Neidio i'r prif gynnwy

A hithau'n nyrs gofrestredig, mae gan Donna dros 40 mlynedd o brofiad o weithio i'r GIG ac yn y maes addysg, a bu'n aelod annibynnol o sawl sefydliad yn y GIG.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Athro Donna Mead OBE yn cymryd yr awenau gan Rosemary Kennedy.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod yr Athro Donna Mead wedi'i phenodi’n gadeirydd newydd Ymddiriedolaeth Felindre. Mae'r Athro Meade yn dod â chyfoeth o brofiad a gwybodaeth am y gwasanaeth iechyd i'r rôl hon. Mae'n gyfnod pwysig a heriol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru wrth inni geisio darparu gwasanaeth sy'n addas ar gyfer y dyfodol, a bydd brwdfrydedd a gwybodaeth yr Athro Meade yn helpu i hybu'r gwaith hwnnw." 

Dywedodd Donna: 

"Rwy'n hynod falch o gael fy mhenodi'n Gadeirydd Ymddiriedolaeth Felindre. Rydw i a phawb sy'n byw yng Nghymru a'r tu hwnt yn ymwybodol o'r enw da sydd gan yr Ymddiriedolaeth am gyflenwi'r holl wasanaethau. Mae'n fraint enfawr i mi gael y cyfle i wasanaethu'r staff, y cleifion a'r rhoddwyr gwaed sy'n cael eu gwasanaethu gan Ymddiriedolaeth Felindre. Rwy'n deall bod fy rhagflaenydd, Rosemary Kennedy wedi gadael esgidiau mawr i'w llenwi, a dyna fydd un o'm heriau. Rwy'n ymuno â'r Ymddiriedolaeth yn ystod cyfnod cyffrous ac rwy'n edrych ymlaen at weld llawer o gynlluniau pwysig yn dwyn ffrwyth." 

A hithau'n nyrs gofrestredig, mae gan Donna dros 40 mlynedd o brofiad o weithio i'r GIG ac yn y maes addysg, a bu'n aelod annibynnol o sawl sefydliad yn y GIG. Mae Donna hefyd yn ymddiriedolwr i St John Cymru ac yn llywodraethwr yng Ngholeg Grŵp Castell-nedd Port Talbot. Mae ganddi radd PhD, ac yn ddiweddar cafodd Radd Doethuriaeth er Anrhydedd am Wyddoniaeth gan Brifysgol Abertawe.