Neidio i'r prif gynnwy

Oes angen imi gadarnhau yr hoffwn i gael coeden wedi’i phlannu i’m plentyn?

Na. Bydd coeden yn cael ei phlannu’n awtomatig i’ch plentyn.

A fydd hynny’n costio unrhyw beth i mi?

Na, bydd y goeden yn cael ei phlannu heb unrhyw gost i chi.

Pam na ellir plannu’r goeden yn agosach i’m cartref?

Rwy’n byw yn ne Cymru ond mae safle’r coetir a ddyrannwyd i’m plentyn yn bell o’m cartref.

Mae’r goeden a blannwyd ar ran eich plentyn wedi’i phlannu yn y coetir sydd i’w greu fel rhan o’r rhaglen Plant! yn ne Cymru. Am nad yw’r coed wedi’u marcio ag enwau mewn unrhyw ffordd, gallwch chwilio i weld ble mae’r holl goetiroedd Plant! wedi’u lleoli ar y dudalen ‘ymweld â’ch safle’, a gallwch ymweld â’r un agosaf atoch chi os yw hynny’n fwy cyfleus.

Rwy’n byw yng ngogledd Cymru ond mae safle’r coetir a ddyrannwyd i’m plentyn yn bell o’m cartref. Pam na ellir plannu’r goeden yn agosach i’m cartref?

Mae’r goeden a blannwyd ar ran eich plentyn wedi’i phlannu yn y coetir sydd i’w greu fel rhan o’r rhaglen Plant! yng ngogledd Cymru. Am nad yw’r coed wedi’u marcio ag enwau mewn unrhyw ffordd, gallwch chwilio i weld ble mae’r holl goetiroedd Plant! wedi’u lleoli ar y dudalen ‘ymweld â’ch safle’, a gallwch ymweld â’r un agosaf atoch chi os yw hynny’n fwy cyfleus.

Cefais fy mendithio ag ŵyr bach newydd yn ddiweddar a hoffwn roi nawdd i blannu coeden fel anrheg o ddiolchgarwch.

Hoffwn blannu coeden i frawd/chwaer hŷn.

Mae yna sefydliadau sy’n cynnig gwasanaeth plannu coed, fel Coed Cadw, sy’n gweithredu cynllun cyflwyno coeden er cof. Ceir mwy o wybodaeth ar y wefanau isod:
https://www.woodlandtrust.org.uk/support-us/give/dedications/
http://www.nationalforest.org/sponsor/plantatree/

Allwch chi ddweud wrtha’ i a yw’r wybodaeth ‘coeden i bob plentyn’ a anfonir gennych yn cael ei hargraffu ar bapur sydd wedi’i ailgylchu os gwelwch yn dda?

Mae’r holl bapur a ddefnyddiwn ar gyfer y llythyrau a’r tystysgrifau’n dod o ffynonellau cynaliadwy’r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd. Mae’r coedwigoedd hyn yn cael eu rheoli’n gyfrifol ac yn cael eu tyfu gyda’r bwriad penodol o ddefnyddio’r coed ar gyfer papur a chynnyrch coed arall. Plannir coed i gymryd lle’r rhai sy’n cael eu torri, er mwyn parhau i gynnal ardaloedd coedwigol. Mae’r carbon deuocsid sy’n cael ei amsugno o’r atmosffer gan y coed yn ystod eu hoes yn awr yn rhan o’r papur, y cerdyn, a’r cynnyrch coed arall, a bydd y coed newydd yn parhau’r broses o dynnu carbon deuocsid o’r atmosffer. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ail-eirio’r llythyr i rieni i gynnwys yr wybodaeth hon am ffynhonnell y papur.

Pam nad ydych chi’n argraffu ar y ddwy ochr?

Rydym wedi rhoi cynnig ar newid i bapur sydd wedi’i ailgylchu ac argraffu ar y ddwy ochr o’r blaen, ond cafwyd problemau argraffu a arweiniodd at wastraffu gormod o bapur ac inc yn y gorffennol. O ganlyniad rydym wedi dewis defnyddio papur sy’n dod o adnodd cynaliadwy. Rydym hefyd wedi ystyried defnyddio e-bost i ledaenu’r neges am y cynllun i rieni newydd, ond ar hyn o bryd nid oes angen y data hwn yn gyfreithiol pan fydd genedigaethau’n cael eu cofrestru, felly ni allwn gael gafael ar yr wybodaeth hon.

