Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae Victoria Heath wedi'i phenodi yn Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Victoria yn cynghori Llywodraeth Cymru ynghylch y ffyrdd mwyaf effeithiol o ddefnyddio gwyddor gofal iechyd i ddarparu gwell gofal iechyd, gan gynnwys moderneiddio technolegau a thriniaethau diagnostig a chyflwyno rhai newydd.

Bydd yn helpu mwy na 50 o rolau gwahanol o fewn y proffesiynau gwyddor gofal iechyd yng Nghymru, yn ogystal â'u cynrychioli.

Daw Victoria o Rwydwaith Patholeg ME-5 y Gwasanaeth Iechyd, lle'r oedd hi'n gyfrifol am ddatblygu mentrau'r gweithlu a'u rhoi ar waith.

Mae hi wedi gweithio yn y gwasanaeth iechyd ers iddi fod yn 18 oed, gan ddechrau ar ei gyrfa yn wyddonydd biofeddygol o dan hyfforddiant yn Swydd Rydychen. Cafodd ei chofrestru yn wyddonydd biofeddygol yn 2010 ac yn wyddonydd clinigol yn 2023. Mae ganddi brofiad o rolau ym maes gwyddor gofal iechyd ledled y DU ac yn 2015, aeth i weithio yn Sierra Leone i ymateb i'r brigiad o achosion Ebola Gorllewin Affrica.

Mae Victoria hefyd yn gyfathrebwr gwyddoniaeth sydd wedi ennill sawl gwobr ac mae'n gweithio i godi proffil gyrfaoedd yn y maes gwyddor gofal iechyd.

Wrth siarad am ei phenodiad newydd, dywedodd:

Mae'n anrhydedd cael fy mhenodi'n Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd yn Llywodraeth Cymru a chael gweithio ochr yn ochr â'r 7,000 o wyddonwyr gofal iechyd sy'n cyfrannu at ofal iechyd ledled Cymru.

Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn rhan hanfodol o lwybrau cleifion ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y cyfle hwn i godi'u proffil.

Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

Rwy'n falch iawn o groesawu Victoria yn Brif Swyddog Gwyddor Gofal Iechyd cyntaf Cymru.

Bydd ei chyfoeth o brofiad ym maes gwyddor gofal iechyd yn allweddol ar gyfer darparu gwell canlyniadau iechyd i gleifion yng Nghymru drwy ddatblygu a mabwysiadu gweithdrefnau diagnostig a thriniaethau newydd arloesol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi.

Bydd Victoria yn dechrau yn ei swydd ym mis Mawrth 2025.