Adroddiad gan y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar effeithiolrwydd trefniadau cyfredol GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys gofal wedi'i gynllunio, diagnosteg, perfformiad canser a gofal brys a gofal mewn argyfwng.
Dogfennau

Perfformiad a chynhyrchiant GIG Cymru: adolygiad annibynnol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymateb y Llywodraeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 324 KB
PDF
324 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Ym mis Hydref 2024, penododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Grŵp Cynghori Gweinidogol allanol (MAG) ar Berfformiad a Chynhyrchiant yn GIG Cymru (y grŵp).
Pwrpas penodi MAG allanol oedd darparu Ysgrifennydd y Cabinet gyda:
- sicrwydd allanol ar effeithiolrwydd y trefniadau presennol sy'n anelu at wella perfformiad a chynhyrchiant yn GIG Cymru
- arsylwadau ar sut y gellid cryfhau'r trefniadau presennol i wella perfformiad a chynhyrchiant ymhellach
Adroddodd y MAG i Ysgrifennydd y Cabinet ar 31 Mawrth 2025.