Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar sut i fod yn berchennog ci cyfrifol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ydw i’n barod am gi?

Mae cael ci yn ymrwymiad mawr. Dylech gymryd amser i ystyried yn llawn bob agwedd ar fod yn berchen ar gi. Mae deall y gyfraith a'ch dyletswyddau cyfreithiol sy'n berthnasol i berchnogaeth cŵn yn bwysig iawn

Mae’r Côd Ymarfer er Lles Cŵn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r safon gofal sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Os ydych yn rhiant neu'n warcheidwad i blentyn o dan 16 oed, yna chi sy'n gyfrifol am unrhyw anifail y mae'r plentyn yn gofalu amdano.

Lles cŵn: côd ymarfer | LLYW.CYMRU

I gael gwybodaeth ynghylch a ydych yn barod am gi, ewch i:

 

Cyfrifiannell costau anifeiliaid anwes | RSPCA

A ddylwn i gael ci? 10 cwestiwn i ofyn i’ch hun | Dogs Trust

Prynu neu gael ci| Dogs Trust

Deddfau cŵn y DU | Blue Cross

Pa frîd o gŵn sy'n addas imi?

Mae cannoedd o fridiau a mathau o gŵn. Gall dewis yr un cywir ichi fod yn anodd. Peidiwch â dewis ci yn seiliedig ar sut mae'n edrych yn unig heb ymchwilio i'w anghenion o ran ymddygiad ac iechyd. Mae'n bwysig dysgu am y brîd y mae gennych ddiddordeb ynddo i sicrhau mai hwn fydd fwyaf addas ichi a'ch ffordd o fyw.

I gael gwybodaeth ynghylch pa frîd sy’n addas ichi, ewch i:

Pa fath o frid sy’n gweithio i chi? | Blue Cross

Prynu neu gael ci | Dogs Trust

Bridiau ci  - Nodweddion, Maint ac Ymddygiad | RSPCA

Sut ydw i'n gofalu am fy nghi?

O dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid mae'n rhaid ichi allu diwallu pum angen a fydd gan eich ci, sef:

  • ei angen am amgylchedd addas
  • ei angen am ddiet cytbwys
  • ei angen i allu arddangos patrymau ymddygiad arferol
  • unrhyw angen sydd ganddo i fyw gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân iddynt.
  • ei angen i gael ei amddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf ac afiechyd..

I gael gwybodaeth am ofalu am eich ci a'i anghenion, ewch i:

Lles cŵn: côd ymarfer | LLYW.CYMRU

Sut i ofalu am gi  - Dog Facts | RSPCA

Perchnogaeth cŵn cyfrifol | Sut rydyn ni’n helpu | Dogs Trust

Awgrymiadau diogelwch yn y tywydd cynnes a chymorth | Dogs Trust

Help gyda chostau byw cynyddol a gofalu am eich anifeiliaid anwes (rspca.org.uk)

Sut i gadw cŵn bach yn ddiogel yn eich cartref a'ch gardd | Blue Cross

Sut ydw i’n cael ci?

Unwaith y byddwch wedi penderfynu eich bod yn barod am gi, bydd angen ichi ystyried ai mabwysiadu neu brynu gan fridiwr cyfrifol yw'r peth iawn ichi.

Os ydych yn mabwysiadu o ganolfan achub, defnyddiwch ganolfan ag enw da. Yn yr un modd, cyn ichi brynu gan fridiwr, darganfyddwch eu statws trwydded. Bridwyr trwyddedig yw'r rhai sydd â thri neu fwy o eist sy'n bridio. Os mai dim ond un neu ddwy ast sy'n bridio sydd gan rywun, nid oes angen trwydded arnynt.

Y naill ffordd neu'r llall, dylech bob amser weld y ci bach gyda'i fam cyn prynu.

Bydd gan eich Awdurdod Lleol fanylion bridwyr trwyddedig.

Prynu neu gael ci | Dogs Trust

Sut ydw i'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol?

Os ydych yn pryderu am ymddygiad ci a’i berchennog gallwch roi gwybod i’ch Awdurdod Lleol neu’r Heddlu.

O dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014,  gall yr Heddlu ac Awdurdodau Lleol gyhoeddi Rhybuddion Diogelu Cymunedol (CPWs). Mae'r rhain yn nodi y dylai'r perchennog roi'r gorau i ymddwyn mewn ffordd benodol. Os na chedwir at hyn, gellir cyhoeddi Hysbysiad Gwarchod y Gymuned (CPNs). Gall y rhain gynnwys gofynion penodol megis:

  • gwisgo tennyn neu benwar yn gyhoeddus
  • mynychu hyfforddiant cŵn
  • sicrhau bod eich gardd wedi'i chau'n ddiogel fel na all ci ddianc

Mae torri CPN yn drosedd a gallai arwain at ddirwy lefel 4 (hyd at £2,500). Cysylltwch â'ch Awdurdod Lleol neu ffoniwch 101 i adrodd y digwyddiad.

Sut alla i gael fy mhlant i gymryd rhan?

Cŵn ar denynnau

Cŵn yn poeni da byw

Cyngor Cefn Gwlad