Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

1.1 Statws

1.1.1    Mae’r ddogfen ganllaw hon gan Lywodraeth Cymru yn Adendwm i Gylchlythyr Rhif: 24/2009, Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru

1.1.2    Bwriedir i’r canllawiau hyn gael eu dehongli’n lleol gan awdurdodau priffyrdd, er mwyn gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pennu eithriadau i’r terfyn cyflymder 20mya diofyn  ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru – a ddaw i rym ar 17 Medi 2023.

1.1.3    Mae'r Canllaw hyn yn darparu methodoleg i sicrhau dull cyson o ymdrin ag eithriadau ledled Cymru; ond eto yn caniatáu i ffactorau ac amgylchiadau lleol gael eu hystyried.

1.1.4    Fe'i defnyddir fel sail i ddangos y rhesymeg dros wneud unrhyw eithriad o'r terfyn 20mya diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig fel bod y terfyn cyflymder yn aros ar 30mya.

1.1.5    Mae adran 82(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn diffinio ffyrdd cyfyngedig (yn ddarostyngedig i’r hyn a ganlyn) fel ffyrdd lle ceir system o oleuadau stryd drwy gyfrwng lampiau sydd wedi’u gosod heb fod yn fwy na 200 llath ar wahân. Fodd bynnag, o dan adran 82(2) o’r Ddeddf, gall awdurdodau priffyrdd gyfarwyddo y bydd ffordd nad yw’n ffordd gyfyngedig yn dod yn ffordd gyfyngedig, ac na fydd ffordd sy’n ffordd gyfyngedig yn ffordd gyfyngedig   mwyach. Yn ogystal, tra bo Gorchymyn terfyn cyflymder sydd wedi ei wneud yn rhinwedd adran 84(1)(a) o’r Ddeddf mewn grym mewn cysylltiad â ffordd, ni fydd y ffordd honno yn ffordd gyfyngedig at ddibenion adran 81 o’r Ddeddf. Mae’r rhan fwyaf o ffyrdd cyfyngedig mewn ardaloedd adeiledig. 

1.1.6    Mae’r Cylchlythyr hwn yn disodli’r canllawiau yn y ddogfen Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru sy’n ymdrin â therfynau a pharthau cyflymder 20mya. Mae fersiwn newydd o’r ddogfen Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru yn cael ei llunio ar hyn o bryd i adlewyrchu’r newid i’r terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig. Pan gyhoeddir fersiwn ddiwygiedig o’r canllawiau Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru (tuag at ddiwedd 2022) byddant yn disodli’r Adendwm hwn i Gylchlythyr Rhif: 24/2009.

1.2 Polisi

1.2.1    Mae’r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i leihau’r terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd cyfyngedig o 30mya i 20mya er mwyn lleihau nifer a difrifoldeb y gwrthdrawiadau ac anafiadau, galluogi mwy o bobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol, lleihau’r effeithiau ar yr amgylchedd a gwella ansawdd bywyd pobl mewn cymunedau ledled Cymru. 

1.2.2    Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cefnogi’r amcanion a nodir yn y ddogfen Llwybr Newydd: strategaeth drafnidiaeth Cymru 2021, sy’n rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio dros bob dull arall o deithio; a Dyfodol Cymru, sef y fframwaith datblygu cenedlaethol sy’n gosod y nod i bobl fyw mewn mannau lle mae teithio’n cael effaith isel ar yr amgylchedd. 

1.2.3    Wrth wneud y newid hwn, mae Llywodraeth Cymru’n ceisio cyflawni nodau Erthygl 11 o Ddatganiad Stockholm gan y Cenhedloedd Unedig sy’n nodi:

“Gan ailadrodd ein hymrwymiad cryf i gyflawni nodau byd-eang erbyn 2030 a phwysleisio ein cyfrifoldeb a rennir, rydym yn  ymroi i […] 

Ganolbwyntio ar reoli cyflymder, gan gynnwys cryfhau gorfodi’r gyfraith i atal goryrru a mandadu terfyn cyflymder uchaf o 30km/h (20mya yw’r terfyn cyflymder agosaf i 30km/h) ar gyfer teithio ar ffyrdd mewn mannau lle mae defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed a cherbydau yn cymysgu’n aml mewn ffordd a gynlluniwyd, ac eithrio lle mae tystiolaeth gref yn dangos bod cyflymderau uwch yn ddiogel, gan nodi y bydd ymdrechion i leihau cyflymder yn gyffredinol yn fanteisiol o ran ansawdd yr aer a’r newid yn yr hinsawdd yn ogystal â bod gwneud hynny’n hanfodol i leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd.”

