cwmpas, a fydd yn aml iawn yn aelodau o'u teulu, eu cydweithwyr neu'r cyhoedd sy'n digwydd bod wrth law. Yn ogystal â thriniaeth CPR o safon, efallai y bydd angen trin y claf â diffibriliwr. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod siawns person i oroesi yn lleihau 10% bob munud y bydd triniaeth CPR yn cael ei ohirio. Gall y sgìl hwn yn llythrennol olygu'r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, ac rydym yn annog pawb i'w ddysgu.