Mae'r Athro Isabel Oliver wedi cael ei phenodi'n Brif Swyddog Meddygol newydd Cymru.
Bydd yr Athro Oliver yn ymuno â Llywodraeth Cymru o'i rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwyddoniaeth ac Ymchwil a Phrif Swyddog Gwyddonol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA).
Fel Prif Swyddog Meddygol Cymru, bydd yr Athro Oliver yn rhoi arweinyddiaeth glinigol ac yn gyfrifol am roi cyngor proffesiynol annibynnol i Lywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud ag iechyd ac iechyd y cyhoedd. Bydd hi hefyd yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd ac yn arwain y proffesiwn meddygol gyda'r nod o wella ansawdd gofal iechyd a chanlyniadau i gleifion.
Dechreuodd yr Athro Oliver ei gyrfa yn gweithio ym maes meddygaeth ysbyty acíwt yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ac yn Ne Orllewin Lloegr, cyn dilyn gyrfa ym maes iechyd y cyhoedd. Cyn ei rôl bresennol yn UKHSA, roedd hi'n Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Heintiau Cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Lloegr (PHE).
Mae hi hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Yr Athrofa Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd, Yr Uned Ymchwil Diogelu Iechyd ar Wyddor Ymddygiad a Gwerthuso ym Mhrifysgol Bryste, ac yn athro anrhydeddus yn University College, Llundain.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Daw'r Athro Oliver â chyfoeth o brofiad i Gymru ar ôl blynyddoedd o weithio ar lefel uwch ym maes iechyd y cyhoedd yn y DU ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi.
Rwy'n falch iawn ei bod hi wedi ymuno â ni wrth i ni weithio i wella iechyd a llesiant, a hoffwn estyn croeso cynnes iddi i Gymru.
Dywedodd yr Athro Oliver sydd, fel y Prif Swyddog Meddygol blaenorol, yn rhedwr brwd ac sydd ar fin cymryd rhan ym Marathon Casnewydd:
Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi'n Brif Swyddog Meddygol Cymru ac rwy'n gyffrous iawn i weithio gyda'r gweithwyr iechyd proffesiynol ymroddedig a'r cymunedau ar draws Cymru i greu Cymru Iachach a diogelu ein GIG.
Heddiw, rydym yn wynebu heriau yn sgil ein poblogaeth sy'n heneiddio, anghydraddoldebau a ffactorau byd-eang fel y newid yn yr hinsawdd. I rywun fel fi sy'n angerddol am iechyd a llesiant, mae yma gyfleoedd unigryw yng Nghymru i sicrhau gwelliannau mawr mewn iechyd y cyhoedd a gwasanaethau iechyd i bawb, diolch i bolisïau arloesol a chydweithio effeithiol rhwng sectorau. Bydd yn fraint gen i wasanaethu pobl Cymru i sicrhau cymunedau iach, gwydn a llewyrchus.
Mae'r Athro Oliver wedi'i phenodi yn olynydd i Syr Dr Frank Atherton a fydd yn rhoi’r gorau i’w swydd ar ddiwedd y mis.