1.3 Deddfwriaeth

Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022

1.3.1    Cafodd Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20mya) (Cymru) 2022 (2022 Rhif 800 (Cy. 177))  ei wneud gan Weinidogion Cymru ar 13 Gorffennaf 2022 yn dilyn penderfyniad Senedd Cymru i gymeradwyo drafft o’r Gorchymyn.    

1.3.2    Mae’r Gorchymyn yn lleihau’r terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd cyfyngedig, a osodir gan adran 81(1) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, i 20mya.

1.3.3    Daw i rym ar 17 Medi 2023. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd gan unrhyw ffordd gyfyngedig derfyn cyflymder 20mya oni bai bod yr awdurdod priffyrdd yn pennu terfyn cyflymder gwahanol drwy Orchymyn.

Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddydau Cyffredinol 2016

1.3.4    Mae newidiadau i’r Rheoliadau Arwyddion Traffig a Chyfarwyddydau Cyffredinol yn cael eu llunio ar hyn o bryd, a byddant yn dilyn yn 2023. 

1.3.5    Bydd y newidiadau hyn yn dileu’r gofyniad am arwyddion ategu cyflymder ar ffyrdd â therfyn cyflymder 20mya sydd â goleuadau stryd, ac yn dileu’r angen i awdurdodau priffyrdd osod arwyddion o’r fath. Ar ôl y dyddiad dod i rym, bydd gan yr awdurdodau priffyrdd chwe mis i gael gwared ar arwyddion ategu 20mya. 

1.3.6    Fel rheol, bydd angen cael arwyddion ategu cyflymder ar ffyrdd 30mya â goleuadau. Ceir arweiniad ar ddarparu arwyddion ategu ym Mhennod 344 o’r Llawlyfr Arwyddion Traffig

2. Eithriadau i’r Terfyn 20mya Diofyn ar gyfer Ffyrdd Cyfyngedig

2.1    Egwyddorion

2.1.1    Yn unol â dyhead Llywodraeth Cymru i gyflawni nodau Datganiad Stockholm (para. 1.2.3), dylid pennu terfyn cyflymder 20mya lle mae cerddwyr a/neu feicwyr a cherbydau modur yn cymysgu yn aml, ac eithrio lle mae tystiolaeth gref yn dangos bod cyflymderau uwch yn ddiogel.

2.1.2    Ni fydd pob ffordd 30mya bresennol yn bodloni’r maen prawf hwn, a dylai awdurdodau priffyrdd lunio Gorchmynion i gadw’r terfyn cyflymder presennol ar gyfer y ffyrdd hyn. Gelwir y rhain yn ‘eithriadau’ i’r terfyn cyflymder diofyn ar gyfer ffyrdd cyfyngedig.

2.1.3    Dylai awdurdodau priffyrdd ystyried dau Brif Gwestiwn, sef A a B isod, wrth benderfynu a ddylid gwneud eithriad 30mya:

Cwestiwn A: A oes nifer sylweddol o gerddwyr a beicwyr yn teithio ar hyd neu ar draws y ffordd (neu bosibilrwydd o hynny, pe bai’r cyflymderau yn llai)? 

  • Os ‘nac oes’ yw’r ateb i A, mae’n bosibl y byddai eithriad ar gyfer terfyn cyflymder 30mya yn briodol 

Cwestiwn B: Os ‘oes’ yw’r ateb i A, a yw’r cerddwyr a’r beicwyr yn cymysgu â cherbydau modur?

  • Os ‘nac ydyn’ yw’r ateb i B, mae’n bosibl y byddai eithriad ar gyfer terfyn cyflymder 30mya yn briodol  
  • Os ‘ydyn’ yw’r ateb i B, bydd terfyn cyflymder 20mya yn briodol oni bai bod tystiolaeth gref sy’n seiliedig ar ffactorau lleol yn dangos fel arall. 

2.2.1    Ni ddylai cyflymderau traffig presennol gael dylanwad ar benderfyniadau ynglŷn ag eithriadau.

2.2.2    Yng ngoleuni Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, nid yw’r ffaith bod darn o ffordd ar lwybr bysiau, ynddo’i hun, yn cyfiawnhau gwneud eithriad.

2.2 Y broses ar gyfer pennu eithriadau

Ystyried ffyrdd 30mya presennol yn unig

2.2.3    Yn gyffredinol, i leihau maint y dasg, ni ddylai awdurdodau priffyrdd ond ystyried ffyrdd cyfyngedig presennol wrth benderfynu p’un a ddylid gwneud eithriadau, cyn 17 Medi 2023. Gellir ystyried ffyrdd sydd wedi’u gwneud yn ffyrdd 30mya drwy Orchymyn ar y cam hwn hefyd, os yw’r awdurdod priffyrdd o’r farn ei bod yn briodol gwneud hynny. Bydd hyn yn cynnwys achosion lle mae darnau helaeth o ffyrdd â goleuadau wedi’u gwneud yn ffyrdd 30mya drwy Orchymyn.

