Neidio i'r prif gynnwy

Bydd pleidlais yn cael ei chynnal yn y Senedd heddiw ar gynigion Llywodraeth Cymru i wahardd microbelenni yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y gwaharddiad arfaethedig yn  ymwneud â chyflenwi a gweithgynhyrchu cynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig. 
Mae microbelenni plastig yn gynhwysyn cyffredin mewn nifer o gynhyrchion glanhau dwylo, sgrybiau wyneb, pastiau dannedd, geliau i'w defnyddio yn y gawod, cosmetigau a mathau eraill o gynhyrchion gofal personol. Cânt eu golchi i lawr y draen ond maent yn rhy fach i gael eu hidlo allan yn llwyr mewn systemau trin carthion ac felly, caiff cyfran ei golchi allan i'r amgylchedd morol, gan niweidio bywyd y môr.
Y mis diwethaf, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018. Os caiff y gwaharddiad sêl bendith yn y Senedd heddiw, bydd yn drosedd gweithgynhyrchu unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig.  Bydd hefyd yn drosedd cyflenwi cynhyrchion o’r fath.
Os cytunir ar y gwaharddiad ar ôl y bleidlais heddiw, bydd yn dod i rym ar 30 Mehefin. 
Dywedodd y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn: 
"Nid oes angen microbelenni mewn cynhyrchion i'w rinsio i ffwrdd ac maen nhw'n niweidio bywyd y môr. Bydd gwaharddiad yn lleihau'r llygryddion sy'n mynd i mewn i'n moroedd ac mae'n gam pwysig tuag at warchod amgylchedd y môr.
“Mae'r gwaharddiad hwn yn rhan o becyn o fesurau yma yng Nghymru i leihau gwastraff, i fynd i'r afael â llygredd plastig ac i ailgylchu mwy. Er enghraifft, mae'r targedau ailgylchu gwastraff ar gyfer awdurdodau lleol yn golygu ein bod yn ailgylchu 75% o'r poteli plastig a gesglir o gartrefi, o gymharu â 57% ar draws y DU. "Mae 2018 yn Flwyddyn y Môr yng Nghymru, ac rydyn ni'n gweithredu i fynd i'r afael â llygredd plastig, gan gynnwys llofnodi Adduned Moroedd Glân y Cenhedloedd Unedig yn gynharach yn y mis. Rydyn ni wrthi hefyd yn datblygu mannau ail-lenwi poteli dŵr mewn cymunedau allweddol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan helpu i leihau hyd yn oed mwy ar y plastig sy'n mynd i mewn i'n moroedd."