Mae Llyr Gruffydd AS, Y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, wedi penodi Aelod newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yr Aelod sydd newydd ei phenodi yw Delyth Raynsford, a fydd yn gwasanaethu fel Aelod o 1 Hydref 2026 tan 30 Medi 2030.
Mae Delyth yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig profiadol ac mae wedi gweithio mewn nifer o swyddi clinigol a rheoli uwch yn y GIG yng Nghymru. Bu hefyd yn gweithio i Barnardo’s Cymru fel Rheolwr Gwasanaethau Plant a Rheolwr Datblygu Busnes am sawl blwyddyn yn gyfrifol am Gymorth i Deuluoedd a Gwasanaethau Plant yng Nghanolbarth a De Cymru. Yn ddiweddar, cafodd y fraint o wasanaethu fel Aelod Bwrdd Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am dymor wyth mlynedd. Mae hi’n gyn-Gadeirydd Llywodraethwyr yn ysgol ei merch.
Mae Delyth yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf o gefndir ffermio yn Sir Gaerfyrddin, sydd bellach yn byw mewn tyddyn yng Ngorllewin Cymru. Mae hi’n angerddol am sicrhau bod pobl o bob oed a gallu yn cael mynediad at fannau gwyrdd fel Parciau Cenedlaethol heb anfantais nac anghydraddoldeb.
Mae hi’n mwynhau ffotograffiaeth, cerdded ei tharfgi, bwyd da a chelf Gymreig.
Telir £5,936 y flwyddyn i Aelodau Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol sy’n adlewyrchu ymrwymiad amser o o leiaf 44 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r penodiad hwn wedi’i wneud yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.
Mae Delyth Raynsford wedi datgan nad yw hi wedi ymgymryd ag unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddi unrhyw benodiadau Gweinidogol eraill.
