Penderfyniadau rhieni ynglŷn â gofal plant ar gyfer plant rhwng 9 mis a 2 oed: crynodeb
Adolygiad llenyddiaeth o'r dystiolaeth sydd ar gael ar benderfyniadau rhieni ynglŷn â gofal plant ar gyfer plant rhwng 9 mis a 2 oed.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau ymchwil a methodoleg
Mae gofal plant i blant rhwng 9 mis a 2 oed yn hollbwysig o ran ategu datblygiad cynnar, gan alluogi rhieni i weithio a chan hyrwyddo canlyniadau teg i deuluoedd (Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru 2024; Yr Adran Addysg 2025; Bucelli a McKnight 2022).
Cynhaliwyd yr adolygiad hwn fel rhan o interniaeth ddoethurol dros gyfnod o 3 mis yn Llywodraeth Cymru ac fe’i comisiynwyd er mwyn darparu mewnwelediadau amserol yn ymwneud â’r ffactorau sy’n dylanwadu ar benderfyniadau rhieni ynglŷn â defnyddio gofal plant ffurfiol ar gyfer plant rhwng 9 mis a 2 oed. Mae’r adolygiad yn syntheseiddio llenyddiaeth bresennol sy’n deillio o’r DU a ledled y byd er mwyn pennu themâu, nodi’r hyn sy’n atal ac yn galluogi defnydd o ofal plant ffurfiol, a llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau yng Nghymru yn y dyfodol. Nid rhagweld penderfyniadau rhieni yw’r nod; yn hytrach, y nod yw cyflwyno trosolwg thematig o’r sylfaen dystiolaeth gyfredol, ynghyd â phennu meysydd lle gellir cyfiawnhau ymchwil bellach a sylw pellach i bolisïau.
Canolbwyntiodd yr adolygiad ar lenyddiaeth Saesneg a gyhoeddwyd o fewn cyfnod o 10 mlynedd, rhwng 2015 a 2025, er mwyn sicrhau perthnasedd a rheoli cwmpas yr adolygiad, gan fynd ati ar yr un pryd i gofnodi’r tirlun esblygol sy’n perthyn i bolisïau gofal plant y blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Cynhwyswyd yn yr arolwg ddeunyddiau o gyfnodolion ysgolheigaidd ac adroddiadau a gomisiynwyd gan adrannau’r llywodraeth, a melinau trafod. Rhoddwyd blaenoriaeth i dystiolaeth yn ymwneud â chyd-destun Cymru, ond oherwydd bylchau yn yr wybodaeth penderfynwyd cynnwys canfyddiadau a oedd yn deillio o astudiaethau a gynhaliwyd yng ngwledydd eraill y DU a ledled y byd pan oeddynt yn cynnwys mewnwelediadau trosglwyddadwy’n ymwneud â phenderfyniadau rhieni neu systemau gofal plant cynnar. Ymhellach, rhoddwyd sylw arbennig i astudiaethau a oedd yn archwilio profiadau teuluoedd â phlant o dan 3 oed; ond roedd rhai astudiaethau’n cwmpasu oedrannau ehangach.
Ar ôl sgrinio eu perthnasedd a’u data, pennwyd a defnyddiwyd 43 o astudiaethau unigryw i lywio’r adolygiad hwn o’r dystiolaeth.
Canfyddiadau
Fforddiadwyedd gofal plant
Gwelwyd mai fforddiadwyedd gofal plant oedd un o’r ffactorau mwyaf arwyddocaol – ac un o’r ffactorau yr adroddir amdano yn fwyaf cyson – mewn perthynas â llywio penderfyniadau rhieni ynglŷn â gofal plant ar gyfer plant rhwng 9 mis a 2 oed. Dengys y dystiolaeth fod fforddiadwyedd yn esgor ar oblygiadau pellgyrhaeddol i lesiant teuluoedd a chyfranogiad yn y farchnad lafur, a bod y gost uchel sydd ynghlwm wrth ofal plant ffurfiol yn peri i rieni ohirio neu leihau eu defnydd o ddarpariaethau gofal plant, addasu eu cynlluniau cyflogaeth neu adael y gweithlu’n gyfan gwbl. I deuluoedd a chanddynt blant o dan 3 oed, nad ydynt yn aml yn gymwys i gael oriau a ariennir ar gyfer pob plentyn, mae rhwystrau o ran fforddiadwyedd yn effeithio’n fawr arnynt.
