Mae Dr James Calvert wedi'i benodi'n Ddirprwy Brif Swyddog Meddygol newydd i Gymru.
Daw Dr Calvert â chyfoeth o brofiad i'r rôl, ar ôl gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Yn raddedig o Brifysgol Rhydychen, mae ganddo PhD mewn Epidemioleg a gradd meistr mewn Iechyd Cyhoeddus o Brifysgol Harvard, lle bu'n astudio fel Ysgolor Fulbright.
Bydd Dr Calvert hefyd yn dod yn Gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Perfformiad a Gwella'r GIG – mae hyn yn bodloni ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad a wnaed gan Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG.
Mae Dr Calvert wedi byw yng Ngwent ers mwy na 16 mlynedd ac mae'n adnabyddus am ei ymrwymiad i wella darpariaeth a chanlyniadau gofal iechyd ar draws Cymru. Mae ei benodiad yn adlewyrchu ymroddiad parhaus Llywodraeth Cymru i gryfhau arweinyddiaeth iechyd y cyhoedd a hyrwyddo iechyd a llesiant cymunedau.
Mae ei yrfa yn rhychwantu meysydd arweinyddiaeth glinigol, iechyd y cyhoedd a rolau cynghori cenedlaethol, gan gynnwys gwasanaethu fel Cynghorydd Arbenigedd Cenedlaethol ar gyfer Asthma Difrifol ac arwain yr Archwiliad Asthma Cenedlaethol yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon.
Dywedodd yr Athro Isabel Oliver, Prif Swyddog Meddygol Cymru:
Hoffwn groesawu Dr Calvert ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef. Mae'n dod â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i’r swydd.
Bydd Dr Calvert yn helpu i gryfhau arweinyddiaeth feddygol yng Nghymru a bydd ei swydd yn cynnwys cyfrifoldeb am ddarparu arweinyddiaeth glinigol i Berfformiad a Gwella’r GIG a gwella ein gwasanaethau clinigol ar draws GIG Cymru.
Yn siarad am ei benodiad, dywedodd Dr Calvert:
Mae'n anrhydedd cael ymgymryd â'r rôl hon ar adeg mor dyngedfennol i'r GIG yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr ar draws y GIG a'r llywodraeth i adeiladu ar ein hymrwymiad cyffredin i ddarparu gofal iechyd teg, o ansawdd uchel i bawb.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Bydd profiad Dr Calvert yn amhrisiadwy wrth iddo ymgymryd â rôl y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, a bydd yn darparu arweinyddiaeth glinigol glir o'r brig yn ei rôl newydd gyda Pherfformiad a Gwella’r GIG.