Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS wedi penodi Dr. Liz Bickerton, Dr. Yvonne Howard-Bunt, Yr Athro John Hunt a Mr. Craig Stephenson yn aelodau o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Disgrifiad o'r rôl a'r sefydliad

Rôl Aelodau

Mae aelodau Awdurdodau Parc Cenedlaethol (APC) yn gyfrifol, yn unigol ac ar y cyd, am hyrwyddo arweinyddiaeth effeithiol ar gyfer yr APC, am bennu ei bolisi ac am sicrhau ei fod yn bodloni ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, polisi ac ariannol a osodwyd ar ei gyfer. Mae dyletswydd ar aelodau i weithredu bob amser o fewn y gyfraith, mewn ffydd da ac er lles y Parc Cenedlaethol, ac i fod yn ofalus wrth sicrhau nad yw eu sefyllfa gyhoeddus ar unrhyw adeg yn cael ei arwain o blaid buddiannau preifat neu’n arwain at amheuaeth bod hyn wedi digwydd. Mae gan pob aelod statws cyfartal ar yr Awdurdod, boed wedi’u penodi gan Weinidogion Cymru neu gan Awdurdod Lleol, er gwaethaf unrhyw brofiad neu sgiliau penodol a gynigir gan unrhyw aelod.

Mae’n ofynnol i aelodau APC ddeall a dangos ymrwymiad i ddibenion y Parc Cenedlaethol a bod yn barod i ymrwymo i’r amser sy’n angenrheidiol ar gyfer mynychu’r Awdurdod Llawn a chyfarfodydd pwyllgor yn rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau datblygu aelodau, gweithgorau, digwyddiadau, a chynrychioli’r Awdurdod ar gyrff allanol.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Parciau Cenedlaethol yn dirweddau o bwysigrwydd rhyngwladol. Er eu bod yn bennaf wledig eu natur maen nhw’n agos at gymunedau trefol ac mae ganddyn nhw botensial sylweddol i gyfoethogi bywydau trigolion, ac ymwelwyr i Gymru ac i gyfrannu’n gadarnhaol at economi Cymru. Un o brif dasgau Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau y bydd yr ardaloedd arbennig hyn yn y dyfodol yn fannau sydd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach a mwy amrywiol na heddiw, sy’n cael eu mwynhau a’u trysori gan drawstoriad llawn o’r gymdeithas.

Mae gan Awdurdodau’r Parc Cenedlaethol ddau ddiben statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995: 

  • i warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol; 
  • i hybu cyfleoedd ar gyfer dealltwriaeth a mwynhad y rhinweddau arbennig [o’r Parc] gan y cyhoedd. 

Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau ddiben statudol mae dyletswydd ar Awdurdodau’r Parc Cenedlaethol i feithrin lles economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol. Os yw’n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, bydd mwy o bwysau ynghlwm wrth y diben o warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.


Penodi Aelodau

Tâl Aelod yw £4,738 y flwyddyn.

Bydd y penodiadau yn dechrau ar 1 Ionawr 2023 ac yn para pedair blynedd. Yn dilyn hyn, gall y Gweinidog ystyried ailbenodi heb gystadleuaeth am hyd at uchafswm o ddeng mlynedd (yn amodol ar asesiad perfformiad boddhaol).

Gwnaed y penodiad hwn yn unol â’r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Gweithgarwch gwleidyddol

Gwneir pob penodiad ar deilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. 

  • Dr Liz Bickerton – Ni ddatganwyd unrhyw weithgaredd gwleidyddol o fewn y 5 mlynedd diwethaf
  • Craig Stephenson –  Ni ddatganwyd unrhyw weithgaredd gwleidyddol o fewn y 5 mlynedd diwethaf
  • Dr Yvonne Howard-Bunt – Ni ddatganwyd unrhyw weithgaredd gwleidyddol o fewn y 5 mlynedd diwethaf
  • Yr Athro John Hunt – Datganwyd y gweithgarwch gwleidyddol canlynol o fewn y 5 mlynedd diwethaf:
    • Aelod o’r Blaid Lafur [Llafur Cymru]
    • Cynghorydd Cymuned, Cyngor Tref Blaenafon
    • Ysgrifennydd Cangen, Cangen Blaenafon
    • Swyddog Anabledd, Plaid Lafur Etholaeth Torfaen
    • Swyddog Anabledd, LGBTQ+ Llafur [Cymru]
    • Dirprwy Gadeirydd, Disability Labour [DU]
    • Cyd-Arweinydd. Disability Labour [Cymru]