Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw , cyhoeddodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fod Marilyn Bryan-Jones wedi’i phenodi’n Aelod Annibynnol o Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y penodiad hwn yn para rhwng 14 Gorffennaf 2022 a 13 Gorffennaf 2026.

Sefydlwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru o dan ddarpariaeth Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyfrifol am newid y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu. Fel sefydliad cenedlaethol ac Awdurdod Iechyd Arbennig rydym yn darparu arweinyddiaeth, cymorth a chydweithrediad i gefnogi tirwedd newydd iechyd a gofal yng Nghymru.

Mae aelodau o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael eu talu £9,360 y flwyddyn, yn seiliedig ar ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyniad i weithgarwch gwleidyddol y sawl a benodir (os oes unrhyw weithgarwch o’r fath wedi’i ddatgan) gael ei gyhoeddi.

Nid yw’r unigolyn hwn wedi cynnal unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn y pum mlynedd diwethaf ac nid yw’n dal unrhyw benodiadau Gweinidogol eraill.