Ar draws gwledydd, awgryma’r dystiolaeth fod rhai rhieni wedi troi at ofal plant anffurfiol a ddarperir gan deidiau a neiniau a chyfeillion, er gwaethaf y ffaith bod yn well ganddynt ofal plant ffurfiol, gan fod gofal plant ffurfiol yn rhy ddrud.
Heb gymorth ariannol hygyrch a sylweddol, dengys yr adolygiad hwn o’r dystiolaeth fod nifer o rieni naill ai’n methu â defnyddio, neu’n gyndyn o ddefnyddio, gofal plant ffurfiol yn ystod blynyddoedd cynnar eu plant. Gall hyn effeithio ar gyflogaeth y mamau a chyfleoedd datblygiadol y plant, gan atgyfnerthu patrymau ehangach mewn perthynas ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.
Cael gafael ar ofal plant
Mynediad at ofal plant ac argaeledd gofal plant yw’r ffactorau mwyaf cyffredin sy’n dylanwadu ar benderfyniadau rhieni ynglŷn â defnyddio gofal plant ffurfiol ar gyfer plant o dan 3 oed.
Argaeledd a chyfyngiadau ymarferol
Mae canfyddiadau’r adolygiad yn tynnu sylw at argaeledd a chyfyngiadau ymarferol fel:
- problemau gydag argaeledd darpariaethau ar gyfer y blynyddoedd cynnar
- darpariaeth anghymesur o gyfyngedig mewn ardaloedd difreintiedig
- diffyg lleoedd priodol a rhestrau aros blwyddyn o hyd
- cyfyngiadau’n ymwneud â rhwystrau o ran oedran, nad ydynt yn diwallu anghenion rhieni
Gall y cyfyngiadau hyn fod yn amlwg iawn ymhlith teuluoedd difreintiedig a theuluoedd mudol, gan ddangos y modd y gall ffactorau croestoriadol, fel cefndir mudol a statws economaidd-gymdeithasol, greu rhwystrau mewn perthynas â gofal plant – patrwm a all fod yn berthnasol i Gymru hefyd. Awgryma’r adolygiad nad yw argaeledd gofal plant ar ei ben ei hun yn gwarantu mynediad teg at ofal plant. Mae sicrhau mynediad teg yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, sy’n cynnwys camau ar gyfer gwella cynhwysiant ac ymatebolrwydd diwylliannol mewn lleoliadau gofal plant ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau strwythurol a all effeithio ar deuluoedd ethnig lleiafrifol.
Diffyg hyblygrwydd gofal plant ffurfiol
Darganfu’r adolygiad fod rhieni’n cael anawsterau gyda chyfyngiadau amserol a gofodol. Mae oriau anhyblyg a hyblygrwydd cyfyngedig yn golygu bod lleoliadau gofal plant ffurfiol yn methu â diwallu anghenion rhieni sy’n gweithio, yn enwedig rhai sy’n gweithio oriau amser llawn ac oriau afreolaidd, fel shifftiau nos a phenwythnosau (Dallimore 2016; Doorley et al 2023). Awgryma’r dystiolaeth fod yr anhyblygrwydd strwythurol sydd ynghlwm wrth ofal plant ffurfiol yn llywio dewisiadau rhieni, gan orfodi teuluoedd yn aml i droi at ofal anffurfiol neu beri iddynt wneud defnydd rhannol yn unig o’u hawliau.
