Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddefnyddio deunydd hawlfraint a chynrychioli pryderon ynglŷn â chynnwys ar wefan PEDW.

Mae’r deunydd ar y wefan hon yn cael ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Cewch ddefnyddio ac ailddefnyddio gwybodaeth sydd wedi’i diogelu gan hawlfraint y Goron a welir ar y wefan hon (heb gynnwys logos) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored ar yr Archif Genedlaethol.

Nid yw Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) yn gwirio a yw deunydd a gyflwynir i ni yn bodloni hawlfraint cyn ei gyhoeddi. 

Os nad yw’n glir bod deunydd wedi’i ddiogelu gan hawlfraint y Goron neu os nad yw’r deunydd ar gael o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored, chi sy’n gyfrifol am bennu a bodloni hawlfraint ac amodau defnydd eraill cyn cyflwyno’r cynnwys i PCAC, ei gopïo, ei drosglwyddo, neu ei ddefnyddio fel arall.

Ein logo

Mae defnydd o’n logo wedi’i gyfyngu ac ni chaiff unigolion na sefydliadau eraill ei ddefnyddio heb gael caniatâd ffurfiol gennym. I geisio caniatâd i ddefnyddio ein logo, anfonwch neges e-bost at brandingqueries@gov.wales.

Polisi Hysbysu a Thynnu i Lawr

Wrth sicrhau bod deunydd ar gael ar-lein, mae PCAC yn gweithredu'n ddidwyll. Fodd bynnag, er gwaethaf y mesurau diogelu hyn, rydym yn cydnabod, o bryd i'w gilydd, y gallai deunydd a gyhoeddir ar-lein dorri cyfreithiau hawlfraint, cynnwys data personol sensitif, neu gynnwys deunydd y gellid ystyried ei fod yn anweddus neu'n ddifenwol. Os ydych yn pryderu eich bod wedi dod o hyd i ddeunydd ar ein gwefan nad ydych wedi rhoi caniatâd ar ei gyfer, sy’n mynd yn groes i gyfreithiau preifatrwydd, sy’n anweddus / difenwol ac, o ran cyfraith hawlfraint, nad oes cyfyngiad neu eithriad yn berthnasol iddo, cysylltwch â ni yn PEDW.Casework@gov.wales gan nodi’r canlynol:

  • Eich manylion cyswllt.
  • Manylion llawn y mater.
  • Cyfeirnod yr achos ac enw’r ddogfen.
  • Os yw’r cais yn ymwneud â hawlfraint, darparwch dystiolaeth mai chi yw’r deiliad hawliau a datganiad, o dan gosb anudoniaeth, mai chi yw’r deiliad hawliau neu eich bod yn gynrychiolydd awdurdodedig.
  • Y rheswm am eich cais gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, cyfraith hawlfraint, cyfreithiau preifatrwydd, diogelu data, anweddustra, difenwi ac ati.

Ar ôl derbyn hysbysiad, bydd ein gweithdrefn ‘Hysbysu a Thynnu i Lawr’ yn cael ei rhoi ar waith, fel a ganlyn:

  1. Bydd PCAC yn cydnabod derbyn eich cwyn ac yn gwneud asesiad cychwynnol o’i dilysrwydd.
  2. Pan dderbynnir cwyn ddilys, bydd y deunydd yn cael ei dynnu dros dro o olwg y cyhoedd wrth aros am ddatrysiad y cytunwyd arno.
  3. Bydd PCAC yn cysylltu â’r cyfrannwr a gyflwynodd y deunydd, os yw’n berthnasol. Rhoddir gwybod i’r cyfrannwr fod y deunydd yn destun cwyn, a’r sail ar gyfer y gŵyn, ac fe’i hanogir i fodloni’r cwynion dan sylw.
  4. Bydd yr achwynydd a’r cyfrannwr yn cael eu hannog i ddatrys y mater yn gyflym ac yn gyfeillgar, ac er boddhad y ddwy ochr, gyda’r canlyniadau posibl a ganlyn:
    • Ailgyhoeddi’r deunydd heb ei newid.
    • Ailgyhoeddi’r deunydd gyda newidiadau.
    • Tynnu’r deunydd yn barhaol oddi ar Borth Gwaith Achos Cynllunio a systemau PCAC.
  5. Os na all y cyfrannwr a'r achwynydd gytuno ar ddatrysiad, ni fydd y deunydd ar gael trwy Borth Gwaith Achos Cynllunio PCAC hyd nes y bydd datrysiad wedi’i ganfod.

Mae’r polisi a’r weithdrefn tynnu i lawr hyn yn debyg iawn i rai’r Llyfrgell Brydeinig ac fe’u defnyddir o dan drwydded CC-BY.