Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn cyhoeddi'r adroddiad terfynol ar ei waith heddiw yn dilyn sgwrs genedlaethol dros gyfnod o ddwy flynedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae angen gwneud newidiadau ar frys i bwerau er mwyn diogelu datganoli yng Nghymru rhag dymchwel.
  • Mae pob un o'r tri opsiwn ar gyfer dyfodol Cymru a nodwyd yn yr adroddiad interim yn rhai hyfyw.
  • Mae angen gwneud newidiadau i bwerau yn ymwneud â chyfiawnder, plismona a seilwaith rheilffyrdd.

Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn 2021, ‌dan gyd-gadeiryddiaeth yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, i edrych ar y ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu ac i ystyried opsiynau ar gyfer newidiadau. Daw'r 11 unigolyn sy'n aelodau o'r comisiwn o gefndiroedd amrywiol, gan gynnig cyfoeth o arbenigedd a safbwyntiau gwleidyddol.

Cychwynnodd y comisiwn sgwrs genedlaethol i wrando ar amrywiaeth o leisiau yng Nghymru ac aeth ati i weithio gan edrych ar ffyrdd o gryfhau ei dyfodol democrataidd. Mae wedi ymgysylltu â miloedd o ddinasyddion ledled Cymru drwy arolygon, Cronfa Ymgysylltu â'r Gymuned, sioeau teithiol a'i safle sgwrsio ar-lein ei hun. Mae'r comisiwn wedi gweld bod y gwaith hwn yn amhrisiadwy, ac mae'r lefel hon o ymgysylltu democrataidd ar lawr gwlad wedi ei alluogi i gael gwybod o lygad y ffynnon beth sydd bwysicaf i bobl Cymru o ran sut mae eu gwlad yn cael ei rhedeg. Fodd bynnag, ni all y sgwrs werthfawr hon ddod i ben ar y cam hwn, ac mae'r comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella addysg ddinesig i bawb ac i greu datganiad cyfansoddiadol i Gymru, wedi'i ddrafftio gan ei dinasyddion.

Canfu adroddiad interim y comisiwn, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr 2022, fod problemau sylweddol o ran y ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu o fewn yr Undeb ac nad yw parhau â'r sefyllfa bresennol yn opsiwn ymarferol ar gyfer sicrhau sefydlogrwydd a ffyniant. Nododd dri llwybr cyfansoddiadol amgen i Gymru – annibyniaeth, system ffederal ac atgyfnerthu datganoli.

Mae adroddiad terfynol y comisiwn wedi dod i'r casgliad bod pob un o’r tri opsiwn yn hyfyw ar gyfer y tymor hir ac, yn ogystal, mae'n dadlau bod angen gwneud rhai newidiadau ar frys i ddiogelu’r status quo. Mae'r rhain yn cynnwys datganoli cyfiawnder, plismona a seilwaith rheilffyrdd er mwyn gwella atebolrwydd a gwella'r ffordd y darperir gwasanaethau. Gelwir hefyd am newidiadau mawr i'r ffordd y caiff Cymru ei hariannu er mwyn sicrhau bod datganoli'n gallu sicrhau'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.

Mae'r adroddiad yn nodi hefyd bod angen deddfu i ddiogelu cysylltiadau rhynglywodraethol er mwyn sicrhau bod pob haen o lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd ac, yn bwysicach fyth, yn cyflawni'n effeithlon er budd y cyhoedd.

O ran y tri opsiwn cyfansoddiadol i Gymru:

  • Byddai atgyfnerthu datganoli yn ddull sefydlog yn economaidd ac yn osgoi risg i raddau helaeth, heb fod angen refferendwm. Ni fyddai'n golygu newid sylfaenol yn sefyllfa gyllidol ac economaidd Cymru o fewn economi'r Deyrnas Unedig.
  • Mae Teyrnas Unedig ffederal yn cynnig 'ffordd ganol' ag atebolrwydd. Mae mwy o fanteision posibl i hyn nag sydd i atgyfnerthu datganoli ac mae'n llai o risg nag annibyniaeth. Er hynny mae rhwystrau sylfaenol i'r opsiwn hwn oherwydd ei fod yn dibynnu ar yr awydd i newid yng ngweddill y Deyrnas.
  • Byddai Cymru annibynnol yn cynnig y potensial ar gyfer newid cadarnhaol hirdymor gan alluogi Cymru i lunio ei chyfansoddiad er mwyn sicrhau'r budd gorau posibl. Dyma'r opsiwn sydd hefyd yn golygu'r risg fwyaf i Gymru yn economaidd, yn y tymor byr i'r tymor canolig.

