Penodiadau cyhoeddus: canllawiau ymgeisio
Canllawiau i'ch helpu i wneud cais am benodau cyhoeddus.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gwneud cais am benodiad cyhoeddus
Gall gwneud cais am benodiad cyhoeddus deimlo fel profiad a fydd yn llethu rhywun i ryw raddau, yn enwedig os dyma’r tro cyntaf y byddwch wedi gwneud cais.
Rydym ni yma i’ch helpu i gyflwyno’r cais gorau posibl ac i’ch helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl.
Wrth wneud cais am benodiad cyhoeddus, bydd angen ichi ddarparu datganiad personol, sy’n egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl a beth allwch chi ei gyfrannu os byddwch yn llwyddiannus.
Bydd gofyn ichi hefyd ddarparu’ch CV.
Beth ddylid ei gynnwys yn eich datganiad personol
Rydym yn awyddus i ddeall beth sy’n eich ysgogi i wneud cais am benodiad cyhoeddus. Ystyriwch gynnwys y canlynol yn eich datganiad personol:
Beth sy’n eich ysgogi chi?
Pa brofiadau personol neu broffesiynol sy’n eich gwneud yn angerddol am y rôl hon?
Ym mha ffordd ydych chi’n cyd-fynd â nodau a gwerthoedd y sefydliad?
Eglurwch ba agweddau ar genhadaeth y bwrdd rydych chi’n uniaethu â nhw.
Pa effaith ydych chi am ei chael?
Sut ydych chi’n gweld y byddwch chi’n cyfrannu at waith y bwrdd?
Bydd cymryd amser i ystyried y pwyntiau hyn yn ofalus ac i’w mynegi yn helpu i greu cais cymhellol a dilys.
Sut mae ysgrifennu datganiad personol cadarn?
Mae eich datganiad personol yn rhan hanfodol o’ch cais. Dyma’ch cyfle i ddangos pam mae gennych ddiddordeb yn y rôl, sut mae eich profiad yn bodloni’r gofynion, a’r hyn y byddwch yn ei gynnig i fywyd cyhoeddus yng Nghymru.
Ni waeth a ydych wedi gwasanaethu ar fwrdd cyhoeddus o’r blaen ai peidio, gall eich sgiliau, eich gwerthoedd a’ch profiad bywyd i gyd gael effaith arwyddocaol.
Cam 1: darllenwch ragor i ddeall y rôl
Cyn ysgrifennu eich datganiad, darllenwch y disgrifiad o’r rôl a manyleb y person yn ofalus. Chwiliwch am y sgiliau, y profiadau a’r priodoleddau allweddol sydd eu hangen.
Gofynnwch i chi’ch hun:
- Pa brofiad sydd gen i sy’n cyd-fynd â’r meini prawf?
- Pam ydw i’n angerddol am y cyfle hwn?
- Pa werth y byddaf yn ei gyfrannu at y bwrdd neu’r sefydliad?
- Sut ydw i wedi gwneud gwahaniaeth mewn rolau blaenorol?
Cam 2: pennwch strwythur ar gyfer eich datganiad
Dylai fod gan ddatganiad personol sydd wedi’i ysgrifennu’n dda ddechrau, canol a diwedd clir:
1. Cyflwyniad
Dechreuwch gyda pharagraff byr am bwy ydych chi, eich cefndir, a pham rydych yn gwneud cais.
Er enghraifft:
“Rwy’n [weithiwr proffesiynol/arweinydd cymunedol/etc] profiadol sydd â diddordeb mawr mewn gwasanaeth cyhoeddus. Mae fy nghefndir yn y [sector], ac rwy’n cynnig meddwl strategol, profiad arweinyddiaeth ac ymrwymiad i gynhwysiant. Rwy’n gwneud cais oherwydd...”
2. Ymatebwch i'r meini prawf
Dangoswch sut mae eich profiad yn cyd-fynd â’r meini prawf hanfodol a dymunol gan ddefnyddio enghreifftiau go iawn.
- Defnyddiwch y dull STAR: Sefyllfa, Tasg, Camau gweithredu a Chanlyniad.
- Tynnwch sylw at eich cyfraniad a’i effaith.
- Byddwch yn benodol. Beth wnaethoch chi, a beth newidiodd o ganlyniad?
Er enghraifft:
“Yn fy rôl fel [swydd], arweiniais [brosiect] i wella [canlyniad]. Ymgysylltais â [rhanddeiliaid], dadansoddi [data], a chyflawni [canlyniad].”
3. Tynnwch sylw at sgiliau trosglwyddadwy
Hyd yn oed os nad ydych wedi gwasanaethu ar fwrdd, tynnwch ar enghreifftiau o brofiad o arweinyddiaeth, llywodraethiant, ymgysylltu â’r gymuned, neu waith strategol.
- Meddwl strategol a gwneud penderfyniadau
- Profiad o arweinyddiaeth a llywodraethiant
- Goruchwyliaeth ariannol neu reoli risg
- Ymgysylltu â’r gymuned a rheoli rhanddeiliaid
Er enghraifft:
“Er nad wyf wedi bod yn aelod o fwrdd, rwyf wedi gwneud penderfyniadau ar lefel uchel yn rheolaidd, ac rwyf wedi gweithio gyda grwpiau amrywiol, ac wedi goruchwylio cyllidebau yn fy rôl fel [teitl swydd].”
4. Dangoswch eich gwerthoedd
Ystyriwch sut i ddangos Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus: uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd, arweinyddiaeth, ac anhunanoldeb. Mae’r gwerthoedd hyn yn hanfodol i benodiadau cyhoeddus.
5. Casgliadau
Gorffennwch gyda chrynodeb hyderus sy’n ailddatgan eich diddordeb a’r hyn y byddech yn ei gynnig i’r rôl.
