Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, benodiad y Cadeirydd i'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol. Bydd y penodiad hwn yn para o 1 Ebrill 2019 tan 30 Ebrill 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Cadeirydd sydd newydd ei benodi yw Fran Targett. Mae Fran wedi ymddeol fel Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Cymru yn ddiweddar. Mae Fran yn aelod o Fwrdd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar hyn o bryd ac mae wedi ei hethol yn Ddirprwy Gadeirydd i’r Bwrdd yn ddiweddar.

Mae'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol yn gyfrifol am ddarparu cyngor arbenigol, canllawiau a chymorth i Lywodraeth Cymru o ran sut i ddatblygu, mewn ffordd strategol, y gwasanaethau gwybodaeth a chyngor hygyrch o safon dda a ddarperir i bobl yng Nghymru.

Bydd swyddogaethau Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol Cymru yn cynnwys:

  • arwain a/neu gefnogi mentrau sy'n gysylltiedig â gweithredu'r camau gweithredu unigol yng Nghynllun Gweithredu Gwybodaeth a Chyngor Cymru a monitro cynnydd yn flynyddol
  • hybu Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru a hyrwyddo'r ymdrechion i wella ansawdd cyffredinol gwybodaeth a chyngor yng Nghymru
  • deall natur y galw am wasanaethau cynghori ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth
  • nodi'r cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithredu rhwng darparwyr, gan weithredu ym mhob sector, a chan anelu yn y pen draw at wella profiad y rheini sy'n cael cyngor ac ansawdd ac effeithiolrwydd y cyngor a ddarperir
  • nodi ffynonellau cyllid newydd a chyfleoedd i symleiddio gwasanaethau a'r cyfleoedd ar gyfer ceisiadau ar y cyd am gyllid i gefnogi a gwella gwasanaethau rheng flaen
  • cefnogi a hyrwyddo mentrau i sicrhau mwy o gysondeb o ran mesur canlyniadau ar draws y sector cynghori
  • rhannu a dosbarthu arferion da neu ddatblygu ffyrdd arloesol o ddarparu cyngor a dylanwadu ar bolisi a phrosesau i leihau'r galw am wasanaethau cynghori
  • pennu set eang o egwyddorion/canllawiau ar gyfer rhwydweithiau cynghori lleol a/neu ranbarthol, a chadw perthynas weithio agos ac effeithiol â'r rhwydweithiau hyn
  • darparu cyngor i'r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip a Llywodraeth Cymru ynghylch darparu gwasanaethau cynghori effeithiol a chynaliadwy.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt:

Mae'n bleser gen i gyhoeddi bod Fran Targett wedi cytuno i gadeirio'r Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol. Mae profiad eang Fran mewn gwasanaethau cynghori, yn rhinwedd ei swydd fel Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru a'i gwaith yn y sector cynghori ehangach, yn golygu ei bod mewn sefyllfa dda i'n helpu ni i ddatblygu ein rhwydweithiau cynghori mewn ffordd strategol.

Er nad yw'r penodiad hwn wedi'i reoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus, mae wedi dilyn egwyddorion Cod Ymarfer y Comisiynydd ar Benodiadau gan Weinidogion.

Mae Cadeirydd y Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol yn cael tâl o £256 y dydd ac yn ymrwymo i roi 20 niwrnod o'i amser i'r swydd bob blwyddyn.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae'n ofynnol cyhoeddi gweithgarwch gwleidyddol y sawl sy'n cael ei benodi (os caiff unrhyw weithgarwch o'r fath ei ddatgan). Nid oes unrhyw weithgarwch gwleidyddol wedi'i ddatgan.