Wrth siarad am ganfyddiadau ac amseriad adroddiad terfynol y comisiwn, dywedodd y Cyd-gadeirydd yr Athro Laura McAllister:

"Mae bron i chwarter canrif wedi mynd heibio ers i bwerau gael eu datganoli i Gymru am y tro cyntaf a dyma'r amser iawn i gael y sgwrs genedlaethol hon gyda phobl Cymru am y camau nesaf yn ein taith gyfansoddiadol. Doedd llawer o'r dinasyddion y buom yn siarad â nhw ddim wedi cael eu geni ar ddechrau datganoli, ac mae eraill wedi gweld newidiadau i'r ffordd y mae Cymru'n cael ei rhedeg yn ystod y 25 mlynedd diwethaf ac mae ganddynt farn ar yr hyn y gellir ei wneud yn well neu'n wahanol.

"Drwy ein gwaith, daeth yn amlwg nad yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy ac nad yw anghenion pobl Cymru yn cael eu diwallu. Os ydyn ni am ddiogelu datganoli yng Nghymru, hyd yn oed fel y mae ar hyn o bryd, rhaid i'r newidiadau hyn ddigwydd ar frys.  Yna gallwn edrych ymhellach i'r dyfodol ar y tri llwybr posibl hyn ar gyfer dyfodol Cymru, pob un ohonynt â'i heriau a'i gyfleoedd amlwg ei hun.

Ychwanegodd:

"Mae'n hanfodol bod yr adroddiad hwn yn fodd o ysgogi newid ar gyfer pobl Cymru yn y dyfodol, ac rydyn ni am i'r sgwrs barhau. Rydyn ni wedi cychwyn yr hyn fydd, gobeithio, yn ddeialog hyd yn oed yn ehangach, a fydd yn cynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad a gyhoeddir heddiw yn waith comisiwn trawsbleidiol unigryw, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae'r comisiynwyr hynny sydd â chysylltiad â phleidiau gwleidyddol yn parhau'n annibynnol ac wedi ymrwymo i roi gwleidyddiaeth bleidiol i'r naill ochr. Fel tîm, mae'r comisiwn wedi mynd i'r afael â chwestiynau allweddol am y ffordd y mae Cymru'n cael ei llywodraethu, iechyd democratiaeth a sut i gyrraedd dinasyddion ym mhob rhan o'r wlad. Mae cylch gwaith y comisiwn yn ymwneud â strwythurau gwleidyddol yng Nghymru. Nid yw ei adroddiad yn cloriannu perfformiad na pholisïau llywodraeth.

Wrth drafod gwaith ymgysylltu'r comisiwn ar lawr gwlad, dywedodd y Cyd-gadeirydd Dr Rowan Williams:

"Sgwrs genedlaethol Cymru yw hon ac mae'r comisiwn wedi ceisio gwneud pethau'n wahanol. Mae ein hadroddiad yn ganlyniad dwy flynedd o drafodaeth agored. Rydym wedi canolbwyntio ar glywed lleisiau gwahanol o bob rhan o gymunedau Cymru, yn ogystal â chyngor arbenigwyr. Mae hon wedi bod yn broses o gyfathrebu'n uniongyrchol â phobl Cymru, casglu tystiolaeth a cheisio deall eu profiadau nhw.

"Mae'r sgwrs wedi bod yn hynod werthfawr, ond mae llawer mwy o waith i'w wneud. Mae angen inni sicrhau bod gan bawb lais wrth benderfynu ar lwybr eu cenedl yn y dyfodol - mae'n rhaid i'r sgwrs genedlaethol rydyn ni wedi'i dechrau barhau y tu hwnt i oes y comisiwn hwn.

"Rydym wedi dangos y gall y dull hwn arwain at drafodaethau deallus a chadarn, a democratiaeth addysgedig â lefel uchel o gyfranogiad. Mae hyn wedi bod yn hollol ganolog i'n gwaith er mwyn sicrhau bod Cymru ar y droed flaen yn ddemocrataidd a bod ei dinasyddion yn gallu cymryd rhan mewn mwy o'r trafodaethau gwybodus hyn am eu dyfodol a dod yn batrwm o ddiwylliant democrataidd. Fel comisiwn, rydym yn galw ar y rhai sydd mewn grym i sicrhau nad yw'r sgwrs genedlaethol yn dod i ben yma, ac i gymryd camau brys i ddiogelu democratiaeth Cymru.