Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant, wedi cyhoeddi penodiad Christina Macaulay i Gyngor Celfyddydau Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Hydref 2025, penodwyd Christina Macaulay yn aelod newydd o Gyngor Celfyddydau Cymru yn dilyn cystadleuaeth agored yn gynharach yn 2025. Mae ganddi dros dri degawd o brofiad yn gweithio yn sector y celfyddydau ac mae'n angerddol am gerddoriaeth a chefnogi talent sy'n dod i'r amlwg.

Mae aelodau CCC yn gyfrifol am bennu nodau ac amcanion Cyngor Celfyddydau Cymru ac am sicrhau eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru.

Mae eu rolau, sy'n rhai gwirfoddol a di-dâl, yn cynnwys sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru a'r Loteri Genedlaethol yn cael ei fuddsoddi'n effeithiol ledled Cymru i gefnogi'r celfyddydau.

Wrth groesawu'r aelodau newydd, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Jack Sargeant:  

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Christina Macaulay newydd wedi'u penodi i Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi'n dod â dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad, gwybodaeth ac arbenigedd i'r rôl gyda'i chefndir mewn darlledu celfyddydol. Bydd hi'n gaffaeliad i gyngor a sefydlwyd i gwrdd â'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau yn sector y celfyddydau.

Ychwanegodd Maggie Russell, Cadeirydd CCC: 

Rwy'n falch iawn bod Christina McCauley yn ymuno â CCC. Bydd ei phrofiad proffesiynol helaeth a'i brwdfrydedd a'i hymrwymiad personol i'r celfyddydau yng Nghymru dros nifer o flynyddoedd yn gaffaeliad enfawr i gydweithwyr y cyngor a staff CCC.