Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw AC, wedi cyhoeddi enwau 18 o bobl newydd i'w penodi i Banel o Gwnsleriaid Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Cwnsleriaid wedi cael eu penodi yn dilyn cystadleuaeth recriwtio agored yn gynharach eleni.

Dangosodd mwy na 70 o bobl ddiddordeb yn y broses recriwtio hon.  Mae'r penodiadau yn cynnwys chwe Chwnsler y Frenhines yn ychwanegol, tri Cwnsler Iau yn ychwanegol i'w penodi i Banel A (cwnsleriaid sydd wedi bod yn ymarfer am 10 mlynedd neu fwy) a naw Cwnsler Iau yn ychwanegol i'w penodi i Banel B (cwnsleriaid sydd wedi bod yn ymarfer am lai na 10 mlynedd).

Mae'r penodiadau i'r Panel yn agored i fargyfreithwyr sydd â thenantiaeth a chyfreithwyr sydd â hawl i ymddangos yn y llys.  Roedd yn rhaid i ymgeiswyr fodloni nifer o feini prawf, gan gynnwys cael profiad o eiriolaeth yn y llysoedd uchaf, profiad ym maes cyfraith gyfansoddiadol a gweinyddol, gwybodaeth am y setliad datganoli yng Nghymru a'r gwahaniaethau rhwng y gyfraith yng Nghymru a Lloegr, profiad o weithio ar ran neu yn erbyn y llywodraeth neu gyrff cyhoeddus a gwerthfawrogiad o'r gofynion arbennig sydd ynghlwm wrth ymgyfreitha’r llywodraeth.

Bydd y penodiadau yn cael eu gwneud am gyfnod o bedair blynedd i gychwyn, ond gallai'r cyfnod hwnnw gael ei ymestyn yn ôl disgresiwn y Cwnsler Cyffredinol.  

Wrth gyhoeddi'r penodiadau, dywedodd Mick Antoniw:

"Mae safon y ceisiadau a ddaeth i law wedi bod yn galonogol ac mae'n bleser gen i gyhoeddi'r penodiadau hyn.  Gwn y bydd y Cwnsleriaid profiadol a thalentog hyn, sydd wedi llwyddo i gael eu penodi i'r Panel, yn cynnig cronfa annibynnol o arbenigedd a phrofiad cyfreithiol sylweddol i Lywodraeth Cymru yn ei holl weithgarwch.  Mae meddu ar allu a phrofiad fel hyn i gynnal gwaith eirioli a chynghori yn bwysig i sicrhau bod y cynrychiolwyr a'r farn gyfreithiol orau bosibl ar gael i Lywodraeth Cymru bob amser.

Manylion y penodiadau

Cwnsler y Frenhines


Andrew Henshaw QC (Brick Court Chambers)
Paul Hopkins QC (Nine Park Place Chambers)
Gregory Jones QC (Francis Taylor Building)
Jonathan Moffett QC (11 King’s Bench Walk)
George Peretz QC (Monckton Chambers)
Ian Rogers QC (Monckton Chambers)

Cwnsler Iau Panel A

Shakil Najib (No.5 Chambers)
Matthew Rees (Angel Chambers)
Matthew Slater (Ten Old Square Chambers)

Cwnsler Iau Panel B

Rhys Davies (Nine Park Place Chambers)
Joseph Edwards (Nine Park Place Chambers)
Christian Howells (Thirty Park Place Chambers)
Owain James (Civitas Chambers)
Laura John (Monckton Chambers)
Thomas Leary (20 Essex Street Chambers)
Conor McCarthy (Monckton Chambers)
Ravi Metha (Blackstone Chambers)
Heather Sargent (Landmark Chambers)