Er enghraifft:
“Rwy’n hynod falch o gael elwa ar y cyfle hwn i gyfrannu fy sgiliau a’m dealltwriaeth i [sefydliad/bwrdd], ac i gefnogi bywyd cyhoeddus yng Nghymru drwy wneud penderfyniadau cynhwysol a gwybodus.”
Canllawiau i ymgeiswyr tro cyntaf ac aelodau bwrdd amrywiol ac annhraddodiadol
Rydym yn annog ceisiadau gan bobl nad ydynt wedi gwasanaethu ar fyrddau o’r blaen, neu sy’n dod o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Nid oes angen ichi feddu ar brofiad traddodiadol o ystafell bwrdd i wneud gwahaniaeth.
Ystyriwch dynnu sylw at:
- Brofiad bywyd: Os ydych wedi gweithio yn y sector neu wedi cael eich effeithio’n uniongyrchol ganddo, mae’r ddealltwriaeth rydych wedi’i meithrin yn amhrisiadwy.
- Arweiniad Cymunedol: Gall profiad o arwain mentrau ar lawr gwlad, gwaith eirioli neu wirfoddoli ddangos sgiliau llywodraethiant.
- Arbenigedd yn y diwydiant: Gall eich profiad mewn sector gwahanol ddod â safbwynt newydd i fyrddau cyhoeddus.
- Goresgyn rhwystrau: Os ydych wedi ymateb i heriau yn eich gyrfa neu ar eich taith bersonol, tynnwch sylw at wydnwch a’r gallu i addasu yn ôl y sefyllfa.
Er enghraifft:
“Drwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweithio’n agos gyda [chymunedau], wedi eirioli dros [achos], ac wedi cyflawni newid ar lawr gwlad. Bydd fy mhrofiad bywyd a’m gwybodaeth ymarferol yn dod â safbwynt newydd i ystafell y bwrdd.”
Cam 3: Adolygwch a mireiniwch
Cyn ichi gyflwyno’ch datganiad:
- Ceisiwch anelu at 750–1,000 o eiriau (1–2 dudalen ar y mwyaf)
- Byddwch yn glir a pheidiwch â defnyddio jargon
- Cofiwch brawfddarllen y datganiad i wirio’r ramadeg a’r sillafu
- Gofynnwch i rywun rydych yn ymddiried ynddo i ddarllen y datganiad
Mae eich profiad yn bwysig, ewch ati’n hyderus i’w ddangos.
Crynhoi
I grynhoi, dylech feddwl am y pwyntiau canlynol wrth ysgrifennu eich datganiad personol.
Byddwch yn glir a chryno
Cadwch at y pwyntiau allweddol a pheidiwch â defnyddio jargon. Sicrhewch fod strwythur i’ch datganiad a’i fod yn berthnasol.
Ymatebwch i’r meini prawf ar gyfer y rôl
Darllenwch y disgrifiad o'r rôl yn ofalus a gwnewch yn siŵr bod eich datganiad yn cwmpasu’r meini prawf hanfodol a dymunol.
Defnyddiwch enghreifftiau go iawn
Dangoswch eich sgiliau a’ch profiad gan roi enghreifftiau penodol o adegau pan rydych wedi cael effaith.
Tynnwch sylw at sgiliau trosglwyddadwy
Hyd yn oed os nad ydych wedi bod ar fwrdd o’r blaen, tynnwch ar eich profiad o arweinyddiaeth, eich meddwl strategol, neu’ch profiad o wneud penderfyniadau.
Dangoswch angerdd ac ymrwymiad
Eglurwch pam rydych yn dymuno cael y rôl, sut mae’n cyd-fynd â’ch gwerthoedd, a sut gallwch chi gyfrannu at lwyddiant y sefydliad.
Cyflwyno’ch CV
Wrth wneud cais am rôl, yn ogystal â datganiad personol, byddwn yn gofyn ichi gyflwyno’ch CV.
Er mwyn sicrhau tegwch yn ein proses ddethol, gofynnwn i ymgeiswyr ddileu gwybodaeth bersonol o’u CV cyn ei gyflwyno.
Mae hyn yn helpu i leihau rhagfarn ac yn sicrhau bod y rhestr fer yn seiliedig ar brofiad a sgiliau yn unig.
Beth ddylech ei ddileu o’ch CV:
- Eich enw a’ch manylion cyswllt
- Oedran a dyddiad geni
- Rhywedd, ethnigrwydd, a dyfeisiau adnabod personol eraill
- Enwau’r sefydliadau addysgol a fynychwyd (er mwyn lleihau rhagfarn yn seiliedig ar y brifysgol/yr ysgol a fynychwyd)
Mae hyn yn sicrhau proses recriwtio decach lle mae penderfyniadau yn seiliedig ar deilyngdod a phrofiad, nid ar gefndir.
Rhagor o gymorth a chyngor
Rydym eisiau cynyddu amrywiaeth a chynhwysiant ar draws ein penodiadau cyhoeddus.
Rydym hefyd eisiau sicrhau bod pob ymgeisydd yn gallu dangos eu potensial llawn.
Os oes angen unrhyw addasiadau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn arnoch mewn perthynas â'r broses recriwtio, rydym yn hapus i drafod y rhain â chi.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost yn PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Swyddi gwag presennol
Os ydych chi eisiau gweld y swyddi gwag presennol, gallwch ddod o hyd i restr ar ein tudalennau recriwtio.
Ar y tudalennau hyn, gallwch hefyd gofrestru i dderbyn hysbysiadau am y swyddi gwag newydd wrth iddynt ddod ar gael.
Gallwch ddod o hyd i ragor o swyddi gwag ar fyrddau cyhoeddus ar wefan Byrddau Cymru.
