Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (6 Hydref), aeth yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams i ddigwyddiad yn Nghae Rasio Ffos Las, Llanelli i ddathlu llwyddiannau plant sy’n derbyn gofal yn Sir Gaerfyrddin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y digwyddiad roedd Kirsty Williams, y Comisiynydd Plant, Sally Holland, arweinwyr y cyngor, gofalwyr maeth ac athrawon ysgol yn cydnabod cyrhaeddiad addysgol a gwaith caled plant sy’n derbyn gofal yn Sir Gaerfyrddin, ac sy’n dod o gefndir lle mae’r teuluoedd mewn argyfwng neu wedi chwalu.

Gwobrwywyd y plant a’r bobl ifanc am eu presenoldeb yn yr ysgol a’u cyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â’u cyfraniad i feysydd fel chwaraeon, cerddoriaeth a gwirfoddoli.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae plant sy'n dechrau derbyn gofal yn aml yn dod o amgylchiadau teuluol anodd iawn. Ni allwn newid eu profiadau personol, ond rhaid inni liniaru effaith y profiadau hynny a’u meithrin i fod yn oedolion annibynnol, gwerth chweil sy’n byw bywyd i’r eithaf. Mae ymchwil yn dangos yn rhy aml o lawer bod disgwyliadau pobl o ran y bobl ifanc hyn yn gostwng dim ond am eu bod yn 'derbyn gofal'.

Mae’r ffordd yma o feddwl yn cael effaith negyddol ar eu gallu i lwyddo, a hynny ym mhob agwedd ar fywyd, nid yn unig addysg. Mae’r seremoni hon heddiw yn gwrthbrofi’r meddylfryd hwnnw, ac mae’n llwyfan i ddangos gallu plant sy’n derbyn gofal ar ei orau, dim ond i ni feithrin a rhoi cefnogaeth i’r gallu hwnnw yn y ffordd gywir.”

Mae’r gwobrau yn adlewyrchu cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal yng Nghyfnod Allweddol 4. Yr haf diwethaf, llwyddodd 23% o blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru i gyrraedd L2 Cynwysedig` (5 TGAU gradd A*-C yn Saesneg neu Gymraeg a mathemateg) oedd yn cynrychioli cynnydd o 10% ers 2013.