Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi cyhoeddi chwe penodiad newydd i Fwrdd Cynghorol Cymru ar Ddatblygu Diwydiannol (WIDAB).

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y penodiadau hyn am gyfnod o 3 blynedd. Mae WIDAB yn rhoi cyngor i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar economi Cymru ac yn helpu Llywodraeth Cymru i wireddu'i nod o sbarduno twf cynaliadwy a chynhwysol ym mhob un o ranbarthau Cymru trwy'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi. 

Rhan ganolog o waith WIDAB yw rhoi cyngor ar brosiectau unigol sy'n gofyn am fwy na £1 miliwn o gymorth oddi wrth gynlluniau o dan Gronfa Dyfodol yr Economi. 

Dyma aelodau newydd y Comisiwn:

  • Alun  Jones
  • Ben Pritchard
  • Mark Rhydderch-Roberts
  • Yr Athro Nigel Morgan
  • Samantha Toombs
  • Sioned Edwards

Fel Cadeirydd, bydd Michael yn arwain trafodaethau'r Bwrdd ac yn helpu ei gyd-aelodau i ddod i gonsensws a rhoi argymhellion addas i'r Gweinidog.

Y taliad cydnabyddiaeth ar hyn o bryd yw £198 y diwrnod ar gyfer pob Aelod o'r Bwrdd am ymrwymiad o ddiwrnod y mis ar gyfartaledd. Cynhelir cyfarfodydd ledled Cymru bob mis. 

Mae'r penodiadau wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus. Caiff pob penodiad ei wneud ar sail teilyngdod ac nid yw gweithgarwch wleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol hon.

Nid yw yr un o'r Aelodau wedi datgan unrhyw weithgarwch gwleidyddol yn y pum mlynedd diwethaf. Mae Sioned Edwards hefyd yn aelod o Fwrdd Cynghori Ardal Fenter Ynys Môn. Nid oes gan unrhyw Aelodau eraill unrhyw benodiadau Gweinidogol.  

Aelodau newydd Bwrdd WIDAB:

Mae Alun Jones wedi gweithio o fewn y sector datblygu economaidd am 27 mlynedd.  Cafodd ei benodi yn gyfarwyddwr gweithredol Menter a Busnes yn 1997 ac ef yw Prif Weithredwr y Grŵp ers mis Medi 2003.

Mae Ben Pritchard yn Aelod Siartiedig o'r Sefydliad Logisteg a Thrafnidiaeth ac mae ganddo dros 17 mlynedd o brofiad. Mae wedi arwain timau amlddisgyblaethol ar brosiectau seilwaith a datblygu mawr ledled y DU, Seland Newydd ac Awstralia. 

Mae Mark Rhydderch-Roberts yn gyn Fancwr Buddsoddi sydd wedi bod mewn swyddi uwch mewn nifer o Fanciau Buddsoddi Byd-eang gan gynnwys UBS, Lehman Brothers, Schroders a Societe Generale. Mae ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Anweithredol Canolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru a Thrysorydd a Chyfarwyddwr Anweithredol Clwb Criced Morgannwg. 

Mae yr Athro Nigel Morgan yn Bennaeth Adran Lletygarwch a Rheoli Twristiaeth Prifysgol Surrey, ac wedi bod yn athro mewn nifer o brifysgolion yn y DU ac Ewrop.

Mae Samantha Toombs wedi cael nifer o swyddi arwain gyda darparwyr trawsnewid digidol/TGCh blaenllaw y byd, gan helpu i drawsnewid gwasanaethau y sector cyhoeddus o fewn y DU dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Mae Sioned Edwards yn ymgynghorydd rheoli ac yn arbenigo mewn strategaeth fusnes, ennyn diddordeb staff a chyllido buddsoddi mewn busnesau.