Rwyf wedi darllen bod coeden wedi’i phlannu ar gyfer fy mhlentyn yn Mbale. Allwch chi ddweud mwy wrtha’i am y goeden honno os gwelwch chi’n dda?

Ers Ebrill 2014 mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio â’r elusen Maint Cymru i blannu coed yn Mbale, Uganda fel rhan o’i rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mae coeden wedi’i phlannu yng Nghymru ac un arall yn Mbale i nodi achlysur geni/mabwysiadu eich plentyn. Ewch i Maint Cymru i gael mwy o wybodaeth.

Pryd alla’i ddisgwyl derbyn fy nhystysgrif?

Anfonir y tystysgrifau drwy’r post pan mae’r plentyn yn dri mis oed. Os nad ydych chi wedi derbyn y dystysgrif erbyn y pedwerydd mis, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda:
plant.requests@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Er tristwch mawr, roedd fy maban i’n farw-anedig. A fyddaf i’n derbyn tystysgrif ac yn cael coeden wedi’i phlannu?

Yn anffodus ni fydd y cynllun Plant! yn anfon tystysgrif, ond mae’r sefydliad sy’n bartner inni yn y cynllun, sef Coed Cadw, yn cynnig gwasanaeth plannu coeden goffa os ydych chi’n teimlo y byddai hynny’n addas i chi.
https://www.woodlandtrust.org.uk/support-us/give/dedications/

Cafodd fy maban ei eni yng Nghymru ond rydym yn byw ychydig dros y ffin yn Lloegr, pam nad ydw’i wedi derbyn tystysgrif?

Mae’r rhaglen yn defnyddio data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac yn ôl hwnnw y cyfeiriad a roddwyd gan y fam pan gafodd y plentyn ei eni yw cyfeiriad cofrestredig y baban. Os yw’r cyfeiriad hwn yn Lloegr, yn anffodus ni fydd y baban yn derbyn coeden na thystysgrif. Os hoffech chi blannu coeden eich hun, mae Coed Cadw’n cynnig gwasanaeth plannu coeden goffa:
https://www.woodlandtrust.org.uk/support-us/give/dedications/

Sut alla’i ddod o hyd i fy nghoeden?

Mi fyddwch chi’n derbyn llythyr gyda’ch tystysgrif yn nodi enw’r safle lle mae eich coeden wedi’i phlannu. Os ewch chi i'r Safleoedd coetir Plant!, gallwch ddod o hyd i'r cod post ar gyfer y safle a chymryd golwg.

A fydd plac ar goeden fy mhlentyn fel y gellir ei hadnabod?

Mae pob coeden yn cynrychioli achlysur geni neu fabwysiadu plentyn. Nid yw’r coed wedi’u marcio mewn unrhyw ffordd, ond mae nifer y coed ar y safle’n cynrychioli nifer y genedigaethau a glustnodwyd ar gyfer y safle hwnnw, ac mae’n cael ei fonitro. Mae croeso ichi ymweld â’r safle a dewis coeden benodol yr hoffech chi ddweud yw coeden eich plentyn, gan ymweld â hi’n rheolaidd i’w gweld yn tyfu ochr yn ochr â’ch plentyn!

Mae gen i ddiddordeb mewn cael safle Plant! ar fy nhir. A allaf/ sut allaf i wneud hynny?

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda:
plant.requests@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Hoffwn i ddod â’r plant sydd yn fy nosbarth i yn yr ysgol/ grŵp Cybiau/Brownis i ymweld â’r safle. Alla’i wneud hynny?

Byddem wrth ein boddau petaech chi’n dod â grŵp i ymweld â’r safle. Byddem yn ddiolchgar hefyd petaech chi’n gadael inni wybod pa safle a phryd, i wneud yn siŵr nad yw’n gwrthdaro â digwyddiad sy’n cael ei drefnu. Petai modd inni gael lluniau o’r plant gyda’r coed, ynghyd â chaniatâd i’w rhannu, mi fyddem wrth ein boddau’n eu defnyddio i ledaenu’r neges am Plant! ymhellach!