Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd mai Judith Paget sydd wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr GIG Cymru ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Judith yw Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a bydd yn dechrau yn ei swydd newydd ar 1 Tachwedd.

Bydd Judith yn olynu Dr Andrew Goodall, sydd wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Rwy'n falch iawn y bydd Judith yn ymgymryd â rôl y Prif Weithredwr gan ddarparu cyfoeth o brofiad ar adeg dyngedfennol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd Judith yn rhoi sicrwydd ac arweinyddiaeth wrth inni barhau i ymateb i heriau'r pandemig.

Mae hi'n arweinydd profiadol yn y Gwasanaeth Iechyd ac yn y gwasanaeth cyhoeddus, gyda blynyddoedd lawer o brofiad yn gweithio ledled Cymru ac rwy'n croesawu ei phenodiad i'r rôl hon yn fawr.

Bydd Judith yn ymgymryd â'r rôl am 18 mis a bydd proses benodi lawn yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod hwnnw.

Dywedodd Dr Goodall:

Rwy'n falch o groesawu Judith i'w rôl newydd yn arwain gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.

Rwy’n adnabod Judith ac wedi gweithio gyda hi ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys yn ystod ei chyfnod presennol yn arwain Bwrdd Aneurin Bevan.

Mae'n dod â chyfoeth o wybodaeth, profiad a dealltwriaeth a fydd yn ei helpu i gynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac i roi arweiniad wrth inni barhau i lywio ein ffordd drwy’r pandemig ac ailosod ac adfer y system ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Judith, sy’n Brif Weithredwr Aneurin Bevan ers 2014:

Rwy'n falch iawn o gael y cyfle hwn i barhau i weithio i GIG Cymru yn y rôl newydd hon. Ar ôl gweithio ar hyd fy ngyrfa i GIG Cymru, mae'n fraint ac yn anrhydedd cael cymryd yr awenau oddi wrth Dr Andrew Goodall. Mae’r staff ar draws y Gwasanaeth Iechyd a’r maes gofal cymdeithasol yn parhau i ennyn edmygedd a balchder ynof, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd nesaf.