Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlwyd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ym mis Mai 2018.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Bwrdd yn chwarae rôl hanfodol o ran sicrhau bod yr Academi yn bodloni ei nod o gaffael a meithrin arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol ym mhob rhan o'r system addysg, gan sicrhau bod cyfleoedd cyson o ansawdd uchel ar gael iddynt i ddatblygu arweinyddiaeth a fydd yn diwallu eu hanghenion, ni waeth beth fo eu cam gyrfa na'u huchelgeisiau.

Mae Yusuf Ibrahim yn Brifathro Cynorthwyol yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Fel aelod o'r Grŵp Arweinyddiaeth Pobl Ddu, mae'n awyddus i sicrhau bod cyfleoedd gwell ar gael ar gyfer arweinyddiaeth i bobl o bob cefndir, yn arbennig pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol a chefndiroedd difreintiedig. Dechreuodd Yusuf ei yrfa fel athro Addysg Grefyddol a Seicoleg, gan symud ymlaen yn gyflym i ymgymryd â rolau cwricwlwm ac arweinyddiaeth fugeiliol. Mae gan Yusuf bymtheng mlynedd o brofiad yn gweithio fel arweinydd canol, uwch-arweinydd ac arweinydd gweithrediaeth yn Llundain, Bryste a Chaerdydd. Mae profiad sylweddol gan Yusuf o weithio ym maes y cwricwlwm, yn ogystal â phrofiad bugeiliol, gweithredol a strategol yn y sector ysgolion a'r sector Addysg Bellach.

Academydd yw'r Dr Deborah (Debbie) Nash sy'n arbenigo ym maes gwyddor anifeiliaid. Treuliodd Debbie sawl blwyddyn yn addysgu yn y sector Addysg Bellach cyn cwblhau PhD yn y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Wedyn bu'n gweithio fel Darlithydd, ac yna Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan Debbie brofiad ymarferol o addysgu wrth y bwrdd du, yn ogystal â gwybodaeth go iawn am y sgiliau a'r sylfaen wybodaeth sydd â phobl ifanc yn y sector addysg brif ffrwd.

Katie Phillips yw Llywydd etholedig presennol Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn ogystal â bod yn Ymddiriedolwr ac yn Gyfarwyddwr iddi. Ar ôl graddio â gradd 2:1 ym maes Daearyddiaeth yn 2020, cafodd ei hethol i rôl Swyddog Materion Cymru ar gyfer Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Dyma'r tri aelod cyntaf o'r Bwrdd i gael eu penodi gan y Gweinidog, a fydd yn dechrau ar eu penodiadau pedair blynedd o 1 Mai 2022 ymlaen. 

At hynny, mae'r Dr Sue Davies wedi cael ei phenodi eto'n Gadeirydd y Bwrdd am dymor arall o bedair blynedd o 1 Mai 2022 ymlaen.

Ac mae Mike James, Paul Marshall, y Dr Martin Price a John Graystone wedi cael eu penodi eto'n aelodau o'r Bwrdd am dymor arall o dair blynedd o 1 Mai 2022 ymlaen.

Mae John Graystone hefyd yn aelod o Gorff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (sy'n talu £300 y diwrnod ar sail ymrwymiad amser o hyd at 25 o ddiwrnodau'r flwyddyn, yn ogystal â chostau teithio a threuliau rhesymol) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (sy'n talu £5,076 y flwyddyn yn ogystal â threuliau, ar sail ymrwymiad amser o 18 diwrnod y flwyddyn o leiaf).

Telir ffi o £80 y diwrnod i aelodau o Fwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ar sail ymrwymiad amser o un diwrnod y mis. Telir ffi o £100 y diwrnod i'r Cadeirydd ar sail ymrwymiad amser o un diwrnod yr wythnos.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Mae'n bleser mawr gennyf benodi Yusuf Ibrahim, y Dr Debbie Nash a Katie Phillips yn aelodau o Fwrdd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol. Mae'n bleser hefyd gennyf benodi'r Dr Sue Davies yn Gadeirydd eto, a Mike James, Paul Marshall, y Dr Martin Price a John Graystone yn aelodau o'r Bwrdd. Mae hon yn adeg gyffrous yn y gwaith o ddatblygu'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ymhellach. Mae'r Bwrdd, drwy wybodaeth, profiad, cefnogaeth a herio, yn hanfodol o ran goruchwylio a chyfarwyddo capasiti arweinyddiaeth er mwyn diwallu anghenion y system addysg yng Nghymru.

Gwnaed y penodiadau yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid oes gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o'r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol unigolion a gaiff eu penodi (os caiff unrhyw weithgarwch o'r fath ei ddatgan). Nid yw unrhyw aelod o'r Bwrdd wedi datgan gweithgarwch gwleidyddol.