Neidio i'r prif gynnwy

Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi tri phenodiad newydd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a dau ailbenodiad i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr aelodau newydd a benodwyd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw:

  • Dr Madeleine Havard, Mr Gwynn Angell Jones a Mrs Sarah Hoss; Dr Havard a Mr Jones o 1 Mehefin 2019 i 31 Mai 2023, a Mrs Hoss o 1 Rhagfyr 2019 i 31 Mai 2023

Mae’r Dirprwy Weinidog hefyd wedi cadarnhau ailbenodiad dau aelod i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

  • Mr Edward Evans a Mr Ian Rowat – wedi’u hailbenodi o 1 Rhagfyr 2019 am hyd at ddwy flynedd, neu nes bod Offeryn Statudol yn gostwng aelodaeth y Bwrdd o 24 i 18 yn dod i rym – pa un bynnag sydd yn digwydd gyntaf.

Telir aelodau o’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol £3,735.00 y flwyddyn, sydd yn adlewyrchu ymrwymiad amser o 4 diwrnod y mis.

Mae'r penodiadau hyn wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus.

Dywedodd Hannah Blythyn:

"Mae ein Parciau Cenedlaethol yn adnoddau gwerthfawr i’r miloedd o bobl sy’n ymweld â hwy pob blwyddyn.

"Daw’r penodiadau newydd ac ailbenodiadau yma â chyfoeth o brofiad ac arbenigedd i reolaeth Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro a Bannau Brycheiniog. Edrychaf ymlaen at eu gweld yn chwarae rôl bositif yn nyfodol ein Parciau Cenedlaethol."

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, y Cyng Gareth Ratcliffe:

“Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn cael cadw arbenigedd, brwdfrydedd a gwybodaeth Ed Evans ac Ian Rowat am dymor byr ychwanegol, ac yn diolch i’r Gweinidog am ei chyd-ddealltwriaeth yn y cyfnod interim hwn cyn inni leihau maint yr Awdurdod.”

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, y Cyng Paul Harries:

“Mae’r Awdurdod yn falch o gael croesawu’r aelodau newydd a fydd yn cynnig golwg newydd ar faterion sy’n effeithio ar y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys Cynllun Rheoli newydd y Parc Cenedlaethol a fydd yn cael ei fabwysiadu yn y misoedd nesaf.”

Sefydlwyd Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol o dan ddarpariaeth Deddf yr Amgylchedd 1995. Mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol.
  • Hyrwyddo cyfleoedd i ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig y Parc gan y cyhoedd.

Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau ddiben statudol, mae dyletswydd ar Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i feithrin lles economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol.

Mae Gorchymyn Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995 yn nodi bod cyfrifoldeb dros benodi bwrdd Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn cael ei rannu rhwng yr Awdurdodau Lleol cyfansoddol a Gweinidogion Cymru. Mae Atodlen 2 o'r Gorchymyn yn nodi:

  • Rhaid i Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod yn 24 aelod, gyda'r nifer o Aelodau a benodwyd gan Awdurdodau Lleol yn 16 a'r nifer a benodwyd gan Weinidogion Cymru yn 8.
  • Rhaid i Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro fod yn 18 Aelod, gyda'r nifer o Aelodau a benodwyd gan Awdurdodau Lleol yn 12 a'r nifer a benodir gan Weinidogion Cymru yn 6.
  • Rhaid i Fwrdd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri fod yn 18 Aelod, gyda'r nifer o Aelodau a benodir gan Awdurdodau Lleol yn 12 a'r nifer a benodir gan Weinidogion Cymru yn 6.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgaredd gwleidyddol yn chwarae rhan yn y broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i'r gweithgaredd gwleidyddol penodedig (os oes unrhyw ddatganiadau) gael ei gyhoeddi.

Mae Dr Madeleine Havard wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae hi ar hyn o bryd yn dal un Penodiad Gweinidogol arall – mae’n Ymddiriedolwraig o Amgueddfa Cymru.

Mae Gwynn Angell Jones wedi datgan nad yw wedi cyflawni unrhyw weithgaredd gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddo unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.

Mae Sarah Hoss wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddi unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.

Mae Edward Evans wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddo unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.

Mae Ian Rowat wedi datgan nad yw wedi ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Nid oes ganddo unrhyw Benodiadau Gweinidogol eraill ar hyn o bryd.