Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am danau a fynychwyd, marwolaethau o ganlyniad i danau, galwadau ffug, digwyddiad gwasanaethau arbennig a thanau mewn anheddau o fewn rheolaeth ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2022 a diwedd mis Mawrth 2023, tra’n cymharu â Ebrill 2021 i Mawrth 2022, cyfnod sy’n dal i gael ei effeithio i ryw raddau gan y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Adroddiad blynyddol sy’n cynnwys gwybodaeth am danau a fynychwyd, anafiadau o ganlyniad i danau, galwadau ffug, digwyddiadau gwasanaethau arbennig a thanau mewn anheddau o fewn rheolaeth.

Prif bwyntiau

  • Bod Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wedi mynychu 11,066 o danau, sy’n cyfateb i 35 o danau fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn gynnydd o 3% o gymharu â 2021 i 2022. Ers i gyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub gael ei ddatganoli i Gymru yn 2004 i 2005, mae’r nifer a’r gyfradd wedi mwy na haneru.
  • Roedd yna 16,578 o alwadau ffug a fynychwyd yn 2022 i 2023, sy'n cyfateb i 53 fesul 10,000 o'r boblogaeth ac yn gynnydd o 5% o gymharu â 2021 i 2022.
  • Roedd 135 o farwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau yng Nghymru (4 i bob 100,000 o'r boblogaeth). Mae hyn yn ostyngiad o 11% yn nifer y rhai a anafwyd o gymharu â 2021 i 2022.
  • Roedd 85% o danau mewn anheddau yng Nghymru wedi'u dal yn yr ystafell lle dechreuodd y tân.

 

Adroddiadau

Perfformiad awdurodau tân ac achub: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 445 KB

PDF
Saesneg yn unig
445 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Claire Davey

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.