2.2.4    Dylai pob ffordd 20mya bresennol, boed yn barthau neu’n derfynau, a wnaed drwy Orchymyn, gadw ei therfyn cyflymder presennol. Yn achos ffyrdd â goleuadau, dylid dirymu’r Gorchmynion 20mya presennol hyn, oni bai bod terfynau’r ffyrdd yn yr ardal yn cael eu pennu drwy Orchymyn.

2.2.5    Yn gyffredinol, ni ddylid newid terfynau cyflymder 40mya ac uwch ar y cam hwn, ond bydd angen adolygu eu terfynau ar ôl 17 Medi 2023 ac ar ôl cyhoeddi’r canllawiau diwygiedig ar gyfer Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru. 

Dosbarthu ffyrdd

2.2.6    Disgwylir i’r mwyafrif o eithriadau gael eu gwneud ar ffyrdd dosbarth A neu B. Yn gyffredinol, dyma’r prif lwybrau sy’n cludo traffig drwy ardaloedd trefol.  

2.2.7    Fel rheol, traffig lleol sy’n defnyddio ffyrdd dosbarth C a ffyrdd di-ddosbarth gan mwyaf, a dim ond eiddo preswyl maent yn eu gwasanaethu. Fel arfer, maent yn llwybrau pwysig ar gyfer cerddwyr a beicwyr, ac maent yn rhannu’r gerbytffordd â cherbydau modur. Ni ddisgwylir y gwneir eithriadau ar gyfer ffyrdd o’r math hwn fel rheol, felly, ond gall awdurdodau ddewis gwneud hynny ar sail y canllawiau hyn a chan ystyried ffactorau lleol. 

Meini prawf lleoliad

2.2.8    Datblygwyd y meini prawf ‘lleoliad’ a ganlyn i arwain awdurdodau priffyrdd wrth bennu, mewn ffordd gyson ar draws Cymru, ar ba ddarnau o ffyrdd y gall fod galw sylweddol o ran cerddwyr a beicwyr:

  1. O fewn taith gerdded o 100 metr i unrhyw leoliad addysgol (e.e. sefydliad addysg gynradd, addysg uwchradd, addysg bellach neu addysg uwch)
  2. O fewn taith gerdded o 100 metr i unrhyw ganolfan gymunedol
  3. O fewn taith gerdded o 100 metr i unrhyw ysbyty
  4. Lle mae nifer yr eiddo preswyl a/neu fanwerthu sy’n wynebu ffordd  yn fwy na 20 adeilad/km. 

2.2.9    Dylid ystyried bod darnau o ffyrdd sy’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf lleoliad hyn yn ateb yn gadarnhaol i Brif Gwestiwn A fel y’i nodir uchod yn 2.1.3. 

2.2.10    Fodd bynnag, mae gan awdurdodau priffyrdd yr hyblygrwydd o hyd i bennu terfynau cyflymder lleol sy’n gywir ar gyfer ffyrdd unigol, gan adlewyrchu anghenion ac ystyriaethau lleol. 

2.2.11    Pan fo’u penderfyniad yn gwyro o’r canllawiau hyn, dylai awdurdodau priffyrdd sicrhau bod ganddynt achos clir a chadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’w gyfiawnhau.

Cymhwyso ffactorau lleol i’r meini prawf lleoliad

2.2.12    Gall awdurdodau priffyrdd gymhwyso ffactorau lleol perthnasol wrth ddehongli’r meini prawf lleoliad er mwyn pennu’r angen i wneud eithriadau. 

2.2.13    Rhoddir enghreifftiau ynghylch y ffordd y gellir gwneud hyn isod. Mae’r rhain yn hollol ddangosol i ddangos sut y dylid gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

2.2.14    Cyfleusterau lleol: Mae’n bosibl bod cyfleusterau lleol fel canolfannau cymunedol neu gyfleusterau meddygol wedi’u lleoli ar y ffordd o dan sylw, ond efallai bod pobl yn cael mynediad iddynt drwy gerdded neu feicio iddynt ar hyd  llwybr gwbl wahanol. Mae’n bosibl eu bod yn croesi’r ffordd drwy danlwybr neu dros bont, gan olygu nad ydynt yn dod ar draws cerbydau modur. Mewn achosion o’r fath gallai’r awdurdod priffyrdd ddod i’r farn nad yw meini prawf lleoliad 1 – 3 wedi’u bodloni. 

