Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am blant ar orchmynion gofal ac mewn lleoliadau, mabwysiadau o ofal a niferoedd y plant a phobl ifanc syddy yn gadael gofal ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020.

Mae data yn y diweddariad blynyddol hwn yn cwmpasu dechrau cyfnod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Er bod y rhan fwyaf o'r data hwn yn ymwneud â chyn y pandemig, gall gael effaith fach ar y ffigurau hyn.

Mae ‘Plant sy'n Derbyn Gofal’ yn cyfeirio at blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ystyr 'plentyn' yw unrhyw un o dan 18 oed. Mae adran 74 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn nodi bod plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn blentyn sydd yn ei ofal, neu sy’n cael ei letya, am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr, gan yr awdurdod wrth arfer unrhyw swyddogaethau sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, ac eithrio swyddogaethau o dan adran 15, Rhan 4, neu adran 109, 114 neu 115.

Ar 31 Mawrth 2020

Image
Siart yn dangos nifer y plant sy'n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2003 i 2020. Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi bod yn cynyddu’n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd 7,172 o blant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2020, sef cynnydd o 338 (5%) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

 

Roedd 7,172 o blant yn derbyn gofal(a) ar 31 Mawrth 2020, sef cynnydd o 338 (5%) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol a chyfradd o 114 o bob 10,000 o’r boblogaeth sydd o dan 18 mlwydd oed, 5 pwynt canran yn uwch nag ar 31 Mawrth 2019.

Mae nifer y plant sy’n derbyn gofal wedi bod yn cynyddu’n gyson yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae’r cynnydd ar 31 Mawrth 2020 yn adlewyrchu bod mwy o blant wedi dechrau derbyn gofal yn ystod 2019-20 nag a oedd wedi gadael gofal. Gwelwyd yr un patrwm yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd 6,028 (84%) o blant yn derbyn gofal dan orchymyn gofal(b). Er bod hyn yn nifer uwch o gymharu â’r flwyddyn flaenorol mae hyn yn gyfran debyg. Mae’r gyfran hyn wedi bod yn cynyddu’n gyson dros y blynyddoedd diwethaf, tra bu gostyngiad yng nghyfran y plant sy’n derbyn gofal dan un cyfnod o letya gwirfoddol (o dan adran 76 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)).

Roedd 4,989 (70%) o blant wedi’u lleoli mewn lleoliad gofal maeth. Tra bod cynnydd yn nifer y plant mewn lleoliadau gofal maeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf (wrth i nifer y plant sy’n derbyn gofal gynyddu) bu gostyngiad yng nghyfran. Mae nifer a chyfran y plant sy’n derbyn gofal mewn lleoliad gofal maeth gyda pherthynas neu ffrind wedi bod y cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bod nifer y plant wedi’u lleoli gyda gofalwyr maeth eraill wedi aros yn weddol debyg, ac mae’r gyfran wedi’u lleoli gyda gofalwyr maeth eraill wedi gostwng. Mae nifer a chyfran y plant a leolir gyda’u rhieni eu hunain neu berson arall â chyfrifoldeb rhiant wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Roedd dros ddau draean (69%) o blant mewn lleoliadau o fewn ffiniau’r awdurdod lleol lle roeddent yn byw pan iddynt ddechrau derbyn gofal am y tro cyntaf.

(a) Yn eithrio plant sy’n derbyn gofal ar gyfer seibiannau byr yn unig.
(b) Yn cynnwys gorchmynion gofal llawn a gorchmynion gofal interim.

Ebrill 2019 i Fawrth 2020

Dechreuodd 1,967 o blant dderbyn gofal(c) yn 2019-20, gostyngiad o 156 (7%) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae nifer y plant sy’n dechrau derbyn gofal wedi gostwng pob blwyddyn ers 2016-17.

Ar gyfer plant a ddechreuodd dderbyn gofal yn ystod y flwyddyn, y rheswm mwyaf cyffredin pam y cafodd y plentyn ofal a chymorth i ddechrau oedd oherwydd cam-drin neu esgeuluso (65% neu 1,284 o blant). Mae'r gyfran hon wedi bod yn weddol sefydlog yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Gadawodd 1,661 o blant ofal(d) yn ystod y flwyddyn 2019-20, gostyngiad o 24 (1%) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Mae nifer y plant sy’n gadael gofal wedi gostwng pob blwyddyn ers 2014-15.

Ar gyfer plant a adawodd ofal yn ystod y flwyddyn, bu i bron i hanner ohonynt (46% neu 768 o blant) ddychwelyd adref i fyw gyda rhieni, perthnasau neu bersonau eraill â chyfrifoldeb rhiant). Gwelwyd cyfran debyg dros y tair blynedd diwethaf ond mae hyn yn gyfran is nag a welwyd cyn 2017-18.

Cafodd 297 o blant eu mabwysiadu o ofal yn 2019-20, gostyngiad o 13 (4%) o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Cafodd 642 (9%) o blant dri lleoliad neu fwy yn ystod y flwyddyn. Mae hyn yn gyfran debyg i'r hyn a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

(c) Os oedd gan blentyn fwy nag un cyfnod gofal, dim ond y cyfnod cyntaf sy'n cael ei gyfrif.
(d) Os oedd gan blentyn fwy nag un cyfnod gofal, dim ond y cyfnod olaf sy'n cael ei gyfrif. Yn eithrio plant a fu farw neu lle'r oedd awdurdod lleol arall yn y DU wedi dod yn gyfrifol am y gofal.

Nodiadau

Ceir gwybodaeth bellach, yn cynnwys dadansoddiadau ar lefel awdurdod lleol, ar StatsCymru. Mae rhai ffigurau ar gyfer blynyddoedd blaenorol wedi'u diwygio.

Nid oes datganiad ystadegol llawn wedi'i gyhoeddi ar gyfer Ebrill 2019 i Fawrth 2020 oherwydd bod adnoddau dadansoddol yn blaenoriaethu'r ymateb i bandemig COVID-19.

Ceir manylion ynglŷn ag ansawdd yn natganiad ystadegol Ebrill 2018 i Fawrth 2019.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.