Neidio i'r prif gynnwys

Mae platfform newydd sydd wedi'i ailgynllunio, sy’n haws ei ddefnyddio ac sy’n ymatebol wedi'i lansio ar gyfer ysgolion ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hwb yw platfform addysg Cymru ar y we, sy'n darparu mynediad i ddysgwyr ac athrawon at ystod eang o offer, adnoddau a gwasanaethau digidol yn yr ysgol ac yn y cartref.

Helpodd adborth gan athrawon a dysgwyr i lunio'r platfform newydd o amgylch eu hanghenion. Mae'r gwelliannau yn cynnwys gwell profiad wrth lywio’r platfform, mynediad haws at wybodaeth a gwasanaethau allweddol, a phrofiad mwy personol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae mynediad am ddim i Microsoft 365 gartref hefyd yn parhau i fod yn fantais allweddol ar Hwb. Gall dysgwyr ac athrawon lawrlwytho a gosod Microsoft 365 ar ddyfeisiau personol am ddim, gan helpu teuluoedd i arbed arian. Mae hyn yn cynnwys offer cyfarwydd fel Word, PowerPoint, Excel a Teams.

Dywedodd Anna Brychan, y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg:

Mae Hwb yn adnodd gwych i athrawon a dysgwyr, gyda mwy na 1,450 o ysgolion a 122,000 o deuluoedd yn elwa ar y platfform.

Rydyn ni'n gwybod bod costau byw yn parhau i roi pwysau ar deuluoedd. Mae Hwb yn darparu mynediad am ddim i ystod o adnoddau Microsoft i gefnogi dysgu gartref, a bydd y platfform wedi'i ailwampio yn ei gwneud hi'n haws fyth i deuluoedd, dysgwyr ac athrawon gael mynediad at y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael iddynt.