Neidio i'r prif gynnwy

Mae penderfyniad wedi’i wneud gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i benodi Is-gadeirydd ac Aelod Annibynnol (Trydydd s i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, y ddau am gyfnod o 3 blynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr Is-gadeirydd newydd yw Pippa Britton a’r Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) a ddewiswyd yw Martin Blakebrough. 

Bydd penodiad Pippa Britton fel Is-gadeirydd yn weithredol rhwng 1 Mehefin 2023 a 5 Tachwedd 2025. Bydd penodiad Martin Blakebrough fel Aelod Annibynnol (Trydydd Sector) yn weithredol rhwng 3 Mai 2023 a 2 Mai 2026.

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mis Hydref 2009 a chyflawnodd statws 'Prifysgol' ym mis Rhagfyr 2013. Prif rôl y Bwrdd Iechyd yw sicrhau bod ein system GIG leol yn cael ei chynllunio a'i chyflawni'n effeithiol, o fewn fframwaith llywodraethu cadarn, cyflawni’r safonau uchaf o ran diogelwch cleifion a darparu gwasanaethau cyhoeddus, gwella iechyd a lleihau anghydraddoldebau a sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’n dinasyddion, ac mewn modd sy’n hybu hawliau dynol.

Gwnaed y penodiad hwn yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus (gov.uk).

Gweithgarwch gwleidyddol

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. 

Pippa Britton:

Aelod o Fwrdd y Comisiwn Elusennau
Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru
Cadeirydd panel Gwobrau Dewi Sant

Martin Blakebrough:

Prif Swyddog Gweithredol Kaleidoscope, sef gwasanaeth cyffuriau ac alcohol.