Cymhlethdod gweinyddol
Mae corff arall o dystiolaeth yn dangos y modd y gall dryswch, rheolau cymhwystra aneglur a chyfathrebu gwael esgor ar rwystrau mawr o ran cael gafael ar ofal plant ffurfiol, yn enwedig yn achos rhieni â babanod. Roedd y materion hyn i’w gweld yn arbennig ymhlith teuluoedd ethnig lleiafrifol a theuluoedd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol, a oedd yn wynebu rhwystrau mynych fel gwahaniaethau o ran ieithoedd, allgáu digidol, a diffyg gwybodaeth amlieithog a diwylliannol briodol.
Hyd yn oed pan mae cymorth gofal plant ar gael, awgryma’r canfyddiadau nad yw teuluoedd yn gallu gwneud penderfyniadau cwbl gytbwys yn ei gylch heb wybodaeth glir a hygyrch.
Prosesau ymgeisio cymhleth
Dengys yr astudiaethau fod dryswch ynghylch cymhwystra, cyfathrebu anghyson, a phrosesau ymgeisio beichus ar gyfer cymorth a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, yn gallu cyfrannu at ohirio neu atal defnydd o ofal plant, yn enwedig ymhlith teuluoedd difreintiedig.
Awgryma’r canfyddiadau hyn nad cynyddu’r ddarpariaeth yw’r unig beth y dylid ei wneud i wella mynediad at ofal plant ffurfiol. Yn ogystal â chynyddu’r ddarpariaeth, mae angen symleiddio systemau, egluro hawliau mewn perthynas â gofal plant a ariennir, a sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cynorthwyo trwy’r broses. Heb y gwelliannau hyn, bydd penderfyniadau rhieni ynglŷn â defnyddio gofal plant ffurfiol, a phryd i ddefnyddio gofal o’r fath, yn parhau i gael eu llywio gan rwystrau mwy strwythurol.
Gwerthoedd, credoau a dewisiadau rhieni
Manteision datblygiadol ymddangosiadol
Mae canfyddiadau ar draws gwledydd yn awgrymu bod ysgogiadau datblygiadol – yn cynnwys cymdeithasoli, llesiant emosiynol a dysgu iaith yn gynnar – yn cael lle mwyfwy canolog ym mhenderfyniadau rhieni, hyd yn oed ar gyfer plant o dan 3 oed.
Mae astudiaethau eraill wedi archwilio’r modd mae gwerthoedd diwylliannol ac ieithyddol yn llywio safbwyntiau ynglŷn â manteision datblygiadol gofal plant. O gofio ymrwymiadau strategol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo dwyieithrwydd o blentyndod cynnar ymlaen, fel y nodir yn Y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar (2024), mae’n debygol bod rhieni yng Nghymru hefyd o’r farn bod gofal plant dwyieithog yn fuddiol i ddatblygiad eu plant. Er mai cyfyngedig yw’r ymchwil empirig ynglŷn â’r pethau sy’n ysgogi rhieni i ddewis gofal plant cyfrwng Cymraeg fel mantais ddatblygiadol, mae cyfeiriad y polisi’n dangos pwyslais cynyddol ar ddwyieithrwydd fel agwedd graidd ar ofal plant y blynyddoedd cynnar.
Ymddiriedaeth, diwylliant a chysylltiad mewn lleoliadau gofal plant
Mae’r astudiaethau a adolygwyd yn dangos bod nifer o deuluoedd, yn enwedig teuluoedd o gefndiroedd a ymyleiddiwyd neu gefndiroedd amrywiol eu diwylliant, o’r farn bod ymddiriedaeth, cydweddiad diwylliannol a chysylltiad emosiynol yn benderfynyddion craidd mewn perthynas ag ansawdd gofal plant ffurfiol a defnydd o ofal plant ffurfiol. Er bod nodweddion strwythurol (fel cost neu oriau agor) yn bwysig, yn aml cânt eu gwerthuso trwy lens berthynol. Yn ogystal â dymuno cael mynediad at ofal, mae teuluoedd yn dymuno cael mynediad at ofal sy’n eu parchu nhw, eu gwerthoedd a’u traddodiadau, ac sydd hefyd yn meithrin cydberthnasau llawn ymddiriedaeth gyda’u plant. Mae rhai astudiaethau a adolygwyd yn dangos y modd y dylai polisïau ac arferion y dyfodol mewn perthynas â gofal plant ffurfiol roi sylw i’r dimensiynau hyn er mwyn sicrhau y bydd y gofal hwnnw’n wirioneddol gynhwysol ac ymatebol i’r cymunedau yr anelir at eu gwasanaethu.
