Neidio i'r prif gynnwy

Mae darpariaeth o ansawdd uchel ym meysydd y blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae yn mynd y tu hwnt i fodloni'r gofynion sylfaenol. Mae'n creu amgylcheddau cynnes, diddorol a myfyrgar lle mae babanod a phlant yn teimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael eu cefnogi i ffynnu. Yn ganolog iddi mae'r plentyn, a'i hawliau, sy'n sicrhau bod anghenion, diddordebau a llais pob plentyn yn llywio eu profiadau.

Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sail i'r dull gweithredu hwn drwy sicrhau:

  • Diogelwch ac amddiffyniad rhag niwed (Erthygl 19).
  • Parch at leisiau plant mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt (Erthygl 12).
  • Amser a lle i chwarae, a chyfle i archwilio ystod eang o weithgareddau sy'n cefnogi plant i ddatblygu eu galluoedd a'u diddordebau (Erthyglau 29 a 31)
  • Lles emosiynol a gofal sy'n eu meithrin (Erthygl 24). 

Elfennau Allweddol o Ddarpariaeth o Ansawdd Uchel

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn canolbwyntio ar y plentyn, yn gynhwysol ac yn ymateb i'r sefyllfa, a hynny drwy:

  • Oedolion sy'n Galluogi Dysgu sy'n adeiladu cydberthnasau cryf sy'n ymateb i'r unigolyn, ac yn creu gofod lle gall plant fod yn chwilfrydig a chwarae yn ôl eu dewis, gan eu cefnogi i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a gwytnwch
  • Amgylcheddau Effeithiol sy'n annog plant i archwilio, ac yn cynnig gofod i ymlacio, annibyniaeth, ac ymdeimlad o berthyn.
  • Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb sy'n meithrin cyfleoedd i chwarae, darganfod a datrys problemau mewn ffordd ystyrlon yn ôl lefel y plentyn.

Nodweddion Darpariaeth o Ansawdd Uchel

Mae gwarchodwyr plant a darparwyr gofal dydd yn arddangos darpariaeth o ansawdd uchel drwy:

  • Fynd y tu hwnt i'r gofynion sylfaenol drwy ystyried a gwella'n barhaus
  • Sicrhau canlyniadau cryf mewn arolygiadau sy'n cydnabod eu hymrwymiad i ansawdd
  • Ymgorffori arferion gorau sy'n cefnogi datblygiad holistaidd plant
  • Defnyddio fframweithiau a gymeradwywyd gan y sector fel Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0-5 oed, a fframwaith sicrhau ansawdd Chwarae Cymru, 'Chwarae o Safon', gan gydnabod pwysigrwydd Egwyddorion Gwaith Chwarae wrth gefnogi profiadau chwarae o ansawdd ym mhob lleoliad gwaith chwarae, mewn Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol a lleoliadau Chwarae Mynediad Agored.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu bod:

  • Oedolion sy'n Galluogi Dysgu yn creu cydberthnasau sy'n cynnig diogelwch, lle mae babanod a phlant yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, eu clywed a'u gwerthfawrogi, gan feithrin hyder a'r gallu i ddatrys problemau.
  • Amgylcheddau Effeithiol yn cefnogi anghenion corfforol ac emosiynol, gan ysbrydoli chwarae, creadigrwydd ac archwilio.
  • Profiadau sy'n Ennyn Diddordeb yn cael eu llywio gan ddiddordebau babanod a phlant, gan ganiatáu iddynt chwarae mewn ffordd benagored a darganfod drostynt eu hunain.

Ystyried a Gwella'n Barhaus

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn ddeinamig ac yn esblygu drwy ystyried ac ymgysylltu'n barhaus â babanod, plant a theuluoedd. Dylai Oedolion sy'n Galluogi Dysgu asesu'n rheolaidd:

  • Sut mae cydberthnasau a rhyngweithio yn cefnogi ymdeimlad o ddiogelwch emosiynol, dysgu a hunanfynegiant.
  • Ffyrdd o greu amgylcheddau cynhwysol, sy'n ymateb i'r sefyllfa, gan adlewyrchu diddordebau a diwylliannau plant.
  • Strategaethau i ymestyn dysgu drwy chwarae, iaith ac archwilio.
  • Sut i sicrhau bod llais plant yn llywio eu profiadau.

Egwyddorion Arweiniol: Ein Saith Nod Craidd ar gyfer Plant yng Nghymru

Mae'r Saith Nod Craidd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru, sy'n seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, yn llywio darpariaeth o ansawdd uchel:

  1. Dechrau cryf mewn bywyd a'r sylfaen orau o ran lles.
  2. Mynediad at brofiadau dysgu ystyrlon, cyfoethog.
  3. Iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol da.
  4. Cyfleoedd ar gyfer chwarae, creadigrwydd, a hunanfynegiant.
  5. Cael eu gwrando, eu gwerthfawrogi a'u parchu.
  6. Tyfu mewn cymunedau diogel, sy'n eu meithrin.
  7. Cymorth i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig â thlodi ac anghydraddoldeb.

Drwy ymgorffori Oedolion sy'n Galluogi Dysgu, Amgylcheddau Effeithiol, a Phrofiadau sy'n Ennyn Diddordeb i arferion bob dydd, mae ymarferwyr yn helpu i sicrhau bod pob babi a phlentyn yn cael eu grymuso i ffynnu, chwarae a thyfu mewn hyder.

Cefnogi Gwella Ansawdd

Mae adnoddau gwella ansawdd yn helpu ymarferwyr i ystyried, mireinio a gwella eu darpariaeth, gan sicrhau bod pob plentyn yn derbyn y gofal a'r profiadau sydd o'r ansawdd uchaf.

Mwy o Arweiniad a Help

Am ragor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i:

  • Chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar yng Nghymru - Hwb
  • Canllawiau Arolygu a Sgorio Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Cwlwm
  • Chwarae Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru