Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am danau a fynychwyd, marwolaethau o ganlyniad i danau, galwadau ffug, digwyddiad gwasanaethau arbennig a thanau mewn anheddau o fewn rheolaeth ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2021.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2020 a diwedd mis Mawrth 2021, sef cyfnod yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Bu digwyddiadau wasanaeth tân ac achub, yn arbennig Digwyddiadau Gwasanaeth Arbennig, yn debygol wedi’u heffeithio gan y pandemig COVID-19.

Prif bwyntiau

  • Bod Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wedi mynychu 10,334 o danau, sy’n cyfateb i 33 o danau fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn ostyngiad o 2% o gymharu â 2019-20. Ers i gyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub gael ei ddatganoli i Gymru yn 2004-05, mae’r nifer a’r gyfradd wedi mwy na haneru.
  • Cafwyd 15,429 o alwadau  ffug a fynychwyd yn 2020-21, sy'n cyfateb i 49 fesul 10,000 o'r boblogaeth ac yn cynnydd o 2% o gymharu â 2019-20.
  • Roedd 158 o farwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau yng Nghymru (5 i bob 100,000 o'r boblogaeth). Mae hyn yn ostyngiad o 13% yn nifer y rhai a anafwyd.
  • Roedd 85% o danau mewn anheddau yng Nghymru wedi'u dal yn yr ystafell lle dechreuodd y tân.

Adroddiadau

Ystadegau perfformiad awdurodau tân ac achub, Ebrill 2020 i Fawrth 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 885 KB

PDF
Saesneg yn unig
885 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.