Hoffter o ofal plant anffurfiol
Thema gyson arall a welir ledled y llenyddiaeth yw’r ffaith bod rhieni’n ffafrio gofal plant anffurfiol, yn enwedig gofal a ddarperir gan deidiau a neiniau a pherthnasau dibynadwy eraill. Nid ffordd o ymateb i ddiffyg gofal plant ffurfiol yn unig yw’r hoffter hwn; yn aml, mae’n adlewyrchu gwerthoedd dyfnach, fel ymddiriedaeth, diogelwch emosiynol a chlymau teuluol.
Dengys yr astudiaethau a adolygwyd pa mor bwysig yw cydnabod bod gofal plant anffurfiol yn agwedd ddilys ar fywyd teuluol – ac yn agwedd a gaiff ei ffafrio, yn aml – yn enwedig mewn cyd-destunau lle mae systemau ffurfiol naill ai’n anhygyrch neu’n llai derbyniol yn ddiwylliannol.
Casgliad
Mae’r adolygiad cyflym hwn o’r dystiolaeth yn syntheseiddio ymchwil gyfredol sy’n deillio o’r DU a ledled y byd – hynny yw, ymchwil yn ymwneud â’r ffactorau sy’n llywio penderfyniadau rhieni ynglŷn â defnyddio gofal plant ffurfiol ar gyfer plant rhwng 9 mis a 2 oed. Mynediad ac argaeledd oedd y ffactorau mwyaf arwyddocaol a chryfaf eu tystiolaeth, gan ddangos y modd y mae darpariaeth gyfyngedig, cyfyngiadau o ran oedran, a chymhlethdod gweinyddol yn cyfyngu ar ddewisiadau rhieni. Rhoddir lle amlwg hefyd i themâu hollbwysig eraill, megis fforddiadwyedd, manteision datblygiadol ymddangosiadol, ymddiriedaeth a chydweddiad diwylliannol, a hoffter o ofal anffurfiol.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod angen gwneud mwy nag ehangu’r ddarpariaeth os ydym am wella mynediad at ofal plant ffurfiol. Mae angen rhoi sylw i’r modd y llunnir systemau, yn cynnwys symleiddio prosesau gweinyddol, egluro hawliau i ofal plant a ariennir, a sicrhau amgylcheddau sy’n ymatebol yn ddiwylliannol ac sy’n gefnogol yn emosiynol. Heb y gwelliannau hyn, bydd penderfyniadau ynglŷn â sut a phryd i ddefnyddio gofal plant ffurfiol yn parhau i gael eu llywio gan gyfyngiadau mwy systemig yn hytrach na chan ddewis rhieni.
Awgryma’r adroddiad y dylai gwaith ymchwil yn y dyfodol archwilio sut mae rhieni yng Nghymru yn llywio trwy’r themâu a nodir yn yr adolygiad, yn enwedig mewn perthynas â hawliau newydd a darpariaethau dwyieithog (Cymraeg 2050 a darpariaeth ehangach Dechrau’n Deg). Hefyd, byddai astudiaethau mwy penodol lle canolbwyntir ar blant rhwng 9 mis a 2 oed yn helpu i egluro sut caiff penderfyniadau ynglŷn â gofal plant cynnar eu gwneud, a sut gall polisïau gynorthwyo teuluoedd yn well yn ystod y cam hwn.
Manylion cyswllt
Awduron: Maddison Wright
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil Plant a Theuluoedd
Yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ebost: Ymchwil.PlantATheuluoedd@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 30/2026
ISBN digidol 78-1-83745-162-3