2.2.15    Preswyl a manwerthu: Mae’n bosibl bod eiddo preswyl a manwerthu ar un ochr i’r ffordd ond, os oes tir agored ar ochr arall y ffordd, gallai olygu nad oes angen mawr i gerddwyr a beicwyr groesi’r ffordd. Mae’n bosibl nad oes modd i gerddwyr a beicwyr gael mynediad i’r eiddo o’r ffordd yn uniongyrchol – efallai bod pobl yn defnyddio ffordd wasanaethu ar wahân, er enghraifft. Mewn sefyllfa o’r fath, mae’n bosibl y byddai’r awdurdod lleol yn dod i’r farn nad yw maen prawf 4 wedi’i fodloni, er y bydd angen ystyried anghenion y beicwyr sy’n teithio ar y ffordd o hyd, yn unol â Chanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2021.

2.2.16    I’r gwrthwyneb, mae’n bosibl bod darnau o ffyrdd lle ceir galw sylweddol, neu bosibilrwydd o hynny, o ran cerdded a beicio nad yw’n bodloni unrhyw un o’r meini prawf lleoliad ond lle gallai terfyn cyflymder 20mya fod yn briodol, megis: 

  • lle mae’r tir ar y naill ochr a’r llall i’r gerbytffordd yn dir parc agored a/neu’n feysydd chwarae sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd gan gerddwyr a/neu feicwyr
  • lle mae mynedfeydd i ysgolion neu ysbytai a ddefnyddir yn rheolaidd ar hyd y ffordd, er eu bod efallai mwy na 100 metr i ffwrdd o’u prif fynedfeydd
  • Lle mae llwybr teithio llesol dynodedig ar y gerbytffordd
  • Lle mae nifer a/neu’r math o wrthdrawiadau sy’n digwydd ar hyd y ffordd yn golygu y byddai defnyddwyr y ffordd a’r gymuned leol ar eu hennill pe bai terfyn cyflymder 20mya, drwy iddynt gael ffordd sy’n llawer mwy diogel, ymhlith manteision eraill.

2.2.17    Tynnir sylw at baragraff 2.2.21 mewn perthynas ag isafswm hyd terfynau cyflymder.

Cyfleusterau a warchodir ar gyfer cerddwyr a beicwyr

2.2.18    Gall eithriadau fod yn briodol lle ceir galw sylweddol (neu bosibilrwydd o hynny) am gerdded neu feicio cyn belled ag y bo’r awdurdod priffyrdd yn fodlon mai ‘nac ydyn’ yw’r ateb i Brif Gwestiwn B (gweler 2.1.3) – h.y. nad oes angen i gerddwyr a beicwyr gymysgu â cherbydau modur.  

2.2.19    Byddai hyn yn golygu bod angen darparu cyfleusterau a warchodir i gerddwyr a beicwyr sy’n bodloni gofynion Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, mewn perthynas â’r canlynol yn enwedig:

  • mae troetffyrdd, yn unol ag adran 9.6 o Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, ar yr ochr/ochrau’r ffordd lle mae datblygiad yn wynebu’r ffordd, neu i sicrhau’r cysylltedd angenrheidiol. 
  • mae unrhyw alw am symudiadau croesi ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn digwydd ar leoliadau penodol, gan mwyaf, lle darperir cyfleusterau yn unol ag adran 12.3 o Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol; neu, fel arall, nid oes unrhyw ofyniad i gerddwyr na beicwyr groesi’r ffordd (e.e. lle mae datblygiad ar un ochr yn unig).
  • mae’r ddarpariaeth ar gyfer beicwyr ar hyd y llwybr yn ‘addas ar gyfer y rhan fwyaf o bobl’, ar sail Tabl 11.1 yng Nghanllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol. Bydd hyn fel arfer yn gofyn am fesurau ffisegol i amddiffyn pobl rhag cerbydau modur.

Isafswm hyd terfynau cyflymder

2.2.20    Ni ddylid gwneud eithriad pan fyddai cymhwyso’r canllawiau hyn yn arwain at derfynau cyflymder 30mya ar hyd darnau ffyrdd byr.  

2.2.21    Mae’r canllawiau ar gyfer Pennu Terfynau Cyflymder Lleol yng Nghymru yn argymell y dylid sicrhau nad yw isafswm hyd terfyn cyflymder yn fyrrach na 300 metr ar ffyrdd â swyddogaeth mynediad lleol, ac eithrio o dan amgylchiadau eithriadol.

Terfynau cyflymder dros dro

2.2.22    Pan fo awdurdod priffyrdd o’r farn bod eithriad yn briodol ar rai adegau ond nid ar adegau eraill, gall ddileu cyfyngiadau’r ffordd a phennu terfyn cyflymder dros dro drwy Orchymyn.

2.2.23    Bydd angen gosod unedau negeseuon electronig ar ddechrau a diwedd y darn o’r ffordd. Gan ddibynnu ar ei hyd, gall fod angen codi arwyddion ategu amrywiol hefyd, y byddai eu sgriniau’n wag yn ystod y cyfnodau pan fo terfyn cyflymder 20mya yn weithredol.