Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i'r dyddiau ymestyn a rhagor ohono ni'n mynd allan i'r cefn gwlad, mae pobl yn cael eu hatgoffa i gadw eu cŵn dan reolaeth o amgylch da byw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gyda'r tymor wyna wedi hen ddechrau, a llawer o famogiaid ac ŵyn i'w gweld mewn caeau ledled Cymru, mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, a'r Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt, Rob Taylor eisiau sicrhau bod perchnogion cŵn yn deall eu cyfrifoldebau.

Mae gormod o ymosodiadau ar ddefaid a da byw eraill gan gŵn o hyd, sy'n arwain at oblygiadau emosiynol ac ariannol ac yn effeithio ar les anifeiliaid.

Mae ymchwil wedi canfod bod y rhan fwyaf o ymosodiadau ar ddefaid gan gŵn yn digwydd ar dir lle nad oes hawl mynediad i'r cyhoedd.

Dylai perchnogion cŵn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â Chod Cefn Gwlad Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae hynny’n cynnwys:

  • cadw cŵn ar dennyn neu o fewn golwg a dylai perchnogion fod yn hyderus y byddan nhw'n dychwelyd ar orchymyn
  • ni ddylai cŵn grwydro o'r llwybr neu'r ardal lle mae hawl mynediad
  • ar dir mynediad agored, rhaid i gŵn fod ar dennyn rhwng 1 Mawrth a 31 Gorffennaf, hyd yn oed os nad oes da byw yn bresennol. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

Mae perchnogaeth cŵn gyfrifol yn allweddol i gadw ŵyn, defaid a phob math arall o dda byw yn ddiogel.

Rydyn ni'n gwybod bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn gwneud y peth iawn wrth gadw eu cŵn dan reolaeth, ond mae rhai sy ddim.

Rydyn ni wedi gweld delweddau erchyll yn dilyn ymosodiadau, ond mae modd atal ymosodiadau drwy gymryd y camau priodol.

Dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru:

Mae modd atal ymosodiadau ar dda byw yn llwyr drwy sicrhau bod perchnogion cŵn yn gyfrifol. Yn anffodus, mae ymosodiadau ar famogiaid beichiog neu ŵyn newydd-anedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn dal i ddigwydd.

Rydyn ni'n gofyn i berchnogion fod yn ymwybodol o'r risgiau, rheoli eu cŵn mewn modd rhagofalus a deall y llwybrau lle maen nhw'n mynd â'u cŵn am dro.

Gall ymosodiad ar dda byw arwain at saethu hanifail anwes, neu ei ladd yn dilyn gorchymyn llys. Does neb eisiau gweld hynny'n digwydd.