Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn croesawu awgrymiadau ac ymholiadau mewn perthynas â phob agwedd ar ein gwaith.

Byddwn yn edrych ar yr adborth a gyflwynwch cyn cyflwyno’r penderfyniad neu ar ôl hynny. Yn y naill achos neu’r llall, byddwn yn ystyried eich sylwadau o ddifrif ac yn ymchwilio ar unwaith.

Gallwch anfon cwynion neu adborth atom drwy:

e-bost:

pedw.cwynion@llyw.cymru

Y Post:

Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru
Llawr 2 Gorllewin
Adeilad y Goron,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ.

Sut rydym yn ymchwilio

Pan ddaw cwyn i law, byddwn yn ei chydnabod, yn ymchwilio iddi ac yn ymateb cyn gynted â phosibl. Ein nod yw ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith. Yn yr achos annhebygol nad ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth nac ymateb llawn mewn perthynas â’ch llythyr, cysylltwch â ni ar 0300 0604400.

Ni fydd gan Arolygwyr unrhyw gysylltiad uniongyrchol pellach â’r achos wedi i’w penderfyniad gael ei gyhoeddi. Rôl y Swyddog Cwynion yw ymchwilio i gwynion neu ymholiadau mewn perthynas â phenderfyniadau ac ymddygiad Arolygwyr, neu’r broses weinyddol a oedd yn ategu’r apêl. Byddwn yn ymchwilio i bob cŵyn yn drwyadl ac yn ddiduedd, a byddwn yn ymateb mewn iaith glir a syml, gan osgoi jargon a thermau cyfreithiol cymhleth.

Er mwyn cynorthwyo ein hymchwiliadau, efallai y bydd angen i ni ofyn i’r Arolygydd neu i staff eraill am eu sylwadau ar eich gohebiaeth. Mae hyn yn ein helpu i gael darlun mor eang â phosibl fel ein bod mewn sefyllfa well i benderfynu p’un a wnaed camgymeriad ai peidio.

Wedi i’n hymchwiliadau ddod i ben, byddwn yn anfon ymateb llawn yn cynnwys ateb cynhwysfawr i’r holl bwyntiau sylweddol a godwyd. Bydd unrhyw ohebiaeth bellach mewn ymateb i hyn yn amodol ar ein polisi codi cwynion a chaiff ei hadolygu ar lefel y Cyfarwyddwyr.

Bydd ein hymateb yn cynnwys manylion am sut i gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, os byddwch yn anfodlon ar y ffordd rydym wedi ymdrin â’ch cwyn. Gall yr Ombwdsmon ymchwilio i gwynion mewn perthynas â gwaith Adrannau ac Asiantaethau’r Llywodraeth fel Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru. Mae’n bwysig amlygu nad oes gan yr Ombwdsmon y pŵer i addasu i neu newid penderfyniad arolygydd.

Unioni pethau

Lle mae camweinyddu neu gamgymeriad gan Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru wedi arwain at anghyfiawnder neu galedi, byddwn yn ceisio cynnig ateb sy’n dychwelyd yr achwynydd i’r sefyllfa y byddai wedi bod ynddi fel arall. Os nad yw hynny’n bosibl, bydd Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn rhoi iawndal am unrhyw gostau diangen a gafwyd o ganlyniad i’n camgymeriad ni lle mae rhesymau cymhellgar dros wneud hynny.

Bydd Penderfyniadau Cynllunio a'r Amgylchedd Cymru yn ystyried yn ofalus cwynion a cheisiadau am iawndal ariannol a ddaw i law o fewn chwe mis i ddyddiad y camgymeriad neu unrhyw benderfyniad apêl dilynol a wnaed gan yr Arolygiaeth yn ymwneud â’r camgymeriad hwnnw.

Ymhlith yr atebion y gellid eu cynnig y mae’r canlynol:

  • ymddiheuriad, esboniad, a chydnabyddiaeth o gyfrifoldeb,
  • camau lliniaru, a allai gynnwys unrhyw gyfuniad o’r rhain:
    • adolygu safonau gwasanaeth,
    • diwygio deunydd cyhoeddedig,
    • diwygio gweithdrefnau i atal yr un peth rhag digwydd eto,
    • hyfforddi neu oruchwylio staff.
  • iawndal ariannol am gostau a gafwyd o ganlyniad i gamgymeriad yr Arolygiaeth.

Help a Chyngor

Rydym yn ymdrechu’n galed i sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r system apelio’n fodlon ar y gwasanaeth a gânt gennym. Yn aml, bydd apeliadau cynllunio’n arwain at deimladau cryf ac mae’n anochel y caiff o leiaf un parti ei siomi gan ganlyniad yr apêl.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn ein cyhoeddiad Adborth, cŵynion a heriau.