Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi croesawu gwelliannau ym mherfformiad adrannau argyfwng, a lleihad mewn amseroedd aros am driniaeth er i fis Chwefror fod gydag un o’r misoedd prysuraf erioed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth roi sylwadau ar yr ystadegau perfformiad diweddaraf a gyhoeddwyd heddiw diolchodd Mr Gething hefyd i staff Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru am eu gwaith caled a’u hymrwymiad yn ystod mis prysur arall.

Cafodd y nifer uchaf o gleifion eu brysbennu, eu hasesu, eu trin a’u rhyddhau o adrannau o fewn pedair awr, o’i gymharu ag unrhyw fis Chwefror arall ers 2012, er bod y lefelau gweithgarwch ar eu huchaf erioed ar gyfer y mis hwnnw.

Dywedodd:

“Er bod mwy o bobl wedi mynychu ein hadrannau argyfwng nag yn unrhyw fis Chwefror blaenorol, cafodd mwy o bobl eu gweld a’u trin o fewn y targed pedair awr nag yn unrhyw fis Chwefror ers 2012.

Roedd gostyngiad o 21.2% o’i gymharu â’r llynedd yn nifer y rhai y bu’n rhaid iddynt aros dros ddeuddeg awr mewn adrannau, ac arhosodd 39% yn llai o gleifion dros awr am drosglwyddiad o ambiwlans o’i gymharu â mis Chwefror 2018. Rwy’n falch hefyd o weld bod perfformiad bob bwrdd iechyd wedi gwella ers y llynedd.

Llwyddodd y Gwasanaeth Ambiwlans i gyrraedd ei darged unwaith eto. Roedd yr amser ymateb ar gyfartaledd i alwadau ambr wyth munud a hanner yn gyflymach nag ym mis Chwefror 2018, a’r amser ymateb ar gyfartaledd ar gyfer galwadau coch 22 eiliad yn gyflymach.”

Er ein bod yn gweld mwy o bobl yn dod drwy ddrysau ein hysbytai, mae’n dda gweld bod gofal a gynlluniwyd yn parhau i gael ei ddarparu’n effeithlon, a’n bod ni’n lleihau’r amseroedd aros hiraf.

Roedd nifer y bobl a fu’n aros dros 36 wythnos ym mis Ionawr 38% yn is nag ym mis Ionawr 2018. Roedd achosion o aros dros wyth wythnos am ddiagnosis 38% yn is na’r un amser y llynedd, ac achosion o aros am wasanaethau therapi 75% yn is yn yr un cyfnod. Rwy’n disgwyl gweld gwelliant pellach eto yn yr holl feysydd hyn erbyn diwedd mis Mawrth.

“Mae’r gwelliannau hyn yn dangos gwaith caled ac ymrwymiad staff ein GIG a’n buddsoddiad a’n gwaith cynllunio ychwanegol yn y gwasanaeth. Heddiw, rwyf hefyd wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer estyniad o chwe mis i’n cynllun rhyddhau â chymorth yn ein Hadrannau Argyfwng, sef cynllun wnaeth helpu i leihau’r pwysau ar staff clinigol y gaeaf hwn.”

Croesawodd Mr Gething hefyd y gwelliannau mewn amseroedd aros ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAHMS) a thriniaeth canser. 

Dywedodd

“Mae mwy o gleifion canser yn cael eu trin o fewn yr amser targed nag erioed o’r blaen. Roedd cynnydd o 3% yn nifer y cleifion a gafodd eu trin o fewn yr amser targed yn y 12 mis diwethaf o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol, a 7% yn fwy na phum mlynedd yn ôl”.