Neidio i'r prif gynnwy

Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi bod Debra Williams wedi cael ei phenodi yn Gadeirydd newydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 o brif gynghorau, gan gynnwys nifer y cynghorwyr a wardiau yn ardal pob cyngor.

Mae’r Comisiwn yn gwneud argymhellion ar sail adolygiadau etholiadol i Lywodraeth Cymru sydd o fudd yn eu barn hwy i sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Julie James:

Rydw i’n falch o gyhoeddi bod Debra Williams wedi ei phenodi yn Gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Fel Cadeirydd, bydd Debra yn rhoi arweiniad i’r Comisiwn ar adeg pan fo’n wynebu heriau sy’n gysylltiedig â rhaglen adolygu sylweddol a fydd yn parhau dros y ddwy flynedd nesaf.

Mae’r penodiad wedi cael ei wneud yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a bydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2020 am dymor o ddwy flynedd.

Bydd Debra Williams yn cael tâl o £478 y diwrnod yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd a bydd y swydd yn galw am ymrwymiad amser o 1 i 3 diwrnod y mis.