Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod yr Athro Keith Ridgway CBE wedi'i benodi'n Gadeirydd newydd Diwydiant Cymru,.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Diwydiant Cymru, corff hyd braich Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda byd diwydiant i gefnogi busnesau technoleg a gweithgynhyrchu yng Nghymru i ffynnu ar lwyfan byd-eang.

Bydd y Cadeirydd newydd yn sicrhau bod Diwydiant Cymru yn parhau i gyflawni yn unol â’i lythyr cylch gwaith a'i gynllun busnes i gefnogi Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Bydd yn llywio ei weithgareddau mewn perthynas â gweithgynhyrchu, sgiliau, datgarboneiddio, awtomeiddio, a lleoleiddio cyfleoedd sy’n ymwneud â’r gadwyn gyflenwi i wella gweithgarwch economaidd lleol, gan gyd-fynd â'r weledigaeth a nodir yng Nghynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu Llywodraeth Cymru.

Mae'r Athro Ridgway wedi gwasanaethu fel Cadeirydd dros dro Diwydiant Cymru ers mis Medi 2020. Bydd yn ymgymryd â’r swydd ar sail barhaol ar 2 Mehefin 2022, gan wasanaethu am gyfnod o dair blynedd. Telir £337 y diwrnod am y rôl yn seiliedig ar ymrwymiad amser o hyd at 24 diwrnod y flwyddyn.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rwy'n falch o gadarnhau penodiad yr Athro Keith Ridgway i'r rôl bwysig hon. Rwy'n hyderus y bydd Diwydiant Cymru, o dan arweiniad yr Athro Ridgway, yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gefnogi datblygiad y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru yn y dyfodol.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y gall diwydiant Cymru fanteisio ar y cyfleoedd enfawr sy'n deillio o ddatgarboneiddio diwydiannol.

“Fel gwlad flaenllaw o ran datblygu technolegau'r genhedlaeth nesaf, mae Cymru ar flaen y gad wrth feithrin diwydiannau newydd y dyfodol. Drwy sicrhau bod gennym y gweithlu medrus sydd ei angen arnom, byddwn mewn sefyllfa ardderchog i greu swyddi gwyrdd newydd y dyfodol, a fydd yn ein helpu i ddatblygu economi Cymru ymhellach er budd pobl ledled Cymru.

Dywedodd yr Athro Keith Ridgway CBE:

“Rwy'n falch iawn o dderbyn y penodiad hwn. Rwyf wedi mwynhau gweithio fel Cadeirydd Dros Dro Diwydiant Cymru ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog a'r tîm yn y dyfodol. Mae'n gyfnod cyffrous gyda heriau a chyfleoedd gwych i fyd diwydiant yng Nghymru.

Mae'r penodiad, a wnaed gan Weinidog yr Economi, yn dilyn cwblhau proses penodiadau cyhoeddus llawn ac argymhelliad gan y Panel Cynghori ar Asesu.  Mae'r penodiad wedi'i wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar benodiadau cyhoeddus.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol.  Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y rhai a benodir (os datganwyd unrhyw rai). Nid oes unrhyw weithgareddau gwleidyddol o'r fath wedi'u datgan gan y sawl a benodir.